Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYNNYDD YMGYRCH ATAL BAW CŴN

Ystyried adroddiad ar y cyd gan Y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden a’r Rheolwr Cyfathrebu y Rheolwr Corfforaethol a Rheolwyr Marchnata (copi wedi’i amgáu) ynglŷn â chynnydd Ymgyrch Atal Baw Cŵn a’r cynlluniau i symud ymlaen.

11.20 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden a’r Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol adroddiad ar y cyd (cylchredwyd yn flaenorol) ynglŷn â chynnydd yr Ymgyrch Atal Baw Cŵn yn dilyn y lansiad meddal ym mis Chwefror. 

 

Rhoddodd swyddogion fanylion ar y gweithgareddau a gyflawnwyd hyd yn hyn i fynd i’r afael â materion baw cŵn gan gynnwys yr ymgyrch farchnata sylweddol a’r ymdrech i addysgu pobl ynghyd â chamau gorfodi cadarn er mwyn lleihau'r nifer o achosion.  Nodwyd a monitrwyd ardaloedd problemus allweddol a chynlluniwyd nifer o weithgareddau ategol ar gyfer y dyfodol.  Dangoswyd cyflwyniad power point hefyd yn rhoi manylion deunyddiau hyrwyddo/sylw yn y wasg; y cynllun marchnata a mapio ardaloedd problemus.  Rhoddwyd yr ystadegau diweddaraf a gasglwyd gan y System Reoli Gwasanaethau Cwsmeriaid a galwadau i’r rhif ffôn Rhadffôn hefyd.  Roedd yr ymgyrch farchnata’n cynnwys ymagwedd fwydo fesul dipyn er mwyn parhau i atgyfnerthu’r neges ac annog cymunedau i gymryd rhan a rhoi gwybod am broblemau.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd fanylion yr ymagwedd orfodi lle cyflogwyd Kingdom Security Services i fynd i’r afael â phroblemau yn wneud â baw cŵn ac ysbwriel.  Roedd Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi gorchymyn  Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Rheolwyr Rhawd Gymunedol i roi rhybuddion cosb benodol a rhoi gwybod i’r cyngor am ardaloedd problemus.

 

Croesawodd aelodau'r Ymgyrch Atal Baw Cŵn fel ffordd ragweithiol o fynd i’r afael â baw cŵn o fewn y sir ynghyd â chamau gweithredu cadarn.  Roedd y pwyllgor yn falch i nodi'r mesurau a gymerwyd i gynnwys y cyhoedd a’r atborth positif a dderbyniwyd ynghyd â’r cynnydd yn y nifer o ddigwyddiadau â riportiwyd er mwyn canfod ardaloedd problemus a thargedu troseddwyr.  Yn ystod y drafodaeth cymerodd aelodau’r cyfle i gwestiynu’r swyddogion ynglŷn ag agweddau amrywiol o’r ymgyrch a gofynnwyd am fanylion pellach ynglŷn â chamau gorfodi a chostau cyffredinol.  Codwyd y pryderon a’r sylwadau a ganlyn -

 

·         yr angen i dargedu ardaloedd gwledig fel rhan o’r ymgyrch a chymryd camau gorfodi a phatrolau amlwg iawn yn yr ardaloedd hynny i atal troseddwyr

·         amlygwyd problemau cyson yn Moel Famau a’r angen i godi’r mater gyda rheolwyr yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) i fynd i’r afael â’r mater, yn benodol gwrthwynebiad yr AHNE i osod biniau sbwriel yn yr AHNE

·         trafferth dod o hyd i finiau cŵn mewn mannau problemus wedi ei nodi gan aelodau

·         yr angen am batrolau gorfodi cudd a rhai amlwg iawn a swyddogion proffesiynol a chwrtais

·         pryderon ynglŷn â chŵn strae ac achosion lle'r oedd perchnogion yn caniatáu i’w cŵn grwydro heb eu goruchwylio

·         bodolaeth hen arwyddion mewn cymunedau a allai achosi dryswch

·         pwysigrwydd cynnwys y gymuned er mwyn cydweithio i fynd i’r afael â phroblemau baw cŵn

·         yr angen i adolygu effeithiolrwydd yr ymgyrch a chostau cysylltiedig

·         pryder fod nifer o rybuddion cosb benodol a roddwyd am ysbwriel yn llawer uwch na’r rhai a roddwyd ar gyfer baw cŵn

·         trafodwyd o blaid gwneud rhagor o ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol fel arf marchnata, a

·         manylodd aelodau ar nifer o ardaloedd problemus yn eu cymunedau a fyddai’n elwa o gael biniau cŵn a chamau gorfodi a gwnaed ceisiadau am lenyddiaeth i’w rhannu yn eu hardaloedd.

 

Cydnabu swyddogion bwyntiau’r aelodau ac ymatebwyd fel a ganlyn -

 

·         rhoddwyd gwybod am raglen o adleoli arwyddion a deunydd hyrwyddo o amgylch y sir gan dargedu ardaloedd problemus a monitro’r effaith

·         ystyriwyd gorchmynion rheoli cŵn fel modd delio ag ardaloedd problemus penodol y gellid eu gweithredu mewn safleoedd fel Moel Famau/AHNE

·         prynwyd 119 o finiau cŵn i’w gosod mewn ardaloedd a nodwyd gan aelodau

·         cynhaliwyd cymysgedd o batrolau gorfodi cudd a rhai amlwg iawn fel oedd yn briodol yn dibynnu ar yr amgylchiadau

·         roedd swyddogion gwarchod y cyhoedd eraill yn gyfrifol am gasglu cŵn strae a byddent yn croesawu unrhyw wybodaeth o’r natur hwnnw ac yn gweithredu arno

·         ar ôl cyflwyno gorchmynion rheoli cŵn byddai adolygiad o arwyddion yn cael ei gynnal er mwyn sicrhau eu bod yn briodol ac yn berthnasol

·         croesawyd cyfraniad y gymuned ehangach i fynd i’r afael â’r problemau hyn a rhoddwyd nifer o esiamplau o gynlluniau yn cynnwys ysgolion a chynghorau tref/cymuned y gellid eu hannog

·         y bwriad i adolygu effeithiolrwydd yr ymgyrch ar ôl chwe mis ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor ar y canfyddiadau

·         nodwyd yr ardaloedd problemus a nodwyd gan aelodau a cheisiadau am lenyddiaeth hyrwyddo.

 

O safbwynt costau a chynhyrchu incwm yn gysylltiedig â dyletswyddau gorfodi, rhoddwyd gwybod fod incwm rhybuddion cosb benodol yn cael eu rhannu rhwng Kingdom Security Services (KSS) £45 a’r Cyngor £30.  KSS oedd yn adennill y dirwyon ond cyfeiriwyd achosion o beidio talu at y Gwasanaethau Cyfreithiol er mwyn eu herlyn.  Clywodd swyddogion hefyd fod swyddogion KSS yn derbyn cyflogaeth ond fod elfen o’u tâl yn dibynnu ar berfformiad.  Yn dilyn trafodaeth bellach -

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       yn amodol ar sylwadau'r aelodau uchod, y dylid derbyn a nodi'r adroddiad yn amlygu cynnydd ac effaith yr ymagwedd o fynd i’r afael â baw cŵn yn y sir, a

 

(b)       dylid derbyn adroddiad cynnydd pellach gan y pwyllgor mewn oddeutu chwe mis i gynnwys costau llawn yr ymgyrch a’r camau gorfodi, effaith yr ymgyrch, ystadegau, gwybodaeth am y nifer o achosion cyfreithiol a gafwyd/heb eu datrys, a chymhariaeth ar y nifer o rybuddion cosb benodol a roddwyd ar gyfer baw cŵn ac ysbwriel.  [Hywyn Williams / Jamie Groves / Gareth Watson / Vicki Shenton-Morris / Emlyn Jones i weithredu]

 

Ar y pwynt hwn gadawodd y Cadeirydd y cyfarfod a Chadeiriodd yr Is Gadeirydd, y Cynghorydd Huw Williams yr eitemau oedd yn weddill ar y rhaglen.

 

 

Dogfennau ategol: