Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD YSGOLION CYNRADD ARDAL RHUTHUN
Ystyried
adroddiad y Cyng. Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm), sy’n
nodi canfyddiadau'r adolygiad diweddar ar ddarpariaeth gynradd yn ardal Rhuthun
ac yn cynnig argymhellion i newid y ddarpariaeth bresennol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyng. Eryl Williams
adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, a oedd yn cynnwys canfyddiadau'r
arolwg diweddar ar ddarpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun ac argymhellion
arfaethedig i'w hystyried er mwyn newid y ddarpariaeth bresennol.
Amlinellodd y
Cyng. Eryl Williams y fframwaith ariannu a’r broses strwythuredig a
fabwysiadodd y Cyngor yn ogystal â pherthnasedd polisïau cenedlaethol ar y
broses benderfynu ar gyfer ariannu gwelliannau i adeiladau addysg y Sir.
Cyfeiriwyd at raglen fuddsoddi gynhwysfawr Sir Ddinbych, y cais i Ysgolion yr
21ain Ganrif a phwysigrwydd ansawdd adeiladau addysg yn y broses ddysgu.
Eglurodd y byddai ceisiadau a gyflwynir i Lywodraeth Cymru am fuddsoddiad
cyfalaf sylweddol yn cael eu dylanwadu gan Sir Ddinbych a’r bwriad i fynd i’r
afael â llefydd dros ben mewn ysgolion. Pwysleisiodd hefyd y gallai’r arian yma
fod dan fygythiad os nad yw’r Sir yn mynd i’r afael â llefydd dros ben.
Pwysleisiodd y
Cyng. Williams y byddai’n ymdrechu i sicrhau gwelliannau parhaus yn Sir
Ddinbych drwy ddarparu cyfleusterau addysg gwell a fydd yn creu cynaladwyedd ac
yn diogelu natur yr ardal. Cyfeiriodd at
nifer y llefydd dros ben yn ardal Rhuthun a’r cynigion gerbron y Cabinet i fynd
i’r afael â’r mater. Eglurwyd bod y Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar
ddyfodol darpariaeth gynradd yn ardal Rhuthun. Yn ystod yr arolwg cynhaliwyd
ymgynghoriad eang ag 11 ysgol a oedd yn cynnwys cyfarfodydd â rhieni, staff a
llywodraethwyr. Amlygwyd sawl mater gan gynnwys y ddibyniaeth ar ystafelloedd
dosbarth symudol, cyflwr gwael ysgolion a nifer y llefydd dros ben yn yr ardal
(sy’n fwy na’r cyfartaledd).
Mae
canfyddiadau’r arolwg anffurfiol wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 ac mae nifer y
llefydd mewn ysgolion ar hyn o bryd a nifer y disgyblion (PLASC mis Ionawr,
2013) wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â chanfyddiadau’r ymgynghoriad
anffurfiol a’r ffordd ymlaen sy’n cynnwys y cynigion canlynol:-
Mae argymhellion
wedi eu cynnig a’u grwpio gyda’i gilydd, yn dibynnu ar eu heffaith ar ysgolion
yr ardal, i ganiatáu darpariaeth gynaliadwy tymor hir yn ardal Rhuthun yn
dibynnu ar adnoddau ariannol. Crynhodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg y
cynigion sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, codwyd sawl mater a darparwyd yr
ymatebion fel y ganlyn:-
Cynnig 1 – Creu Ysgol Ardal newydd ar gyfer cymunedau
Clocaenog a Chyffylliog (Atodiad 2).
Bu i’r arolwg
ganfod y galw i gadw darpariaeth addysg yn yr ardaloedd gwledig i’r gorllewin o
Ruthun. Ar hyn o bryd mae 55 disgybl llawn amser yn mynychu’r ddwy ysgol. Mae
galw mawr am lefydd yn Ysgol Clocaenog ond mae’r niferoedd yn Ysgol Cyffylliog
yn gostwng. Gan nad yw’r ddwy ysgol yn addas ar gyfer codi estyniad,
argymhellir bod ysgol ardal newydd yn cael ei chreu ar gyfer y cymunedau ar y
safleoedd presennol. Byddai creu’r ysgol ardal yn cael ei wneud yn raddol a
byddai ymrwymiad tymor hir i greu un ysgol ar un safle gyda chyswllt posib â
chyfleusterau cymunedol. Awgrymwyd y
dylai'r cam cyntaf gael ei roi ar waith ddechrau mis Medi 2014.
Codwyd sawl
pryder gan y Cyng. Huw Jones a darparwyd yr ymatebion canlynol:-
-
Atodiad
2, 15.5. – Cyfeiriodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg at Bolisi Cludiant
y Cyngor ac eglurodd y byddai trefniadau cludiant ar gyfer y disgyblion
presennol yn cael eu harchwilio fel rhan o’r adrefnu.
-
Mewn
ymateb i’r pryderon ynglŷn â chyflwr y ffordd rhwng Ysgol Clocaenog ac
Ysgol Cyffylliog, eglurodd y Cyng. Williams bod y ffordd o Glocaenog i
Fontuchel yn rhan o'r prif lwybr graenu.
-
Cadarnhaodd
Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg y byddai Sir Ddinbych yn ymgynghori ag
awdurdodiadau cyfagos ar y cynigion.
-
O ran
nifer y llefydd dros ben a darpariaeth y dyfodol, eglurwyd y byddai dwy gam gweithredu.
Byddai’r can cyntaf yn golygu creu ysgol newydd ar y ddau safle a byddai’r ail
gam yn golygu ystyried y safle gorau ar gyfer ysgol newydd, yn amodol ar arian.
Amlinellodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg ddarpariaeth Cyfnod Allweddol
1 a 2 yn y dyfodol.
Cynnig 2 – Cau Ysgol Llanbedr a throsglwyddo'r disgyblion i
Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn dibynnu ar ddewis y rhieni (Atodiad 3)
Mae’r Corff
Llywodraethu ac eraill wedi mynegi pryderon na ddylid ystyried y lleihad yn
nifer y disgyblion yn Ysgol Llanbedr ar ei ben ei hun wrth ystyried dyfodol yr
ysgol. Wrth ystyried y ddarpariaeth o
fewn tref Rhuthun a’i chymuned agos, ymddengys bod gorddarpariaeth o lefydd
cyfrwng Saesneg. Mae Ysgol Llanbedr ac Ysgol Borthyn yn Ysgolion Saesneg a Reolir
yn Wirfoddol gan yr Eglwys yng Nghymru.
Canfuwyd wrth ddadansoddi’r galw mai 20 disgybl yn unig o fewn y
dalgylch naturiol yr ysgol sy’n dewis addysg cyfrwng Saesneg. Ar hyn o bryd mae ysgol eglwys cyfrwng
Saesneg arall yn agos at yr ysgol hon, sef Ysgol Borthyn, ac mae ysgolion
Gellifor a Stryd y Rhos yn agos iawn hefyd.
O ystyried yr angen i leihau’r fath ddarpariaeth, argymhellir y dylid
cynnal ymgynghoriad ar gau Ysgol Llanbedr ar ddiwedd blwyddyn academaidd
2013/2014.
Sicrhaodd yr
Arweinydd y bydd yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan rieni ac athrawon Ysgol
Llanbedr yn nodi materion a phryderon yn cael ei hystyried os cytunir i gynnal
ymgynghoriad ar y cynigion. Cadarnhaodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg y
bydd yna lefydd ar gael mewn ysgolion ffydd eraill yn yr ardal e.e. Ysgol
Borthyn, Rhuthun. Teimlwyd y byddai
cynyddu darpariaeth Ysgol Borthyn yn sicrhau dewis ac yn cryfhau darpariaeth
ffydd gan ei gwneud yn fwy cynaliadwy. Eglurodd y swyddog y byddai gwaith ac
ymgynghori pellach yn cael ei wneud ac y byddai hynny’n ystyried ffigyrau
amcanol ar gyfer y galw yn y dyfodol.
Cododd y Cyng.
Huw Williams y materion canlynol a darparwyd ymateb:-
-
Cytunwyd
bod angen gwirio cywirdeb ffigyrau amcanol Ysgol Llanbedr ac Ysgol Borthyn,
ynghyd â ffigyrau ar gyfer darpariaeth cyn-ysgol, a’u cadarnhau cyn cynnal
trafodaethau pellach.
-
Mae’r
ysgol wedi gwella ers y problemau a gafwyd yn y gorffennol a soniwyd am
gyfleusterau a lleoliad gwych yr ysgol.
-
Cyfeiriodd
y Cyng. Williams at ddewis y rheini ac at golli darpariaeth ffydd yn yr ardal.
Awgrymodd y dylid ystyried cadw Ysgol Llanbedr ar gyfer darparu addysg ffydd yn
ardal Rhuthun.
-
Fe
ddylai’r ddarpariaeth addysg ddiwallu anghenion y 71 cartref newydd sydd wedi
eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer ardal Llanbedr.
Cynnig 3 – Ardal Tref Rhuthun (Atodiad 4)
Eglurodd Pennaeth
Cwsmeriaid a Chymorth Addysg bod yna gefnogaeth gref i gadw darpariaeth y tair
ysgol yn y dref ond dywedodd bod anawsterau tymor hir ynghlwm wrth safleoedd
Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras. Mae mynediad y safle yn bryder o ran
iechyd a diogelwch ac mae’r safle yn dibynnu ar ystafelloedd dosbarth symudol.
Mae arolwg ac asesiad o addasrwydd y safle wedi awgrymu y dylai’r Cyngor weld
pa mor addas yw adeiladu ysgol newydd yn safle Glasdir. Mae astudiaeth ddichonolrwydd wedi awgrymu y
gall y tir sydd wedi ei glustnodi yn y CDLl ar gyfer ysgol newydd ddiwallu
anghenion disgyblion Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras. Awgrymwyd y dylid
ystyried y dewis yma cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
Mae dyfodol Ysgol
Borthyn ac Ysgol Rhewl yn gysylltiedig â’r cynnig hwn. Mae’r angen i sicrhau
amrywiaeth trwy ddarparu ysgolion ffydd, os yw’r argymhelliad i gau Ysgol
Llanbedr yn mynd rhagddo, wedi arwain at yr argymhelliad i gadw Ysgol Borthyn.
Mae arolwg safle Ysgol Rhewl wedi amlygu'r gallu i ehangu’r ddarpariaeth
bresennol. Fodd bynnag, byddai angen
ystyried buddsoddi yn yr adeiladau presennol.
Gan y byddai’n
anodd cyfiawnhau buddsoddi llawer o arian ar safle Ysgol Rhewl, pe bai ysgol
newydd yn cael ei hadeiladu ar safle Glasdir, awgrymwyd y dylid ystyried dyfodol yr ysgol ar y cyd â
datblygiad Glasdir. Byddai’r dewisiadau yn cynnwys cau Ysgol Rhewl ar ôl
cwblhau’r ysgol/ysgolion newydd. Bydd
unrhyw gynnig i gau Ysgol Rhewl yn gofyn am ymgynghoriad ffurfiol a chyhoeddi
rhybudd statudol. Os yw Ysgol Stryd y Rhos a/neu Ysgol Pen Barras yn symud i
safle Glasdir, ac nad ydyn nhw'n newid llawer mewn maint, yna ni fyddai angen
cyhoeddi cynigion statudol gan y byddai'r ysgol yn symud i safle llai nag un
filltir i ffwrdd. Cafwyd cadarnhad bod cynigion i ddarparu dwy ysgol newydd
gyda’u penaethiaid eu hunain ac y byddan nhw, gyda Chadeiryddion y
Llywodraethwyr, yn rhan o’r broses ddylunio.
Cododd y Cyng.
David Smith y materion canlynol:-
-
Mynegodd
ei gefnogaeth at ddarparu ysgol newydd i fynd i’r afael â’r problemau sydd wedi
codi dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, gofynnodd am sicrhad bod unrhyw broblem
yn ymwneud â thraffig yn sgil adeiladu ysgol newydd, gan gynnwys materion parcio,
yn cael eu hystyried a’u datrys ar y cychwyn cyntaf.
-
Cefnogodd
y Cyng. Smith y cynnig i gadw Ysgol Borthyn fel ysgol ffydd.
-
Mae
angen sicrhau nad yw unrhyw safle sy'n cael ei ddefnyddio i adeiladu ysgol newydd
yng Nglasdir yn agored i lifogydd ac mae angen gwybod beth yw dewis rhieni
dalgylch Ysgol Rhewl pe bai ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yng
Nglasdir. Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg
y byddai unrhyw safle posib yn cael ei asesu ac y byddai adroddiad ar lifogydd
yn cael ei ddarparu.
Soniodd y Cyng.
Merfyn Parry am bryderon Corff Llywodraethu Ysgol Rhewl ynglŷn â’r ffaith
y gall yr ansicrwydd ynghylch dyfodol yr ysgol gael effaith andwyol ar ei
dyfodol, yn arbennig o ran nifer y darpar ddisgyblion. Eglurodd y swyddogion y byddai’n anghywir
hepgor Ysgol Rhewl o’r astudiaeth ddichonolrwydd gan y gallai’r cynigion
effeithio ar yr ysgol, a phwysleisiwyd bod angen bod yn agored a chlir
ynglŷn â’r amcan terfynol. Cadarnhawyd nad yw’r ysgol ar hyn o bryd yn rhan
o’r cynnig ffurfiol. Fodd bynnag, byddai swyddogion yn cydweithio gyda'r ysgol
i sicrhau nad yw darpariaeth addysg y disgyblion yn cael ei rhoi mewn perygl.
Mewn ymateb i bryderon y Cyng. Parry ynglŷn â chategori dwyieithog yr
ysgol, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg y byddai ymgynghoriad ffurfiol pellach, a
fyddai’n cynnwys y rheini, yn cael ei gynnal i edrych ar alw ac anghenion
dwyieithrwydd. Eglurodd Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cwsmeriaid at yr argymhelliad o gynnal “astudiaeth
ddichonolrwydd pellach cyn cadarnhau unrhyw argymhelliad ffurfiol ar gyfer
Ysgol Stryd y Rhos, Ysgol Borthyn, Ysgol Pen Barras ac Ysgol Rhewl” a
phwysleisiodd nad yw’r broses a awgrymir yn ymgynghoriad ffurfiol.
Datganodd y Cyng.
Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn
Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Pen Barras. Croesawodd y cynigion ar gyfer cadw
Ysgol Pen Barras, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Borthyn a soniodd am bwysigrwydd
cynnwys y Cyrff Llywodraethu ac uwch dimau'r ysgolion yn y broses gynllunio ar
gyfer datblygu’r safle arfaethedig ar gyfer yr ysgol newydd. Soniodd hefyd am
yr angen i edrych yn ofalus ar effaith unrhyw ysgol newydd ar Ysgol Borthyn ac
Ysgol Rhewl ac i sicrhau bod safon cyfleusterau Ysgol Borthyn yn cael eu cadw.
Cadarnhaodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg y byddai ansawdd y
ddarpariaeth yn cael lle blaenllaw yn yr astudiaeth ddichonolrwydd.
Cynnig 4 – Ffederasiwn Arfaethedig Ysgol Llanfair Dyffryn
Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn (Atodiad 5)
Mae yna
gefnogaeth gref o blaid cadw’r ddarpariaeth yn y cymunedau o amgylch Llanfair
DC a Phentrecelyn. Mae angen buddsoddi yng nghyfleusterau Ysgol Llanfair DC ac
mae llawer yn cytuno nad yw’r ysgol bresennol yn addas ar gyfer ei phwrpas.
Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw Ysgol Pentrecelyn yn y gymuned ynghyd â’r
gwahaniaeth rhwng darparu addysg cyfrwng Cymraeg a darpariaeth ddwyieithog.
Wrth ystyried anghenion yr ardal ehangach a’r angen am fuddsoddiad sylweddol,
awgrymwyd cymryd camau gweithredu graddol.
Byddai’r cam
cyntaf yn golygu cadw’r ddwy ysgol ac argymell bod y Cyrff Llywodraethu yn
ffurfio ffederasiwn. Byddai Sir Ddinbych yn gofyn am gytundeb mewn egwyddor i
ddatblygu hyn erbyn mis Ionawr 2014 gyda'r golwg o ddechrau'r ffederasiwn
newydd ym mis Medi 2014. Byddai’r cynlluniau tymor hir, sy'n rhan o gynigion
Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif, yn golygu symud tuag at greu ysgol newydd ar
gyfer cymunedau Pentrecelyn a Llanfair DC. Byddai creu ysgol ardal newydd yn
gofyn am ymgynghoriad ffurfiol ar yr adeg gywir.
Cadarnhaodd yr
Arweinydd y byddai’n cefnogi’r dewis a fyddai’n darparu’r budd mwyaf i
ddisgyblion yr ardal. O ran ffedereiddio’r ddwy ysgol, ac o ran y ffaith bod
Ysgol Llanfair yn ysgol ffydd, eglurodd y Pennaeth Addysg y byddai’r Tîm Arwain
a’r Corff Llywodraethu yn edrych ar ethos a gwerthoedd moesol yr ysgolion, ac
eglurodd bod ethos yr ysgolion yn edrych yn debyg iawn. Ymatebodd y Pennaeth
Addysg i’r cwestiynau a ofynnwyd gan yr Aelodau ac eglurodd sut ddarpariaeth
fydd darpariaeth Cyfnod Allweddol 1 a 2 yn y dyfodol, ac amlinellodd y rhesymau
dros weithredu dulliau gwahanol mewn ardaloedd eraill. Eglurodd Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cwsmeriaid y gellir gweithredu’r cynnig i greu ysgol ardal ar
gyfer Clocaenog a Chyffylliog yn gynt oherwydd graddfa’r datblygiad.
Cynnig 5 - Cefnogaeth ar gyfer Ffederasiwn Ysgol Bryn
Clwyd ac Ysgol Gellifor (Atodiad 5)
Awgrymwyd y dylid
cynnwys Ysgol Bryn Clwyd yn arolwg ardal Rhuthun oherwydd bod yr ysgol hon ac
Ysgol Gellifor yn cael eu cydarwain a’u cydreoli yn dilyn ffurfio ffederasiwn
yn 2011.
Mae Ysgol
Gellifor yn ysgol boblogaidd, heb lefydd gwag, sy’n denu disgyblion o’r tu
allan i’r dalgylch naturiol. O ran
trefniadau'r ffederasiwn, mae canran y llefydd dros ben yn Ysgol Gellifor yn 4%
a’r canran yn Ysgol Bryn Clwyd yn 67.6% ac mae hynny’n effeithio ar
gynaladwyedd tymor hir y ffederasiwn.
Cwestiynwyd
categorïau iaith y ddwy ysgol. Mae’r ddwy ysgol yn ysgolion categori 5 ond
byddai’r continwwm iaith Gymraeg yn gweld cynnydd yn narpariaeth Gymraeg yr
ysgolion fel ymateb i safbwyntiau’r budd-ddeiliaid.
Roedd y
Llywodraethwyr wedi gofyn am sicrwydd ynghylch dyfodol Ysgol Bryn Clwyd yn sgil
yr arolwg ac maent yn dymuno gweld dyfodol tymor hir yr ysgol yn cael ei
gysylltu ag unrhyw gynnig sy’n deillio o arolwg Rhuthun. Mae’r Cyngor wedi
cydnabod hyn er mwyn osgoi unrhyw ansicrwydd ynglŷn â'r ffederasiwn.
Argymhellwyd y dylid parhau’r â’r trefniadau presennol yn amodol ar gytundeb i
edrych ar gategori iaith Ysgol Bryn Clwyd. Byddai angen mynd i'r afael â nifer
anghytbwys y disgyblion yn y ddwy ysgol drwy edrych ar y trefniadau derbyn.
Cyfeiriodd y
Cyng. Huw Jones at y cynnig i gadw Ysgol Llanbedr ac amlygodd yr angen i fod yn
glir ac yn deg wrth ystyried y cynnig mewn perthynas ag Ysgol Bryn Clwyd.
Cyfeiriodd y Cyng. Merfyn Parry at y gwaith cadarnhaol sydd wedi ei wneud gan
yr ysgolion a’u Cyrff Llywodraethu i sefydlu ffederasiwn llwyddiannus.
Cyfeiriodd y Cyng. Huw Williams at yr angen i wneud gwaith cynnal a chadw ar
adeilad Ysgol Gellifor.
Cynnig 6 – Cadw Ysgol Bro Famau (Atodiad 6)
Mae’r ysgol yn
gwasanaethu’r ardal leol ond mae yna nifer fawr o lefydd dros ben. Mae’r ddau
safle mewn cyflwr da ac argymhellir bod y sefyllfa bresennol yn parhau gyda’r
Awdurdod a bod y Corff Llywodraethu yn adolygu defnydd presennol y safle’n
barhaus.
Mynegodd y Cyng.
Martyn Holland bryderon ynghylch cyllid gan Lywodraeth Cymru, yr angen i
ddiogelu ysgolion gwledig ac effaith y CDLl ar ysgolion mewn ardaloedd gwledig.
Eglurodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg bod swyddogion addysg a
chynllunio wedi cydweithio i sicrhau bod nifer disgwyliedig y disgyblion yn
cael ei gynnwys yn y broses blaengynllunio. Cyfeiriodd at ddiffyg cyfalaf ac
arian ac amlygodd yr angen i adrefnu er mwyn buddsoddi mewn ysgolion yn y
dyfodol.
Yn ystod y
drafodaeth i ddilyn, eglurwyd bod argymhelliad wedi ei wneud ynglŷn â
chychwyn ymgynghoriad ffurfiol ddechrau mis Medi 2013, er mwyn annog
trafodaethau ar ddechrau’r tymor ysgol, a chynnal yr ymgynghoriad am o leiaf 6
wythnos. Byddai’r broses ymgynghori yn galluogi rhieni, disgyblion,
llywodraethwyr a staff i wneud sylwadau ar y cynigion cyn y byddai'r Cabinet yn
penderfynu symud ymlaen a chyhoeddi cynigion ffurfiol ar gyfer newid.
Cadarnhawyd mai cynigion 1 a 2 yn unig fyddai’n gofyn am ymgynghoriad ffurfiol
ar hyn o bryd.
Bydd astudiaeth
ddichonolrwydd cynnig 3 yn cael ei gynnal dros yr haf, gyda’r golwg o
gyflwyno’r dewis a ffafrir i’r Cabinet cyn diwedd yr hydref. Byddai hyn yn
arwain at egluro’r dewisiadau ar gyfer sicrhau’r gwelliannau ar gyfer y
dref. Byddai’r wybodaeth hon yn
galluogi’r Cabinet i ystyried achos busnes ar gyfer buddsoddiad. O ran cynigion
4, 5 a 6, bydd y Pennaeth Addysg a Phennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg, yn
amodol ar gymeradwyaeth, yn dechrau'r trafodaethau gyda’r Cyrff Llywodraethu
perthnasol i sicrhau’r cytundebau angenrheidiol i wneud y newidiadau a
amlygwyd. Os ni dderbynnir
cymeradwyaeth, yna mae’n bosib y caiff cynigion eraill eu cyflwyno i’r Cabinet
yn ystod gwanwyn 2014.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn:-
(i)
nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad;
(ii) Cymeradwyo
cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer y cynigion i gau Ysgol Clocaenog ac Ysgol
Cyffylliog ar 31 Awst 2014, ac uno’r ddwy ysgol fel ysgol ardal
newydd ar 1 Medi 2014 yn defnyddio’r safleoedd presennol;
(iii) Cymeradwyo
cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer y cynigion i gau Ysgol Llanbedr ar 31
Awst 2014 a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Borthyn, yn dibynnu ar ddewis y
rhieni;
(iv) Argymell i Gyrff Llywodraethu Ysgol
Pentrecelyn ac Ysgol Llanfair DC eu bod yn ffurfio ffederasiwn erbyn 1 Medi
2014 fan bellaf..
(v) nodi canfyddiadau’r astudiaeth dichonolrwydd
cyntaf i adnabod safleoedd posib ar gyfer ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun ac
argymell cynnal astudiaeth ddichonolrwydd pellach cyn cadarnhau unrhyw argymhelliad
ffurfiol ar gyfer Ysgol Stryd Rhos, Ysgol Borthyn, Ysgol Penbarras ac Ysgol
Rhewl.
Dogfennau ategol:
- Ruth Area Prim Report, Eitem 5. PDF 110 KB
- Ruth Area Prim App 1, Eitem 5. PDF 716 KB
- Ruth Area Prim App 1 Annex B, Eitem 5. PDF 638 KB
- Ruth Area Prim App 2, Eitem 5. PDF 865 KB
- Ruth Area Prim App 3, Eitem 5. PDF 827 KB
- Ruth Area Prim App 4, Eitem 5. PDF 852 KB
- Ruth Area Prim App 5, Eitem 5. PDF 542 KB
- Ruth Area Prim App 6, Eitem 5. PDF 95 KB