Eitem ar yr agenda
LLEOEDD LLEWYRCHUS LLAWN ADDEWID – CAIS ARIANNU AR GYFER PROSIECTAU CANOL TREF Y RHYL
Ystyried
adroddiad y Cyng. Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd
(copi ynghlwm) sy’n nodi manylion fframwaith adfywio newydd Llywodraeth Cymru – Lleoedd
Llewyrchus Llawn Addewid a’r cynigion ar gyfer blaenoriaethu cyllid adfywio
wrth symud ymlaen.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a
gylchredwyd cyn y cyfarfod, sy’n gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer
datblygu a chyflwyno cais am gyllid dan raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid
ar gyfer Canol Tref y Rhyl.
Trwy’r cynllun hwn mae Sir Ddinbych wedi llwyddo i
sicrhau arian ar gyfer nifer o fentrau a phrosiectau gan gynnwys Harbwr y Rhyl,
Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl ac adnewyddu Gwesty'r Bee and
Station. Fodd bynnag, mae arian y
rhaglen hon yn dod i ben fis Mawrth 2014. Yn y dyfodol bydd yn rhaid mynd trwy
broses gystadleuol dan Fframwaith Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i sicrhau
cyllid adfywio.
Mae Cyfarwyddyd Ymgeisio Lleoedd Llewyrchus Llawn
Addewid, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, yn nodi rhai o'r prif egwyddorion a’r
dulliau disgwyliedig, ynghyd â’r prif flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn
adfywio. Mae’r rhain hefyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Mae gwariant
sylweddol eisoes wedi ei gynllunio yn y Rhyl trwy’r gwasanaethau Adfywio,
Priffyrdd a gwasanaethau eraill a byddai modd defnyddio hyn fel arian
cyfatebol. Byddai buddsoddiad gan y
sector preifat hefyd yn gymwys fel arian cyfatebol, ac mae yna eisoes fwriad o
fuddsoddiad preifat sylweddol yn ystod cyfnod y rhaglen yn sgil datblygiad
gwesty newydd a’r Ganolfan Nofio arfaethedig. Bydd buddsoddiad pellach gan y
sector preifat yn cael ei hyrwyddo trwy’r rhaglen. O ystyried yr arian
cyfatebol a nodwyd yn yr adroddiad, cynigir datblygu cais o amgylch yr adnoddau
presennol ac o’r herwydd ni fyddai angen neilltuo mwy o gyllid cyfalaf Cyngor
Sir Ddinbych i gefnogi’r cais.
Yn wreiddiol roedd y swyddogion wedi trafod
cyflwyno cais Sirol a oedd yn canolbwyntio ar holl ganol trefi’r sir. Ond, yn
dilyn awgrymiadau gan swyddogion Llywodraeth Cymru, credir na fyddai cais o'r
fath yn llwyddiannus ac y byddai cais sy'n canolbwyntio ar un canol tref yn fwy
addas O fewn Rhaglen y Rhyl yn Symud
Ymlaen, mae canol y dref eisoes wedi ei hadnabod fel mater o bwys a’r
flaenoriaeth nesaf i fynd i'r afael â hi. Ar sail hynny yn ogystal â’r cyfarwyddyd
ymgeisio sydd wedi ei chyhoeddi ac awgrymiadau Llywodraeth Cymru, ystyrir bod
cais sy’n canolbwyntio ar ganol tref y Rhyl yn gais cryf a all lwyddo oherwydd
y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. Mynegodd yr
Arweinydd ei siomedigaeth, oherwydd cyngor Llywodraeth Cymru, na fyddai terfi
eraill y Sir yn cael cyfle i fanteisio ar y rhaglen newydd.
Os byddwn yn datblygu’r cais, cynigir y dylai’r
cais roi blaenoriaeth i ddatblygu busnes, entrepreneuriaeth a chreu swyddi
newydd yng nghanol y dref. Byddai hyn yn canolbwyntio ar fanwerthu, yn arbennig
o fewn y sector annibynnol a sectorau wedi eu tangynrychioli fel bwyd, ond o
ran y cyd-destun manwerthu newidiol, byddai hefyd yn ystyried sut gall canol y
dref gefnogi darpariaeth tai amrywiol a gwasanaethau ehangach. Eglurwyd y
byddai’r cyllid ar gyfer cyfalaf yn hytrach na refeniw, ond byddai hyn yn
darparu cyfle i sicrhau cyllid ar gyfer caffael eiddo, adnewyddu, cynlluniau
grant, gwelliannau amgylcheddol ac, o bosib, gwelliannau i feysydd parcio.
Byddai’n rhaid i unrhyw gynllun cyfalaf gael ei gefnogi gan fentrau busnes a
hyfforddi addas.
Mae’r adroddiad yn nodi sut fydd y penderfyniad yn
cyfrannu at y Blaenoriaethau Corfforaethol, sut fydd y costau yn effeithio ar
wasanaethau eraill ac yn darparu amlinelliad o'r risgiau a'r mesurau i'w
lleihau. Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y
byddai cefnogaeth bellach i’r cais yn cael ei dderbyn gan Asiantaethau
Cymunedol a Phartneriaid perthnasol, ac y byddai cymeradwyaeth ffurfiol cais
Cam 2, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, yn cael ei ystyried gan y
Cabinet ar 3 Medi 2013 fel y nodir yn Adran 7 o’r adroddiad.
Mewn ymateb i’r materion
a godwyd gan y Cyng. Barbara Smith a’r Cyng. Jeanette Chamberlain-Jones,
eglurodd Rheolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen bod arwyddion a strategaeth
mynediad y Rhyl yn cael eu paratoi ar hyn o bryd a bod y gwaith i fynd i’r
afael â chyflwr Stryd Fawr Isaf wedi ei gynnwys yn Rhaglen Cynnal a Chadw
Priffyrdd.
Mewn ymateb i gwestiwn
gan y Cyng. Huw Jones, eglurodd yr Arweinydd bod manylion y cais wedi eu hanfon
at Grwpiau Aelodau Ardal yn ne’r Sir er mwyn egluro pam bod y cais yn
canolbwyntio ar y Rhyl. Pwysleisiodd y
Prif Weithredwr bwysigrwydd cydnabod bod y dylai’r penderfyniad i gynnwys
eitemau i’w hystyried ar raglen y Grwpiau Aelodau Ardal barhau gyda’r Grwpiau
Aelodau Ardal dan sylw. Eglurodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol y gellir mynd i’r
afael â’r mater ynghylch lledaenu gwybodaeth yn ystod briff y Cyngor ym mis
Medi sydd wedi ei drefnu i ystyried y Strategaeth Datblygu Economaidd ac
Adfywio.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn:-
(a)
cefnogi datblygu cais am gyllid ar gyfer
Canol Tref y Rhyl; ac yn
(b)
cyflwyno cais Cam 1 (Rhaglen Amlinellol
Strategol) erbyn 12 Gorffennaf 2013.
Dogfennau ategol: