Eitem ar yr agenda
GWE-DDARLLEDU A MYNYCHU O BELL
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd (copi’n amgaeëdig) ar weithredu’r system bleidleisio electronig yn
Siambr y Cyngor a goblygiadau cyfansoddiadol newid sut caiff ei defnyddio.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd, yn amlinellu cynigion a wnaed gan Lywodraeth Cymru
ynghylch gwe-ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor a gallu Aelodau i fynychu
cyfarfodydd o bell, wedi cael ei gylchredeg yn flaenorol.
Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi trefnu bod £1.2m
ar gael i Awdurdodau Lleol (ALl) i’w cynorthwyo i weithredu trefn o
we-ddarlledu cyfarfodydd Cynghorau a threfn lle mae Aelodau’n mynychu
cyfarfodydd o bell. Byddai gan bob ALl hawl i grant o £20,000 ar gyfer
gwe-ddarlledu ac £20,000 ar gyfer mynychu o bell ac roedd manylion y broses
we-ddarlledu wedi cael eu hamlinellu yn yr adroddiad. Byddai grant LlC ar gael
am un flwyddyn yn unig heb warant o gyllid yn y dyfodol. Yn ogystal â ffioedd trwyddedu
meddalwedd fe allai fod angen adnoddau ychwanegol i weithredu’r system o ran
rhoi cymorth i boblogi’r llinell amser o ddeunydd wedi’i archifo.
Roedd LlC a CLlLC wedi hwyluso cyfarfodydd gyda
Swyddogion Gwasanaethau Democrataidd i drafod mater gwe-ddarlledu ac roedd
arddangosiad wedi cael ei roi i ddangos sut yr oedd un o’r systemau’n gweithio.
Eglurwyd y byddai’n bosib gwe-ddarlledu yn y fath fodd fel bod gwasanaethau
cyfieithu ar gael. Nid oedd unrhyw rwymedigaethau statudol ar Gynghorau i
we-ddarlledu cyfarfodydd ond roedd y gwasanaeth wedi dod yn arfer mwy cyffredin
ymhlith ALl’au a byddai gwe-ddarlledu’n gwneud cyfarfodydd yn fwy hygyrch i’r
cyhoedd. Fe amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y
manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â gwe-ddarlledu cyfarfodydd y
Cyngor ac fe ymatebodd i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Roedd yr adroddiad yn darparu manylion sut y
byddai’r penderfyniad yn cyfrannu at Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor, y
goblygiadau o ran cost, y broses ymgynghori ac unrhyw risgiau a phrosesau a
gyflwynir i fynd i’r afael â hwy. Fe ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd i gwestiwn gan Mr P. Whitham ac fe gadarnhaodd fod y
dechnoleg wedi cael ei sefydlu i gyflwyno gwasanaeth gwe-ddarlledu. Fodd
bynnag, byddai risgiau posib i’r Awdurdod pe bai unrhyw anghysonderau technegol
a allai fwrw amheuaeth ar ganfyddiad y cyhoedd am y Cyngor. Fe eglurodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gallai’r offer sydd eisoes
wedi’u gosod gan Sir Ddinbych ostwng y costau cychwynnol a fyddai’n
gysylltiedig â rhoi’r system ar waith, ond dim ond yn Siambr y Cyngor yr oedd
yr offer wedi cael eu sefydlu. Roedd y Pwyllgor yn cytuno â’r farn a fynegwyd
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y dylai arddangosiad o’r
system we-ddarlledu gael ei gyflwyno i gyfarfod Briffio’r Cyngor.
Aeth Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd ymlaen i grynhoi darpariaethau Adran 4, Mesur Llywodraeth Leol
(Cymru) 2011, sy’n nodi nad yw cyfeiriad yn unrhyw statud at gyfarfod gan yr
ALl wedi’i gyfyngu i gyfarfod rhwng pobl sy’n bresennol yn yr un lle. Roedd
Aelod o ALl nad oedd yn bresennol yn y lle y cynhelir cyfarfod gan yr Awdurdod
hwnnw’n cael ei ystyried yn ‘Aelod sy’n mynychu o bell’ os oedd nifer o
amodau’n cael eu bodloni ac roedd y rhain yn cynnwys:-
(a)
roedd yr Aelod a oedd yn mynychu o bell yn gallu, ar yr
amser hwnnw:
(i)
gweld a chlywed, a chael ei (g)weld a’i g/chlywed gan, yr
Aelodau a oedd yn bresennol mewn gwirionedd;
(ii)
gweld a chlywed, a chael ei (g)weld a’i g/chlywed gan,
unrhyw Aelodau o’r cyhoedd a oedd â hawl i fynychu’r cyfarfod ac a oedd yn
bresennol yn y lle hwnnw ac sy’n arfer hawl i siarad yn y cyfarfod, a hefyd
(iii) cael ei (g)weld
a’i g/chlywed gan unrhyw Aelodau eraill o’r cyhoedd a oedd â hawl i fynychu ac
sy’n bresennol yn y cyfarfod.
(b)
roedd yr Aelod a oedd yn mynychu o bell yn gallu, ar yr
amser hwnnw, clywed, a chael ei g/chlywed gan, unrhyw Aelod arall a oedd yn
mynychu o bell ac yr oedd amodau paragraff (a) yn cael eu bodloni mewn
perthynas ag ef/ â hi ar y pryd, a hefyd
(c)
nid oedd defnydd o
gyfleusterau a oedd yn galluogi’r amodau ym mharagraffau (a) a (b) i gael eu
bodloni mewn perthynas â’r aelod a oedd yn mynychu o bell wedi’i wahardd gan y
rheolau sefydlog nac unrhyw reolau eraill gan yr awdurdod a oedd yn rheoli’r
cyfarfod.
Eglurwyd na fyddai cworwm ar gyfer cyfarfod ar
unrhyw adeg pan oedd nifer yr Aelodau a oedd yn mynychu o bell yn hafal i,
neu’n fwy na, nifer yr Aelodau a oedd yn bresennol mewn gwirionedd. Nid oedd
Adran 4 o’r Mesur wedi cael ei chyflwyno eto ond roedd arwyddion y byddai yn
ddiweddarach yn y flwyddyn. Roedd anawsterau’n gysylltiedig â chyflwyno’r
broses mynychu o bell ac nid oedd yn glir y byddai system a fyddai’n galluogi
nifer fawr o bobl i fynychu o bell yn ddichonadwy.
Roedd materion llywodraethu i’w hystyried yn
ymwneud â’r canlynol:-
- cyfrinachedd
trafodion Rhan II;
- y
potensial y byddai penderfyniadau’n cael eu herio pe bai’r dechnoleg yn methu
ac aelodau a oedd yn dymuno mynychu o bell yn methu â bod yn bresennol a
phleidleisio;
- y
potensial ar gyfer cyfarfodydd heb gworwm oherwydd y cydbwysedd rhwng aelodau
sy’n mynychu o bell a’r rheiny sy’n bresennol yn gorfforol yn y cyfarfod.
Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai angen i reolau a
gweithdrefnau sefydlog y Cyngor gael eu diwygio i ddarparu ar gyfer y materion
a amlygwyd.
Cafodd y materion canlynol eu codi gan Aelodau ac
fe ddarparwyd ymatebion gan swyddogion:-
-
Y posibilrwydd y byddai Aelodau’n mynychu ar gyfer un
eitem ar yr agenda yn unig.
-
Byddai Aelodau a fynychodd o bell yn cael eu cynnwys yn
nosbarth y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod mewn perthynas â chofnodion
presenoldeb Aelodau.
-
Fe amlygodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y problemau
technegol posib y gellid eu hwynebu ac fe eglurodd fod pryderon wedi cael eu
mynegi ynghylch argaeledd technoleg i ateb gofynion deddfwriaethol.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y defnydd posib o fideo-gynadledda gyda
chyfleusterau’n cael eu darparu mewn un lleoliad penodol, a allai oresgyn
unrhyw broblemau technegol a risgiau y gellid eu hwynebu gan y byddai staff yn
bresennol i roi sylw i unrhyw faterion technegol a allai godi. Fe eglurodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gallai darparu
cyfleusterau fideo-gynadledda ateb y gofynion deddfwriaethol, ac yn dilyn
trafodaeth fanwl fe gytunodd y Pwyllgor y dylai adroddiad ar ddefnyddio
fideo-gynadledda gael ei gyflwyno i gyfarfod Briffio’r Cyngor i’r Aelodau ei
ystyried.
PENDERFYNWYD – fel a
ganlyn:-
(a)
bod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol yn cytuno y byddai arddangosiad o’r system we-ddarlledu’n cael ei
gyflwyno i gyfarfod Briffio’r Cyngor, a hefyd
y dylai adroddiad ar ddefnyddio fideo-gynadledda gael ei gyflwyno i gyfarfod Briffio’r Cyngor.
Dogfennau ategol: