Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR RAGLENNI CYLLID STRWYTHUROL ESF AC ERDF 2014 / 2020

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans (mae copi ynghlwm) ar ymatebion Sir Ddinbych i Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar Raglenni Cyllid Ewropeaidd ar gyfer 2014-2020.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad, a ddosbarthwyd eisoes, yn ymwneud ag ymatebion Cyngor Sir Ddinbych i Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar y Rhaglenni Arian Ewropeaidd newydd ar gyfer 2014-2020.

 

Eglurwyd yn dilyn gweithdy ar 20 Mawrth 2013, gyda swyddogion ac Aelodau allweddol Sir Ddinbych, gan gynnwys aelodau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Partneriaeth Cynllun Datblygu Gwledig ac aelodau’r Grŵp Gweithredu Lleol Gwledig, bod ymateb drafft wedi cael ei lunio i ymgynghoriadau LlC ar Raglenni Ewropeaidd newydd 2014-2020.  Ystyriwyd y Blaenoriaethau Corfforaethol a Pholisïau Rhanbarthol eraill Llywodraeth Cymru, a gofynnwyd i'r Cabinet gadarnhau cefnogaeth ar gyfer yr ymatebion hyn ar ran y Cyngor Sir.

 

Ym mis Ionawr 2013, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriadau cyhoeddus cyfochrog ar Arian Strwythurol a Rhaglenni Datblygu Gwledig 2014-2020.  Roedd y dogfennau ymgynghori yn cynnwys strategaeth rhaglen arfaethedig, blaenoriaethau buddsoddi, themâu sy’n trawstorri, archwilio rhai o’r materion gweithredu a darparu allweddol a chynnwys y dystiolaeth. Roedd y cynigion ar gyfer rhaglenni Cronfa Strwythurol newydd wedi’u datblygu gan ganolbwyntio ar dwf a swyddi, a oedd yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru; a nodau Ewrop 2020 sef twf doeth, cynaliadwy a chynhwysol.

 

Ar gyfer cyfnod rhaglennu 2014-2020 disgwyliwyd byddai Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cymhwyso fel “rhanbarth llai datblygedig”: y lefel cefnogaeth uchaf sydd ar gael dan rownd nesaf y rhaglenni Arian Strwythurol. Roedd yr union swm arian Ewropeaidd a fyddai ar gael yn y cyfnod rhaglennu nesaf yn amodol ar ganlyniad trafodaethau ar gyllideb Ewropeaidd gan y Cyngor Ewropeaidd a Senedd Ewrop. Byddai ymatebion i’r cwestiynau ymgynghori yn chwarae rhan bwysig wrth baratoi testun terfynol y Rhaglenni Gweithredol y byddai LlC yn eu cyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd yn ddiweddarach yn 2013.  

 

Roedd Sir Ddinbych wedi ymateb i’r ymgynghoriadau er mwyn sicrhau, yn ogystal ag alinio â pholisïau LlC ac Ewrop, byddai’r dogfennau Rhaglen Weithredol terfynol yn eu galluogi i gyflawni camau gweithredu o fewn Blaenoriaethau Corfforaethol Sir Ddinbych. Byddai ymatebion Sir Ddinbych hefyd yn cael eu cynnwys mewn ymateb rhanbarthol oedd yn cael ei ddrafftio ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a byddai hefyd yn cael ei gyflwyno i CLlLC i ffurfio rhan o’u hymateb Cymru gyfan. Roedd ymatebion Ymgynghoriad Sir Ddinbych wedi’u hatodi i’r adroddiad fel atodiadau.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am sut byddai'r penderfyniad yn cyfrannu at y Blaenoriaethau Corfforaethol, costau a'u heffaith ar wasanaethau eraill, Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac amlinelliad o unrhyw risgiau a'r camau gweithredu i'w lleihau. Eglurwyd bod Grŵp Aelodau a Swyddogion Allweddol wedi trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac y byddai ymarferion ymgynghori pellach yn cael eu gwneud wrth i gyfleoedd cyllido ddatblygu.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd yr angen i godi proffil cronfeydd Strwythur Ewropeaidd o fewn y cyd-destun corfforaethol er mwyn cefnogi a datblygu Cynllun Corfforaethol y Cyngor. Amlygwyd y gystadleuaeth o fewn y rhanbarthau i sicrhau cyllid a rhoddodd grynodeb o'r themâu arfaethedig a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a'r materion allweddol a ymgorfforwyd yn yr ymateb.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd H. Ll. Jones at y problemau a gafwyd o ran dosbarthiad ardaloedd gwledig a threfol ac eglurodd fod Dyserth bellach wedi'i ddosbarthu fel ardal wledig.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd H.C. Irving ynghylch darparu cymorth i fusnesau bach, yn enwedig materion yn ymwneud ag arian cyfatebol, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol (CC: UECh) at y gwaith a wnaed gan y Grŵp Tasg a Gorffen mewn perthynas â datblygiad y Strategaeth Uchelgeisiau Cymunedol, a oedd yn amlygu'r angen am ddarparu cefnogaeth well, â mwy o ffocws a haws i’w lywio i fusnesau. Amlygwyd pwysigrwydd yr angen i sicrhau fod busnesau yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael drwy ddatblygu partneriaeth cyngor a chefnogaeth busnes ledled Sir Ddinbych.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd M.Ll. Davies ynghylch yr angen i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd gwell rhwng Gogledd a De Cymru, cyfeiriodd yr Arweinydd at y gwaith a wnaed gan y Bwrdd Uchelgais a chytunodd yr Aelodau dylid cyfeirio’r mater i’r Uwch Swyddog Cyllid Ewropeaidd ac Allanol i’w symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod yn cefnogi ymateb Sir Ddinbych i Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014-2020: Gorllewin Cymru a'r Cymoedd; a'r Polisi Diwygio Amaethyddol Cyffredin Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020: Y Camau Nesaf.

 

 

Dogfennau ategol: