Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CORFFORAETHOL 2012/17 - Chwarter 3

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith (mae copi ynghlwm) sy’n cyflwyno diweddariad trydydd chwarter ar waith cyflwyno Cynllun Corfforaethol 2012-17.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD - y Cabinet i dderbyn yr adroddiad a nodi sylwadau’r Aelodau yn ymwneud â’r materion perfformiad a godwyd. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd B.A. Smith yr adroddiad, a ddosbarthwyd eisoes, fel yr oedd ar ddiwedd Rhagfyr 2012, yn rhoi diweddariad y trydydd chwarter ar ddarparu’r Cynllun Corfforaethol 2012-17.

 

Byddai adrodd yn rheolaidd yn ofyniad monitro hanfodol o’r Cynllun Corfforaethol i sicrhau bod y cyngor yn gweithredu ei ddyletswydd i wella. Cyflwynodd y Cynghorydd B.A. Smith yr adroddiad a rhoddodd grynodeb o'r Atodiad a oedd yn manylu ar bob canlyniad yn y Cynllun Corfforaethol a oedd yn cynnwys:-

 

·                     Datblygu'r economi leol

·                     Gwella perfformiad mewn addysg ac ansawdd adeiladau ein hysgolion

·                     Gwella ein ffyrdd

·                     Mae pobl ddiamddiffyn yn cael eu gwarchod ac yn gallu byw mor annibynnol â phosibl

·                     Strydoedd glân a thaclus

·                     Sicrhau mynediad at dai o ansawdd da

·                     Moderneiddio’r cyngor i sicrhau arbedion a gwella gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid

 

Ymatebodd y Rheolwr Tîm Gwella Corfforaethol (RhTGC) i gwestiynau oddi wrth Aelodau a chyfeiriodd at y diffiniad statws codau lliw ar dudalen 57. Roedd pob dangosydd a mesur perfformiad wedi cael statws yn disgrifio'r sefyllfa bresennol ac roedd y lliw yn rhoi disgrifiad o’r statws. 

 

Eglurwyd bod hwn yn Gynllun Corfforaethol pum mlynedd a bod statws y dangosyddion unigol a’r mesurau perfformiad yn cael eu cefnogi gan ddata ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Roedd y meysydd canlynol lle efallai bod angen gwaith pellach wedi eu hamlygu yn yr adroddiad:-

 

-        Nid yw’r gwaith i ffurfioli cynlluniau ar gyfer cyrbau is wedi symud ymlaen ac roedd wedi’i gynnwys yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor a’r Cynllun Corfforaethol. Cytunodd y Cynghorydd D.I. Smith fynd ar drywydd pryderon a godwyd gan y Cynghorydd J.R. Bartley mewn perthynas â ffyrdd heb eu mabwysiadu a materion cynllunio yn ymwneud â darparu cyrbau is yn ardal datblygiadau ar gyfer pobl anabl.

 

-               Roedd canran y disgyblion sy’n gadael yr ysgol heb gymhwyster cymeradwy yn “flaenoriaeth ar gyfer gwella” ac angen ymdrechion parhaus i wella hyn i statws “derbyniol”. Cadarnhaodd y RhTGC y byddai disgyblion yn gadael yr ysgol heb gymhwyster cymeradwy am resymau tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod a thynnodd sylw'r Aelodau at baragraff 4.1.7 o'r adroddiad. Pwysleisiodd y byddai'n bwysig darparu sicrwydd fod pob cam posibl wedi’i gymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn. Eglurodd CC:C byddai adnabod y problemau yn gynnar yn hanfodol a theimlai’r Cynghorydd E.W. Williams byddai'r gwelliannau a gyflawnwyd yn Ysgol Uwchradd y Rhyl yn cael effaith gadarnhaol ar y ffigyrau a gynhyrchwyd. Ymatebodd y Cynghorydd Williams i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd P. Penlington gan esbonio byddai materion ynghylch lefelau cymhwyster yn cael ei ystyried mewn Gweithdy i'w gynnal ar 21 Mai, 2013.

 

-        Roedd cyflwyno’r holl rybuddion cosb benodol wedi bod yn fwy na’r disgwyl, ond roedd cyflwyno rhybuddion cosb benodol ar gyfer baw cŵn wedi cael ei amlygu fel “blaenoriaeth ar gyfer gwella” gyda data yn awgrymu mai 2% yn unig o’r holl rybuddion cosb benodol a gyflwynwyd oedd yn ymwneud â baw cŵn. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd D. Simmons bod ardal Y Rhyl wedi cael ei thargedu, eglurodd y PW bod adnoddau wedi cael eu canolbwyntio ar ardaloedd lle nodwyd bod problemau gwrthgymdeithasol. Cadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw bryderon ynghylch rhybuddion cosb benodol a bod y fframwaith perfformiad wedi bod yn dda. Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi datgan eu bod yn fodlon ar y gwaith a wnaed ac wedi mynegi eu cefnogaeth i'r fenter a gyflwynwyd. Bu gostyngiad sylweddol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwelliant cyffredinol yn yr amgylchedd, a bwysleisiodd arwyddocâd a phwysigrwydd y prosiect. 

-               Wedi’i nodi fel "blaenoriaeth ar gyfer gwella" oedd canran y cyfarfodydd grŵp craidd cychwynnol a gynhaliwyd o fewn 10 diwrnod i’r gynhadledd amddiffyn plant cychwynnol, a oedd yn bwysig gan ei fod yn amlygu diogelu plant drwy brydlondeb cyfarfodydd grŵp craidd. Roedd perfformiad wedi bod yn gwella drwy gydol y flwyddyn ond roedd angen iddo barhau i wella o tua 10% i sicrhau statws "derbyniol".

-               Roedd penderfynu ar geisiadau cynllunio deiliad tai ar amser wedi gwaethygu gan ddangos bod angen parhau i ganolbwyntio ar benderfynu ar geisiadau cynllunio’n brydlon.

Amlygodd yr ymdrechion cydlynu i ddwyn ynghyd yr wybodaeth a oedd ei hangen i baratoi adroddiad o’r fath fylchau mewn data, ac yn bwysicach, fylchau yn strwythur y blaenoriaethau ynghylch economi, moderneiddio a thai. Byddai angen darn cyffredinol o waith i hyrwyddo data a mynegi’n glir uchelgais y cyngor ar gyfer y Cynllun Corfforaethol. Deallwyd y sefyllfa gyfredol ar gyfer y mwyafrif o’r dangosyddion a’r mesurau perfformiad yn y Cynllun Corfforaethol. Fodd bynnag, byddai angen gwell dealltwriaeth o uchelgais y Cyngor ar gyfer y dyfodol. Byddai hyn yn helpu’r Cyngor i ddeall a dilyn cynnydd tuag at ei uchelgais a helpu gydag adrodd, gan nad oedd nifer o ganlyniadau’n disgwyl gwelliannau’n syth. Byddai parhau i adrodd ynghylch rhywbeth fel "blaenoriaeth ar gyfer gwella" heb ddeall os oeddent yn dilyn y trywydd cywir i gyflawni eu huchelgais tymor hir yn gallu edrych yn gritigol heb fod angen hynny.

 

Roedd yr Arweinydd yn teimlo bod y Cynllun Corfforaethol wedi chwarae rhan sylweddol mewn llwyddiant a chyflawniadau'r Cyngor a phwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau bod pawb yn deall eu rolau penodol o fewn y broses. Cyfeiriodd at bryderon a godwyd yn y Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn ddiweddar ynglŷn â dilysrwydd yr wybodaeth yn yr adroddiad ac eglurodd fod yr Aelodau Arweiniol priodol a Phenaethiaid Gwasanaeth wedi cytuno ar yr Amcanion Allweddol a’u bod yn ymwybodol o'r Dangosyddion Perfformiad fel y cawsant eu cyflwyno. Tynnodd sylw at rôl sylweddol y Pwyllgor Archwilio yn y broses a chadarnhaodd y dylai unrhyw feysydd sy'n peri pryder gael eu herio a'u monitro drwy'r sianelau priodol.      

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd B.A. Smith at bryderon a godwyd yn y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a rhoddodd grynodeb manwl o gefndir y Cynllun a ddatblygwyd gan Aelodau a swyddogion. Cyfeiriodd at y dangosydd yn y Cynllun a oedd yn dangos y llwyddiant a'r mesurau a oedd yn asesu gweithgareddau. Roedd y ddwy elfen hon yn seiliedig ar ddata nid barn oddrychol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Smith byddai'r Cynllun Corfforaethol yn cael ei adolygu'n flynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a oedd wedi cytuno’n wreiddiol ar y Cynllun. Cadarnhaodd y HBPP bod y Cynllun wedi cael ei ddilysu gan SAC a chytunodd i gynnal trafodaethau pellach gyda Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio i egluro'r pryderon a'r materion a godwyd. Eglurodd y byddai cyfle pellach i herio a thrafod trwy’r Adroddiad Gwella Blynyddol, a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Mai, a'r broses Herio Gwasanaethau. Eglurodd y Cynghorydd D.I. Smith y byddai'r Cynllun Corfforaethol yn cael ei ddefnyddio i helpu i nodi a mynd i'r afael â materion a allai fod angen sylw.

 

Dywedodd y PW wrth y Cabinet bod yr adroddiad wedi trosglwyddo negeseuon clir. Cyfeiriodd at yr angen am eglurhad ynghylch y diffyg cynnydd o ran cyrbau is a'r angen i osod targedau ar gyfer gwella, ac i ystyried y posibilrwydd o gyflwyno strategaethau i fynd i'r afael â'r mater annerbyniol o ddisgyblion yn gadael yr ysgol heb gymhwyster cymeradwy.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet  yn derbyn yr adroddiad a nodi sylwadau’r Aelodau yn ymwneud â’r materion perfformiad a godwyd.

 

 

Dogfennau ategol: