Eitem ar yr agenda
SEFYLLFA DERFYNOL Y GYLLIDEB A’R ALLDRO REFENIW 2012/13
Ystyried
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r diweddariad
ynglŷn â’r sefyllfa refeniw derfynol a’r argymhellion ar gyfer ymdrin â’r
balansau.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Prif Gyfrifydd, oedd yn darparu diweddariad
sefyllfa derfynol refeniw a thriniaeth arfaethedig balansau, wedi’i gylchredeg
gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Roedd yr adroddiad alldro terfynol wedi’i dderbyn gan y Cabinet ar 25
Mehefin 2013. Roedd yr adroddiad yn darparu manylion y sefyllfa derfynol ar
ddiwedd y flwyddyn ariannol er mwyn i’r Cyngor Sir ystyried a chymeradwyo
triniaeth yr arian wrth gefn a’r balansau arfaethedig. Byddai drafft
cyntaf Datganiad Cyfrifon Blynyddol ar gyfer 2012/13 yn cael ei gyflwyno i’r
archwilwyr allanol ar 28 Mehefin, ac yna byddai'r cyfrifon wedi'u harchwilio yn
cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Medi i’w
cymeradwyo’n ffurfiol.
Y sefyllfa alldro ariannol gyffredinol ar gyfer 2012/13 yw i’r Cyngor dan wario yn erbyn y
gyllideb a gymeradwywyd ac iddo weld cynnydd yn arenillion Treth y Cyngor, ac
mae hynny’n cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor. O ganlyniad roedd modd gwneud
argymhellion i symud yr arian i gronfeydd wrth gefn penodol i gynorthwyo'r
Cyngor i ddelio â phwysau ariannol trwm dros y blynyddoedd nesaf a dechrau
sefydlu adnoddau ariannol i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol. Mae’r ffigyrau
Alldro Refeniw terfynol yn Atodiad 1. Sefyllfa derfynol cyllideb y gwasanaethau
a’r gyllideb gorfforaethol yw tanwariant o £1.525 miliwn.
Roedd sefyllfa
alldro cyllideb y gwasanaethau a’r gyllideb gorfforaethol £530 mil yn uwch na'r
hyn a gafodd ei adrodd wrth y Cabinet ym mis Mawrth. Roedd
y symudiad mwyaf arwyddocaol o fewn Gwella a Chynhwysiant Ysgolion (£223 mil). Mae
sefyllfa derfynol Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wedi gwella o £76 mil
ac mae sefyllfa’r cyllidebau corfforaethol wedi gwella o £113 mil ers y rhagolwg
a gafodd ei adrodd ym mis Mawrth.
Mae’r gwasanaethau’n parhau i
fod yn rhagweithiol wrth gynllunio ar gyfer arbedion yn y blynyddoedd sydd i
ddod, a dechreuwyd weld effaith ariannol rhai o’r cynigion hynny ar waith tuag
at ddiwedd 2012/13. Rhoddodd wasanaethau wybod am ymrwymiadau yn erbyn balansau
o £849 mil ym mis Mawrth. Roedd y mwyafrif o’r balansau wedi eu
rhagweld oherwydd materion amseru ac mae balansau ymrwymedig y gwasanaethau
bellach yn £1.139 miliwn ac mae rhagor o fanylion i’w gweld yn yr adroddiad.
Roedd gwariant ar ysgolion yn £1.069m yn llai na’r gyllideb a ddyrannwyd
gydag Ysgolion Arbennig wedi gwella o £490mil.
Roedd ffactorau yn ymwneud â symudiad yr
Ysgolion Arbennig wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Roedd balansau ysgolion yn £2.870m ac roedd manylion y
balansau wedi'u cynnwys yn Atodiad 4.
Cyllidebodd y cyngor ar gyfer gwneud cyfraniad o £300 mil i’r balansau
sydd, yn gyson ag adroddiadau blaenorol, yn dybiaeth o fewn y sefyllfa alldro
terfynol. Cyllidebodd y cyngor ar gyfer gwneud
cyfraniad i ariannu’r Cynllun Corfforaethol a oedd angen oddeutu £25 miliwn o
arian parod a £52 miliwn o fenthyciad er mwyn cyflawni uchelgeisiau’r Cyngor. Yng
nghyllideb 2012/13, roedd tybiaeth y byddai £2.073 yn cael ei gynhyrchu trwy
fod arian blaenoriaeth wedi’i ddyrannu i wasanaethau a thrwy fod darpariaethau
wedi eu cyllidebu o fewn cyllidebau corfforaethol.
Roedd
gwybodaeth bellach ynglŷn ag alldro terfynol y gwasanaeth wedi'i fanylu yn
yr adroddiad fel a ganlyn:-
Cynllunio
Busnes a Pherfformiad – y sefyllfa derfynol yw tanwariant o £60mil.
Cyllid ac
Asedau – tanwariant o
£16mil.
Priffyrdd ac
Amgylchedd – sefyllfa o
danwariant o £278mil, gwelliant o £15mil o’r hyn a ragwelwyd ym mis Mawrth.
Cynllunio a
Rheoleiddio – cynnig i’w
ddefnyddio i gyllido costau ailstrwythuro fel rhan o gyflawni arbedion ar gyfer
2013/14.
Gwasanaeth
Oedolion a Busnes - wedi
cyflawni eu cyllideb.
Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd – adroddwyd
ei fod yn £148 mil.
Tai a Datblygu
Cymunedol - oherwydd i
adolygiad o ariannu trwy grantiau allanol ar ddiwedd y flwyddyn amlygu costau
ychwanegol y gellir eu hawlio.
Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden – roedd
y sefyllfa alldro terfynol yn danwariant o £37.5 mil
TGCh/Trawsnewid
Busnes – y gyllideb yn
£108 mil yn is.
Cwsmeriaid a
Chymorth Addysg – tanwariant
o £245 mil.
Gwella
Ysgolion – tanwariant o
£349mil.
Treth y Cyngor – wedi’i
effeithio gan nifer yr anheddau yn y Sir, ynghyd â lefel uchel o gasglu trethi o
dros 98%. Roedd lefel derfynol enillion Treth y Cyngor £315mil yn uwch na’r
amcangyfrifiad gwreiddiol.
Oherwydd sefyllfa gyffredinol y gwasanaethau,
cynigwyd fod yr adrannau yn dwyn unrhyw danwariant yn ei flaen yn llawn i
gynorthwyo cyflawni strategaeth gyllidebol 2013/14 a diwallu unrhyw ymroddiadau
cyfredol. Byddai’n rhaid i wasanaethau ddarparu mwy o
fanylion, yn Adroddiad Ariannol i’r Cabinet ym mis Hydref, am sut y defnyddiwyd
y balansau a gafodd eu dwyn ymlaen yn 2013/14.
Roedd y sefyllfa derfynol yn golygu fod gan y Cyngor £651mil o arian ar
gael. Mae hyn yn llwyddiant sylweddol ac mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau y
defnyddir yr arian yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl, a chynigiwyd y byddai
hyn yn cyfrannu at yr arian wrth gefn yr oedd ei angen i ariannu’r Cynllun
Corfforaethol.
Roedd cynllun uchelgeisiol o fuddsoddiad cyfalaf y Cyngor trwy’r Cynllun
Corfforaethol angen swm sylweddol o arian ac mae Cronfa Wrth Gefn y Cynllun
Corfforaethol o tua £25m wedi’i sefydlu ar gyfer y diben hwn. Roedd adolygiad
o'r arian cyfredol i benderfynu a oedd lefelau balansau a chronfeydd wrth gefn
yn rhesymol, ac a ellir symud ychydig o'r arian wrth gefn i Gronfa Wrth Gefn y
Cynllun Corfforaethol, wedi'i gwblhau. Roedd yr adolygiad wedi cadarnhau y
byddai’n addas symud £6.274m o’r arian wrth gefn cyfredol i Gronfa Wrth Gefn y
Cynllun Corfforaethol.
Mae manylion yr holl gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd wedi’u cynnwys fel
Atodiad 2, ac mae crynodeb o’r symudiadau a gynigir fel yr adroddwyd i’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wedi’u cynnwys fel Atodiad 3. Mae nifer o
gyfraniadau eraill i’r cronfeydd wrth gefn a'r darpariaethau, ac ohonynt, wedi
paratoi ar eu cyfer yn y cyfrifon ac mae manylion y rhain yn Atodiad 2 a byddai
angen i’r Cyngor eu cymeradwyo. Mae’r
symudiadau sylweddol i’r cronfeydd wrth gefn nad ydynt eisoes wedi eu hamlygu
wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac yn ymwneud â’r canlynol:
·
£563mil wedi’i glustnodi i ariannu amddiffyn ysgolion a
effeithir gan y newidiadau diweddar i’r fformiwla gyllido
·
£185mil wedi ei ychwanegu at y Gronfa Yswiriant Wrth Gefn
i gyfrif am y rhwymedigaethau sy’n parhau mewn perthynas ag MMI, cyn yswirwyr
yr awdurdodau a oedd yn rhagflaenu Sir Ddinbych, a hawliadau posibl eraill.
Ymatebodd Pennaeth Cyllid ac Asedau i gwestiwn gan y Cynghorydd Hugh Irving
ac eglurodd y gall y rhwymedigaethau posib a nifer yr hawliadau gynyddu yn y
dyfodol
·
Mae cyllid wedi symud o’r Gronfa Statws Sengl Wrth Gefn i
ddarpariaeth i ariannu hawliadau cyflog cyfartal
Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd
Ymatebodd
Pennaeth Cyllid ac Asedau i gwestiwn gan y Cynghorydd M.Ll. Davies ac eglurodd
ffigurau oedd yn cael eu cynnwys yn Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad.
PENDERFYNWYD - fod y Cyngor yn
cymeradwyo sefyllfa alldro refeniw terfynol ar gyfer 2012/13 a thriniaeth
cronfeydd wrth gefn a balansau a fanylir yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol:
- ADRODDIAD CYLLID, Eitem 8. PDF 113 KB
- Finance App 1, Eitem 8. PDF 22 KB
- Finance App 2, Eitem 8. PDF 42 KB
- Finance App 3, Eitem 8. PDF 15 KB
- Finance App 4, Eitem 8. PDF 29 KB