Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

EFFEITHLONRWYDD Y GWEITHLU

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Adnoddau Dynol (copi’n amgaeëdig) yn manylu’r arbedion sydd eu hangen i gyflawni’r Effeithlonrwydd Gweithlu a nodwyd yn y Gyllideb a’r broses a gynigir ar gyfer cyflawni’r arbedion hynny.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, yr Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad yr adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) oedd yn manylu ar yr arbedion sydd angen eu gwneud er mwyn cyflawni’r toriadau effeithlonrwydd yn y gweithlu a ddynodwyd yn y Gyllideb ac ar y broses a gynigiwyd ar gyfer gweithredu’r arbedion hynny tra bo’r Cyngor yn methu â dod i gytundeb gwirfoddol gyda’r undebau llafur.  Nododd ei bod hi wedi cael gwybod ei bod yn fwriad gan yr undebau llafur i nodi fod anghydfod ynglŷn â’r broses.

 

Cydnabu’r Cynghorydd Hugh Evans fod gan yr aelodau benderfyniad anodd i’w gwneud mewn perthynas â’r effaith ar staff ac eglurodd y rhesymeg sydd wrth wraidd yr argymhellion a’r mesurau er mwyn sicrhau y byddai’r isaf eu cyflog yn cael eu hamddiffyn yn briodol.  Tynnodd sylw at y ffaith fod cynigion i gael gwared ar y lwfans defnyddwyr car hanfodol yn gyson â sefyllfa awdurdodau eraill yng Nghymru a bod 16 ohonynt eisoes wedi cael gwared ar y lwfans.  Pe gelwir proses o anghydfod cenedlaethol, teimlai y dylai’r Cyngor gymryd rhan lawn ynddi ac nid oedd unrhyw fwriad i roi’r gorau i drafod gyda’r undebau llafur yng ngoleuni'r argymhellion.  Fel y gallai'r aelodau wneud penderfyniad gwybodus gofynnodd am eglurder ynglŷn â'r broses i sicrhau ei bod yn glir, yn dryloyw ac yn deg â staff.

 

Bu i’r Prif Weithredwr dywys yr aelodau trwy’r adroddiad mewn manylder a sôn ymhellach am yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, am yr angen i wneud arbedion yn y gweithlu, am yr ymgynghori a’r trafod estynedig oedd wedi digwydd ac am y rhesymau y tu ôl i’r ffordd fwriedig o weithredu.  Cyflwynodd fanylion ynglŷn â’r pecyn terfynol sydd wedi ei gynnig ar gyfer toriadau effeithlonrwydd yn y gweithlu sy’n cynnwys y canlynol -

 

· cael gwared â statws/cydnabyddiaeth defnyddiwr car hanfodol

· newid cyfraddau milltiroedd i fod yn unol â chyfraddau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi sydd yn 45c y filltir.

· lleihau'r cyfnod o dalu am filltiroedd aflonyddu o 4 blynedd i flwyddyn.

· lleihau’r cyfnod o amddiffyn cyflog o 3 blynedd i flwyddyn

 

Wrth fanylu ar y camau nesaf roedd y Prif Weithredwr yn awyddus i bwysleisio fod y cynigion yn rhesymol yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni a chefnogodd yr argymhellion y manylir arnynt o fewn yr adroddiad.  Gofynnodd i’r Cyngor wneud penderfyniad gan dynnu sylw at y goblygiadau o ran cost fyddai’n deillio o unrhyw oedi.

 

Tra’i bod yn derbyn bod angen gwneud arbedion, nododd y Cynghorydd Joan Butterfield mai ased fwyaf gwerthfawr y Cyngor oedd ei staff a’u bod hwythau hefyd yn wynebu cyfnod anodd yn ariannol a’u bod wedi eu digalonni a bod eu gwerth wedi cael ei ddibrisio.  Nid oedd yn cytuno gyda’r dull gweithredu arfaethedig i roi’r arbedion effeithlonrwydd gweithlu sydd wedi eu dynodi ar waith ac roedd yn teimlo y dylid gwneud mwy i ennyn derbyniad ar y cyd trwy gytundeb cyfeillgar.  Nododd ei bod yn aelod o’r Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol (CBYLl) gan nodi mai’r fforwm hwn yw'r lle mwyaf priodol i gael trafodaeth ystyrlon ynglŷn â’r pwnc.  O ganlyniad fe gynigiodd, ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Barry Mellor, y dylid cyfeirio’r mater at y CBYLl i’w drafod ymhellach ac ymgynghori yn ei gylch yn y cyfarfod a gynhelir ar 24 Ebrill a bod adroddiad pellach yn mynd ger bron y Cyngor ar 7 Mai er mwyn gallu gwneud penderfyniad.

 

Cafwyd llawer o gefnogaeth i gynnig y Cynghorydd Butterfield a manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i leisio eu pryderon ynglŷn â’r effaith ar staff a nodi mai cytundeb ar y cyd ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig fyddai’n cael ei ffafrio ganddynt er mwyn cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol.   Ceisid gwybodaeth bellach hefyd ynglŷn â’r dulliau gweithredu y mae awdurdodau eraill yng Nghymru wedi eu defnyddio pan fo cynigion tebyg eisoes wedi cael eu rhoi ar waith a allai gyfoethogi trafodaeth ac amlygu’r arfer orau mewn achosion pan lwyddwyd cael cytundeb ar y cyd.  Lleisiodd aelodau’r CBYLl eu pryderon nad oedd y cynigion effeithlonrwydd terfynol wedi cael eu dwyn ger bron y fforwm i'w hystyried nac ychwaith y cynigion amgen a awgrymwyd gan yr undebau llafur er mwyn cyflawni’r arbedion angenrheidiol.   Gwnaed cais i’r wybodaeth hon gael ei chynnwys hefyd yn yr hyn a gyflwynir ger bron y CBYLl er mwyn cyfrannu ymhellach at y drafodaeth.

 

O ystyried y cwestiynau a ofynnwyd ynglŷn ag eglurder y broses, cytunodd Y Cynghorydd Hugh Evans y dylid trafod y mater yn y CBYLl cyn argymell penderfyniad terfynol i’r Cyngor a chwestiynodd beth fyddai goblygiadau gohirio’r penderfyniad i roi'r cynigion ar waith.  Awgrymodd y Cynghorydd Butterfield y dylid defnyddio arian a oedd wedi ei roi i’r naill ochr i ariannu codiad i staff yn 2012/13.  Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fod y dyraniad hwnnw eisoes wedi cael ei ddefnyddio i ariannu toriadau effeithlonrwydd gweithlu a chofrestru awtomatig ar gyfer pensiynau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Win Mullen-James bleidlais wedi ei chofnodi ynglŷn â chynnig y Cynghorydd Butterfield ac yn dilyn cytuno ar y nifer angenrheidiol o aelodau, cynhaliwyd pleidlais wedi ei chofnodi.  Pleidleisiodd pob aelod a oedd yn bresennol o blaid y cynnig a PHENDERFYNWYD -

 

Cyfeirio’r mater at y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol i’w drafod ymhellach ac ymgynghori yn ei gylch yn y cyfarfod a gynhelir ar 24 Ebrill a bod adroddiad pellach yn mynd ger bron y Cyngor ar 7 Mai er mwyn gallu gwneud penderfyniad.

 

Ar y pwynt hwn (11.50 a.m.) cymerodd y Cyngor egwyl.

 

 

Dogfennau ategol: