Eitem ar yr agenda
FFRAMWAITH ADRODD BLYNYDDOL Y CYNGOR - GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Ystyried adroddiad
gan Reolwr Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar, Strategaeth a Chefnogi (copi ynghlwm)
sy’n cynnwys hunanasesiad gofal cymdeithasol Sir Ddinbych ac yn nodi
blaenoriaethau gwelliant ar gyfer 2013/2014.
Cofnodion:
Roedd copi o
adroddiad gan Reolwr Gwasanaethau
Ymyrraeth Gynnar, Strategaeth a Cefnogi, oedd yn darparu hunanasesiad o
ofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych a nodi blaenoriaethau gwelliant a nodwyd ar
gyfer 2013/14, wedi’i gylchredeg gyda’r rhaglen.
Darparodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (CCMLl) grynodeb ddwys o'r
adroddiad ac eglurodd fod pob Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yng
Nghymru yn gorfod cynhyrchu Adroddiad Blynyddol yn crynhoi eu barn am
effeithiolrwydd Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Blaenoriaethau Gwelliant yr
Awdurdod. Mae drafft Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2012/2013 wedi’i gynnwys fel
Atodiad 1. Roedd yr adroddiad yn darparu darlun onest o’r gwasanaethau yn Sir
Ddinbych i’r cyhoedd ac yn arddangos dealltwriaeth glir o’r cryfderau a’r
heriau.
Cyfeiriodd y CCMLl at y Gwasanaethau Plant a phwysleisio
pwysigrwydd yr adroddiad yn dilyn adroddiadau yn y cyfryngau yn ddiweddar, gan
gyfeirio’n benodol at Adroddiadau Jilings a Waterhouse oedd yn ymwneud â
cham-drin plant mewn cartrefi plant, a darparodd fanylion mewn perthynas
â:-
-
Nifer y newidiadau deddfwriaethol a
rheoleiddio sy’n effeithio ar Wasanaethau Plant.
-
Argymhellion Waterhouse yn rhan o fframwaith
deddfwriaethol Cymru yn awr, a sefydlu Comisiynydd Plant Cymru.
-
Gwelliannau yn ymwneud â darpariaeth
Gwasanaethau Plant.
-
Ymyrraeth gynnar i ddelio â phroblemau a
phwysigrwydd gwrando ar blant.
-
Gwasanaethau Dwys Cefnogi Teuluoedd
-
Ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda Gweithwyr
Gofal mewn perthynas â Strategaeth Arwain a Rheoli.
-
Hyfforddiant dwys a ddarparwyd i ofalwyr
maeth.
-
Pwysigrwydd diogelu plant.
-
CCyflawni lleoliadau sefydlog i blant, drwy
ddarparu cartrefi sefydlog a gofalgar.
-
Roedd prif flaenoriaethau'r Gwasanaethau
Plant ar gyfer 2013-14 wedi'u cynnwys ar dudalennau 18 ac 19 o'r Adroddiad
Blynyddol.
Darparodd y CCMLl fanylion ynglŷn â Gwasanaethau
Oedolion ac amlygwyd y meysydd:-
-
Cynnydd mewn perthynas â Bil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Lles. Roedd prif oblygiadau’r Bil, oedd yn
berthnasol i Gymru, yn ymwneud â Gwasanaethau Oedolion, ond roeddent hefyd yn
cynnwys Gwasanaethau Plant.
-
Roedd angen newid dull darparu Gwasanaethau
Oedolion, yn tarddu o ddisgwyliadau'r cyhoedd gan fod arnynt angen mwy o ddewis
a rheolaeth drwy hyrwyddo annibyniaeth.
- Cynnydd yn nifer yr unigolion sydd ag
anableddau dysgu a gofalwyr.
-
Adborth bositif a dderbyniwyd ynglŷn â
darpariaeth Gwasanaethau Ymyrryd, ail-alluogi,
gofal ychwanegol a gwaith a wnaed yn y gymuned.
-
Cynnydd a wnaed gyda chefnogaeth sy'n
canolbwyntio ar ddinasyddion.
-
Cynllunio defnyddio cyllid neilltuol yn y
Gwasanaethau Cymdeithasol.
-
Gwelliannau sydd eu hangen o ran absenoldeb
oherwydd salwch yng Ngwasanaethau Plant ac Oedolion.
-
Angen datblygu darpariaeth gwasanaethau drwy
gyfrwng y Gymraeg ymhellach yn flaenoriaeth bwysig a chynyddol.
-
Problemau’n tarddu o gefndir demograffig a'r
boblogaeth sy’n heneiddio.
Darparwyd crynodeb o’r pedair elfen ganlynol yn Fframwaith Adrodd Blynyddol
y Cyngor ar gyfer yr Aelodau:-
(i)
Hunanasesiad a dadansoddiad manwl o effeithiolrwydd
(ii) Trywydd tystiolaeth
(iii)
Integreiddio gyda chynllunio busnes
(iv)
Cyhoeddi adroddiad blynyddol
Yn unol â chanllawiau llywodraethu proses ACRF roedd yr
Adroddiad Blynyddol wedi'i gynhyrchu ar gyfer y cyhoedd a bydd yn cael ei
gyhoeddi erbyn 31 Gorffennaf 2013. Roedd
yr asesiad cyffredinol yn arddangos fod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych
wedi llwyddo i wneud gwelliannau mewn perthynas â'r meysydd canlynol yn nhermau
perfformiad ac ansawdd dros y flwyddyn ddiwethaf:-
·
cefnogi teuluoedd yn llwyddiannus yn gynnar er mwyn atal
problemau rhag gwaethygu
·
darparu cefnogaeth gynnar a rhoi cymorth i bobl adennill
eu hyder a’u gallu i ofalu amdanynt eu hunain e.e. ar ôl syrthio.
·
cefnogi pobl i fyw yn annibynnol yn y gymuned a lleihau
nifer yr unigolion sy’n mynd i Gartrefi Gofal.
·
darparu cartrefi sefydlog a gofalgar i blant sy'n derbyn
gofal.
·
diogelu plant ac oedolion diamddiffyn yn effeithiol
·
gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau ac
asiantaethau eraill
·
gweithlu sefydlog sy’n cael eu cefnogi gyda'u
datblygiad proffesiynol
·
arweiniad cryf i yrru’r rhaglen yn ei flaen
·
gwell prosesau sicrwydd ansawdd
·
rheoli cyllid yn gadarn sydd wedi darparu’r
gwasanaethau o fewn y gyllideb
Roedd nifer o heriau ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Busnes a Gwasanaethau
Plant ac roedd Atodiad 2 yn darparu trosolwg o’r heriau a’r ymatebion a
ddarparwyd. Roedd y blaenoriaethau gwella oedd wedi’u cynnwys yn yr Adroddiad
Blynyddol yn cydnabod bod angen parhau i addasu a moderneiddio gwasanaethau er
mwyn ymateb i ddisgwyliadau a gofynion Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Llywodraeth Cymru.
Roedd nodweddion allweddol o ymagwedd Sir Ddinbych i ailfodelu, a datblygu
patrymau gwasanaeth newydd i wella gwasanaethau lleol yn cynnwys:-
·
datblygu
gwasanaethau cefnogi teuluoedd gwell gyda gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos i
gefnogi teuluoedd
·
cryfhau
cefnogaeth pontio ar gyfer pobl ifanc gydag anableddau sy'n symud o wasanaethau
plant i wasanaethau oedolion.
·
gweithredu
model Gwasanaeth Cefnogi Teuluoedd Integredig;
·
datblygu
Gofal Ychwanegol ychwanegol;
·
datblygu cynllun tair blynedd i ddatblygu
gwasanaethau i gefnogi gofalwyr;
·
buddsoddiad ychwanegol mewn ail-alluogi a
gweithgareddau i gefnogi pobl i fyw’n annibynnol heb ofal cymdeithasol parhaus
·
lleihau
absenoldebau oherwydd salwch, canran uwch o werthusiadau perfformiad wedi eu
cwblhau, ac ymateb i gwynion yn gynt
Byddai angen i ddyfodol gwasanaethau Sir Ddinbych edrych yn wahanol a
byddai ymroddiad i foderneiddio yn cynnwys cynnydd mewn buddsoddiad mewn
gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar er mwyn galluogi dinasyddion i fod yn
annibynnol, yn wydn ac yn abl. Bydd angen cefnogi’r ymagwedd gydag amrywiaeth o
wasanaethau, gweithgareddau a rhwydweithiau cefnogi y gall pobl gael mynediad
atynt yn eu cymunedau eu hunain. Byddai darparu’r rhaglen yn gofyn am ddatrysiadau
ar draws y cynghorau/gwasanaethau ac ar draws sectorau gan gynnwys mentrau
wedi’u harwain gan y cymunedau.
Nodwyd y byddai ailfodelu a datblygu gwasanaethau ac ymagweddau newydd yn
cynnwys addasiadau amhoblogaidd. Fodd bynnag, golyga'r hinsawdd economaidd na ellir
osgoi penderfyniadau anodd ac y byddai angen canolbwyntio ar weithredu
newidiadau sy'n darparu gwasanaethau effeithiol, cynaliadwy sy’n sicrhau fod
pobl ddiamddiffyn yn cael eu diogelu ac yn derbyn gwasanaethau o ansawdd uchel
sy’n darparu urddas mewn gofal a chanlyniadau da.
Mae'r blaenoriaethau sy'n cael eu nodi yn yr ACRF yn cyfrannu at
flaenoriaeth 4: mae pobl ddiamddiffyn yn cael eu diogelu a gallant fyw mor
annibynnol ag sy’n bosibl ac roedd esiamplau yn yr adroddiad, ynghyd â manylion
y broses ymgynghori a gynhaliwyd, sut y byddai costau'n effeithio ar
wasanaethau eraill, goblygiadau ariannol a chamau gweithredu i rwystro unrhyw
risgiau.
Byddai'r adroddiad yn ffurfio rhan allweddol o werthusiad perfformiad
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o wasanaethau
cymdeithasol Sir Ddinbych, a byddai’r gwerthusiad yn rhoi gwybodaeth ar gyfer
asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o Gyngor Sir Ddinbych fel rhan o’r Adroddiad Gwella Blynyddol.
Eglurodd y Cynghorydd J. Chamberlain-Jones fod y Gwasanaeth Maethu a
Mabwysiadu yn perfformio’n dda ond byddai’n rhaid delio â'r mater o lefelau is
o staff, gan gyfeirio'n benodol at benodi Swyddog Cyswllt Addysg yn y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Mynegodd bryderon ynglŷn â thoriadau ar
dudalen 127 yr adroddiad, a phwysigrwydd cynnal darpariaeth gofal dydd yn y
Sir. Eglurodd o ran lefelau absenoldeb oherwydd salwch,
fod arolygon staff wedi cynhyrchu canlyniadau positif heb unrhyw feysydd pryder
mewn perthynas â lefelau straen. Cafwyd cadarnhad na fyddai toriadau cyllid
Gwasanaethau Amddiffyn Oedolion o reidrwydd yn golygu y byddai gwasanaethau
oedolion a diogelu amddiffyn oedolion yn cael eu cyfaddawdu gan fod cost
darparu tai gofal ychwanegol yn llai na gofal preswyl. Eglurodd y
Cynghorydd Chamberlin-Jones fod nifer yr unigolion sy'n mynychu Canolfannau
Dydd wedi gostwng gan nad oedd Meddyg Teulu bellach yn gallu atgyfeirio, a
chadarnhaodd y CCMLl fod uchafswm cost o £50 yr wythnos ar gyfer darparu
gwasanaeth gofal dydd.
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd M.L. Holland,
cadarnhaodd y CCMLl y byddai lefel darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol ar gyfer
unigolion sydd â dementia ac alzheimer’s, sydd wedi cynyddu’n sylweddol, yn
fater i’r holl asiantaethau ei ystyried. Pwysleisiwyd
pwysigrwydd amlygu'r mater yn yr Adroddiad Blynyddol a chyfeiriwyd at
strategaeth ranbarthol gofal dementia.
Eglurodd y Cynghorydd J. Butterfield fod darpariaeth llety gwarchod yn dda
ond roedd rhai sefyllfaoedd lle yr oedd rhai o’r henoed yn unig a chyfeiriwyd
at fodelau eraill o ddelio â darpariaeth gwasanaeth. Amlygodd y
Cynghorydd Butterfield bwysigrwydd monitro a gwerthuso’r sefyllfa a gofynnodd
am adroddiad yn adolygu canolfannau ail-alluogi i'w gyflwyno i'r Cyngor Sir ei
ystyried. O ran Polisi Plant Sy'n Derbyn Gofal, cadarnhaodd y
CCMLl na fyddai plant diamddiffyn yn cael eu symud cyn creu cynllun gofal.
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd J.A Davies ynglŷn â
phwysigrwydd canfod gofalwyr cudd i sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth,
eglurodd y CCMLl fod rhwydwaith dda wedi’i gosod a bod Sir Ddinbych yn ariannu
6 sefydliad ar hyn o bryd i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr, gan gynnwys cyllid
ar gyfer GOGDdC. Cyfeiriwyd at fesurau gofalwyr newydd, datblygu
fframwaith monitro contract rhanbarthol newydd a’r angen am well Gofal Seibiant
a gwybodaeth rhyddhau.
Ymatebodd y CCMLl i gwestiynau gan y Cynghorydd M. McCarrol ac eglurodd fod
datblygu strategaeth, gyda’r Gwasanaethau Hamdden, ar gyfer byw’n annibynnol,
cynllun 3 blynedd i ddatblygu gwasanaethau i gefnogi gofalwyr a gweithredu
cynllun gwirfoddoli Sir Ddinbych i roi cyfle i drigolion i fod yn aelodau
gweithgar o'u cymunedau yn gamau
gweithredu i'w symud ymlaen yn y deuddeg mis nesaf. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd W.Mullen-James, eglurodd y CCMLl fod y
gwasanaeth EDT yn un ar y cyd wedi’i leoli yn Wrecsam.
Pwysleisiodd y Cynghorydd J.M. McLellan bwysigrwydd monitro asesiadau gwaith cymdeithasol a chynlluniau
sy’n cael eu cyflwyno i’r Llys, a sicrhau datblygiad canolbwyntio ar y teulu
fyddai’n sicrhau ymyrraeth gynnar.
Yn ystod y drafodaeth cymeradwyodd y Cynghorydd R.L. Feeley yr adroddiad
oedd wedi’i gynhyrchu mewn cyfnod anodd a heriol, ac eglurodd fod Sir Ddinbych
wedi ymateb yn gyflym ac yn llawn dychymyg tuag at y dyfodol. Hysbysodd yr
Aelodau fod CCMLl Sir Ddinbych yn cael eu parchu a'u hedmygu ledled Cymru.
PENDERFYNWYD – fod
y Cyngor yn cadarnhau:-
(a)
Hunanasesiad
Cyfarwyddwr gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych.
(b)
Blaenoriaethau
Gwella ar gyfer 2013/14, a
(c)
fod yr adroddiad
drafft yn darparu cyfrif clir o berfformiad
Dogfennau ategol:
- Ann Cll SS Report, Eitem 9. PDF 62 KB
- Ann Cll SS App 1, Eitem 9. PDF 523 KB
- Ann Cll SS App 2, Eitem 9. PDF 64 KB
- Ann Cll SS ACRF App 3, Eitem 9. PDF 140 KB