Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

AILSTRWYTHURO’R GWASANAETHAU ADFYWIO, CYMORTH I FUSNESAU A THWRISTIAETH

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Tai a Chymunedau (mae copi ynghlwm) sy’n amlinellu’r rhesymeg a’r broses ar gyfer ailstrwythuro’r Gwasanaethau.  Mae’r adroddiad yn gofyn am farn yr aelodau am eu disgwyliadau a’u dyheadau ar gyfer y Gwasanaeth a’i waith wrth gefnogi’r broses o wireddu blaenoriaethau’r Cyngor o ran yr economi a thai.

10.10am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn amlinellu’r rhesymeg a’r broses ar gyfer ailstrwythuro’r gwasanaethau er mwyn cyflawni blaenoriaethau economaidd a rhai’r Cyngor.  Yn dilyn pryderon yr aelodau ynglŷn ag effaith y cynigion ar unigolion a chymunedau, rhoddwyd sicrwydd yw gweithredu’r broses gyda chefnogaeth a chyngor gan Adnoddau Dynol a byddai’n symud yn nes at gymunedau drwy gynnig strwythur lleol.  Cyfeiriodd hefyd at ei weledigaeth ar gyfer y gwasanaeth gan nodi y byddai’r strwythur newydd yn cyflawni’r disgwyliadau oedd wedi’u cynnwys yn y Strategaeth Uchelgais Economaidd a oedd yn cael ei datblygu.

 

Manylodd y Pennaeth Tai a Gwasanaethau Cymunedol (PTGC) ar y broses adolygu gwasanaeth a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â’r Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden (PCMH) lle rhannwyd canlyniad gwasanaeth.  Daeth yr adolygiad gwasanaeth i’r casgliad nad oedd y strwythur presennol, y sail sgiliau a’r dyraniad adnoddau yn addas i’w pwrpas ar sawl lefel ac na fyddai’n gallu cyflawni’r rhaglen uchelgeisiol o Adfywio a Datblygiad Busnes oedd wedi’i gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol a’r Strategaeth Uchelgais Economaidd.  Datblygwyd strwythur newydd (Atodiad 1 yr adroddiad) yn cynnig ymagwedd gytûn, gadarn a strategol gydag adnoddau wedi’u halinio i gyflawni blaenoriaethau Uchelgais Economaidd y Cyngor.  Byddai ailstrwythuro’r Uwch Dîm Rheoli yn cael ei gwblhau ym mis Mehefin, a byddai’r holl benodiadau wedi’u cwblhau erbyn diwedd mis Medi.  Rhoddodd y PCMH adroddiad ar gam nesaf y broses o safbwynt Gwasanaethau Cyfathrebu a Marchnata ac integreiddio’r swyddogaeth dwristiaeth i sicrhau strwythur addas i’w bwrpas i ymateb i flaenoriaethau corfforaethol.  Amlygodd rinweddau’r ailstrwythuro hwnnw a chroesawodd y cyfle i gynnig adroddiad manwl i’r aelodau ym mis Medi.

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau i ganolbwyntio ar gynigion i ddarparu gwasanaeth yn hytrach na materion gweithredol yn ymwneud â swyddi unigol yn y gwasanaeth.  Mewn ymateb i bryderon aelodau yn y cyswllt hwnnw, rhoddwyd sicrwydd y byddai pob ymdrech yn cael ei gwneud i gadw staff a oedd yn dymuno aros gyda’r awdurdod ac roedd y broses briodol ar gyfer rheoli newid gweithredol yn cael ei dilyn.

 

Cydnabu’r pwyllgor yr angen am ailstrwythuro yn y gwasanaeth er mwyn cyflwyno gwelliannau a diwallu anghenion busnes a rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r gwaith a wnaed ar yr adolygiad cynhwysfawr.  Gofynnodd Aelodau am sicrwydd ynglŷn ag arbedion yn y dyfodol; datblygiad cynigion ariannol ar gyfer grwpiau a gwasanaethau cymunedol, ac eglurhad ar ganlyniadau ac effaith y strwythur newydd ar ddarpariaeth gwasanaeth.  Codwyd cwestiynau hefyd ynglŷn â’r rhyngweithiad a’r rhan a chwaraewyd gydag asiantaethau eraill fel Asiantaeth Fenter Sir Ddinbych a gwaith partneriaeth i gyflawni amcanion a gwella’r economi leol. [Datganodd yr Arweinydd gysylltiad personol mewn perthynas ag Asiantaeth Fenter Sir Ddinbych]  Amlygwyd hefyd yr angen am well cyfathrebu gydag aelodau a strategaeth dwristiaeth glir.  Roedd y Cadeirydd hefyd yn awyddus i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel arf hyrwyddo a marchnata.  Cafwyd yr ymatebion a ganlyn –

 

·         ni fyddai cost ychwanegol i’r ailstrwythuro gyda’r gostyngiad mewn rheolwyr yn creu arbedion a gaiff eu hail fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen

·         byddai’r strwythur newydd yn hwyluso darpariaeth gwasanaeth rhagorol a fyddai’n canolbwyntio ar ardaloedd lleol i’w gwneud yn haws i aelodau, busnesau a chyfranogion dderbyn cyngor, cymorth a chefnogaeth o ansawdd

·         cydnabuwyd mai’r brif risg yn gysylltiedig ag ailstrwythuro oedd methiant i gyflenwi canlyniadau ond lliniarwyd y risg hon oherwydd yr ymagwedd strategol a gymerwyd

·         esboniwyd mwy am y nodau o ddod yn nes at fusnesau a gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill i ddarparu cefnogaeth a chyngor i fusnesau

·         roedd gweithrediad pennawd o’r Strategaeth Uchelgais Economaidd oedd yn cael eu datblygu yn ceisio archwilio’r posibilrwydd o greu partneriaeth o asiantaethau cefnogi busnes

·         rhoddwyd sicrwydd y byddai’r gwasanaeth newydd yn cynnig arweiniad clir i staff gyda llywodraethu ac atebolrwydd da

·         nodwyd y byddai ffynonellau ariannol a chyfleoedd yn cael eu trafod ymhellach unwaith y byddai’r Uwch Dim Rheoli wedi’i sefydlu a rhoddwyd sicrwydd y byddai ceisiadau am arian yn cael eu datblygu mewn modd cydgysylltiedig

·         roedd cynlluniau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol wedi’u cynnwys fel rhan o farchnata digidol

·         cadarnhawyd y byddai’r ailstrwythuro yn cynyddu cyfleoedd twristiaeth a chynnig swyddogaeth gryfach ar gyfer Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau

·         byddai’r Strategaeth Uchelgais Economaidd orffenedig yn helpu siapio darpariaeth gwasanaeth gan arwain at ddatblygu canlyniadau mesuradwy ymhellach a chytunwyd i dderbyn adroddiad gwybodaeth ar y Strategaeth ym mis Hydref.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at faterion iaith Gymraeg ac absenoldeb swyddi Cymraeg hanfodol yn y strwythur.  Dywedodd y PCMH fod cyfeiriad at y Polisi Iaith Gymraeg yn strwythur y Gwasanaethau Cyfathrebu a Marchnata a chytunodd i gylchredeg y polisi ynglŷn â swyddi dynodedig Cymraeg hanfodol / dymunol i gynghorwyr er mwyn rhoi eglurder.  Ychwanegodd y PTGC y byddai’r agwedd hon yn cael ei hystyried ymhellach wrth ystyried gofynion adnoddau ar gyfer pob ardal.  Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler, cytunodd y PCMH gynnig eglurder ar swyddogaeth y Cynllun Datblygu Gwledig mewn perthynas â’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a rôl Aelodau etholedig.  Yn olaf, cyfeiriwyd at erthygl ddiweddar yn y Daily Post yn amlygu’r ffaith fod dwywaith cymaint o ymwelwyr tramor wedi ymweld â’r Rhyl y llynedd tra bu gostyngiad yn ffigyrau trefi gwyliau traddodiadol eraill.  Llongyfarchodd y Cynghorydd Brian Blakeley y Cyngor ar y llwyddiant hwnnw a chanmolodd waith swyddogion yn y cyswllt hwnnw.

[JG i gylchredeg copi o swyddi Cymraeg hanfodol / dymunol i aelodau a rhoi eglurhad ynglŷn â’r CDG]

 

PENDERFYNWYD

 

(a)     yn amodol ar y sylwadau uchod gan aelodau, dylid nodi’r adroddiad ar ailstrwythuro’r Gwasanaethau Adfywio, Cefnogi Busnes a Thwristiaeth;

 

(b)     derbyn adroddiad gwybodaeth ar ailstrwythuro’r Gwasanaethau Cyfathrebu a Marchnata ym mis Medi, a

 

(c)     derbyn adroddiad gwybodaeth ar y Strategaeth Uchelgais Economaidd gan gynnwys canlyniadau; amseroldeb, statws hyder cyflenwi a mesurau perfformiad ym mis Hydref.

[argymhellion (b) & (c) – RE i’w cynnwys yn y rhaglen waith i’r dyfodol]

 

Dogfennau ategol: