Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADDASRWYDD CERBYD AR GYFER TRWYDDED HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais Trwydded Hurio Preifat. 

 

Penderfyniad:

RESOLVED cymeradwyo cais Trwydded Hurio Preifat ar gyfer y cerbyd dan sylw a’r seddi fel y maen nhw. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd ar gyfer Trwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          nad oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd i’w drwyddedu yn cydymffurfio â’r manylion fel y manylir yn Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat  y Cyngor, sef yn bennaf (1) nid oedd lleoliad y seddi’n darparu digon o le i’r teithwyr gerdded heibio a (2) byddai gofyn i deithwyr blygu un o’r seddi eraill yn ei blaen i gael mynediad/gadael y seddi cefn, a

 

(iii)         bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i ddod i’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ynghyd â’i Gynrychiolydd ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Cadarnhaodd yr aelodau hefyd eu bod wedi derbyn, drwy e-bost, wybodaeth atodol gan yr Ymgeisydd o blaid ei gais a oedd ar gael i bawb â diddordeb cyn y cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu’r adroddiad a gofynnodd i’r pwyllgor ystyried a fyddai’n addas gwyro oddi wrth bolisi’r Cyngor yn ymwneud â manylion cerbyd, er mwyn caniatáu’r cais.

 

Esboniodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd mai’r prif bryder oedd y byddai addasu manylion y cerbyd i gydymffurfio â pholisi cyfredol y cyngor yn golygu bod yr ymgeisydd yn mynd yn groes i gymeradwyaeth math cywir ac fe allai hyn olygu mai ef fyddai’n bersonol atebol pe bai damwain.  Cyfeiriodd hefyd at y cyngor a gafodd gan VOSA a’r Adran Drafnidiaeth yn y cyswllt hwnnw, a thynnodd sylw’r aelodau at y wybodaeth atodol (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn cynnwys llythyr gan Gymdeithas Genedlaethol Hurio Preifat o blaid y cais. Cyfeiriodd Gymdeithas Genedlaethol Hurio Preifat at –

 

·         Ganllaw Arfer Orau’r Adran Drafnidiaeth

·         barnau o ddwy her gyfreithiol aeth i’r Llys Ynadon

·         datganiad gan Ford UK yn ymwneud ag addasiadau seddi

 

Yn sgil y dystiolaeth a gyflwynwyd, gofynnodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd i’r pwyllgor ganiatáu’r cais ar gyfer y cerbyd dan sylw, gyda lleoliad presennol y seddi . Gofynnodd hefyd i’r agwedd hon ar ganllawiau’r polisi gael ei hystyried fel rhan o adolygiad polisi trwyddedu cerbydau hacni a hurio preifat cyfredol.

 

Wrth ymateb i gwestiynau, rhoddodd yr Ymgeisydd a’i Gynrychiolydd esboniad ynghylch lleoliad y seddi mewn mwy o fanylder, gan gynnwys mynediad a ffordd allan o gefn y cerbyd, ynghyd â’r goblygiadau pe bai’r seddi yn cael eu tynnu ymaith. Cadarnhawyd bod yr Ymgeisydd wedi cael copi o amodau’r cyngor cyn prynu’r cerbyd.  O ran y gofod lleiaf sydd ei angen i deithwyr, rhoddodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd wybod bod bwlch y sedd flaen yn mesur yr un faint â sedd gefn y cerbyd dan sylw a oedd yn dod o dan yr isafswm a nodwyd yn yr amodau.  Yn ei ddatganiad terfynol gofynnodd Cynrychiolydd yr Ymgeisydd i aelodau ganiatáu’r cais.  Os nad oedd y pwyllgor o blaid caniatáu’r cais gyda lleoliad presennol y seddi, gofynnodd a oedd modd cael tystysgrif yn rhyddhau’r Ymgeisydd o unrhyw atebolrwydd pe bai damwain.

 

Torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried yr achos a 

 

PHENDERFYNWYD caniatáu’r cais ar gyfer Trwydded Cerbyd Hurio Preifat mewn perthynas â’r cerbyd dan sylw gyda lleoliad presennol y seddi.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn

 

Roedd aelodau wedi ystyried y cais yn ofalus a’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn ac roeddent wedi ystyried eu cyfrifoldebau mewn perthynas â thrwyddedu cerbydau.  Roedd y pwyllgor yn fodlon fod y cerbyd yn y cais yn diwallu gofynion cyfreithiol i’w ddefnyddio fel cerbyd hurio preifat gan ei fod yn addas o ran math, maint a dyluniad; roedd yn addas yn fecanyddol, yn ddiogel ac yn gyfforddus.  O ganlyniad penderfynodd y pwyllgor ganiatáu’r cais. 

 

Hysbyswyd yr Ymgeisydd a’i Gynrychiolydd ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau am hynny.  Gofynnodd yr aelodau y dylid ystyried yr achos hwn yn ystod adolygiad o bolisïau trwyddedu cerbydau hacni a hurio preifat.  Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield hefyd y dylid ail edrych ar hysbysebion cerbydau trwyddedig fel rhan o’r adolygiad polisi.

 

Yn y fan hon (11.10 a.m.) torrodd y cyfarfod ar gyfer egwyl luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: