Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

FFRAMWAITH ADRODD BLYNYDDOL Y CYNGOR

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (mae copi ynghlwm) a oedd yn nodi hunanasesiad drafft y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol o berfformiad y gwasanaeth yn 2012/13, a meysydd ar gyfer datblygiad a gwelliant.

                                                                                                     12.00 – 12.30

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles oedd yn darparu crynodeb o effeithiolrwydd gwasanaethau gofal cymdeithasol yr awdurdod a blaenoriaethau gwelliant, wedi’u cylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.   

Bwriad copi drafft o’r adroddiad blynyddol ar gyfer 2012/2013, yn Atodiad 1, oedd darparu darlun gonest o’r gwasanaethau yn Sir Ddinbych ac arddangos dealltwriaeth glir o’r cryfderau a’r sialensiau a fu, a byddai’n amodol ar ymgynghoriad pellach a gorffeniadau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn erbyn mis Gorffennaf, 2013.

 

Roedd crynodeb o bedair elfen y Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad:-

 

-                Hunanasesiad a dadansoddiad manwl o effeithiolrwydd

-                Trywydd tystiolaeth

-                Integreiddio gyda chynllunio busnes

-                Cyhoeddi adroddiad blynyddol

 

Roedd yr adroddiad yn ffurfio rhan allweddol o werthusiad perfformiad yr AGGCC Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych ac roedd y gwerthusiad yn rhoi gwybodaeth i asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o Sir Ddinbych fel rhan o’r Adroddiad Gwelliant Blynyddol.   Roedd yr asesiad cyffredinol yn nodi bod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych wedi llwyddo i wneud gwelliannau yn nhermau perfformiad ac ansawdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd manylion meysydd cynnydd wedi’u crynhoi yn yr adroddiad.   Roedd sialensiau mawr o flaen Gwasanaethau Oedolion a Busnes a Gwasanaethau Plant ac mae Atodiad 2 yn darparu trosolwg o’r sialensiau a sut y mae’r Cyngor yn bwriadu ymateb iddynt.    Hysbyswyd yr Aelodau bod y farn a’r sialensiau ar ddrafft yr adroddiad wedi’u derbyn gan swyddogion Cyngor Sir y Fflint a BIPBC.

 

Roedd blaenoriaethau gwelliant yn yr adroddiad blynyddol yn adnabod yr angen i barhau i addasu a moderneiddio gwasanaethau er mwyn ymateb i ddisgwyliadau a gofynion Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Llywodraeth Cymru.   Roedd manylion nodweddion allweddol i ymagwedd y Cyngor i ailfodelu a datblygu patrymau gwasanaeth newydd i wella gwasanaethau lleol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.   Amlygwyd y meysydd gwelliant oedd yn cynnwys Gwasanaethau Plant, gweithio ar y cyd a sicrwydd ansawdd.  

 

Byddai ymrwymiad y Cyngor i foderneiddio yn cynnwys buddsoddiad mwy mewn gwasanaethau ataliol ac ymyriad cynnar er mwyn galluogi dinasyddion i fod yn annibynnol, yn wydn ac yn alluog.   Bydd angen cefnogi’r ymagwedd gydag amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau a rhwydweithiau cefnogi y gall pobl gael mynediad atynt yn eu cymunedau eu hunain, a byddai darparu’r rhaglen yn gofyn am ddatrysiadau ar draws y cynghorau/gwasanaethau ac ar draws sectorau gan gynnwys mentrau wedi’u harwain gan y cymunedau.

 

Hysbyswyd yr Aelodau mai canlyniad anochel ailfodelu a datblygu gwasanaethau newydd ac ymagweddau fyddai newidiadau amhoblogaidd.    Byddai canolbwynt ar wneud newidiadau sy’n darparu gwasanaethau cost effeithiol a chynaliadwy i sicrhau bod pobl ddiamddiffyn yn cael eu diogelu ac yn derbyn gwasanaethau o’r safon orau gan ddarparu urddas mewn gofal a chanlyniadau da.

 

Roedd y blaenoriaethau a fanylwyd yn Fframwaith Adrodd Flynyddol y Cyngor yn cyfrannu at flaenoriaeth 4 Blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor: mae pobl ddiamddiffyn yn cael eu diogelu a gallant fyw mor annibynnol ag sy’n bosibl.  Bydd gweithgarwch sydd wedi’i amlygu yn yr adroddiad blynyddol yn parhau i gyfrannu’n uniongyrchol, ac yn elwa o gyflawni’r Uchelgais Economaidd a Moderneiddio rhaglenni’r Cyngor.   

 

Ymatebodd y CC:MLl i gwestiwn gan y Cynghorydd W.E.  Cowie a darparu manylion am y broses tâl am ddarpariaeth Gofal Cartref Preswyl fyddai’n cael ei gytuno’n flynyddol ac yn amodol ar ofynion rheolaethol. Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Owens at y cynnydd o 58% o blant sydd o dan ofal yr Awdurdod ac eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth:  Ansawdd a Datblygu Systemau bod y cynnydd wedi bod ar lefel genedlaethol, ac yn rhannol oherwydd y dulliau gweithredu newydd oedd ar waith yn y llysoedd. Darparwyd amlinelliad o raglen ail sefydlu Sir Ddinbych i’r Pwyllgor.   Roedd manylion proses monitro’r Cyngor ar gyfer Cartrefi Gofal, ynghyd â’r safonau cenedlaethol, wedi’u darparu mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd R. J.  Davies.

 

Amlygwyd darpariaeth dwyieithog y gwasanaethau gan y CC:MLl a chyfeiriwyd at fenter sydd wedi’i chyflwyno gan Lywodraeth Cymru oedd yn cynnwys safonau gwaith a fframwaith strategol yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol.   Eglurodd bod rhai meysydd ble y mae darparu gwasanaethau dwyieithog yn heriol a chyfeiriwyd at y gwaith a wnaed gan Grŵp Strategaeth yr Iaith Gymraeg.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

PENDERFYNWYD – derbyn yr adroddiad a chefnogi:-

 

·                      hunanasesiad y Cyfarwyddwr o ofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych.

·                      blaenoriaethau gwelliant ar gyfer 2013/2014; a

·                      bod yr adroddiad drafft yn darparu cofnod clir o berfformiad.

 

[SE/CMcL i nodi’r penderfyniad uchod ac adrodd i’r Cyngor]

 

 

Dogfennau ategol: