Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWYBODAETH DDIWEDDARAF Y RHYL YN SYMUD YMLAEN

Ystyried adroddiad, sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol, gan Reolwr Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi wedi’i amgáu) er mwyn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Adfywio Y Rhyl yn Symud Ymlaen.

10.10 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Y Rhyl yn Symud Ymlaen (RGFM) adroddiad (oedd wedi ei gylchredeg yn flaenorol) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar Strategaeth Adfywio Y Rhyl yn Symud Ymlaen (RGF).  Roedd y strategaeth yn cynnwys y pedair ffrwd waith a ganlyn -

 

·         Ardal Adfywio Gorllewin Y Rhyl

·         Canol y Dref

·         Glan y Môr a Thwristiaeth

·         Byw a Gweithio yn Y Rhyl

 

Rhoddodd yr RGFM esboniad pellach ar bob un o’r ffrydiau gwaith gan roi crynodeb o’r prif nodau ac amcanion ar gyfer y meysydd penodol; cynnydd i gyflawni’r targedau hynny, ac ystyriaeth i’r dyfodol.  Ymatebodd i nifer o faterion a godwyd gan aelodau wrth drafod eu hadroddiad diweddaru diwethaf.

 

Holodd yr aelodau'r RGFM ynglŷn â chynnydd mewn prosiectau unigol a gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn â chanlyniadau i’r dyfodol ar gyfer datblygiadau penodol.  Ymatebodd fel a ganlyn -

 

·         eglurodd y diffyg cynnydd wrth ddatblygu safle Ocean Plaza oherwydd materion yn ymwneud â chyflenwad trydan a risg llifogydd

·         cadarnhaodd y bydd y gwaith o ddymchwel yr Honey Club yn digwydd yn fuan iawn ar ôl cwblhau mater cytundebol sydd angen ei ddatrys

·         bydd yr ymchwiliad cyhoeddus i’r gorchymyn prynu gorfodol ar eiddo yng Ngorllewin Y Rhyl yn dechrau ym mis Mai a gobeithiwyd y byddai ail gam o ddymchwel i greu gofod gwyrdd yn cael ei gwblhau ddiwedd mis Mai

·         disgwyliwyd cynlluniau diwygiedig ar gyfer cam nesaf y gwaith amddiffyn arfordirol er mwyn asesu'r posibilrwydd o adleoli’r Parc Sglefrio i’r ardal honno

·         cadarnhawyd fod gorchymyn pryniant gorfodol wedi ei wneud ar gyfer yr arcêd oedd wedi llosgi i lawr ar y promenâd ac roedd ymchwiliad cyhoeddus wedi ei drefnu at fis Mehefin ac roedd trafodaethau yn parhau i gaffael yr eiddo

·         rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf ar ddyfodol yr Heulfan a’i chyflwr presennol a deialog rhwng y Cyngor a Clwyd Leisure Limited yn y cyswllt hwnnw; gobeithiwyd y byddai'r Heulfan yn parhau i weithredu gyhyd â phosibl nes y bydd cynigion newydd yn cael eu datblygu; roeddynt yn dal i aros am gadarnhad ynglŷn â dyddiad agor diwygiedig tymor 2013.

 

Trafododd aelodau eu pryderon ynglŷn â chanol y dref ac effaith gwerthu ar-lein; colli siopau yn gyffredinol gan gynnwys dau fanwerthwr blaenllaw i ddatblygiad manwerthu newydd Prestatyn, ac roeddynt yn pryderu nad oedd amcanion wedi'u datblygu a’u cytuno arnynt i fynd i’r afael â’r materion hyn.  Gofynnodd y pwyllgor am sicrwydd fod cynlluniau’n cael eu datblygu i gefnogi a denu busnes ac amlygu’r angen i ddenu'r math cywir o fusnes i wella'r dref ac yn ychwanegu at y ddarpariaeth bresennol a sicrhau parhad a chynaladwyedd y busnesau.  Cadarnhaodd yr RGFM yr angen i ddatblygu strategaeth adfywio gydlynol mor fuan â phosibl ac adroddodd ar ystod o gynlluniau oedd yn cael eu hystyried gan gynnwys gostwng trethi busnes, adolygu parcio a gwelliannau i Farchnad Y Rhyl.  Cyfeiriodd at ariannu posibl yn y dyfodol o Fframwaith Adfywio Newydd Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â materion o’r fath yn y dref.  Amlygodd y pwyllgor bod y problemau sy’n wynebu canol tref Y Rhyl yn cael eu hailadrodd ar draws y sir a chyfeiriodd y Cadeirydd at ei bresenoldeb mewn Gweithdy Uchelgais Economaidd ar y diwrnod cynt pan drafodwyd yr un materion, a dywedodd fod gwaith hefyd yn cael ei gyflawni yn y fforwm hwnnw i fynd i’r afael â nhw.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Bob Murray at effaith niweidiol ar Stryd Fawr Prestatyn ers i’r parc manwerthu newydd agor a dywedodd bod gwaith hefyd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem honno.

 

Amlygwyd hefyd bwysigrwydd addysg fel rhan o’r strategaeth byw a gweithio a chyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cwsmeriaid at effaith ysgolion da ac addysg o ansawdd ar yr economi.  Ymatebodd i gwestiynau ynglŷn â chyflwr gwael hanesyddol adeilad Ysgol Uwchradd Y Rhyl a’r cynlluniau i ddatblygu adeilad ysgol newydd a oedd yn symud yn eu blaen yn dda.  Ychwanegodd fod ansawdd yr addysg uwchradd a ddarparwyd yn ardal Y Rhyl wedi gwella.

 

Yn olaf, trafododd aelodau fynediad ffyrdd i’r dref a chyfeiriodd yr RGFM at y mannau croesi cyfyngedig o ganlyniad i’r rheilffordd.  Roedd cost creu ffordd fynediad newydd yn rhy uchel ond roedd dulliau eraill o reoli traffig yn cael eu hystyried er mwyn lleddfu tagfeydd a chynorthwyo llif traffig.

 

I gloi, teimlai’r Cadeirydd y byddai rhinwedd i gynhyrchu un ddogfen strategol cyffredinol yn rhoi manylion am weledigaeth ar gyfer y Rhyl a chytunwyd i dderbyn y ddogfen hon gyda’r adroddiad cynnydd nesaf.  Amlygodd hefyd yr angen i ddatblygu amcanion ar gyfer Canol y Dref ac elfennau Byw a Gweithio fel mater brys.

 

Canmolodd y pwyllgor yr RGFM ar ei waith a llwyddiannau hyd yn hyn o ran gweithredu strategaeth adfywio’r Rhyl.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       dylid derbyn a nodi’r adroddiad cynnydd ar gyflwyno Strategaeth Adfywio Y Rhyl yn Symud Ymlaen, a

 

(b)       dylai’r Pwyllgor dderbyn adroddiad cynnydd pellach ym mis Gorffennaf a fyddai’n cynnwys dogfen strategol gyffredinol yn rhoi manylion y weledigaeth tymor hir ar gyfer Y Rhyl.  [Tom Booty i weithredu]

 

 

Dogfennau ategol: