Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ALLANOLI GWASANAETHAU TGCH I YSGOLION

Ystyried adroddiad y Cyng. Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Cabinet gymeradwyo  rhoi contract TGCh Gweinyddiaeth a Cwricwlwm Ysgolion i GAIA Technologies.  Mae copi o’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb wedi ei gynnwys dan Ran II o’r agenda. 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Eryl Williams yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, sy’n gofyn am gymeradwyaeth i ddyfarnu contract TGCh Gweinyddiaeth a Chwricwlwm Ysgolion i GAIA Technologies.  Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai’n rhaid trafod unrhyw fater yn ymwneud ag Atodiad 2, Asesiad Effaith ar Ansawdd, dan Ran II o’r Rhaglen.

 

Mae angen gwneud penderfyniad ynghylch cymeradwyo GAIA Technologies fel y darparwr TGCh gorfodol ar gyfer Rhwydwaith Gweinyddol yn dilyn y broses ddiweddar i allanoli gwasanaeth cyfredol Cyngor Sir Ddinbych, ac i gymeradwyo GAIA Technologies fel y darparwr TGCh dewisol ar gyfer Rhwydwaith Cwricwlwm yn dilyn ail-dendro contract Cyngor Sir Ddinbych a ddaeth i ben, a ddyfarnwyd yn flaenorol i GAIA Technologies ar ran rhai ysgolion.

 

Eglurodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg mai TGCh Canolog sy’n darparu rhwydwaith Gweinyddol Ysgolion ar hyn o bryd a bod yr argymhelliad yn cynnig rhoi’r contract i GAIA Technologies sydd wedi llwyddo yn y broses dendro ddiweddar. Eglurwyd hefyd bod hwn yn gontract gorfodol y mae’n rhaid i’r holl ysgolion fod yn rhan ohono, gan ei fod yn hanfodol bod y contract yn cael ei ddarparu gan un darparwr ar draws yr holl ysgolion, er mwyn cael cysondeb rhwng Ysgolion a’r Sir. Mae 4 dewis ar gyfer y rhwydwaith Gweinyddol fel a ganlyn:-

 

1.  Gwasanaeth a Reolir yn Llawn – staff a reolir gan Awdurdod Lleol.

2.  Gwasanaeth Cefnogi – staff a reolir gan Awdurdod Lleol.

3.  Gwasanaeth a Reolir yn Llawn – TUPE llawn i staff.

4.  Gwasanaeth Cefnogi – TUPE llawn i staff.

 

Mae’r gwasanaeth presennol gyda TGCh Canolog yn wasanaeth cefnogi’n unig ac yn seiliedig ar yr atodlen brisiau a welir yn Atodiad 1. Mae'r gwasanaeth newydd gyda GAIA Technologies yn rhoi gwell ansawdd am bris gostyngol.  Bydd y pris yn dal yn destun gwiriad terfynol o restr eiddo wrth ddyfarnu'r contract, ond bydd y costau uned yn aros yn sefydlog yn unol â'r tendr.

 

Caiff rhwydwaith Cwricwlwm yr Ysgol ei gaffael yn allanol ar hyn o bryd, a chaiff ei reoli’n lleol gan ysgolion drwy eu trafodaethau contract eu hunain gyda darparwyr amrywiol.  Roedd fframwaith Sir Ddinbych i fod i gael ei hadnewyddu ar 1 Ebrill 2013, a gofynnwyd am benderfyniad wedi ei ddirprwyo i gymeradwyo estyn y contract tan 31 Awst 2013 er mwyn gwneud y contract Cwricwlwm newydd yn rhan o'r tendr ar gyfer y rhwydwaith Gweinyddol. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyng. David Smith, Eglurodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg bod y contract yn ddewisol ac nad oedd yn rhaid i ysgolion drosglwyddo eu contractau cwricwlwm i’r rhwydwaith. Nid ydym ni'n gwybod ar hyn o bryd pa ysgolion fyddai'n dewis trosglwyddo i'r contract newydd.

 

Gofynnwyd i’r darparwyr ystyried y dewis o wasanaeth a reolir yn llawn (yn cynnwys caledwedd), neu wasanaeth cefnogi sylfaenol (heb galedwedd), yn ogystal â model trosglwyddo TUPE llawn a model staffio a gedwir gan Awdurdod Lleol.  Bu i hyn greu’r un pedwar dewis â’r rhwydwaith Gweinyddol ac mae manylion yr arbedion tebygol, o gymharu â’r gwasanaeth TGCh Canolog, pob ysgol yn erbyn pob dewis wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. 

 

Cafwyd anawsterau wrth ddarparu cymhariaeth a chafwyd atodlen brisiau yn seiliedig ar restr eiddo ddrafft a bydd yn destun newid yn dilyn archwiliad llawn o offer yn yr ysgol unwaith y bydd y contract yn dechrau. Cynhwysir yr atodlen grynhoi lawn ar gyfer yr holl ddewisiadau yn Atodiad 1. Noder bod hyn yn seiliedig ar restr eiddo heb ei harchwilio a bydd yn newid ac yn destun trafodaethau unigol ar gyfer pob ysgol yn ddibynnol ar anghenion lleol.  Mae copi cyfrinachol o’r templed Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb i’w weld yn  Atodiad 2.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r Cabinet gymeradwyo rhoi'r contract Gweinyddol a Rhwydweithiau Cwricwlwm i GAIA Technologies.

 

 

Dogfennau ategol: