Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GRŴP TASG A GORFFEN ADOLYGU BWYD

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid (mae copi ynghlwm) sy’n cyflwyno canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i adolygu polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor o ran caffael, rheoleiddio a rheoli bwyd yn gywir yn sgil y sgandal cig ceffyl.  Gofynnir i’r Pwyllgor ystyried argymhellion y Grŵp cyn eu cyflwyno i’r Cabinet.

11.40am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid y Rheolwr Arlwyo; Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Caffael Strategol a chyflwynodd adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn cyflwyno canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i adolygu polisïau a threfnau’r Cyngor mewn perthynas â chaffael, rheoleiddio a rheoli contractau bwyd yn sgil y sgandal cig ceffyl.

 

Trafododd y Grŵp Tasg a Gorffen faterion yn ymwneud â’r meysydd allweddol a ganlyn –

 

·         caffael cig a chynhyrchion cig

·         rôl y Cyngor fel corff gorfodi a rheoleiddio, a

·         digonolrwydd trefniadau cytundebol gyda gwasanaethau a gomisiynwyd.

 

Ar ôl archwilio’r meysydd uchod, rhoddwyd y dasg i swyddogion o lunio Datganiad Sefyllfa ac argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth (ynghlwm i’r adroddiad) a deilliodd argymhellion yr adroddiad o’r dogfennau hynny.  Rhoddodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol Parth Cyhoeddus ganmoliaeth i ymateb y Cyngor i’r sgandal cig ceffyl a’r modd y deliodd yr awdurdod gyda materion ac argyfyngau o’r fath yn gyffredinol.  Roedd y Cynghorydd Win Mullen-James yn aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen ac ategodd y sylwadau hynny gan dynnu sylw at waith caled y swyddogion dan sylw.

 

Holodd y pwyllgor gwestiynau ynglŷn â chaffael cig a manylebau contract a gofynnwyd am sicrwydd pellach ynglŷn â chadernid y trefnau oedd mewn grym i ganfod twyll bwyd.  Mewn ymateb aeth swyddogion ati i -

 

·         adrodd ar y contractau a’r manylebau presennol ar gyfer cig gan gynnwys yr amod i gael cig Prydeinig dan 30 mis oed a’r statws Dangosiad Daearyddol a Ddiogelwyd (DDDd) (tarddiad Cymreig) gan gyflenwyr cig eidion ac oen a gymeradwywyd

·         ymhelaethu ar ganlyniadau ymchwiliadau diweddar a ddarganfu fod un eitem o gynnyrch (cyw iâr) yn tarddu o’r Almaen

·         egluro fod yr awdurdod lleol a’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynnal samplau ac roedd agwedd rhagweithiol yn cael ei dilyn i sefydlu’r gallu i olrhain, hylendid a chyflawni manylebau contract

·         amlygu’r trefnau rheoli contract cryfach gan gynnwys yr angen i adrodd am unrhyw newidiadau yn y gadwyn gyflenwi

·         cynnig sicrwydd fod systemau cadarn mewn grym ond o gofio natur y diwydiant, nid oedd modd dileu achosion twyll yn llwyr

·         ymhelaethu ar archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd ym mis Gorffennaf 2013 a oedd yn edrych ar hylendid, safonau a darpariaeth

·         cadarnhau fod swyddog safonau bwyd ychwanegol wedi’i gyflogi am gyfnod o 12/18 mis nes bod swyddog dan hyfforddiant presennol yn dod yn hollol gymwys.

 

I sicrhau ansawdd a tharddiad y cig a gynhyrchwyd, holodd y Cadeirydd a fyddai modd  gosod amod fod yn rhaid i bob cyflenwr fod yn rhai Red Tractor Assured mewn contractau yn y dyfodol.  Cyfeiriodd swyddogion at yr anawsterau posibl gyda’r ymagwedd honno gan gynnwys problemau cyflenwi, sicrhau fod cynhyrchion ar gael drwy’r flwyddyn ynghyd â’r goblygiadau ariannol o ran gosod y gofyniad hwnnw.  Yn benodol, byddai unrhyw gynnydd i bris prydau ysgol dros £2.00 yn cael effaith niweidiol ar y niferoedd a fyddai’n manteisio arno.  Nodwyd y byddai’r Grŵp Tasg a Gorffen yn cael ei chynnal dros y tymor byr i fonitro sut y cyflawnwyd argymhellion yr adroddiad ac awgrymwyd y dylai’r fforwm honno roi ystyriaeth bellach i’r mater.  Cytunwyd i dderbyn adroddiad yn ôl ar waith  y Grŵp Tasg a Gorffen mewn oddeutu deuddeg mis.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)     cefnogi argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu Bwyd fel y nodwyd ym mharagraffau 3.1 – 3.13 yr adroddiad a’u hargymell i’r Cabinet eu cymeradwyo;

 

(b)     gofyn i’r Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu  Bwyd archwilio hyfywedd contractau caffael cig yn y dyfodol gan nodi fod yn rhaid i bob cyflenwr fod yn Red Tractor Assured, a

 

(c)     dylid cyflwyno adroddiad ar waith y Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu Bwyd i’r pwyllgor ymhen oddeutu deuddeg mis.

[HW i drefnu i adrodd yr argymhellion a’r Grŵp Tasg a Gorffen i ystyried argymhelliad (b).  RhE i weithredu ar (c)]

 

Dogfennau ategol: