Eitem ar yr agenda
MENTRAU CEFNDY
Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes (mae copi ynghlwm) o ran Mentrau
Cefndy.
10.10 – 10.45
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad cyfrinachol gan Reolwr Gwasanaeth Gofal
Iechyd/Datblygiad Busnes Cefndy, oedd yn manylu ar berfformiad Cefndy yn y
gorffennol ac yn amlygu’r anghenraid am fuddsoddiad yn y dyfodol, wedi’i
gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.
Darparodd y Cynghorydd
R.L. Feeley fanylion i’r
Pwyllgor am berfformiad Cefndy yn y gorffennol a’r presennol, targedau ar gyfer
y dyfodol a’r prif sialensiau fydd o’u blaen o ganlyniad i golli cyllid Adran
Gwaith a Phensiynau.
Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes
er bod perfformiad ariannol a’r gwasanaeth wedi bod yn dda roedd cyflawni
targedau Cefndy yn golygu ei fod wedi rhwystro’r gwasanaeth rhag buddsoddi yn
isadeiledd y ffatri. Eglurodd y byddai’r Cabinet yn ystyried cynnig i dynnu arian wrth gefn
cyfalaf y Cynllun Corfforaethol i lawr i fuddsoddi mewn offer/peirianwaith i
gymryd lle’r hen offer cyfredol ym mis Gorffennaf. Mae Sir Ddinbych wedi
ffurfio ymrwymiad yn ei Gynllun Corfforaethol i gefnogi ei fodolaeth yn y
dyfodol drwy gymeradwyo buddsoddiad cyfalaf.
Gofynnwyd i Archwilio ystyried y canlynol am y sefydliad:-
-
Eu perfformiad wrth gyflawni eu Cynllun Busnes ar gyfer
2012/13;
-
Eu Cynllun Busnes ar gyfer 2013/14;
-
Y risgiau a ganfuwyd mewn perthynas â lleihad cymhorthdal
a chyllid Adran Gwaith a Phensiynau a’r effaith o ganlyniad ar y gweithlu a’r
Cyngor; a
-
Materion iechyd a diogelwch
Gweledigaeth Cefndy ar gyfer y dyfodol oedd bod
yn hunangynhaliol a chadarn yn eu trefn lywodraethol. Roedd Gofal
Iechyd Cefndy yn fusnes wedi’i gefnogi gan Sir Ddinbych oedd yn darparu
cyflogaeth a hyfforddiant i dros 60 o bobl, ac roedd gan 45 ohonynt anabledd. Roedd manylion
am hanes a chyfraniad Cefndy i gyflogaeth a hyfforddiant lleol wedi’u cynnwys
yn yr adroddiad. Yn y 5 mlynedd diwethaf mae Cefndy wedi gwrthdroi’r
duedd o gynyddu dibyniaeth ar gefnogaeth ariannol Sir Ddinbych, drwy ddarparu
twf masnachol ac effeithlonrwydd ariannol ac mae copi o’r Cynllun Busnes wedi’i
gynnwys fel Atodiad 1.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf roedd Cefndy
wedi:
·
Cynyddu perfformiad gwerthiant o dros £1 miliwn i £3.8
miliwn erbyn hyn.
·
Lleihau eu dibyniaeth ar Gyngor Sir Ddinbych o £225 mil.
·
Wedi bod ar darged i gyflawni’r amcan allweddol o gostio
dim i’r Cyngor.
·
Wedi
cael cofnod ardderchog o reoli Iechyd a Diogelwch, drwy weithio gydag Iechyd a
Diogelwch Corfforaethol a gyda phrosesau mewnol cadarn yn unol â’r gofynion
cyfreithiol.
Mae’r sialensiau sydd o flaen y sefydliad yn awr yn effeithio ar
gynaladwyedd y busnes/gwasanaeth a gallai fygwth bodolaeth Cefndy onid ydynt yn
delio â hyn yn y dyfodol agos. Mae’r sialensiau hyn wedi gwaethygu’n dilyn
newidiadau lles Llywodraeth y DU yn ddiweddar. Nodwyd tri opsiwn i’w
hystyried gan y Pwyllgor gyda’r bwriad o ddiogelu dyfodol y busnes. Bu’r Aelodau’n ystyried
yr opsiynau a phenderfynwyd argymell y dylid cefnogi Opsiwn C – oedd yn cynnig
tynnu buddsoddiad cyfalaf i lawr sydd wedi’i amlinellu yng Nghynllun
Corfforaethol y Cyngor fyddai’n galluogi’r busnes ddelio â’r risgiau o’u
blaenau a’u galluogi i fod yn fwy effeithlon a delio â cholli cyllid yr Adran
Waith a Phensiynau ac yn y diwedd byddai’n arwain at gynaladwyedd ariannol heb
gyllideb gan Sir Ddinbych.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles ei bod wedi trafod goblygiadau tynnu cyllid ‘Dewis
Gwaith’ gyda’r AS a’r AC lleol. Eglurodd y swyddogion bod y staff sy’n cael eu
cyflogi yng Nghefndy yn dod o wahanol ardaloedd yn y Sir a thu hwnt iddi. Darparwyd
manylion am hysbysebu’r busnes a gwerthiant ar y we i’r Pwyllgor. Yn
dilyn trafodaeth fanwl:
(a)
(b)
PENDERFYNWYD
–
(c)
(d) nodi cynnwys yr
adroddiad; ac
(e) argymell i’r Cabinet
bod Opsiwn C – tynnu arian wrth gefn cyfalaf y Cynllun Corfforaethol i lawr i
fuddsoddi mewn offer/peirianwaith i gymryd lle’r hen offer cyfredol – yn cael
ei gymeradwyo fel y dewis a ffefrir, gyda’r bwriad o roi cymorth i’r busnes
wynebu’r sialensiau o’u blaenau a bod yn fusnes sy’n gynaliadwy’n ariannol heb
gyllid gan y Cyngor yn y dyfodol.
(f)
(g)
[SE/PG/DHL
i adrodd i’r Cabinet]
(h)
RHAN I
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./3 yn gyfyngedig