Eitem ar yr agenda
DRAFFT STRATEGAETH UCHELGAIS ECONOMAIDD A CHYMUNEDOL
Ystyried
adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais
Economaidd a Chymunedol (copi ynghlwm) ynglŷn â datblygu strategaeth
Uchelgais Economaidd a Chymunedol cyntaf Sir Ddinbych yn unol â blaenoriaeth y
Cynllun Corfforaethol (datblygu’r economi lleol).
Cofnodion:
RRoedd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a
Chymunedol (CDECA), ar ddatblygiad Strategaeth Uchelgais Economaidd a
Chymunedol gyntaf Sir Ddinbych, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y
cyfarfod.
Cyflwynodd y Cynghorydd H.Ll. Jones adroddiad ar ran yr Arweinydd ac
eglurodd fod Grŵp Tasg a Gorffen wedi datblygu Strategaeth Uchelgais
Economaidd a Chymunedol gyntaf Sir Ddinbych, yn unol â blaenoriaeth y Cynllun
Corfforaethol i ddatblygu'r economi leol. Gofynnir am
gymeradwyaeth ar gyfer drafft y Strategaeth i’w ddarparu ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus fel y manylir yn yr adroddiad.
Mae’r Cynllun Corfforaethol yn nodi Datblygu’r Economi Leol fel un o’r 7
blaenoriaeth gorfforaethol. Mae adfywio’r economi leol wedi'i nodi fel pryder
allweddol gan y trigolion lleol yn ystod datblygu'r Cynllun Corfforaethol ac yn
cael ei ystyried fel modd o greu sylfaen cadarn ar gyfer yr holl ddatblygiadau
eraill. Roedd y Strategaeth yn ceisio egluro sut y byddai’r
Cyngor yn diwallu’r amcan corfforaethol ar gyfer datblygu'r economi, ac mae
manylion y Grŵp Tasg a Gorffen wedi’i gynnwys yn Atodiad 3.
Roedd y Strategaeth ddrafft wedi’i
datblygu gan ganolbwyntio ar fuddiannau a chanlyniadau ac mae'r Grŵp Tasg
a Gorffen wedi cytuno y dylai'r trigolion lleol deimlo’r budd cyffredinol i'w
gyflawni o ddatblygu'r economi leol. Mae’r amcan cyffredin
tu cefn i’r strategaeth wedi’i ddiffinio fel:-
“Mae Sir Ddinbych
yn Sir gyda lefelau uchel o gyflogaeth a lefelau da o incwm yn ei holl drefi
a'r cymunedau".
O hyn, roedd y Grŵp Tasg a Gorffen wedi creu'r
Datganiad Gweledigaeth ganlynol ar gyfer Uchelgais Economaidd a Chymunedol Sir
Ddinbych:-
- Datblygu Cyfleoedd,
Creu Hyder
- Gweithio gyda’n gilydd i wneud Sir Ddinbych yn
lle y gall:-
·
Busnesau, sefydledig a newydd, dyfu a ffynnu
·
Ein trefi a'n cymunedau fod yn brysur a ffynnu
·
Trigolion fwynhau ansawdd da o fywyd a chyfrannu yn yr
economi leol.
Er mwyn cyflawni hyn byddai’n rhaid mynd i'r afael
â'r ffactorau craidd a nodwyd y meysydd blaenoriaeth canlynol i'w gweithredu ac
i ffurfio strwythur creiddiol y Strategaeth:-
·
Yr Isadeiledd cywir ar gyfer twf
·
Busnesau sy’n cael eu Cefnogi a’u Cysylltu
·
Gwneud y gorau o Gryfderau/Cyfleoedd Economaidd
·
Gweithlu Medrus o Ansawdd Da
·
Trefi a Chymunedau Llewyrchus
·
Sir Ddinbych wedi ei hyrwyddo’n dda
Mae Cynllun Darparu 4 blynedd ddangosol hefyd wedi
ei ddatblygu sy'n cyfateb ag amserlen cyflawni’r Cynllun Corfforaethol. Fodd
bynnag, roedd gan y Strategaeth ei hunan derfyn amser hirach ac yn cynnwys
cyfnod 2013 i 2023. Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen wedi penderfynu bod y
canlyniadau a nodwyd a’r meysydd gweithredu a amlygwyd yn cynnig y dull gorau o
gyflawni'r Strategaeth a'r Cynllun Corfforaethol. Argymhellwyd ein bod yn
profi’r rhain drwy ymgynghori gyda chymunedau a busnesau Sir Ddinbych cyn
cyflwyno’r Strategaeth i'w fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor.
Eglurodd CDECA y dylid darparu drafft y Strategaeth
a Chynllun Darparu, Atodiad 1, i ymgynghori gyda'r cyhoedd yn ystod mis
Gorffennaf ac Awst drwy amrywiaeth o gyfleoedd fel y manylir yn Atodiad 2. Mae
manylion y broses ymgynghori wedi'i gynnwys yn yr adroddiad. Bydd
digwyddiadau ymgynghori penodol yn archwilio'r Strategaeth yn fanwl mewn
perthynas â Thwristiaeth, Rhannau Blaenoriaeth ar gyfer Twf, a Datblygiad
Economaidd Gwledig. Byddai’r rhain yn cael eu hategu gan ddigwyddiadau
ymgynghori cyffredinol fydd yn cael eu trefnu'n ddaearyddol ledled y Sir.
Roedd y tri chwestiwn allweddol y byddai’r
ymgynghoriad yn ceisio derbyn barn arnynt yn cynnwys:-
(a)
A yw’r Weledigaeth, y canlyniadau bwriedig a’r egwyddorion
creiddiol yn addas ar gyfer Sir Ddinbych?
(b)
A yw’r Strategaeth yn cynnwys y materion pwysig, yr
heriau a’r cyfleoedd sy’n effeithio ar economi leol Sir Ddinbych?
(c)
A fydd prif gamau gweithredu’r Cynllun Darparu yn cael yr
effaith cywir?
Byddai angen i'r Grŵp Tasg a Gorffen ystyried
canlyniadau'r ymgynghori cyn y gellir cyflwyno Strategaeth Economaidd a
Chymunedol, Cynllun Darparu a Fframwaith Perfformiad i’r Cyngor i’w
cymeradwyo’n ffurfiol fis Hydref.
Yn dilyn cymeradwyo’r Strategaeth, byddai arolygiaeth
y ddarpariaeth yn cael ei ddarparu gan Fwrdd Rhaglen Uchelgais Economaidd a
Chymunedol. Byddai’n monitro cynnydd ac effaith, rhoi cymorth i
ddatrys problemau a rhwystrau darparu a byddai’n argymell newidiadau fel bo’r
angen yn ystod cyfnod y Strategaeth er mwyn sicrhau fod yr effaith a ddymunir
yn cael ei gyflawni. Rôl allweddol ar gyfer y Bwrdd Rhaglen fyddai sicrhau fod
y prosiectau a’r gweithgareddau yn darparu’r buddiannau bwriedig. Mae
gwybodaeth bellach ar gyfansoddiad a swyddogaeth y Bwrdd Rhaglen, yn ogystal
â’r cyfrifoldebau a’r trefniadau llywodraethu, ar gael yn y Strategaeth
ddrafft.
Eglurodd CDECA fod y Cynllun Corfforaethol wedi nodi £2m fel dyraniad tuag
at gostau gweithredu Blaenoriaeth Gorfforaethol yr Economi gyda £160mil wedi’i
ddyrannu yng nghyllideb 2013/14. Mae'r adroddiad ac Atodiad 2 yn gosod cynigion
ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol y Strategaeth a'r Cynllun Darparu arfaethedig a
bydd Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei gynnal yn ystod yr haf.
Roedd y Prif Weithredwr yn cefnogi’r Strategaeth a’i ymagwedd gynhwysfawr
oedd yn egluro rôl Sir Ddinbych ac yn galluogi’r Awdurdod i gael effaith
bositif ar yr economi leol. Byddai Sir Ddinbych yn awr mewn sefyllfa i gynnig
arweiniad ac annog busnesau a phartneriaid i ymroi a chyfranogi. Eglurodd na
ddylid tanbrisio'r her o annog partneriaid i gyfranogi a chadarnhaodd y byddai
ansawdd y ddarpariaeth a lefel y llwyddiant yn cael ei fesur gan nifer y
partneriaid sy’n cael eu cadarnhau. Pwysleisiodd y Prif
Weithredwr bwysigrwydd lleihau canran disgyblion sy'n gadael ysgolion heb
gymwysterau cofrestredig ac nad oeddent yn ymgysylltu'n ddefnyddiol ar ôl
gadael yr ysgol. Pwysleisiodd er ei fod yn falch o’r cynnydd a wnaed
yn gyffredinol roedd nifer o heriau sylweddol o'u blaen o ran ymgysylltu.
Darparodd y CDECA’r ymatebion canlynol i faterion a phryderon a fynegwyd
gan yr Aelodau:-
-
Eglurwyd eu bod wedi gofyn am enwebiadau a'r Cynghorydd
H.Ll. Jones oedd unig gynrychiolydd o Grŵp Ardal Aelodau Dyffryn Dyfrdwy
yn y Grŵp Tasg a Gorffen. Cadarnhawyd y byddai’r broses ymgynghori ledled y
Sir ac y byddai materion sy'n codi ledled y Sir yn cael eu nodi.
-
Roedd Sir Ddinbych fel Cyngor hawdd i ddelio â hwy
yn thema allweddol yn ystod trafodaeth y Grŵp Tasg a Gorffen. Roedd o
leiaf pedwar gweithred benodol wedi’u nodi yn y Cynllun Darparu oedd yn cynnwys
materion o ran caffael, rheoleiddio, mynediad hawdd at ddarpariaeth cefnogi
busnes a datblygu diwylliant cyfeillgar i fusnesau.
-
Llywodraethu symud y strategaeth yn ei blaen. Roedd y strategaeth
yn cynnig aelodaeth gychwynnol ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol
-
Cafwyd cadarnhad fod gwaith sylweddol wedi’i gyflawni
metrig i gefnogi’r strategaeth a’r gweithredoedd, ac y bydd y manylyn hwn yn
cael ei gynnwys yn hwyrach ymlaen.
-
Darparwyd
manylion gwaith i wella effaith leol proses gaffael y Cyngor, a chyfeiriwyd yn
benodol at ymgysylltiad busnesau lleol ac ehangu cyfleoedd cyflogaeth.
-
Amlinellwyd rôl Taith mewn perthynas â strategaeth
Cludiant ar gyfer yr ardal ac isadeiledd cludiant y Sir.
-
Mewn ymateb i bryder a fynegwyd ynglŷn ag amseru a
therfynau amser y cyfnod ymgynghori yn ystod yr haf, darparodd Rheolwr y
Rhaglen fanylion y broses ymgynghori hyd yn hyn ac fe gadarnhaodd fod drafft y
strategaeth wedi’i chylchredeg i’r partïon perthnasol.
-
Hysbyswyd yr aelodau y byddai deunydd hysbysebu yn cael
eu harddangos mewn digwyddiadau megis yr Eisteddfod a Sioe Dinbych a Fflint.
Cadarnhaodd CDECA y byddai stondin Ffederasiwn Busnesau Bach yn Sioe Dinbych a
Fflint.
Yn ystod y drafodaeth, diolchodd y Cynghorydd H.Ll. Jones a CDECA i’r
swyddogion a’r Aelodau am y gwaith caled a wnaed i gynhyrchu drafft Strategaeth
Uchelgais Economaidd a Chymunedol.
PENDERFYNWYD – fod y Cyngor:-
(a)
yn
nodi’r gwaith a wnaed gan y Grŵp Tasg a Gorffen i baratoi drafft
Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol fel yr atodir yn Atodiad 1, a
(b)
chymeradwyo'r Strategaeth ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus dros yr haf fel y nodir yn Atodiad 2
Dogfennau ategol:
- Denbs ECA Report, Eitem 7. PDF 124 KB
- Denbs ECA App 1 - SP, Eitem 7. PDF 312 KB
- Denbs ECA App 2, Eitem 7. PDF 242 KB
- Denbs ECA App 3, Eitem 7. PDF 16 KB
- Denbs ECA Draft Delivery Plan, Eitem 7. PDF 242 KB