Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD DIWEDDARIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau (mae copi y ddilyn) sy’n egluro’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:- y Cabinet i nodi’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol a gytunwyd arni. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd J. Thompson Hill yr adroddiad, a ddosbarthwyd eisoes, a oedd yn rhoi manylion cyllideb refeniw ac arbedion y cyngor fel y’u cytunwyd ar gyfer 2012/13, ar ddiwedd Mawrth 2013, a darparodd ddiweddariad cryno ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Eglurodd bod rhagolygon diweddaraf y gyllideb refeniw wedi cael eu cyflwyno fel Atodiad 1 ac roedd yn dangos tanwariant ar draws cyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol o £994k, £1.1m y mis diwethaf, a oedd yn cynrychioli amrywiad o 0.86% ar draws y gyllideb net gyfan. Roedd tua £849k wedi cael ei ymrwymo i ariannu gwariant yn gynnar yn 2013/14 neu wedi cael ei gynnig i’w ddefnyddio gan wasanaethau'r flwyddyn nesaf, gyda’r tanwariant oedd ar gael o bosibl yn £111k yn unig. Roedd y sefyllfa ysgolion yn amcanu symudiad net cadarnhaol ar falansau o £294k, £306k y mis diwethaf, ar gyllidebau dirprwyedig a £176k ar gyllidebau ysgolion heb eu dirprwyo, £161k y mis diwethaf. Roedd y symudiad ar gyllidebau ysgolion heb eu dirprwyo yn ymwneud â bod angen llai o wiriadau CRB yn ystod y flwyddyn na gynlluniwyd. Roedd crynodeb o’r Cyfrif Refeniw Tai hefyd yn Atodiad 1 er gwybodaeth ond roedd hon yn gronfa ar wahân ac nid oedd yn rhan o brif gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

Rhoddodd y Cyngor darged arbed net am y flwyddyn o £3.44m yng nghyllideb 2012/13 ac roedd 99.3% o’r arbedion wedi eu cyflawni neu wedi eu disodli gan ddod i swm o £3.418m. Roedd y £25k a oedd yn weddill yn ymwneud â’r prosiect rhesymoli argraffwyr ac roedd wedi ei ohirio tan y flwyddyn nesaf.   

 

Yn y tri adroddiad cyllid diwethaf, roedd y testun ynglŷn â sefyllfa gwasanaethau cefnogol wedi cyfeirio at sawl cynnig i gyfrannu at gronfeydd wrth gefn neu gario balansau ymlaen i 2013/14. Mewn sawl achos, amseriad gwariant oedd y broblem. Byddai’r adroddiad canlyniad terfynol i’r Cyngor ym mis Mehefin yn cymeradwyo’n ffurfiol drosglwyddiadau i neu o gronfeydd wrth gefn neu falansau, gan gynnwys arian a gariwyd drosodd. Roedd Atodiad 2, yn rhoi crynodeb o’r eitemau a drafodwyd mewn adroddiadau blaenorol i’r Cabinet. 

 

Roedd manylion amrywiadau gwasanaeth allweddol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac wedi eu crynhoi ar gyfer yr Aelodau. Roedd y meysydd allweddol a’r materion yn cynnwys:-

 

Gwasanaethau Oedolion a Busnes – Roedd yr alldro cyfredol yn gytbwys gydag unrhyw droswariant yn cael ei ariannu o’r Gronfa Cefnogi Pobl.

 

Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd – Roedd y tanwariant bach wedi cynyddo o £12k i £205k o ganlyniad i gynnydd bach mewn lefelau incwm. Roedd tanwariant Priffyrdd ac Isadeiledd wedi lleihau gan £16k i £158k gyda manylion y  newidiadau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Darparwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau oddi wrth yr Arweinydd:-

 

-               Nid oedd y cynnydd mewn lefelau incwm wedi deillio o gynnydd yn y taliadau, ond yn seiliedig ar ragolygon o'r incwm a dderbyniwyd.

-               O ganlyniad i'r tywydd garw a gafwyd byddai'r gyllideb Cynnal a Chadw y Gaeaf yn cael ei defnyddio a byddai hyn yn cael ei wrthbwyso gan y gyllideb cynnal a chadw cyffredinol. Cafwyd cadarnhad ar yr amod, ar y cyd ag Awdurdodau cyfagos, byddai cais yn cael ei gyflwyno ar gyfer cyllid argyfwng. Eglurodd y Cynghorydd D. I. Smith y byddai holl Awdurdodau Gogledd Cymru yn gofyn am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i drwsio'r difrod a achoswyd i'r rhwydwaith ffyrdd gan y tywydd garw. Cytunodd y Cynghorydd Smith i gyfleu’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Feeley ynglŷn â safon y gwaith a wneir gan y jetpatcher. Amlygodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd cynyddu'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer gwaith cynnal a chadw priffyrdd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd E.W. Williams at ardaloedd o'r Sir, yn enwedig ardaloedd gwledig, lle'r oedd cyflwr y ffyrdd wedi dirywio yn sylweddol yn sgil y tywydd garw. Gofynnodd i'r ardaloedd dan sylw gael eu nodi a'u cynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol priffyrdd, a dosbarthu copi o'r rhaglen i'r holl Aelodau. Eglurodd y Cynghorydd D.I. Smith byddai’r Rheolwr Adain: Rheoli Rhwydweithiau yn mynychu’r cyfarfodydd Grŵp Ardal Aelodau a byddai hyn yn rhoi’r cyfle i’r Aelodau gyfleu eu pryderon a'u dewisiadau o ran prosiectau yn y dyfodol.

 

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Rhagwelwyd byddai’r gwasanaeth yn tanwario gan £138k, £35k o dan y mis diwethaf, o ganlyniad i arbediad o £83k ar y gyllideb ffioedd mabwysiadu. Roedd yr ymgyrch recriwtio maethu wedi cael ei dal yn ôl a byddai’r £20k a glustnodwyd yn cael ei chario drosodd i 2013/14.

 

Tai a Datblygu Cymunedol - pwysau wedi’i adrodd o fewn y gyllideb yn berthnasol i ariannu costau colli swyddi o fewn y Gwasanaeth Adfywio.

 

Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden - Bu tanwariant o £27k, £1K y mis diwethaf, fodd bynnag roedd £25k yn ymwneud â thanwariant a gariwyd drosodd o 2011/12 ar y gyllideb Cyfathrebu a Marchnata. Cynigwyd clustnodi’r £25k i ariannu’r adolygiad y flwyddyn nesaf.

 

TGCh/ Trawsnewid Busnes – Roedd tanwariant y mis diwethaf o £27k wedi cynnwys darpariaeth ar gyfer costau posibl yn gysylltiedig ag archwiliad trwydded meddalwedd gan IBM a oedd wedi dangos yn y lle cyntaf gynnydd posibl i gostau trwyddedu’r Cyngor. Ni fyddai costau’n codi o ganlyniad i’r archwiliad.

           

Cwsmeriaid a Chefnogi Ysgolion – Bu gostyngiad yn y tanwariant o £26k o’r mis diwethaf i £232k, o ganlyniad i drosglwyddo’r £35k o danwariant ar Ad-drefnu Ysgolion i’r Gronfa Moderneiddio Addysg i helpu ariannu costau ad-drefnu ysgolion yn y dyfodol fel y gofynnwyd yn adroddiad y mis diwethaf.

 

Gwella Ysgolion a Chynhwysiant - Roedd newidiadau mân i’r alldro a ragwelwyd ar gyfer Addysg Arbennig, Cefnogaeth Ymddygiad ac adennill wedi arwain at ostyngiad yn y tanwariant a ragwelwyd o £142k i £126k. Roedd y gwasanaeth yn cynnig iddo gael ei ddefnyddio i gyfrannu at ariannu diogelu ysgolion a effeithir gan y newidiadau diweddar i'r fformiwla ariannu.

 

Ysgolion – Y rhagamcan ar gyfer balansau ysgolion oedd £2.114m, £2.125m fis diwethaf, a oedd yn symudiad positif o £294k ar falansau a gariwyd drosodd o 2011/12. Roedd y Cyngor yn parhau i weithio gyda’r ddwy ysgol a oedd yn cael anhawster ariannol, ac roedd gan y ddwy ysgol gynlluniau adfer ac roeddent yn gweithio’n galed tuag at y targedau a bennwyd yn y cynlluniau hyn. Rhagwelwyd tanwario £176k ar gyllidebau ysgolion na ddirprwywyd. Roedd cyfanswm cost diogelu wedi cael ei ragamcan yn £775k yn 2013/14. 

 

Cyllidebau CorfforaetholRoedd y rhain wedi cael eu pennu gan dybio bod £1.7m yn cael ei drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn fel rhan o’r strategaeth ariannu ar gyfer y Cynllun Corfforaethol. Roedd yn debygol byddai cyllidebau a glustnodwyd i gynhyrchu arian yn 2012/13 yn cynhyrchu mwy na’r targed o £1.7m a rhagwelwyd £75k.

 

Roedd y gwariant hyd at ddiwedd mis Mawrth yn £28.1m yn erbyn Cynllun Cyfalaf y cytunwyd arno o £31.1m. Byddai croniadau ar gyfer gwariant a ymrwymwyd o £3m yn golygu y cyflawnir y gwariant a ragwelwyd. Roedd Atodiad 3 yn dangos crynodeb sut byddai’r Cynllun Cyfalaf yn cael ei ariannu, ac yn Atodiad 4 roedd diweddariad ar y prosiectau mawrion o fewn y Cynllun. Roedd arian alldro’r rhagolygon cyllideb gyfalaf wedi cael ei ddiwygio ers y mis diwethaf i dybio cyllideb gytbwys. Roedd y symudiad o £150k wedi creu cyfle i ad-dalu dyled a oedd wedi gostwng gofyniad cyllido cyfalaf y Cyngor.

 

            Roedd y rhagolygon Cyfrif Refeniw Tai diweddaraf a gwarged mewn blwyddyn o £72k, £12k o ddiffyg a adroddwyd y mis diwethaf, a oedd yn cymharu â gwarged a gyllidwyd o £71k. Roedd y symudiad o’r mis diwethaf o ganlyniad i wariant ar reoli a chynnal a chadw’n llai na’r hyn a ragwelwyd a chynnyrch rhent yn gwella, a rhagwelwyd i’r balans a gariwyd drosodd fod yn £943k. Roedd rhagolygon y Cynllun Cyfalaf Tai wedi gostwng ychydig o’r mis diwethaf fel byddai gwariant a gynlluniwyd yn rholio drosodd i 2013/14. Byddai Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei gyflawni erbyn diwedd 2013/14 ac roedd adolygiad diweddar o’r Cynllun Busnes Stoc Tai yn cadarnhau ei fod yn ariannol hyfyw o hyd. Roedd crynodeb o’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.  

 

Cyflawnwyd neu newidiwyd yr arbedion a gytunwyd ar gyfer 2012/13, gydag un eitem wedi ei gohirio i’r flwyddyn nesaf. Roedd y marchnadoedd arian dal yn ansicr ac yn dal i gyfyngu ar nifer y sefydliadau y gallai’r cyngor fuddsoddi gyda nhw a byddai’r strategaeth o wneud buddsoddiadau tymor byr yn debygol o barhau am y tymor canolig. Ar ddiwedd mis Mawrth, roedd cyfanswm y benthyciadau’n dal yn £133.27m ar gyfradd gyfartalog o 5.77% ac roedd cyfanswm y buddsoddiadau’n £11m ar gyfradd gyfartalog o 0.77%.

 

            Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd:-

 

PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet yn nodi’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol a gytunwyd arni.

 

 

Dogfennau ategol: