Eitem ar yr agenda
SYMUD O GYNLLUNIAU TREF I GYNLLUNIAU ARDAL
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans (mae copi ynghlwm) ar gynnydd o ran
ehangu Cynlluniau Tref yn Gynlluniau Ardal ehangach gan gynnwys cymunedau llai
a mwy gwledig ledled Sir Ddinbych.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd H.H. Evans yr adroddiad, a ddosbarthwyd
eisoes, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth am y broses o ymestyn y Cynlluniau
Tref yn Gynlluniau Ardal ehangach gan gynnwys cymunedau llai a mwy gwledig
ledled Sir Ddinbych.
Eglurodd bod Cyngor Sir Ddinbych yn ystod 2011/12, wedi
datblygu a chytuno ar Gynlluniau Trefol ar gyfer saith o brif drefi’r sir, heb
gynnwys y Rhyl. Roedd ymarferiad wedi cael ei gynnal yn y Rhyl i ddatblygu
Cynllun Darparu Y Rhyl yn Symud Ymlaen. Roedd y Cynlluniau Trefol wedi caniatáu
i anghenion a blaenoriaethau cymunedol gael eu nodi ar gyfer pob prif
anheddiad. Fodd bynnag, hyd yma, nid oeddent wedi delio ag anghenion a
blaenoriaethau cymunedau llai a mwy gwledig. Ym mis Ionawr 2013, fe gytunodd y
Cabinet i ehangu’r Cynlluniau Trefol yn Gynlluniau Ardal ehangach ac roedd yr adroddiad
yn disgrifio sut byddai hynny’n digwydd. Roedd y Cynlluniau Tref ar gyfer
Corwen, Dinbych, Llangollen, Prestatyn, Rhuddlan, Rhuthun a Llanelwy wedi cael
eu cymeradwyo gan y Cabinet rhwng 2011 a Mawrth 2012.
Ym mis Ionawr 2013, fe gymeradwyodd y Cabinet ddyraniad cyllid
cychwynnol ar gyfer prosiectau a nodwyd yn flaenoriaethau Blwyddyn 1 yn y
Cynlluniau Trefol. Fe gytunodd y Cabinet ar yr un pryd i ehangu’r Cynlluniau
Trefol yn Gynlluniau Ardal ehangach. Roedd Grŵp Cydlynu’r Cynlluniau Trefol
wedi ystyried y broses briodol i ymestyn y Cynlluniau Trefol presennol yn
Gynlluniau Ardal ehangach ac wedi delio â 3 phrif gwestiwn:-
i)
Beth yw’r ‘ardal’ briodol ar gyfer Cynllun Ardal?
ii)
Sut y dylid datblygu’r Cynlluniau Ardal?
iii)
Sut olwg fydd ar y Cynlluniau Ardal?
Fe ystyriodd y Grŵp ddau
opsiwn a oedd yn cynnwys Cynlluniau’n cwmpasu ardaloedd y Grŵp Aelodau
Ardal (GAA), neu ardaloedd sy’n cynnwys y Trefi a’r cymunedau sydd â pherthynas
draddodiadol neu naturiol â nhw. Oherwydd mai bwriad y Cynlluniau Ardal oedd
cyflawni ymrwymiad y Cyngor i gynllunio’n seiliedig ar y gymuned a’i uchelgais
i fod yn Nes at y Gymuned, daeth Aelodau’r Grŵp i’r casgliad mai’r ail
opsiwn – Trefi a’u Cymunedau Cysylltiedig – oedd yr opsiwn dewisol. Roedd y
grŵp yn credu bod Cynlluniau o’r fath yn haws i’w deall gan breswylwyr a
byddai’r dull hwn yn unol ag arferion gorau mewn cynllunio a arweinir gan y
gymuned a datblygiad economaidd trefi marchnad.
Roedd Atodiad 1 yn
nodi’r cymunedau y byddai pob Cynllun yn ei gwmpasu, ac roedd y rhain wedi eu
trafod a’u cadarnhau gan y GAA a chredwyd eu bod yn cynrychioli’r cysylltiadau
naturiol a oedd yn ‘ffitio orau’ rhwng cymunedau a threfi. Daeth y Grŵp
i’r casgliad y dylid cael cyfanswm o 9 o Gynlluniau, y 7 Cynllun Trefol presennol,
Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen a Chynllun newydd ar gyfer Bodelwyddan, i’w
datblygu pe bai’r Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig yn cael ei gymeradwyo.
Roedd y Grŵp Cydlynu’r
Cynlluniau Trefol yn cydnabod fod yn rhaid i ymgynghori lleol da fod yn sail
i’r Cynlluniau Ardal newydd os oedden nhw i fod yn wirioneddol seiliedig ar
gymunedau ac yn adlewyrchol o anghenion a blaenoriaethau lleol. Er mwyn sicrhau
cysondeb y dull gweithredu, roedd y Grŵp Cydlynu wedi cadarnhau fframwaith
eang ar gyfer ymgynghori ac roedd hyn wedi ei gynnwys yn Atodiad 2. Yn unol â’r
Siarter Cynghorau Tref a Chymuned, roedd y cynigion wedi eu dylunio i sicrhau
bod Cynghorau Cymuned yn arwain yr ymgynghori a’r ymgysylltu ar lefel leol
Amlygodd yr
Arweinydd bwysigrwydd rôl y Cefnogwyr ac roedd y Grŵp wedi argymell bod y
Cefnogwyr Cynlluniau Trefol, gyda chefnogaeth eu Swyddogion Cymorth, yn llunio
cynlluniau ymgynghori manwl ar gyfer cymunedau llai a mwy gwledig i’w
hymgorffori yn eu Cynllun Ardal yn unol â’r fframwaith hwn a byddai angen i’r
GAA gadarnhau’r trefniadau ymgynghori lleol. Byddai nifer fechan o Gynghorwyr â
chymunedau o fewn eu wardiau wedi eu hymgorffori mewn Cynllun Ardal a fyddai tu
allan i’w GAA a chan byddai gan y GAA rôl bwysig yn natblygiad y Cynlluniau
Ardal newydd, roedd y Grŵp Cydlynu’r Cynlluniau Trefol wedi ystyried y
ffordd orau o ddelio â hyn ac roeddent wedi argymell y canlynol:
·
Pencampwr y Cynlluniau Trefol i ymgynghori ag Aelodau Lleol ar y
ffordd orau o ymgynghori â’u cymunedau unigol
·
Gwahodd Aelodau Lleol ar ddechrau’r broses i nodi unrhyw faterion
allweddol neu flaenoriaethau roedden
nhw’n ymwybodol ohonyn nhw o fewn eu cymunedau, i hysbysu’r ymgynghoriad
lleol
·
Gwahodd Aelodau Lleol
Byddai’r Cynlluniau Ardal yn cael eu datblygu
gan y Cefnogwyr Cynlluniau’n seiliedig ar ymgynghoriadau lleol a buasent yn
cael eu hadolygu gan GAA. O’u cadarnhau gan y GAA, byddai’r Cynllun Ardal yn
cael ei gyfeirio i’r Cabinet i’w gymeradwyo a gellid dyrannu cyllid ar gyfer
y blaenoriaethau cynnar yn y cam yma.
Roedd yn debygol y byddai rhai Cynlluniau Ardal yn dod yn eu blaen yn gynt na’i
gilydd yn dibynnu ar gymhlethdod ymgynghori lleol ac argymhellwyd dyddiad
targed o Fedi 2013 ar gyfer cytuno’r Cynlluniau Ardal i gyd.
Byddai 3 ardal eang i’r Cynlluniau Ardal newydd - un yn
nodi’r weledigaeth a’r blaenoriaethau ar gyfer pob tref, ail adran yn nodi sut
y mae cymunedau llai a mwy gwledig yn cysylltu â’r Dref, a thrydydd yn mynegi
unrhyw anghenion neu flaenoriaethau penodol ar gyfer y cymunedau llai a mwy
gwledig. Byddai’r cynigion ymgynghori a amlinellwyd yn yr adroddiad ac a
fynegwyd yn Atodiad 2 yn canolbwyntio ar ail a thrydedd adran y Cynlluniau.
Ni fwriadwyd ailymweld â’r adran
Cynlluniau TrefoI na’r blaenoriaethau yn y cam yma, er y byddai cyfnodau
cyfnerthu a chryfhau’r Cynlluniau yn y dyfodol yn caniatáu adolygu problemau a
blaenoriaethau wrth i amgylchiadau newid. Roedd trywydd ar gyfer camau datblygu
yn y dyfodol wedi ei awgrymu yn Atodiad 3.
Roedd amlinelliad
o'r costau a sut buasent yn effeithio ar wasanaethau eraill a'r trefniadau
ymgynghori ar gyfer datblygu Cynlluniau Ardal wedi eu nodi yn yr adroddiad.
Roedd y risgiau a oedd yn gysylltiedig â gweithredu'r Cynlluniau Ardal ehangach
wedi cael eu manylu a buasent yn cael eu trin trwy'r broses a amlinellwyd yn yr
adroddiad, ac yn benodol y cynigion ymgynghori a nodwyd yn Atodiad 2.
Pwysleisiodd y Cynghorydd H.Ll. Jones yr angen i
sicrhau bod yr ardaloedd gwledig yn derbyn cyfran deg o'r cyllid oedd ar gael.
Eglurodd byddai nifer o Gynghorau Tref a Chymuned yn penodi Cadeiryddion newydd
ym mis Mai, 2013 a byddai'n bwysig sicrhau bod y llinellau cyfathrebu’n glir ac
y cafwyd ymatebion i'r ymgynghoriad oddi wrth y bobl briodol. Pwysleisiodd y
Cynghorydd E.W. Williams y pryderon a fynegwyd sef y gallai cymunedau gwledig
golli allan gyda’r Cynghorau Tref yn cymryd rheolaeth o’r Cynlluniau. Eglurodd
bod cymunedau yn hunangynhaliol i raddau, ond yn wynebu anawsterau o ran cael
cyllid ar gyfer prosiectau yn eu hardaloedd eu hunain. Pwysleisiodd yr
Arweinydd y pwysigrwydd o sicrhau bod cymunedau gwledig yn derbyn cefnogaeth i
gael eu hawliau yn unol ag ardaloedd trefol y Sir. Cyfeiriodd y CC: UECh at
dudalen 49 o Atodiad 3 a oedd yn amlygu camau 1 a 2 o'r gwaith i'w wneud a
fyddai'n helpu mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Williams. Darparwyd
amlinelliad o'r amserlenni a ragwelwyd ar gyfer y broses weithredu ar gyfer y
Cynlluniau i’r Aelodau, a thrywydd ar gyfer camau datblygu yn y dyfodol wedi ei
gynnwys yn Atodiad 3.
Rhoddwyd crynodeb o’r broses ymgynghori gan y CC:
UECh a amlinellodd y gellid mabwysiadu'r gyfres o ddulliau a awgrymwyd gan y
Tîm Cyfathrebu i ehangu ar y dulliau mwy traddodiadol o ymgynghori. Cytunodd yr
Aelodau y dylai fod copi caled o'r broses ymgynghori ar gael i aelodau o'r
cyhoedd pe baent yn gofyn am hynny. Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y
Cynghorydd P. Penlington, cyfeiriodd y CC: UECh at adrannau 4.11 a 4.12 yr
adroddiad a oedd yn manylu ar y strwythur ac amlinellu tair adran eang o'r
Cynlluniau Ardal newydd.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cadarnhaodd y Cynghorydd H. Ll. Jones y byddai'n barod i fynychu ac annerch yr holl
gyfarfodydd Grŵp Aelodau Ardal.
PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet yn cymeradwyo'r broses ar gyfer ehangu Cynlluniau Tref yn
Gynlluniau Ardal ehangach fel nodwyd yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys yn
benodol y:-
·
cymunedau
a gwmpesir gan bob Cynllun, a nodir yn Atodiad 1
·
trefniadau
ymgynghori, a nodir yn Atodiad 2
·
disgwyliad
bod y Cynlluniau Ardal yn cael eu cwblhau erbyn Medi 2013
Dogfennau ategol:
- Town Plans Report, Eitem 7. PDF 89 KB
- Town Plans App 1, Eitem 7. PDF 41 KB
- Town Plans App 2, Eitem 7. PDF 9 KB
- Town Plans App 3, Eitem 7. PDF 39 KB
- Town Plans App 4, Eitem 7. PDF 11 KB