Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RISG LLIFOGYDD YN SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan yr Uwch Beiriannydd, Rheoli Risg Llifogydd (copi wedi’i amgáu) ar ffynonellau a difrifoldeb y risg llifogydd yn Sir Ddinbych a gofyn am gefnogaeth yr aelodau i ddatblygu’r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol.

11.30 a.m.

 

Cofnodion:

[Dygwyd yr eitem hon yn ei blaen o fewn trefn y rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd]

 

Cyflwynodd yr Uwch Beiriannydd, Rheoli Risg Llifogydd (SE) adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) a gwnaeth gyflwyniad PowerPoint ar ffynonellau a maint risg llifogydd yn Sir Ddinbych, dyletswyddau a chyfrifoldebau’r Cyngor fel Awdurdod Arweiniol Llifogydd Lleol a gofynnodd am gefnogaeth yr aelodau i ddatblygu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol.

 

Cynghorwyd y pwyllgor bod rheoli risg llifogydd yn cael ei gefnogi gyda grant gan Lywodraeth Cymru.   Amlygwyd y lleihad a’r newid fydd i ddarpariaeth cyllid yn y dyfodol a’r angen am ddatrysiadau arloesol a blaenoriaethu buddsoddiad.   Cynghorodd yr Uwch Beiriannydd y bydd canfyddiadau archwiliadau llifogydd yn rhoi gwybodaeth ar gyfer datblygu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol.   Ymatebodd i gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn -

 

  • eglurodd y meini prawf sy’n cael eu defnyddio i ganfod ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd dŵr arwyneb gan ddangos nad oedd unrhyw ardaloedd mewn risg o lifogydd yn Sir Ddinbych
  • manylodd ymhellach am Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol gan amlygu’r amcanion cychwynnol a’r mesurau arfaethedig er mwyn cyflawni’r amcanion hynny, ynghyd â’r cyfle i leihau risg llifogydd i gymunedau, a
  • chynghori ar nifer isel o safleoedd yn y Cynllun Datblygu Lleol mewn ardaloedd risg llifogydd a darparu sicrwydd bod y risgiau a ganfuwyd yn cael eu rheoli drwy’r broses gynllunio.

 

Bu’r aelodau yn trafod gyda swyddogion a chynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru'r canllawiau oedd yn cael eu cynnwys yng Nghynllun Polisi Cymru Nodyn Cyngor Technegol (TAN15) oedd yn berthnasol i ddatblygu a risg llifogydd a’i gymhwysiad wrth ei ddefnyddio.   Mynegodd y Cynghorydd Ann Davies bryderon nad oedd unrhyw risg o lifogydd wedi’u canfod yn ystod y broses gynllunio ar gyfer datblygiadau cynharach yn Marsh Road, Rhuddlan a oedd wedi arwain at lifogydd yn yr ardal ym mis Tachwedd 2012. Mynegodd y Cynghorydd Alice Jones bryderon am gadernid y canllawiau sy’n cael eu cynnwys yn TAN15 a chanfyddiadau Asesiad Strategol Canlyniadau’r Llifogydd a wnaed gan y Cyngor yn 2007 yn dilyn digwyddiadau llifogydd blaenorol.   Eglurodd yr Uwch Beiriannydd y dynesiad gofalus mewn perthynas â datblygiadau mewn ardaloedd sydd mewn risg o lifogydd gan grynhoi prosesau cynllunio a’r profion i sicrhau bod y datblygiadau arfaethedig yn addas a bod canlyniadau llifogydd yn dderbyniol.   Bydd canfyddiadau’r archwiliadau llifogydd yn darparu gwybodaeth bellach am ardaloedd penodol megis Rhuddlan a Glasdir all gael effaith ar geisiadau datblygu yn y dyfodol.   Ychwanegodd Mr. Keith Ivens bod mapiau risg llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu diweddaru bob chwarter a bod modelau yn cael eu hadolygu yn dilyn digwyddiadau o lifogydd.

 

Bu’r Cynghorydd Alice Jones yn dadlau yn erbyn canfyddiadau cychwynnol yr archwiliad llifogydd i’r digwyddiadau ym mis Tachwedd 2012 a oedd yn datgan nad oedd y llanw wedi cael effaith ar y llifogydd yn Rhuddlan a Llanelwy gan ddatgan bod ganddi dystiolaeth ddogfennol i’r gwrthwyneb.   Roedd Mr. Keith Ivens yn deall nad oedd y llanw wedi cael effaith cyn belled a Llanelwy ond cynghorodd y gellir cwblhau mwy o ymarferion pan fydd y gwaith modelu wedi’i gwblhau gan ddefnyddio gwir ddata’r llanw o’r cyfnod sydd o dan sylw i benderfynu ar yr effaith.   Bydd y mater yn cael ei drafod ymhellach gyda’r Cynghorydd Jones tu allan i’r cyfarfod.

 

Amlygodd y Cadeirydd y byddai amlder a maint digwyddiadau llifogydd yn debygol o gynyddu o ganlyniad i newid hinsawdd a byddai’n croesawu datblygu Strategaeth i reoli risg llifogydd yn y sir.   EEr mwyn cefnogi’r ddogfen teimla’r pwyllgor y dylid cylchredeg y Strategaeth yn ehangach gyda’r drafft terfynol yn cael ei gyflwyno i archwilio cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

 

 PENDERFYNWYD -

 

(a)       y dylid cefnogi datblygu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol

 

(b)       y dylid cylchredeg Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol er mwyn cael sylwadau gan yr holl gynghorwyr, Cynghorau Tref a Chymuned, a Grwpiau Aelodau Ardal (gydag ardaloedd cysylltiedig lleol wedi’u hamlygu ar gyfer pob ardal Grŵp Aelodau unigol), ac

 

(c)        yn dilyn proses ymgynghori cyhoeddus dylid cyflwyno drafft terfynol Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol i’r pwyllgor archwilio addas fel y penderfynwyd gan Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

[WH i weithredu’r argymhellion uchod/ RE i gadarnhau pa bwyllgor archwilio fydd yn ystyried y strategaeth]

 

Ar y pwynt hwn (12.10 pm) cafwyd egwyl.

 

 

Dogfennau ategol: