Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD YMCHWILWYR Y LLIFOGYDD
Ystyried
adroddiad yr Uwch Beiriannydd, Rheoli Perygl Llifogydd (copi ynghlwm) ar
ganfyddiadau’r ymchwiliad i’r llifogydd, a'r diweddaraf ynglŷn â’r
ymchwiliad i lifogydd Glasdir.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan Uwch Beiriannydd: Rheoli Risg Llifogydd, oedd yn darparu manylion
canfyddiadau archwiliad y llifogydd, a diweddariad o gynnydd yr archwiliad i
ddigwyddiad llifogydd Glasdir, wedi’i gylchredeg gyda'r papurau ar gyfer y
cyfarfod.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd
D.I. Smith a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol
(CDECA). Cadarnhawyd fod yr archwiliad i’r
llifogydd ledled Sir Ddinbych ym mis Tachwedd 2012, wedi'i gwblhau gan eithrio
Glasdir, lle yr oedd cymhlethdod y materion yn ymwneud â'r digwyddiad llifogydd
yn golygu bod yr archwiliad yn parhau.
Roedd cryn dipyn
o lifogydd mewn 12 lleoliad gwahanol ledled Sir Ddinbych ar 26 a 27 Tachwedd
2012 gyda thua 500 o adeiladau wedi’u heffeithio. O dan amodau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 roedd y Cyngor wedi
cynnal archwiliad i achosion y llifogydd ac roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi
cefnogi’r archwiliad. Tarddiad y llifogydd oedd y prif afonydd, a Chyfoeth Naturiol Cymru oedd yr
Awdurdod rheoli risg ar gyfer y rhain, a chyrsiau dŵr cyffredin, a Sir
Ddinbych oedd yr Awdurdod rheoli risg ar gyfer y rhain.
Trefnwyd adrodd am yr ymchwiliad i'r Cyngor ym mis
Mai ond roedd wedi ei ohirio oherwydd cymhlethdod a maint archwiliad dau
ddigwyddiad llifogydd mawr yn Llanelwy a Glasdir. Roedd archwiliad digwyddiad Llanelwy wedi’i gwblhau a’i
grynhoi yn Atodiad 2. Byddai adroddiad llawn Glasdir yn cael ei ohirio nes fis
Medi ac mae cylch gorchwyl yr archwiliad
wedi'i atodi fel Atodiad 1.
Diben yr
archwiliad oedd egluro rhesymau’r llifogydd, tebygolrwydd y bydd yn digwydd eto
a beth y gellir ei wneud i reoli risg llifogydd yn briodol yn y dyfodol. Roedd meini
prawf ar gyfer cytuno lleoliad i archwilio'r deg safle yn cynnwys:
·
Un neu fwy o adeiladau gyda llifogydd mewnol
·
Aflonyddu isadeiledd hanfodol e.e. ffyrdd neu
wasanaethau.
·
Yr uchod 'bron' ag ailadrodd.
Penderfynwyd peidio â chynnwys llifogydd cyffredinol tir amaethyddol fel
rhan o'r ymchwiliad oni bai bo'r digwyddiad llifogydd yn anarferol neu’n
annisgwyl. Fodd bynnag, byddai effaith llifogydd ar dir amaethyddol yn cael ei
drafod ar lefel genedlaethol.
Mae archwiliad llifogydd y rhan fwyaf o leoliadau wedi'u cyflawni ar y cyd
gan Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru. Oherwydd cymhlethdod y digwyddiadau
yng Nglasdir, roedd archwilwyr annibynnol wedi'u comisiynu i gynnal yr
archwiliad i lifogydd y lleoliad hwn. Gofynnwyd i’r
Archwilwyr Annibynnol adolygu canfyddiadau archwiliad y Cyngor a Chyfoeth
Naturiol Cymru ar gyfer holl leoliadau llifogydd eraill ac roedd y rhain yn
cynnwys:-
·
Llanelwy, gan gynnwys Ffordd Isaf Dinbych
·
Rhuddlan gan gynnwys Lôn Sarn
·
Y Brwcws, Dinbych
·
Llanynys
·
Gellifor
·
Glasdir, Rhuthun
·
·
Llanbedr Dyffryn Clwyd
·
Loggerheads
·
Corwen
·
Glyndyfrdwy
Mae adroddiad yn cynnwys canfyddiadau’r archwiliad wedi’i gynnwys fel
Atodiad 2.
Mae’r gwaith archwilio llifogydd wedi’i gydlynu gan Weithgor Archwilio
Llifogydd yn cynnwys swyddogion y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod
Cefnffyrdd. Hyd yn hyn, mae tri briff budd-ddeiliad wedi’u cyflwyno ac mae’r rhain
wedi’u cynnwys er gwybodaeth yn Atodiad 3. Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd gyda
chynrychiolwyr trigolion yn y ddau leoliad mwyaf y llifogydd yng Nglasdir a
Llanelwy.
Roedd Sir Ddinbych wedi ystyried mesurau dros dro i leihau risg llifogydd
wrth aros am ganlyniad yr archwiliad. O ganlyniad, mae’r gwaith canlynol wedi’i gyflawni:
•
Gosod falfiau un
ffordd gwrth-llifogydd ar ddraeniau dŵr yr arwyneb yn y Brwcws, Dinbych.
•
Yng Nglasdir,
tynnu rhwyllau diogelwch ar geuffos 5 bocs, gosod medrydd
dŵr telemetreg dros dro yn sianel y geuffos ac adeiladu llawr caled uwch
ben y geuffos i alluogi mynediad i dynnu malurion yn ystod llifogydd.
Gall cost
gweithredu’r argymhellion mewn perthynas â llifogydd cyrsiau dŵr
cyffredin fod hyd at £1m, ac ni ellir
cynnwys hyn yng nghyllideb gyfredol y Cyngor. Roedd Cyfoeth Naturiol
Cymru wedi amcangyfrif y byddai cynllun i leihau risg llifogydd yn Llanelwy i
lefel dderbyniol yn costio dros £5 miliwn. Roedd yr Aelodau’n
cefnogi’r farn bod Sir Ddinbych yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod
blaenoriaeth ddigonol yn cael ei roi i gyllid cynnar cynigion Cyfoeth Naturiol
Cymru mewn perthynas â Llanelwy, ac unrhyw argymhellion eraill o’r archwiliad
mewn perthynas â phrif afonydd. Eglurodd y Cynghorydd D.I. Smith fod gan Lywodraeth
Cymru bwerau i ddyrannu grant o dan Ddeddf Draenio Tir a chadarnhaodd y
byddai’r argymhellion yn cael eu dilyn ar unwaith. Hysbysodd yr
Aelodau ei fod wedi cyflwyno sylwadau i’r Gweinidog yn gofyn am gyllid
Llywodraeth Cymru.
Roedd yr ymchwiliad yn nodi gwaith bychan y gellir eu cwblhau yn amodol ar
argaeledd cyllid, yn y mannau
lle nad oedd amddiffynfeydd llifogydd yn briodol gellir ystyried amddiffynfeydd
ar gyfer adeiladau unigol. Roedd y CDECA
yn amlinellu argymhellion cyffredinol i ddelio â materion ehangach rheoli risg
llifogydd oedd yn cynnwys gweithio gyda pherchnogion adeiladau unigol,
perchnogion tir ac, yn amodol ar gymeradwyaeth, sefydlu Partneriaeth Rheoli
Afonydd, a groesawyd gan y Cynghorydd T.M. Parry.
Cadarnhawyd fod y tri Briff Budd-ddeiliaid wedi’u
cyflwyno i rannu gwybodaeth gyda phartïon sydd â diddordeb, roedd cyfarfodydd
cyswllt rheolaidd wedi’u cynnal gyda thrigolion yng Nglasdir, dau gyfarfod gyda
chynrychiolwyr trigolion yn Llanelwy a thrafodwyd canfyddiadau dros dro'r
archwiliad gan Bwyllgor Archwilio Cymunedau.
Mewn ymateb i
bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd W.L. Cowie, eglurodd CDECA fod yr
archwiliad wedi nodi fod y bont yn Spring Gardens, Llanelwy heb achosi’r
llifogydd. Fodd bynnag, nodwyd fod y bont wedi cyflwyno
rhwystr ar yr afon ac wedi cael effaith.
AAmlinellwyd manylion y
dewisiadau tymor hir a thymor byr sy’n cael eu hystyried i ddatrys y materion a
nodwyd gan Gynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn y tymor byr roedd y rhain
yn cynnwys tynnu coed a llystyfiant, codi uchder arglawdd llifogydd dros dro a
darparu rhaglen cynnal a chadw. Roedd y datrysiadau tymor hir yn cael eu
hasesu ond roeddent yn debygol o gynnwys peirianwaith helaeth. Cadarnhaodd
CDECA bod gwahoddiad agored wedi’i rannu gyda’r trigolion lleol i ddarparu a
chyflwyno tystiolaeth all gynorthwyo archwiliad llifogydd.
Pwysleisiodd y
Cynghorydd D.Owens bwysigrwydd derbyn ymateb prydlon i’r argymhellion sy’n codi
o’r archwiliad, yn enwedig ar effaith y bont yn Spring Gardens. Fe
amlygodd bod angen darparu cymorth i drigolion lleol mewn perthynas â gwaith a
wnaed yn eu hadeiladau.
EEglurodd yr Uwch
Beiriannydd: Rheoli Risg Llifogydd i’r Cynghorydd A.Roberts nad oedd agwedd
diogelwch pont Rhuddlan yn fater yn ystod y llifogydd. Mae
gwaith archwilio wedi’i gynllunio i asesu cynhwysedd traffig y bont, a byddai
hyn yn cynnwys archwiliad sgwrio o sylfeini’r bont. Eglurodd
hefyd, gan ystyried effaith datblygiad tai arfaethedig ar Lôn y Sarn ar
ddraenio dŵr, y byddai'r amodau cynllunio priodol yn cael eu gosod. Darparodd
y Cynghorydd J.A. Davies fanylion adroddiad a dderbyniwyd o Adain Pontydd a
Strwythurau mewn perthynas â phont Rhuddlan, ac amlygodd farn CADW a oedd
wedi'i gynnwys yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, darparodd Gynrychiolydd Cyfoeth
Naturiol Cymru fanylion prosiect amddiffyn eiddo unigol, wedi'i noddi gan
Lywodraeth Cymru, a gall gynnwys eiddo ar Lôn Isaf Dinbych, Llanelwy.
Mewn ymateb i
gais gan y Cadeirydd a phryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd R.J. Davies,
cytunodd y Cynrychiolydd o Gyfoeth Naturiol Cymru y gellir darparu canolfan alw
draw i dderbyn barn trigolion ardal Y Brwcws yn Ninbych. Fe
ymatebodd i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd S.A. Davies a chadarnhaodd na
fyddai arian yn cael ei symud fel rhan o'r astudiaeth i reoli cwrs Afon
Dyfrdwy.
Ymatebodd CDECA i gwestiwn gan y
Cynghorydd B.A. Smith a darparodd fanylion goblygiadau cyllideb. Eglurodd y byddai'r prif oblygiadau ariannol sy'n codi
o archwiliad llifogydd yn effeithio ar Gyfoeth Naturiol Cymru yn bennaf.
Eglurodd yr Uwch Beiriannydd: Rheoli Risg Llifogydd fod Llywodraeth Cymru yn
gweithredu cynllun i gefnogi Awdurdodau Lleol gyda chostau delio gydag
argyfwng. Fodd bynnag, oni chyrhaeddir trothwy cymhwyso, byddai'n rhaid i'r
Cyngor dderbyn y costau. Gyda rhagfynegiad y bydd llifogydd yn digwydd yn
amlach yn y dyfodol, bydd y gost i’r Cyngor yn debygol o gynyddu. Cytunodd CDECA gyda’r awgrym y gellir cysylltu
Cynlluniau Llifogydd Cymunedau gyda Chynlluniau Tref.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd H.
Hilditch-Roberts ynglŷn â gweithredu mesurau ataliol a datblygu
strategaeth atal llifogydd, eglurodd CDECA fod yr Uwch Beiriannydd: Rheoli Risg
Llifogydd ar hyn o bryd yn diweddaru a datblygu Strategaeth Rheoli Risg y
Cyngor a byddai'n cael ei gyflwyno i Archwilio i'w ystyried cyn cael ei
gymeradwyo'n ffurfiol.
Yn ystod y drafodaeth, cytunodd yr Aelodau y dylai Grŵp Cadeiryddion
ac Is-Gadeiryddion Archwilio fonitro cynnydd archwiliad llifogydd yn rheolaidd.
Mynegodd nifer o Gynghorwyr eu
gwerthfawrogiad, a diolch ar ran trigolion lleol, am ymateb Sir Ddinbych i'r
llifogydd. Diolchodd yr
Aelodau i staff yr holl sefydliadau a gwirfoddolwyr a ddarparodd gymorth yn
ystod y llifogydd ac wedi'r llifogydd yn yr amrywiol ardaloedd yn y Sir.
PENDERFYNWYD
– fod y Cyngor yn cytuno:-
(a)
gweithredu'r
argymhellion a nodir yn Atodiad 2.
(b)
y gwneir
ymdrech ar y cyd gan Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru i Lywodraeth Cymru
ar gyfer cyllid i weithredu'r argymhellion.
(c)
fod Sir Ddinbych yn cefnogi sefydlu Partneriaeth
Rheoli Afonydd, gan uno’r holl bartneriaid perthnasol i ddatblygu cynllun
rheoli risg llifogydd.
(d)
derbyn Rhan 2 Adroddiad
yr Archwiliad, yn ymwneud â Glasdir, yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 10 Medi
2013, a
bod Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Archwilio yn monitro cynnydd yn rheolaidd.
Dogfennau ategol:
- Flood Report, Eitem 6. PDF 91 KB
- Flood App 1, Eitem 6. PDF 366 KB
- Flood App 2, Eitem 6. PDF 74 KB
- Flood SB 1, Eitem 6. PDF 147 KB
- Flood SB 2, Eitem 6. PDF 137 KB
- Flood SB 3, Eitem 6. PDF 96 KB