Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – GYRRWR RHIF 043120

I ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn gofyn am i aelodau bennu addasrwydd Gyrrwr Rhif 043120 i barhau i ddal Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD rhoi rhybudd difrifol i Yrrwr Rhif 043120 ynglŷn â’i ymddygiad a’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

Cofnodion:

[Cyn cychwyn ar yr eitem hon, caniataodd y Cadeirydd ohiriad er mwyn i bawb ymgyfarwyddo gyda’r dogfennau.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar –

 

(i)      Addasrwydd Gyrrwr Rhif 043120 to i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat;

 

(ii)     Bod cwyn wedi ei derbyn gan feiciwr ynglŷn ag ymddygiad y Gyrrwr ar ddau achlysur gwahanol ar 31 Rhagfyr 2012 ac 1 Ionawr 2013, ac roedd ffilm o’r ddau achos ar gael i’r pwyllgor i’w gwylio  (roedd crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau gan dystion, trawsgrifiadau o’r sgyrsiau a recordiwyd a dogfennau cysylltiedig hefyd ynglwm wrth y prif adroddiad), a

 

(iii)     Roedd y Gyrrwr wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi adolygiad ei drwydded ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar y mater.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (HB) yr adroddiad a rhoi crynodeb o ffeithiau’r achos. Yna gwyliodd y pwyllgor ffilm o’r ddau ddigwyddiad a grybwyllwyd yn yr adroddiad a gafwyd o (1) gamera pen yr achwynydd a oedd wedi ei ddodi ar ei helmed beicio, (2) recordiad a wnaed gan y teithiwr a oedd gyda’r Gyrrwr ar ei ffôn symudol / llechen, a (3) clipiau a recordiwyd ar gamerâu teledu cylch cyfyng Canol Tref y Rhyl.

 

Anerchodd y Gyrrwr y pwyllgor gan ddweud iddo ddod yn yrrwr trwyddedig yn 2009 ac nad oedd erioed wedi bod yn destun cwyn o’r blaen. Dywedodd nad oedd wedi bod yn dreisgar tuag at y beiciwr mewn unrhyw ffordd ond wedi gofyn iddo roi’r gorau i reidio yng nghanol y ffordd oherwydd y gallai achosi damwain, ac reodd yn rhwystro ceir rhag goddiweddyd. Gwadodd ddilyn y beiciwr ar 1 Ionawr 2013 gan ychwanegu nad oedd ganddo reolaeth dros weithrediadau ei deithiwr.

 

Cymerodd yr aelodau y cyfle i holi’r Gyrrwr ynglŷn â’r digwyddiadau dan sylw, gan gyfeirio yn benodol at y rhesymeg y tu ôl i’w ymddygiad a’i fwriadau yn ystod y digwyddiad a recordiwyd ar 1 Ionawr 2013. Atebodd y Gyrrwr y cwestiynau a gwadodd ddilyn y beiciwr yn fwriadol neu aflonyddu arno, gan ychwanegu nad oedd wedi dangos unrhyw arwydd o drais tuag ato ar unrhyw adeg. Dywedodd hefyd ei fod yn ymwybodol o’r rheolau a’r rheoliadau yn yr amodau trwyddedu a Chod y Briffordd. Yn hynny o beth, derbyniodd y dylai beiciwr reidio i ffwrdd o ymyl y ffordd dan amylchiadau penodol, ond teimlai nad oedd angen reidio yng nghanol y ffordd yn ddiangen.

 

Wrth wneud ei ddatganiad terfynol, roedd y Gyrrwr eisiau esbonio nad oedd wedi derbyn hysbysiad aflonyddu gan yr Heddlu ond wedi ei hysbysu o ystyr aflonyddiad a gofynnwyd iddo anwybyddu’r beiciwr yn y dyfodol. Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Gyrrwr efallai iddo weld y beiciwr ers hynny ond nad oedd wedi bod â rheswm i gysylltu ag o.

 

Ar y pwynt hwn, torrodd y cyfarfod i ystyried yr achos ac fe –

 

BENDERFYNWYD bod Gyrrwr Rhif 043120 yn cael rhybudd difrifol ynglŷn â’i ymddygiad a’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

[Ni chymerodd y Cynghorydd Bill Cowie unrhyw ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio ar yr eitem hon gan nad oedd wedi bod yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan.]

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos gan gynnwys y ffilm a recordiwyd ac esboniad y Gyrrwr o’r digwyddiadau, credai’r aelodau bod y Gyrrwr wedi dilyn y beiciwr yn fwriadol ar 1 Ionawr 2013 ac wedi gyrru’n rhy agos a chodi ofn arno. Daeth y pwyllgor i’r casgliad hefyd bod y Gyrrwr wedi dangos diffyg gwybodaeth o God y Briffordd ac amodau trwyddedu cerbyd hacni/cerbydau hur preifat y Cyngor, yn enwedig o ran hawl beicwyr i reidio yng nghanol y lôn.  O ganlyniad, penderfynodd y pwyllgor bod ymddygiad y Gyrrwr yn anghyson ag ymddygiad gyrrwr proffesiynol ac islaw’r safon ofynnol wrth ymdrin â’r beiciwr, ac felly dylid rhoi rhybudd difrifol ynglŷn â’i ymddygiad a’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Bu i’r Cadeirydd gyfleu penderfyniad y pwyllgor a’r rhesymau am hynny i’r Gyrrwr.

 

 

Dogfennau ategol: