Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DARPARIAETH YMCD YN Y SECTOR ADDYSG BELLACH (AB)

Derbyn cyflwyniad gan Toni Coulton ar ddarpariaeth YMCD yn y sector addysg bellach a thrafod sut gal CYSAG gefnogi  Chweched Dosbarth a Choleg Addysg Bellach y Rhyl.

 

Cofnodion:

Roedd yr angen am gaplaniaeth yn y sector addysg bellach wedi’i godi o’r blaen mewn cyfarfod CCYSAGC.  Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) Toni Coulton a oedd wedi ei gwahodd i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar ddarpariaeth YMCD ac er mwyn i CYSAG drafod sut y gallai gefnogi Coleg Chweched Dosbarth ac AB y Rhyl.  Roedd Ms Coulton yn gweithio gyda FESTIVE (Menter AB a Chweched Dosbarth), cynllun Cristnogol i gefnogi’r rhai oedd yn gweithio yn y sector addysg bellach.

 

Rhoddodd Ms. Coulton gyflwyniad PowerPoint i CYSAG dan y teitl ‘Addysg Bellach a Lles’.  Amlygodd y ffaith fod darpariaeth AG ac Addoli ar y Cyd yn ofyniad statudol yn chweched dosbarth ysgolion ond nid mewn colegau AB.  Er ei bod yn cydnabod ei bod yn annhebygol y byddai darpariaeth AG yn cael ei wneud yn bwnc statudol ar gyfer pob person ifanc 16 – 19 oed, credai ei bod yn bosibl gwneud achos da dros AG anstatudol mewn addysg bellach.  Trafododd y cyflwyniad –

 

·         anghysonderau mewn darpariaeth AG ac Addoli ar y Cyd statudol ac anstatudol

·         y nifer o bobl ifanc 16 – 18 oed yn astudio mewn ysgolion a cholegau ynghyd â dadansoddiad pellach o'r rhai mewn addysg a chyflogaeth neu’r tu allan i addysg a chyflogaeth

·         sefydliadau sy’n cyfrannu at gefnogi gwaith cenedlaethol a chynhyrchu adnoddau gan gynnwys y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Ffydd a Chred mewn Addysg Bellach; Dare 2 Engage, Tiwtorialau Ffydd ac AFAN (All Faiths and None)

·         gwahaniaethau yn y canllawiau a gynhyrchir gan Ofsted yn Lloegr ac Estyn yng Nghymru gyda chyfeiriad penodol at YMCD yn Lloegr ond dim ond cyffredinoliad a diffyg arweiniad clir yng Nghymru

·         cyfeiriad at nifer o adnoddau a chyhoeddiadau, gyda rhai ohonynt ar gael yn y cyfarfod i fwrw golwg drostynt, gan gynnwys ‘Making Space for Faith’ a ‘Challenging Voices’

·         dyfyniadau o ddangosyddion ansawdd Estyn sy’n dangos fod canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer Lles yn lle’r pwyslais ar ddarpariaeth.

 

Wrth ystyried y ffordd ymlaen, awgrymodd Ms. Coulton –

 

·         rhywfaint o ymchwil – efallai gyda chaplaniaid colegau AB Cymru

·         ategu at ‘Challenging Voices’ (sut i gynnig caplaniaeth mewn coleg)

·         gofyn am ddisodli gwaith AB i fod yn rhan o’r CYSAG lleol

·         dangos i Estyn y gall ac y dylai ffydd / cred fod yn y canllawiau fel yn Lloegr

 

Yn olaf, tynnwyd sylw aelodau at waith Joseph George, Gweithiwr Prosiect (cylchredwyd y manylion yn y cyfarfod) a oedd wedi’i benodi i uno gwaith presennol yn seiliedig ar ffydd a chyflwyno gwaith newydd i ardaloedd mewn colegau lle nad oedd unrhyw Grwpiau Cristnogol ar hyn o bryd.  Roedd Joseph yn gweithio 16 awr yr wythnos: 8 yn Rhos, 4 yn Chweched y Rhyl a 4 ar bob safle arall.  Roedd y cyfleoedd a ddarparwyd yn Chweched y Rhyl yn cynnwys tiwtorialau, ystafell ffydd a chyfarfodydd staff a myfyrwyr.

 

Mae aelodau’n cefnogi’r ddarpariaeth yn y sector addysg bellach ac ymatebodd Ms. Coulton i gwestiynau a sylwadau fel a ganlyn –

 

·         roedd ystafell ffydd wedi’i darparu yn Chweched y Rhyl ond roedd angen rhagor o waith i fewnoli ei ddefnydd yn y coleg

·         cydnabuwyd pwysigrwydd gwaith wedi’i gydgysylltu ac amlygwyd y perthnasau a ffurfiwyd gyda cholegau addysg bellach a chlerigwyr yn yr ardal

·         roedd angen codi ymwybyddiaeth am y ddarpariaeth / cefnogaeth sydd ar gael a rhoi cyfle i’r rhai oedd yn dymuno ymgysylltu mewn lleoliad addysgol

·         dywedodd er bod Coleg Llysfasi yn Sir Ddinbych roedd yn rhan o Goleg Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint lle'r oedd darpariaeth yn gyfyngedig iawn

·         cydnabuwyd pwysigrwydd darparu gwybodaeth a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ac roedd cynnydd yn digwydd i’r perwyl hwnnw; yn enwedig gwefan FESTIVE a oedd yn darparu gwybodaeth ddwyieithog ac roedd gan golegau Cymru fynediad i’r wybodaeth honno

·         er gwaethaf yr ymdrechion, nid oedd unrhyw wybodaeth wedi’i chynnwys ar brosbectws y coleg ynglŷn â darpariaeth a byddai’n croesawu cymorth gan CYSAG i gyflawni hynny.

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret McCarroll fod caplan rhan amser wedi bod yng Ngholeg Chweched y Rhyl pan gafodd ei sefydlu a chytunodd wneud ymholiadau i weld a oedd y ddarpariaeth honno yn dal ar gael.  Amlygodd Ms. Ali Ballantyne hefyd yr angen i gynnwys Coleg Pengwern wrth ystyried cynlluniau ar gyfer darpariaeth addysg bellach.  Awgrymodd Ms. Coulton efallai y byddai CYSAG yn dymuno cysylltu’n uniongyrchol â Choleg Pengwern mewn perthynas â hyn.

 

Trafododd CYSAG y camau nesaf a –

 

PENDERFYNWYD anfon llythyr at Goleg Chweched y Rhyl –

 

(i)            yn manylu pryderon CYSAG o safbwynt y diffyg darpariaeth ar gyfer AG ac Addoli ar y Cyd a chyfleoedd i fyfyrwyr astudio AG ar gyfer Lefel A;

 

(ii)          amlygu gwaith CYSAG a’r gefnogaeth y gallai ei gynnig ynghyd â’r ystod o adnoddau oedd ar gael, a

 

(iii)         gwahodd y Coleg i gyfethol aelod o CYSAG.

 

Cytunodd Aelodau y dylid cynnwys manylion y sefydliadau, cyhoeddiadau ac adnoddau a gyfeiriwyd atynt yn y cyflwyniad ynghyd â dolenni i’w gwefannau fel a ganlyn–

 

Y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Ffydd a Chred mewn Addysg www.fbfe.org.uk

 

Challenging Voices - delio gyda materion dadleuol; cyhoeddiad ar y cyd gyda Chyngor AG Cymru a Lloegr

http://www.fbfe.org.uk/wp-content/uploads/2012/11/REsilience_FE_booklet_Challenging_Voices_PDF_final.pdf

 

Adroddiad YMCD

http://www.fbfe.org.uk/wp-content/uploads/2012/12/lsis_YMCD-Report-Guidance-for-learning.pdf

 

Making Space for Faith – Arolwg o lais dysgwyr a barn staff o 41 Coleg AB

http://www.fbfe.org.uk/wp-content/uploads/2012/09/Making-space-for-faith1.pdf

 

Pecyn Aml-ffydd yr NUS - rhai syniadau gwych i’w defnyddio yn y cwricwlwm

http://www.nusconnect.org.uk/asset/News/6105/NUS-Inter-Faith-Toolkit_Web-Version.pdf

 

Adnoddau ar gyfer y Cwricwlwm gan:

 

Dare 2 Engage www.dare2engage.org

 

Tiwtorialau Ffydd http://www.faithtutorials.co.uk/faithtutorials.co.uk/Home.html

 

All Faiths and None www.afan.uk.net

 

Cymorth cyffredinol gan: Festive - www.festive.org.uk

 

 

Dogfennau ategol: