Eitem ar yr agenda
CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Adfywio Strategol (mae copi ynghlwm) sy’n amlinellu
perfformiad y Cyngor hyd yma o ran gweithredu ei gynlluniau tref gan ofyn i
aelodau nodi unrhyw lithriadau a chamau i wella’r gwaith gweithredu er mwyn
cynorthwyo’r Cyngor i ddod yn nes at ei gymunedau.
9.40am
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Strategol (RhAS) adroddiad (a gylchredwyd
yn flaenorol) yn amlinellu perfformiad y Cyngor hyd yn hyn o ran cyflawni ei
gynlluniau tref a gofyn am farn aelodau ar y cynnydd. Roedd yr adroddiad perfformiad chwarterol ar
gyfer cynlluniau tref (Atodiad A); sylwadau am weithredoedd unigol gyda statws
coch/oren (Atodiad B) ynghyd â’r grynodeb o’r prif ganlyniadau ar gyfer y
Cynlluniau blwyddyn gyntaf (Atodiad C) ynghlwm i’r adroddiad.
Roedd y broses a ddatblygwyd ar gyfer monitro
perfformiad Cynlluniau Tref ac Ardal yn cynnwys cyflwyno adroddiadau chwarterol
i’r Grwpiau Aelodau Ardal (GAA) yn amlygu’r hyder darparu ynghlwm â
gweithredoedd blaenoriaeth. Byddai’r
wybodaeth honno hefyd yn cael ei chyfuno a’i chynnwys yn yr adroddiadau perfformiad
chwarterol i’r Cabinet. Roedd dyraniad
arian diweddar i gyflawni’r flaenoriaeth gorfforaethol i wella’r economi leol
wedi ein galluogi i fynd ati i gyflwyno gweithredoedd blaenoriaeth yn fuan a
byddent yn cael eu cynnwys yn yr adroddiadau chwarterol nesaf i’r MAGs. Roedd gwaith hefyd wedi dechrau ar y broses o
ddatblygu Cynlluniau Tref i fod yn Gynlluniau Tref ac Ardal er mwyn diwallu
anghenion a blaenoriaethau cymunedau llai a mwy gwledig.
Amlygodd y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd a’r
Aelod Arweiniol ar gyfer Datblygu Economaidd rôl bwysig y Cefnogwyr Tref yn y
broses a’i obaith y byddai’r Cynlluniau’n esblygu ac yn dod yn fwy uchelgeisiol
yn y dyfodol i greu gweledigaeth ar gyfer pob tref a’r ardaloedd o’u cwmpas.
Wrth ystyried yr adroddiad, gwnaeth yr aelodau’r
sylwadau a ganlyn –
·
roedd
yn galonogol fod y rhan fwyaf o brosiectau yn mynd i’r cyfeiriad cywir i gael
eu darparu ond roedd hefyd angen adrodd ar ganlyniadau ac effeithiau clir
·
amlygwyd pa mor bwysig oedd
bod arian ar gael pan fod angen i gyflawni prosiectau fel y cynlluniwyd
·
cydnabuwyd
fod y cynlluniau yn dal ar eu camau cyntaf ac y byddai’n cymryd amser i
ddatblygu a chyflawni eu potensial llawn
·
awgrymwyd
y dylid cyflawni prosiectau syml, yn enwedig rhai gydag effaith weledol, yn
fuan
·
amlygwyd pwysigrwydd aelodau
lleol wrth symud eu cynlluniau tref/ardal ymlaen yn ogystal â rhyngweithio
gyda’r Cefnogwr Tref a’r Swyddog Cyswllt
·
pwysleisiwyd
yr angen i gynlluniau gynnig gwir adlewyrchiad o’r buddsoddiad a’r manteision
cyffredinol yn y gwahanol ardaloedd ynghyd â ffynonellau ariannol a nodwyd ar
gyfer prosiectau/ gweithredoedd i sicrhau eu bod yn agored ac yn atebol
·
roedd
angen sicrhau nad oedd darparu gweithredoedd a nodwyd i’w cyflawni y tu hwnt i
reolaeth y Cyngor
·
pwysleisiwyd
rôl bwysig y Cefnogwr Gwledig yn y broses a’i ryngweithiad ag aelodau lleol yr
ardaloedd
·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Cefyn Williams at gyfeiriad yr adroddiad fod adolygiad addysgol
ardal Edeyrnion wedi cefnogi gwelliannau mewn cyrhaeddiad addysgol ac roedd yn
dymuno datgan yn glir nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r datganiad hwnnw a
oedd yn fater o farn ac yn dal yn ddadleuol.
Wrth ymateb i sylwadau aelodau nododd y swyddogion mai dim ond yn
ddiweddar y cymeradwywyd y dyraniad ariannol i fwrw ymlaen â chamau
blaenoriaeth ar gyfer gwella’r economi leol a gan ystyried yr amser aros cyn i
brosiectau cyfalaf adrodd eu bod yn cyflawni’r prosiectau hynny, byddent yn
ymddangos yn yr adroddiad nesaf i’r MAGs ym mis Gorffennaf. Roedd gwaith yn parhau i ehangu’r cynlluniau
tref presennol i fod yn gynlluniau tref ac ardal ac wedi hynny byddai’r cynnwys
a’r manylion yn cael eu datblygu ymhellach.
Cyfrifoldeb yr aelodau lleol a’r Cefnogwyr Tref yw gosod eu blaenoriaethau
eu hunain ar gyfer y camau a nodwyd. O
safbwynt canlyniadau a fesurwyd, cytunwyd i ychwanegu gwybodaeth at yr
adroddiad ar hyder darparu ynglŷn â’r nifer o brosiectau a gwblhawyd a’u
heffaith dilynol. Adroddodd y Cynghorydd
Huw Jones, Cefnogwr Gwledig ar y gwaith roedd yn ei gyflawni i sicrhau yr
ymgorfforwyd buddiannau pob cymuned wledig yn y Cynlluniau Ardal a ddatblygwyd.
PENDERFYNWYD yn amodol ar y
sylwadau uchod gan yr aelodau y dylid nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod blwyddyn
gyntaf darparu’r Cynlluniau Tref.
Ar y pwynt hwn (10.15
a.m.) cafodd y pwyllgor doriad ar gyfer egwyl lluniaeth.
Dogfennau ategol:
- Town and Area Plans Report 230513W, Eitem 6. PDF 80 KB
- Town and Area Plans Report 230513 - Apps, Eitem 6. PDF 79 KB