Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DARPARIAETH YN SEILIEDIG AR FFYDD

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi'n amgaeedig) yn rhoi gwybod i'r Cabinet am ganfyddiadau'r ymgynghoriad anffurfiol cychwynnol ar ddyfodol darpariaeth sy'n seiliedig ar ffydd, a cheisio cymeradwyaeth i ddechrau’r cam ffurfiol nesaf o ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i gau Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Santes Ffraid ac agor ysgol newydd.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad;

 

(b)       cymeradwyo’r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cynigion i gau Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Santes Ffraid o 31 Awst 2014 er mwyn hwyluso sefydliad ysgol ffydd newydd yn unol â'r penderfyniad canlynol;

 

 (c)       cymeradwyo ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer agor ysgol newydd o 1 Medi 2014 mewn partneriaeth ag Awdurdodau Esgobaethol yr Eglwys Gatholig ac Eglwys yng Nghymru;

 

(d)       cytuno bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal dim hwyrach na haf 2015 i nodi’r safle lle byddai’r ysgol ffydd newydd ar y cyd, a

 

(e)       cynnal ymgynghoriad pellach i archwilio'r posibilrwydd o ddarparu darpariaeth gynradd ar yr un safle â’r ysgol uwchradd ffydd ar y cyd

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol â’r eitem hon.]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg, yr adroddiad yn rhoi gwybod i'r Cabinet am ganfyddiadau'r ymgynghoriad anffurfiol cychwynnol ar ddyfodol addysg ffydd, a cheisio cymeradwyaeth i ddechrau’r cam ffurfiol nesaf o ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i gau Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Santes Ffraid ac agor ysgol ffydd newydd ar y cyd.  Cyflwynwyd ymateb ffurfiol i’r cynigion gan yr Awdurdodau Esgobaethol ac Ymddiriedolaeth y Santes Ffraid yn y cyfarfod a gwahoddwyd cynrychiolwyr i roi cyflwyniad byr.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Williams rywfaint o gefndir i’r sefyllfa a thynnodd sylw at yr angen am ddull gweithredu strategol a chydlynol sy’n ystyried polisïau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau buddsoddiad a sicrhau darpariaeth addysg o safon.  Cyfeiriodd at y camau yn y broses adolygu gan ddweud bod angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ac addysg o safon yn y dyfodol.  Ymatebodd y Cynghorydd Williams i bryderon a godwyd gan Ymddiriedolaeth Santes Ffraid yn eu hymateb ffurfiol gan ddweud bod cynllun cyllideb cynhwysfawr wedi’i baratoi i sicrhau bod modd gwireddu dyheadau a bod cyllidebau wedi’u neilltuo i gyflawni cynigion.  Rhoddodd sicrwydd hefyd ynghylch y galw am ysgol newydd gan sôn am y dadansoddiad manwl a gynhaliwyd yn hynny o beth a rhagamcaniadau ar gyfer y dyfodol.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd gynrychiolwyr a oedd yn bresennol o’r Awdurdodau Esgobaethol ac Ymddiriedolaeth Santes Ffraid i roi cyflwyniad byr.

 

Mynegodd Carole Burgess o Esgobaeth Llanelwy ei boddhad o fod yn rhan o syniad mor gyffrous a chadarnhaodd fod Bwrdd ac Esgobaeth Llanelwy yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig fel cyd-hyrwyddwyr i’r cynnig am ysgol uwchradd ffydd newydd ar y cyd. 

Wrth groesawu’r cynnig, tynnodd sylw at lwyddiant Ysgol St. Joseph yn Wrecsam sy’n cynnig darpariaeth Anglicanaidd/Gatholig ar y cyd.  Adleisiodd Rita Price o Esgobaeth Gatholig Wrecsam y teimladau hynny gan ddweud bod y syniad o ysgol a rennir wedi bod dan drafodaeth ers tro.  Roedd Esgobaeth Wrecsam, fel cyd-hyrwyddwr, yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i’r cynnig am ysgol uwchradd a rennir a’i dyheadau am addysg ffydd yn Sir Ddinbych.  Tynnodd sylw at yr ymrwymiad i ddarparu ysgol o’r safon uchaf i wella dyheadau i blant a theuluoedd yn yr ardal.  Cyfeiriodd John Kenworthy, cyn Bennaeth Ysgol St. Joseph at debygrwydd sylfaenol ag Ysgol Santes Ffraid a soniodd am lwyddiant cyfnod pontio Ysgol St. Joseph i fod yn ysgol ffydd ar y cyd.  Gofynnodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill am sicrwydd gan yr Awdurdodau Esgobaethol am eu hymrwymiad yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad a’u cyfraniad ariannol.  Cadarnhaodd Carole Burgess a Rita Price eu hymrwymiad i ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion a byddent yn ymateb mor gadarnhaol ag y gallent i ganlyniad yr ymgynghoriad.  Nodwyd mai cyfraniad bach fyddai ar gael gan Esgobaeth Llanelwy a bod Esgobaeth Wrecsam wedi ymrwymo unrhyw sicrwydd pellach a gafwyd o werthu rhan o safle’r Rhyl.  Eglurodd y Cynghorydd Williams nad oedd y cynigion yn dibynnu ar unrhyw gyfraniadau ariannol a bod cyllid wedi’i neilltuo at y diben hwnnw.

 

Cyfeiriodd Mr Philip Eyton-Jones o Ymddiriedolaeth Santes Ffraid at lwyddiant Ysgol Santes Ffraid wrth gynnig darpariaeth barhaus i blant rhwng 3 ac 19 oed a thynnodd sylw at y gefnogaeth a gafwyd gan rieni i'r ysgol fel a ddangoswyd yn yr ymateb i’r ymgynghoriad a’u hawydd i weld yr ethos a’r fframwaith presennol yn aros. 

Roedd yr Ymddiriedolaeth o’r farn fod y cynnig yn gynamserol o ystyried bod yr arfarniad o’r dewis yn ddiffygiol o ran manylion sylweddol, felly ni fyddai'r Ymddiriedolaeth yn gallu hybu'r cynnig ar ei ffurf bresennol.  Mynegwyd pryderon penodol ynghylch absenoldeb penderfyniadau cadarn o ran ystod oedran a lleoliad yr ysgol; goblygiadau Ysgol Uwchradd y Rhyl sydd newydd ei hailwampio, a diffyg sicrwydd ariannol a’r sefyllfa ansefydlog i ddisgyblion a staff.  Byddai angen i’r Ymddiriedolaeth a’r Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo unrhyw gyfraniad ariannol ar gyfer cynigion y dyfodol.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am sicrwydd ynghylch agweddau addysgol y cynigion a thynnodd Pennaeth Addysg sylw at flaenoriaeth y Cyngor o ran sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg orau bosibl ac yn perfformio hyd gorau ei allu.   Soniodd am elfennau allweddol o ddarpariaeth addysg lwyddiannus a gydnabuwyd gan Lywodraeth Cymru ac ESTYN ac roedd y ddwy ysgol wedi’u dadansoddi yn y cyd-destun hwnnw. 

Dywedwyd wrth y Cabinet fod y ddwy ysgol wedi cael canlyniadau da yn erbyn dangosyddion allweddol a darparodd y Pennaeth Addysg nifer o ystadegau i ddangos perfformiad y ddwy ysgol ar gamau penodol ac o’u cymharu ag ysgolion eraill yn y sir ac yn eu grwpiau teulu.  Fodd bynnag, roedd yn bwysig sicrhau cynaliadwyedd wrth symud ymlaen ac roedd rhai diffygion mewn elfennau allweddol wedi’u nodi a fyddai'n peryglu cyrhaeddiad yn y dyfodol yn enwedig o ran yr amgylchedd dysgu ac arweinyddiaeth a rheolaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, soniodd aelodau’r Cabinet am eu hymweliadau â’r ddwy ysgol gan fynegi pryderon difrifol ynghylch digonolrwydd adeiladau a chyfleusterau presennol yr ysgolion nad oeddent yn darparu amgylchedd dysgu addas i’r diben i fodloni gofynion Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.   Cytunwyd mai darparu addysg gynaliadwy o ansawdd uchel yn y dyfodol oedd yr ystyriaeth bwysicaf. 

Yn sgil y pryderon a fynegwyd gan Ymddiriedolaeth Santes Ffraid, gofynnodd yr aelodau gwestiynau am y broses adolygu a’r goblygiadau ehangach gan geisio sicrwydd ynghylch pa mor gadarn yw'r pecyn ariannu. 

Ymatebodd y Cynghorydd Eryl Williams a swyddogion fel hyn -

 

·         darparwyd sicrwydd y byddai’r Cyngor mewn sefyllfa i gyllido’r prosiect nad oedd yn dibynnu ar gyfraniadau ariannol gan bartneriaid

·         eglurwyd na fu’n bosibl ymrwymo i leoliad ar gyfer yr ysgol newydd arfaethedig ar hyn o bryd gan nad oedd gofynion yr ysgol wedi’u datblygu’n llawn a bod hyn yn dibynnu ar ganlyniad ymgynghoriad ffurfiol

·         nid oedd yr adolygiad o’r ddwy ysgol yn cael ei gynnal ar wahân ac roedd ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i’r goblygiadau ar ysgolion eraill yn yr ardal

·         byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnig darpariaeth gynradd yn ystod yr ail gam

·         byddai’r manylion pellach y gofynnwyd amdanynt gan Ymddiriedolaeth Santes Ffraid yn cael eu darparu yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol yn ystod cam nesaf y broses

·         byddai darpariaeth ôl-16 yn yr ysgol newydd yn cael ei chynnig yn bennaf gan bartneriaeth chweched presennol Prestatyn a’r Rhyl a byddai’r ysgol newydd yn cynnig ystod fach o gyrsiau fel rhan o’r bartneriaeth honno a ddarperir gan y darparwyr ffydd

·         roedd gan y Cyngor y pŵer i gynnig cau’r ddwy ysgol ond ni allai agor ysgol ffydd newydd ar y cyd heb gytundeb yr Awdurdodau Esgobaethol

·         byddai peidio â gwneud penderfyniad ar y cynigion yn arwain at ansicrwydd pellach ac ansefydlogrwydd i’r ysgolion a byddai’n rhoi darpariaeth a chyfleoedd cyllido'r dyfodol dan fygythiad.

 

Ystyriodd y Cabinet yr ystod oedran ar gyfer yr ysgol newydd a rhinweddau darpariaeth 3 - 18 a chytunodd y dylid ymgynghori ymhellach i edrych ar y posibilrwydd o gynnig darpariaeth gynradd ar yr un safle â’r ysgol uwchradd ffydd ar y cyd y dylid ei gynnwys fel rhan o’r cynnig ffurfiol ynghyd ag ymgynghoriad ar leoliad yr ysgol ffydd newydd ar y cyd. 

 

Ar y cam hwn, gwahoddodd yr Arweinydd gynghorwyr eraill nad oeddent yn aelodau’r Cabinet i siarad.  Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau a godwyd gan Aelodau lleol y Rhyl, y Cynghorwyr Joan Butterfield, Margaret McCarroll a Brian Blakeley, cafwyd yr ymatebion canlynol -

 

·         gellid ymestyn y cyfnod ymgynghori os oes angen

·         byddai aelodau lleol yn rhan o’r broses ymgynghori a byddai’r Cabinet yn gwneud y penderfyniad fel swyddogaeth weithredol

·         roedd y Pwyllgor Archwilio wedi archwilio proses arolygu ysgolion eisoes a hwn oedd y fforwm priodol i edrych ar faterion o’r fath

·         rhaid defnyddio’r geiriad statudol ar gyfer cau ysgolion ond cytunwyd i ail-eirio cyhoeddiadau yn y dyfodol i bwysleisio’r effaith gadarnhaol

·         adroddwyd am y cyfyngiadau amser a’r meini prawf cyllido yn ystod y cais cychwynnol i Lywodraeth Cymru (LlC) ar sail darpariaeth 11 – 16 gyda newidiadau yn amodol ar ymgynghoriad a thrafodaeth bellach â swyddogion LlC

·         cadarnhawyd bod gwaith yn barhaus â’r Esgobaeth Gatholig i hybu Ysgol Mair, y Rhyl â’r bwriad o gynyddu niferoedd disgyblion ac nid oedd cynlluniau i gau’r ysgol honno

·         nodwyd pryderon aelodau o ran cludiant i ddisgyblion i’r ysgol newydd arfaethedig a dywedwyd y byddai angen ystyried y mater ymhellach pan fyddai’r lleoliad wedi’i gadarnhau.

 

Tynnodd y Cynghorydd Ray Bartley sylw at y canlyniadau economaidd pe bai Ysgol Santes Ffraid yn cau a mynegodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler ei dewis i’r ysgol aros yn Ninbych hefyd.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Richard Davies yr angen i nodi lleoliad safle’r ysgol newydd cyn gynted ag sy’n bosibl.  Dywedwyd wrth yr aelodau fod tua 62% o ddisgyblion o’r ddwy ysgol yn byw yng ngogledd y sir a chadarnhaodd y byddai’r ysgol newydd yn y Cynllun Datblygu Lleol ac yn destun amodau cynllunio ffurfiol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eryl Williams yr argymhellion yn yr adroddiad gyda diwygiad i'r geiriad ac o'r drafodaeth, cynigiodd bod ymgynghoriad yn digwydd dim hwyrach na haf 2015 i nodi’r safle ar gyfer yr ysgol ffydd newydd ar y cyd, a bod ymgynghoriad pellach yn digwydd i edrych ar y posibilrwydd o gynnig darpariaeth gynradd ar yr un safle â'r ysgol uwchradd ffydd ar y cyd.  Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ddiwygiad, ac eiliodd y Cynghorydd Hugh Irving, sef bod ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal i edrych ar y posibilrwydd o gynnig darpariaeth gynradd Gatholig Rufeinig ar yr un safle.   Ar ôl pleidleisio, COLLWYD y diwygiad a DERBYNIWYD y cynnig gwreiddiol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad;

 

b)         yn cymeradwyo’r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cynigion i gau Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Santes Ffraid o 31 Awst 2014 er mwyn hwyluso sefydlu ysgol ffydd newydd yn unol â'r penderfyniad canlynol;

 

 (c)       yn cymeradwyo ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer agor ysgol newydd o 1 Medi 2014 mewn partneriaeth ag Awdurdodau Esgobaethol yr Eglwys Gatholig ac Eglwys yng Nghymru;

 

(d)       yn cytuno bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal dim hwyrach na haf 2015 i nodi’r safle lle byddai’r ysgol ffydd newydd ar y cyd, ac

 

(e)       yn cynnal ymgynghoriad pellach i archwilio'r posibilrwydd o gynnig darpariaeth gynradd ar yr un safle â’r ysgol uwchradd ffydd ar y cyd

            [JW i weithredu]

Ar y pwynt hwn (11.35 a.m.) cymerodd y Cabinet egwyl.

 

 

Dogfennau ategol: