Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYNNYDD CHWARTEROL Y CYNLLUN CORFFORAETHOL: CHWARTER 4 2012/13

Ystyried adroddiad y Cyng. Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 4, 2012-13.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Barbara Smith yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, sy’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 4, 2012-13 a rhoddodd grynodeb o bob canlyniad yn y Cynllun Corfforaethol.  

 

Roedd yr adroddiad yn nodi bod y Cynllun Corfforaethol yn mynd rhagddo’n dda a bod y rhesymau y tu ôl i wella rhai elfennau wedi eu deall. Mae’n bwysig nodi bod yr adroddiad hwn yn ymwneud â blwyddyn gyntaf Cynllun Corfforaethol 5 mlynedd, a bod rhai elfennau o’r cynllun wedi eu cynnwys yn benodol oherwydd bod angen eu gwella. Bydd yn cymryd mwy o amser i wella rhai elfennau. Mae’r Tîm Gwelliant Corfforaethol wedi gweithio a Phenaethiaid Gwasanaeth ac Aelodau Arweiniol i roi eglurder ynglŷn â’n huchelgais ar gyfer y cynllun, ac i roi syniad o sut y mae disgwyl i daith y gwella edrych.  Mae’r gwaith hwn bron wedi ei gwblhau, ac mae casgliadau wedi eu hymgorffori yn y dadansoddi sydd wedi ei gynnwys o fewn yr adroddiad hwn.

 

Mae nifer o feysydd, wedi eu hamlygu mewn coch yn yr adroddiad, yn dangos bod rhai dangosyddion a pherfformiad wedi eu nodi fel “blaenoriaeth ar gyfer gwella”. Mae rhai gweithgareddau wedi eu dyrannu â’r lefel isaf posibl o hyder y cânt eu cyflawni gan y swyddog sy’n gyfrifol amdanynt ac mae'r meysydd wedi eu crynhoi yn yr adroddiad:-

·                     Canran y disgyblion sy’n gadael yr ysgol heb gymhwyster cydnabyddedig.

·                     Nifer o fesurau perfformiad o fewn y flaenoriaeth addysg yn ymwneud ag ystafelloedd dosbarth symudol a llefydd gweigion. 

·                     Canran ffyrdd A a B sydd mewn cyflwr gwael. 

·                     Gwaith i ffurfioli cynlluniau ar gyfer cyrbau is.

·                     Cyfran yr oedolion sy’n methu byw’n annibynnol. 

·                     Tipio anghyfreithlon yn y Sir. 

·                     Canran y digwyddiadau tipio anghyfreithlon sy’n cael eu hadrodd. 

·                     Argaeledd tai preifat fforddiadwy yn Sir Ddinbych.

Mae un deg pedwar Dangosydd Perfformiad Allweddol creiddiol wedi eu dynodi er mwyn meincnodi gyda HouseMark. Mae’r data mwyaf diweddar yn dangos fod gan y Cyngor saith ohonynt (50%) o fewn y chwartel uchaf, sef y trothwy sydd wedi ei ddynodi ar gyfer bod yn “flaenoriaeth ar gyfer gwella”. Yr uchelgais yn y pen draw oedd cael pob Dangosydd Perfformiad Allweddol o fewn y chwartel uchaf. Mae cyfradd cwblhau gwerthusiadau perfformiad yn amserol hefyd yn “flaenoriaeth ar gyfer gwella", gan fod ein perfformiad ar hyn o bryd yn 92.28%. Yn gorfforaethol, cytunwyd fod unrhyw ganlyniad sy’n is na 95% yn “flaenoriaeth ar gyfer gwella".

Eglurodd Pennaeth Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod yr adroddiad wedi ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a fynegodd y pryderon canlynol:-

 

-               Ystafelloedd Dosbarth Symudol:- Mae rhaglen yn ei lle i newid Ystafelloedd Dosbarth Symudol.

 

-               Cyrbau Is:- Bydd yr Adran Briffyrdd i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd. Mynegodd y Prif Weithredwr bryder ynglŷn â'r diffyg cynnydd.  Eglurodd bod hyn yn annerbyniol a theimlodd y gall y mater gael goblygiadau ehangach a’i ystyried yn fater Rheoli perfformiad.

 

-               Tipio Anghyfreithlon:- Eglurodd Pennaeth Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod problemau mewnol gyda phroses adrodd y system Rheoli Cyswllt Cwsmer (RhCC) a bod angen derbyn eglurhad o hynny. Mewn ymateb i bryderon y Cyng. Huw Jones, cytunwyd gofyn i RhCC ymchwilio i unrhyw gysylltiad rhwng tipio anghyfreithlon a lleoliadau penodol o ran darpariaeth ac amseroedd casglu.

 

-               Baw Cŵn:- Eglurodd y Cyng. David Smith y dylai nifer y cosbau am adael baw cŵn leihau i adlewyrchu effaith y broses o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â’r broblem. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd ynglŷn â sut gellir mesur effaith blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol ar yr ardal leol ac adrodd yn ôl i'r Grwpiau Aelodau Ardal.   Eglurodd Pennaeth Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod y ffigyrau yn ymwneud â’r cynnydd o ran gweithgarwch lleol wedi eu cyhoeddi ac y byddai’r broses yn cael ei hadolygu. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr pa mor bwysig yw sicrhau bod y Grwpiau Aelodau Ardal yn cadw rheolaeth ar eu rhaglenni, ac y dylid annog trafodaeth gyda Chadeiryddion y Grwpiau Aelodau Ardal. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:-

 

(a)          derbyn yr adroddiad ac yn nodi sylwadau’r Aelodau; ac yn

(b)          gofyn i RhCC ymchwilio i unrhyw gysylltiad rhwng tipio anghyfreithlon a lleoliadau penodol o ran darpariaeth ac amseroedd casglu.

 

 

Dogfennau ategol: