Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWASANAETH RHANBARTHOL ARFAETHEDIG CYNLLUNIO RHAG ARGYFWNG

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol ar gyfer y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeëdig) yn argymell bod y Cabinet yn mabwysiadu’r cynllun busnes terfynol i sefydlu Gwasanaeth rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng ac yn dirprwyo awdurdod i gymeradwyo’r trefniadau trosiannol i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn mabwysiadu’r cynllun busnes terfynol i sefydlu Gwasanaeth rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng ar sail yr hyn a nodir ym mharagraff 4.12 yr adroddiad;

 

(b)       yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol i gymeradwyo’r trefniadau trosglwyddo manwl i’r gwasanaeth newydd ac ymgymryd â’r holl dasgau angenrheidiol i sefydlu’r gwasanaeth newydd, ac

 

 (c)       argymell bod y gwasanaeth rhanbarthol yn destun gwaith craffu gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn ystod y cyfnod trosglwyddo ac ar ôl ei weithredu’n llawn.

 

Cofnodion:

[Nododd y Cynghorydd David Smith bod ganddo gysylltiad personol a niweidiol yn Eitem rhif 6 ar y rhaglen, sef y Gwasanaeth Rhanbarthol Arfaethedig Cynllunio Rhag Argyfwng a gadawodd y cyfarfod tra roedd yr eitem yn cael ei thrafod.]

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd David Smith cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad yn argymell mabwysiadu’r cynllun busnes terfynol i sefydlu Gwasanaeth Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng a dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Arweiniol i gymeradwyo trefniadau trosglwyddo.  Mae crynodeb o’r trefniadau presennol yn ogystal â’r achos busnes terfynol wedi’i atodi i’r adroddiad.

 

Comisiynodd Prif Weithredwyr chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru ddatblygiad achos busnes am wasanaeth sengl ac ers hynny mae wedi’i gynnwys yn y Compact Llywodraeth Leol.  Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at fanteision sefydlu Gwasanaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn seiliedig ar strwythur isranbarthol gyda phresenoldeb swyddog ym mhob awdurdod i sicrhau arbenigedd a gwybodaeth leol a pharhad gwasanaethau lleol.  Er bod arbedion cost yn fychan, bydd cydweithio yn darparu gwasanaeth mwy effeithlon, effeithiol a gwydn, a gofynnir i’r chwe awdurdod gefnogi’r argymhelliad i ymuno.  Cynigiwyd y bydd y gwasanaeth newydd yn dod yn weithredol ym mis Hydref 2013.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd, gofynnodd yr Arweinydd am sicrwydd y bydd y risgiau a nodwyd yn yr achos busnes yn cael eu rheoli yn dda ac na fydd gallu’r gwasanaeth i ymateb i argyfwng yn cael ei effeithio ormod yn ystod y trosglwyddo.  Oherwydd amrywiaeth yr ardal ddaearyddol a’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ardaloedd penodol, fel diwydiant trwm a llifogydd (arfordirol a mewndirol), gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams am sicrwydd ynglŷn â’r arbenigedd i ymdrin â gwahanol anghenion mewn dwy ganolfan wahanol yn y strwythur newydd. Nododd hefyd bod addasrwydd systemau TG yn rhan annatod o brosiectau ar y cyd.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Jones at y gwahanol bolisïau iaith Gymraeg mewn awdurdodau lleol a’r angen am gysondeb gyda pholisi Sir Ddinbych o roi’r Gymraeg cyn y Saesneg.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol fel a ganlyn –

 

·         rhoddodd wybod am liniaru’r risgiau a nodwyd yn yr achos busnes gan roi gwybod bod y gwasanaeth eisoes wedi gweithio yn agos gydag awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth ac y bydd y cam gweithredu, sy’n gymharol fyr, yn cael ei oruchwylio gan grŵp swyddogion. Hefyd, y swyddogaethau craidd yw’r gwasanaethau ystafell gefn i’r ymateb brys ac felly ni fydd y gallu i ymateb i ddigwyddiad yn cael ei effeithio yn ystod y trosglwyddiad 

·         roedd y cynnig am wasanaeth rhanbarthol sengl, ac mae’r canolfannau Gorllewinol a Dwyreiniol wedi’u canfod ar gyfer lleoli staff yn rhwydd yn y strwythur newydd; bydd strategaethau a chynlluniau ar y cyd yn y rhanbarth i ymdrin â’r amrywiaeth yn y chwe ardal.  Hefyd, bydd swyddog penodedig yn Sir Ddinbych i deilwra ymateb brys yr awdurdod, a

·         cydnabuwyd pwysigrwydd systemau TG gan roi gwybod bod Sir Ddinbych a Sir y Fflint eisoes yn rhannu system TG.

 

Hefyd, trafododd y Cabinet faterion llywodraethu ac er y nodwyd bod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau wedi archwilio’r cynigion yn fanwl nodwyd angen i archwilio yn ystod y cyfnod trosglwyddo ac ar ôl gweithredu.  Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y diffyg awydd gwleidyddol i sefydlu pwyllgorau archwilio rhanbarthol a rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wybod ynglŷn â sefydlu pwyllgorau archwilio ar y cyd fel y cyfeiriwyd ato yn y Mesur Llywodraeth Leol.  Nodwyd bod briff ar y Mesur wedi’i drefnu ar gyfer y cyfarfod Briffio Cyngor nesaf.

 

PENDERFYNWYD y dylai’r Cabinet –

 

(a)       fabwysiadu’r cynllun busnes terfynol i sefydlu Gwasanaeth Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng ar y sail a nodwyd ym mharagraff 4.12 yr adroddiad;

 

(b)       dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Arweiniol i gymeradwyo’r manylion trosglwyddo manwl i’r gwasanaeth newydd a chynnal pob tasg angenrheidiol i sefydlu’r gwasanaeth newydd, ac 

 

 (c)       argymell bod y gwasanaeth rhanbarthol yn amodol ar archwiliad gan y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau yn ystod y cam trosglwyddo ac ar ôl ei weithredu yn llawn.

 

 

Dogfennau ategol: