Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ARCHWILIADAU LLIFOGYDD: DIGWYDDIADAU TACHWEDD 2012

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am gynnydd gyda’r archwiliadau i’r llifogydd yn Sir Ddinbych ym mis Tachwedd 2012 a gofyn am farn yr aelodau ar yr argymhellion posibl sydd i ddod.

9.40 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol (CDECA) adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) yn diweddaru’r aelodau am gynnydd yr archwiliadau i ddigwyddiadau llifogydd ledled Sir Ddinbych ym mis Tachwedd 2012 a gofynnodd am farn yr aelodau am yr argymhellion posibl.  Mae’r cylch gorchwyl a’r comisiwn ar gyfer yr archwiliad wedi’u hatodi gyda’r adroddiad.  Bydd adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor pan fydd yr archwiliadau wedi’u cwblhau.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y llifogydd sylweddol a ddigwyddodd mewn 12 lleoliad gwahanol gan effeithio ar tua 500 o adeiladau.   Roedd archwiliad y Cyngor yn cael ei gefnogi gan Gyfoeth Naturiol Cymru (NRW) gyda’u harbenigwyr annibynnol wedi’u comisiynu  i gynnal yr archwiliad yng Nglasdir, Rhuthun oherwydd cymhlethdodau yn ymwneud â’r lleoliad hwnnw.  Roedd y gwaith yn cael ei gydlynu gan Weithgor Archwilio Llifogydd a darparwyd dau Friffio Budd-ddeiliaid oedd yn cynnwys crynodebau o’r canfyddiadau diweddaraf a’r argymhellion o ganlyniad.  Mae manylion gweithrediadau sy’n cael eu gwneud yn y cyfamser i fynd i’r afael â risgiau penodol y llifogydd wedi’u darparu hefyd. 

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol gyd-destun pellach i’r adroddiad gan roi cyngor ar y ddeddfwriaeth ddiweddar yn ymwneud â rheoli risg llifogydd a chyfrifoldebau’r Cyngor fel Awdurdod Arweiniol Llifogydd Lleol yn hyn o beth.   Roedd y canfyddiadau cychwynnol cyffredinol yn awgrymu -

 

·         mai digwyddiad tywydd eithriadol ydoedd (graddfa risg llifogydd yn agos at 1:200) gyda lefelau uwch o ddŵr yn yr afonydd, glaw di-baid a thir a oedd eisoes yn ddirlawn a’r canlyniad oedd dŵr yn llifo dros lan yr afon a dros amddiffynfeydd llifogydd.

·         Cadarnhaodd Dŵr Cymru/Welsh Water nad oedd dŵr wedi’i ryddhau o Gronfa Llyn Aled a Llyn Aled Isaf ac o ganlyniad nid oedd wedi cyfrannu at y llifogydd.

·         dengys cofnodion lefelau dŵr afonydd nad y llanw oedd achos y llifogydd yn Rhuddlan a Llanelwy.

 

Diweddarodd y pwyllgor ar lafar am gynnydd yr archwiliadau ym mhob un o’r 12 lleoliad gwahanol yn dilyn y llifogydd.   Gofynnodd yr aelodau gwestiynau am amryw agweddau’r broses archwilio er mwyn sicrhau bod pob llwybr yn cael ei archwilio a gofynnwyd am eglurhad am gyfrifoldebau’r rhai sy’n rhan o reoli a chynnal amddiffynfeydd llifogydd.  Darparodd Mr. Keith Ivens a Mr. Mark Pugh, Cyfoeth Naturiol Cymru, wybodaeth bellach am bwyntiau technegol a gynhwyswyd yn yr archwiliad a rôl Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o’r broses a’u cyfrifoldebau o ran risg llifogydd mewn perthynas â pharatoi, cynnal a chadw ac ymateb i ddigwyddiadau.   Yn ystod y drafodaeth fanwl codwyd y camau gweithredu canlynol -

 

·         roedd aelodau yn y rhannau eraill yn Rhuthun hefyd wedi cael eu gwrthod ar gyfer yswiriant neu’n wynebu premiwm gryn dipyn yn uwch o ganlyniad i ddigwyddiadau llifogydd hanesyddol a nododd yr aelodau y dylid hysbysu’r diwydiant yswiriant am effeithiolrwydd Cynllun Lliniaru Llifogydd Rhuthun gyda’r bwriad o sicrhau bod risg llifogydd yn cael ei asesu’n briodol yn yr ardaloedd hynny.

·         oherwydd diffyg cynhwysedd a chyfyngiadau yn ymwneud â cheuffosydd yn ardal Llanbedr DC mynegodd yr aelodau ardal y dylid archwilio a dylid  sicrhau bod pob cais cynllunio sy’n cael ei gyflwyno yn y dyfodol ar gyfer ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan lifogydd dŵr arwyneb yn cynnwys ceuffosydd/ceunentydd o faint digonol yn y cynlluniau cyn rhoi caniatâd cynllunio.

·         crybwyllwyd Cynllun Llifogydd Rhyl a Wardeniaid Llifogydd preswyl a chynigwyd y dylid darparu’r fenter arfer da hon i ardaloedd eraill y sir.

·         mynegodd yr aelodau y dylid gwneud ymholiadau gyda Llywodraeth Cymru fel Asiantaeth Cefnffyrdd a oedd y gwaith diweddar a wnaed ar yr A494 wedi effeithio ar sianeli draenio ar gyfer dŵr arwyneb.

·         cynigwyd y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn fwy blaenweithgar wrth roi hysbysebion gadael tai i breswylwyr mewn ardaloedd sy’n agored i risg llifogydd.

·         gofyn i swyddogion archwilio’r posibilrwydd o sefydlu grŵp aml-asiantaeth o’r holl fudd-ddeiliaid, gan gynnwys y Cyngor (swyddogion ac aelodau), Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, perchnogion tir a grwpiau pysgota, i gynllunio a gweithredu strategaeth reoli hir dymor er mwyn cynnal yr afon o’r tarddiad i’r glannau gyda’r bwriad o liniaru risgiau llifogydd yn y dyfodol, a

·         chytunwyd y dylid trefnu cyfarfod arall rhwng y Cynghorydd Alice Jones a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol, yr Uwch Beiriannydd, Rheoli Risg Llifogydd a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn trafod ei phryderon penodol gan gynnwys erydiad glannau’r afon yn Llanelwy ac effaith bosibl y llanw ar y digwyddiad o lifogydd ym mis Tachwedd 2012. Bydd adroddiad gwybodaeth am y drafodaeth yn cael ei gyflwyno cyn cyfarfod nesaf y pwyllgor.

[RM i weithredu’r camau gweithredu uchod]

 

PENDERFYNWYD– y dylid, yn amodol ar yr uchod, dderbyn a chymeradwyo’r adroddiad cynnydd am ddigwyddiadau llifogydd Tachwedd 2012.    

 

 

Dogfennau ategol: