Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD ARIANNOL

Ystyried adroddiad y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n nodi'r sefyllfa ariannol bresennol a'r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson Hill ei adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, a oedd yn cynnwys manylion ynglŷn â chyllideb refeniw ac arbedion y Cyngor fel y cytunwyd ar gyfer 2012/13 ar ddiwedd mis Mawrth 2013 a’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Cynllun Cyfalaf, Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi cyllideb refeniw'r Cyngor ar gyfer 2013/14 (Atodiad 1). Roedd y gyllideb net yn £192 miliwn ar ddiwedd mis Mai a rhagwelwyd y byddai tanwariant o £45 mil (0.045) ar wasanaethau a chyllidebau corfforaethol.  Roedd rhagolygon cadarnhaol o ran balansau cyllidebau ysgolion (£322 mil). Rhagwelwyd tanwariant o £150 mil yng nghyllidebau ysgolion heb eu dirprwyo, y mwyafrif yn ymwneud â’r clybiau brecwast, a chynigwyd y dylid defnyddio’r arian fel cyfraniad at ariannu’r amddiffyniad fformwla ysgol sydd wedi ei gynnwys fel ymrwymiad.  

 

Mae Atodiad 2 yn nodi’r cynnydd hyd yma yn erbyn yr arbedion a amlygwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2012/13. Cytunwyd ar darged arbedion o £3.061 miliwn ar gyfer y flwyddyn ac mae 39% o’r targed (£1.186 miliwn) wedi ei gyrraedd. Mae crynodeb o’r Cynllun Cyfalaf a’i nodau, gan gynnwys y gwariant arfaethedig o £6.8 miliwn, wedi ei gynnwys yn Atodiad 3. Mae cyllideb 2013/14 wedi clustnodi £600 mil i’w neilltuo i Gronfa Wrth Gefn y Cynllun Corfforaethol. Mae Atodiad 4 yn cynnwys y diweddaraf ar y prosiect cyfalaf mawr sydd o fewn y Cynllun Cyfalaf ar gyfer eleni. Ar ddiwedd mis Mai, roedd cyfanswm benthyciad y cyngor yn  £133.264 miliwn ar raddfa gyfartalog o 5.77%.  Roedd y balansau buddsoddi yn £24.1 miliwn ar raddfa gyfartalog o 0.86%.  

 

Mae manylion ynglŷn â chostau ac effaith hyn ar wasanaethau eraill wedi eu cynnwys yn yr adroddiad fel a ganlyn:-

 

Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd – Er bod y Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd ar hyn o bryd yn dangos dim amrywiant, dylid nodi'r pwyntiau canlynol:

 

·                     Y camau effeithlonrwydd uchel sydd ar waith. Bydd y rhain yn cael eu monitro'n ofalus a bydd y cynnydd yn cael ei nodi mewn adroddiad yn y dyfodol. 

 

·                     Nifer y diwrnodau ysgol ym mlwyddyn ariannol 2013/14. Mae nifer y diwrnodau ysgol yn fwy na'r arfer ac yn debygol o gael effaith ar wasanaeth cludiant ysgol yr ardal. Rhagwelwyd y bydd unrhyw orwariant yn y maes hwn yn cael ei gadw o fewn cyllideb cyffredinol Priffyrdd a'r Amgylchedd.  

 

Cyfeiriodd y Cyng. Eryl Williams at y nodyn sy’n dweud bod gwariant tybiedig cynlluniau cyfalaf yn ddim, cyfeiriodd yn benodol at gludiant. Cyfeiriodd at fenthyca darbodus a grantiau’r Llywodraeth a mynegodd bryder ynghylch eglurder y broses ariannu. Eglurodd y Cyng. Thompson-Hill bod y ffigwr yn yr adroddiad yn gysylltiedig â’r flwyddyn ariannol ddiwethaf a chadarnhaodd y byddai darpariaeth cyllid 2013/14 yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.  Cyfeiriodd y Prif Gyfrifydd at Atodiad 3 a darparodd fanylion y ffigyrau o ran y Cynllun Cyfalaf cyffredinol. Eglurodd mai arian wedi ei gymeradwyo, trwy’r Grŵp Buddsoddi Strategol, yn unig sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.    

 

Gwella Ysgolion a Chynhwysiant – Mae gwaith manwl yn cael ei wneud i ddarparu amcangyfrif cadarn ar gyfer costau lleoedd y tu allan i’r sir a ffioedd adennill. Mae tanwariant wedi bod yn y cyllidebau hyn yn y blynyddoedd diwethaf.  Fodd bynnag byddan nhw’n parhau’n gyfnewidiol gan eu bod yn seiliedig ar nifer y disgyblion a thrafodaethau cymhleth rhwng Awdurdodau. Mynegodd y Cyng. Williams bryderon ynghylch fframwaith ariannu Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a gweithredu’r trefniadau newydd. Pwysleisiodd bod angen diogelu budd y Sir.   

 

Gwasanaethau Oedolion a Busnes – Mae’r gofyniad cenedlaethol i ddiogelu cyllidebau gofal cymdeithasol wedi arwain at £905 mil ychwanegol o fewn y flwyddyn. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu nifer o brosiectau sy’n ceisio lleihau costau refeniw'r dyfodol. Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd, darparodd y swyddogion fanylion yn ymwneud â’r gofyn cenedlaethol i ddiogelu arian ychwanegol ar gyfer cyllidebau gofal cymdeithasol.  Cadarnhawyd y bydd arian yn cael ei dynnu yn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn ei fuddsoddi mewn mesurau fydd yn lleihau costau tymor hir ac yn darparu mesurau ataliol yn y dyfodol.

 

Ysgolion - Ar ddiwedd mis Mawrth y rhagamcan ar gyfer balansau ysgolion oedd £3.192 miliwn.  Mae hyn yn symudiad positif o £322 mil ar falansau a gariwyd drosodd o 2012/13.

 

Mae cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai hefyd wedi ei chynnwys yn Atodiad 1. Fodd bynnag mae adnoddau Cyfrif Refeniw Tai yn gyllid ar wahân i brif adnoddau’r cyngor, a gellir ond eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau tai cyngor.  Pennir cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2013/14 drwy dybio bod gwariant cyfalaf o £890 mil yn cael ei ariannu gan adnoddau refeniw. Cadarnhawyd y bydd taliadau Cymhorthdal Tai yn lleihau a rhagwelwyd y bydd Cynllun Cyfalaf Tai yn gwario £8.1 miliwn gan gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd 2013/14. 

 

Mynegodd y Cyng. Barbara Smith bryderon ynghylch adleoli cyllid ac awgrymiadau Llywodraeth Cymru o ran annog Awdurdodau Lleol i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwariant refeniw. Dywedodd y Prif Weithredwr nad oes modd i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn uniongyrchol yn y mater hwn a chyfeiriodd at y gostyngiad yn narpariaeth refeniw’r Llywodraeth Leol. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd adeiladu cronfeydd wrth gefn ac eglurodd bod gan Sir Ddinbych gynlluniau ar gyfer ei chronfeydd wrth gefn gan gyfeirio at Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol y Cyngor.   

 

Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD:- y dylai’r Cabinet nodi’r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

 

Dogfennau ategol: