Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYNNYDD ADFER YN DILYN LLIFOGYDD TACHWEDD 2012

Ystyried adroddiad, sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol, gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles (copi wedi’i amgáu) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor ar gynnydd wrth adfer yn dilyn llifogydd Tachwedd 2012 a gofyn am farn yr aelodau ar ganfyddiadau adroddiad briffio dechreuol ar gam cyntaf y broses adfer.

10.30 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles (CDMW) adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) yn diweddaru’r pwyllgor ar gynnydd yr adferiad yn dilyn llifogydd Tachwedd 2012 a gofynnodd am farn yr aelodau am ganfyddiadau adroddiad ôl-drafodaeth gychwynnol ar y cam cyntaf hwn yn y broses adfer.

 

Darparwyd trosolwg o’r gwaith a wnaed i gefnogi’r cymunedau oedd wedi’u heffeithio gan y llifogydd gan gynnwys gwaith y Grŵp Adfer Corfforaethol a’r is-grwpiau i sicrhau cefnogaeth barhaus.   Roedd strwythur ar gyfer rheoli adferiad a diweddariad ar weithgareddau’r grwpiau wedi’u hatodi at yr adroddiad.   Roedd sefydliadau gwirfoddol wedi cadarnhau cyllid gan Gronfa Fawr y Loteri i’w ddefnyddio i gynnal amrywiaeth o wasanaethau lles ar gyfer y cymunedau a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd.

 

Roedd Adroddiad ôl-drafodaeth Cyfnod Adfer 1 (wedi’i atodi fel atodiad cyfrinachol i’r prif adroddiad) yn cynnwys y cyfnod yn syth ar ôl y llifogydd hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2012. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles at broses yr ôl-drafodaeth a rhoddodd fwy o fanylion am y canfyddiadau a rhesymau pob un o’r chwe phrif argymhelliad o’r adroddiad oedd yn cynnwys yr elfennau canlynol -  

 

  • A1 - Canllawiau Gweithredu
  • A2 - Dysgu a datblygiad
  • A3 - Sefydlu Canolfannau
  • A4 - Rhestrau Cyswllt
  • A5 - Rheoli Gwybodaeth
  • A6 – Cyfathrebu

 

Diolchwyd i’r staff am y gwaith a wnaethant wrth ymateb i’r digwyddiadau llifogydd yn ystod y digwyddiad ac ar ôl iddo ddigwydd a gofynnwyd i’r neges o werthfawrogiad gael ei rannu â phawb oedd yn rhan o’r gwaith.    Cymeradwyodd yr aelodau'r ymagwedd o werthuso’r gwaith adfer a wnaed er mwyn dysgu gwersi a llunio dulliau gweithredu ar gyfer digwyddiadau mawr eraill yn y dyfodol.   Yn ystod y drafodaeth ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn -

 

  • cydnabod yr oedi a fu wrth ymateb i rai o’r digwyddiadau llifogydd oherwydd diffyg gwybodaeth a fydd yn cael ei ddatrys yn y dyfodol drwy welliannau i’r systemau rheoli gwybodaeth.
  • cadarnhaodd bod dulliau gweithredu ar gyfer delio â nifer o agweddau o’r cyfnod adfer yn cael eu datblygu er mwyn gweithio ledled nifer o wahanol fathau o leoliadau
  • adroddodd am ddatblygiad systemau gadael tai clir yn nhermau llety tai cysgodol wedi’u lleoli mewn ardaloedd risg llifogydd.
  • manylodd ar yr anawsterau wrth rannu gwybodaeth rhwng yr asiantaethau er mwyn olrhain y rhai sy’n derbyn cymorth/cyngor.
  • cytunodd bod angen cynyddu cynhwysedd System Reoli Perthynas Cwsmer (CRM) yn ystod  digwyddiadau o’r fath ac edrych ar bosibilrwydd trefniant wrth gefn ar gyfer galwadau CRM yn ystod cyfnodau prysur oherwydd argyfyngau annisgwyl.

 

Bu’r aelodau hefyd yn trafod gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles sut y mae’r Cyngor yn ymateb i ddigwyddiadau/argyfyngau mawr mewn ardaloedd gwledig mawr.   Cyfeiriodd y Cynghorwyr Merfyn Parry ac Alice Jones at yr eira a fu yn ddiweddar a’r effaith a gafodd ar y gymuned ffermio yn bennaf.   Amlygwyd arwahanrwydd rhai o’r rhai a gafodd eu heffeithio ac effaith emosiynol ac ariannol oedd yn parhau i fod ar waith.    O ganlyniad gofynnodd y pwyllgor a ellid cynnig cefnogaeth debyg i’r rhai a gafodd eu heffeithio gan yr eira yn nhermau delio â lles emosiynol ac anghenion ariannol drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor penodol; sesiynau galw draw; cyfarfod cymuned gyda chefnogaeth benodol ar gyfer busnesau amaethyddol a gafodd eu heffeithio a’u gweithgareddau.

 

 PENDERFYNWYD -

 

(a)       derbyn a chymeradwyo’r adroddiad cynnydd am adfer yn dilyn llifogydd Tachwedd 2012;

 

(b)       gofynnwyd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles  archwilio’r posibilrwydd o gael trefniant wrth gefn ar gyfer galwadau CRM yn ystod cyfnodau hynod o brysur yn dilyn argyfwng annisgwyl, a

 

(c)       gofynnwyd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles ystyried darparu cefnogaeth emosiynol a busnes i’r preswylwyr yn yr ardaloedd gwledig sydd wedi’u heffeithio gan yr eira yn ddiweddar.

[Uwch Beiriannydd i weithredu argymhellion (b) a (c)]

 

 

Dogfennau ategol: