Eitem ar yr agenda
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (mae copi ynghlwm) o ran
canfyddiadau ymchwiliad a gynhaliwyd gan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
i honiad bod Cynghorydd wedi methu, neu y gallai fod wedi methu, â
chydymffurfio â Chod Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych.
Cofnodion:
RHAN II
11. COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF
LLYWODRAETH LEOL 2000
Dosbarthwyd copi o adroddiad cyfrinachol gan y SM gyda’r papurau
pwyllgor, a oedd yn cynorthwyo Aelodau'r Pwyllgor Safonau i ystyried a ddylid
cynnal gwrandawiad cynrychiolaeth mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymchwiliad a
gynhaliwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i honiad fod cyn-Gynghorydd
wedi methu, neu efallai wedi methu, cydymffurfio â Chod Ymddygiad Cyngor Sir
Ddinbych.
O dan Adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, caiff yr
Ombwdsmon ymchwilio i achosion lle mae honiad ysgrifenedig wedi ei wneud iddo
gan unrhyw berson bod Aelod o awdurdod perthnasol wedi methu, neu y gallai fod
wedi methu, â chydymffurfio â Chod Ymddygiad
yr Awdurdod.
Roedd yr
Ombwdsmon wed
Mae'r
Rheoliadau (Cymru) Ymchwiliad Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion
Monitro a Phwyllgorau Safonau) 2001 yn datgan pan fo unrhyw fater yn cael ei
gyfeirio at Swyddog Monitro Awdurdod perthnasol gan yr Ombwdsmon, yna mae'n
rhaid i'r Swyddog Monitro gyflwyno’r adroddiad gerbron y Pwyllgor Safonau.
Swyddogaeth
y Pwyllgor Safonau ar ôl derbyn adroddiad o'r fath oedd bod yn rhaid iddynt
benderfynu naill ai:
(a) nad oedd dim tystiolaeth o unrhyw fethiant i
gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw a rhaid hysbysu
unrhyw berson a oedd yn destun yr ymchwiliad, unrhyw berson a wnaeth unrhyw
honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad a hysbysu'r Ombwdsmon yn briodol; neu
(b) bod unrhyw berson a oedd yn destun yr
ymchwiliad yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu'n
ysgrifenedig, mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei
fod ef neu hi wedi methu, neu y gallai fod wedi methu, cydymffurfio â Chod
Ymddygiad yr Awdurdod perthnasol.
Mae
adroddiad yr Ombwdsmon i’r ymchwiliad i'r honiad a wnaed yn erbyn y
cyn-Gynghorydd i'r SM wedi ei gynnwys fel Atodiad 1 i'r adroddiad. Mae copi o'r
weithdrefn ar gyfer ymdrin â honiadau a wneir yn erbyn Cynghorwyr a’u cyfeirio
i’r Pwyllgor Safonau wedi ei atodi fel Atodiad 2.
Diffiniodd y Cadeirydd rôl y Pwyllgor Safonau yn glir o ran
ystyried a ddylid cynnal gwrandawiad cynrychiolaeth mewn perthynas â
chanfyddiadau'r ymchwiliad a gynhaliwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru.
Yn dilyn ystyriaeth fanwl o'r adroddiad
cytunodd y Pwyllgor Safonau roi’r cyfle i’r cyn-Gynghorydd gyflwyno sylwadau,
naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, mewn perthynas â chanfyddiadau'r
ymchwiliad ynglŷn â'r honiad bod y cyn-Gynghorydd wedi methu, neu efallai
wedi methu, â chydymffurfio â Chod Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych. Amlinellodd y
SM weithdrefn y Cyngor ar gyfer ymdrin â Gwrandawiadau, ac roedd y manylion yn
y Pecyn Cynhadledd Safonau, a chadarnhaodd y byddai'n ysgrifennu at y
cyn-Gynghorydd yn rhoi manylion penderfyniad y Pwyllgor a phroses y
Gwrandawiad. Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor bod y Cadeirydd yn awdurdodi'r llythyr
i'w anfon at y cyn-Gynghorydd.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd;-
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Safonau yn cytuno:-
(a)
bod
y cyn-Gynghorydd perthnasol yn cael y cyfle i gyflwyno sylwadau, naill ai ar
lafar neu'n ysgrifenedig, mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymchwiliad
ynglŷn â'r honiad bod y cyn-Gynghorydd wedi methu, neu efallai wedi methu,
â chydymffurfio â Chod Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych, a
(b)
bod
y Cadeirydd yn awdurdodi'r llythyr i'w anfon at y cyn-Gynghorydd.
(G. Williams i
Weithredu)
Daeth
y cyfarfod i ben am 12.05 p.m.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 11./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 11./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 11./3 yn gyfyngedig