Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SEFYLLFA DERFYNOL Y GYLLIDEB A’R ALLDRO REFENIW 2012/13

Ystyried adroddiad y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa derfynol y gyllideb ac ymdrin â’r gweddill ariannol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, a oedd yn rhoi diweddariad ynglŷn â’r sefyllfa refeniw derfynol a’r argymhellion ar gyfer ymdrin â’r balansau.  Caiff drafft cyntaf y Datganiad Cyfrifon Blynyddol ar gyfer 2012/13 ei gyflwyno i’r archwilwyr allanol ar 28 Mehefin. Bydd y cyfrifon a archwiliwyd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Medi i'w cymeradwyo'n derfynol.

 

Y sefyllfa alldro ariannol gyffredinol ar gyfer  2012/13 yw i’r Cyngor dan wario yn erbyn y gyllideb a gymeradwywyd ac iddo weld cynnydd yn arenillion Treth y Cyngor, ac mae hynny’n cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor. O ganlyniad, mae’n bosibl argymell trosglwyddo cyllid i gronfeydd wrth gefn penodol a fydd o gymorth wrth i'r Cyngor gyfarch pwysau ariannol trwm y blynyddoedd nesaf a dechrau sefydlu’r adnoddau arian parod y mae eu hangen i gyflawni’r Cynllun Corfforaethol. Mae’r ffigyrau Alldro Refeniw terfynol yn Atodiad 1. Sefyllfa derfynol cyllideb y gwasanaethau a’r gyllideb gorfforaethol yw tanwariant o £1.525 miliwn, 1.3% o’r gyllideb refeniw net. 

 

Roedd sefyllfa alldro cyllideb y gwasanaethau a’r gyllideb gorfforaethol £530 mil yn uwch na'r hyn a gafodd ei adrodd wrth y Cabinet ym mis Mawrth. Roedd y symudiad mwyaf arwyddocaol o fewn Ysgolion Gwella a Chynhwysiant (£223 mil). Mae sefyllfa derfynol Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wedi gwella o £76 mil ac mae sefyllfa’r cyllidebau corfforaethol wedi gwella o £113 mil ers y rhagolwg a gafodd ei adrodd ym mis Mawrth. Mae’r gwasanaethau’n parhau i fod yn rhagweithiol wrth gynllunio ar gyfer arbedion yn y blynyddoedd sydd i ddod, a dechreuwyd gweld effaith ariannol rhai o’r cynigion hynny ar waith tuag at ddiwedd 2012/13. Rhoddodd wasanaethau wybod am ymrwymiadau yn erbyn balansau o £849 mil ym mis Mawrth.  Roedd y mwyafrif o’r balansau wedi eu rhagweld oherwydd materion amseru ac mae balansau ymrwymedig y gwasanaethau bellach yn £1.139 miliwn ac mae rhagor o fanylion i’w gweld yn yr adroddiad.

 

Roedd y gwariant ar ysgolion £1.069 miliwn yn is na’r gyllideb a ddirprwywyd gydag ysgolion arbennig wedi gwella o £490 mil sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’r cyfanswm symudiad.  Mae balansau ysgolion bellach yn £2.870 miliwn sy’n oddeutu £190 y disgybl a 4.25% o gyllideb net ysgolion. Mae manylion ynglŷn â hyn wedi eu cynnwys yn Atodiad 3.  

 

Cyllidebodd y cyngor ar gyfer gwneud cyfraniad o £300 mil i’r balansau sydd, yn gyson ag adroddiadau blaenorol, yn dybiaeth o fewn y sefyllfa alldro derfynol. Cyllidebodd y cyngor ar gyfer gwneud cyfraniad i ariannu’r Cynllun Corfforaethol a oedd angen oddeutu £25 miliwn o arian parod a £52 miliwn o fenthyciad er mwyn cyflawni uchelgeisiau’r Cyngor. Yng nghyllideb 2012/13, roedd tybiaeth y byddai £2.073 yn cael ei gynhyrchu trwy fod arian blaenoriaeth wedi’i ddyrannu i wasanaethau a thrwy fod darpariaethau wedi eu cyllidebu o fewn cyllidebau corfforaethol.

 

Mae gwybodaeth bellach yn ymwneud ag alldro terfynol y gwasanaethau fel a ganlyn:-

 

Cynllunio Busnes a Pherfformiad – y sefyllfa derfynol yw tanwariant o £60 mil.

Cyllid ac Asedau – tanwariant o £16 mil.

Priffyrdd a’r Amgylchedd - £278 mil yn is sef gwelliant o £15 mil ers y rhagolwg a wnaed ym mis Mawrth.

Cynllunio a Rheoleiddio – cynnig i’w ddefnyddio i gyllido costau ailstrwythuro fel rhan o gyflawni arbedion ar gyfer 2013/14.

Gwasanaeth Oedolion a Busnes - wedi cyflawni ei gyllideb. 

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd – adroddwyd ei fod yn £148 mil. 

Tai a Datblygu Cymunedol - oherwydd i adolygiad o ariannu trwy grantiau allanol ar ddiwedd y flwyddyn amlygu costau ychwanegol y gellir eu hawlio.

Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden – roedd y sefyllfa alldro terfynol yn danwariant o £37.5 mil.  

TGCh/Trawsnewid Busnes – y gyllideb yn £108 mil yn is.

Cwsmeriaid a Chymorth Addysg – tanwariant o £245 mil.  

Gwella Ysgolion - tanwariant o £349 mil.

Treth y Cyngor – effeithir gan nifer yr anheddau yn y Sir, ynghyd â lefel uchel iawn o gasglu trethi (dros 98%).

 

Eglurodd y Cyng. Thompson-Hill, o ystyried y sefyllfa gyffredinol o fewn y gwasanaethau, y cynigir bellach fod yr adrannau yn dwyn unrhyw danwariant net yn ei flaen i gynorthwyo gyda chyflawni strategaeth cyllideb 2013/14 ac i gwrdd ag unrhyw ymrwymiad sy'n bodoli. Bydd angen i wasanaethau amlinellu’n fanylach sut caiff y balansau a ddygwyd ymlaen eu defnyddio yn 2013/14 yn yr Adroddiad Ariannol i’r Cabinet ym mis Hydref.  Mae’r sefyllfa derfynol yn golygu bod gan y cyngor £651 mil o gyllid arian parod ar gael. Mae hyn yn llwyddiant sylweddol ac mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau y defnyddir yr arian yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl. Cynigir bod y swm hwn yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at y cronfeydd arian parod wrth gefn sydd eu hangen i ariannu’r Cynllun Corfforaethol. 

 

Mae nifer o gyfraniadau eraill i mewn ac allan o’r Cronfeydd Wrth Gefn a’r Darpariaethau wedi eu caniatáu o fewn y cyfrifon ac mae’r rhain wedi eu nodi yn Atodiad 2 ar gyfer cymeradwyaeth y Cyngor. Mae’r symudiadau sylweddol i’r cronfeydd wrth gefn nad ydynt eisoes wedi eu hamlygu wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac yn ymwneud â’r canlynol:

 

·      Cynigir bod £6.2 miliwn yn cael ei ailddyrannu o gronfeydd wrth gefn presennol i ariannu’r Cynllun Corfforaethol (adroddwyd am hyn mewn manylder wrth y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Mai 2013).

·      Mae £562 mil wedi cael ei glustnodi i ariannu amddiffyn ysgolion a effeithir gan y newidiadau diweddar i’r fformiwla gyllido.

·      Mae £185 mil wedi ei ychwanegu at y Gronfa Yswiriant Wrth Gefn i gyfrif am y rhwymedigaethau sy’n parhau mewn perthynas ag MMI (cyn yswirwyr yr awdurdodau a oedd yn rhagflaenu Sir Ddinbych) a hawliadau posibl eraill. Ymatebodd y Prif Gyfrifydd i gwestiwn gan y Cyng. Hugh Irving ac eglurodd y gall y rhwymedigaethau posib a nifer yr hawliadau gynyddu yn y dyfodol.

·      Mae cyllid wedi symud o’r Gronfa Statws Sengl Wrth Gefn i ddarpariaeth i ariannu hawliadau cyflog cyfartal

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd, amlinellodd y Cyng. Thompson-Hill effaith gyfredol a’r effaith a ragwelir y caiff y Rhaglen Foderneiddio ar effeithlonrwydd a chyfeiriodd at ddull cyson y Cyngor o ran effeithlonrwydd gwasanaethau.  Eglurodd y Prif Gyfrifydd bod y cynnig i gynllunio ar gyfer y gyllideb nesaf yn cynnwys cyfarfod â darparwyr gwasanaeth i drafod targedau moderneiddio a fydd yn cynnwys y prosiectau cynlluniedig.  

 

Ymatebodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cwsmeriaid i gwestiwn gan y Cyng. David Smith ac eglurodd y bydd unrhyw weddill gan ysgol sydd wedi ei chau yn cael ei fonitro’n ofalus ac yn cael ei fwydo i mewn i’r cronfeydd canolog.

 

Awgrymodd y Cyng. Meirick Davies y dylid rhifo paragraffau’r adroddiad i osgoi dryswch sy’n codi yn sgil y gwahaniaeth yn nifer y tudalennau Cymraeg a nifer y tudalennau Saesneg yn y Rhaglen. Cafwyd cadarnhad bod yr incwm ychwanegol wedi ei gynhyrchu, sy'n cyfrannu at y tanwariant, yn ymwneud ag ysbwriel yn gyffredinol ac nid yn benodol i incwm o ddirwyon baw cŵn.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell y canlynol i’r Cyngor:-

 

(a)          sefyllfa derfynol yr alldro refeniw ar gyfer 2012/13;

(b)               ymdrin â’r cronfeydd wrth gefn a’r  balansau fel y manylir yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: