Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU CYFLWYNIAD Y CYNLLUN AILGYLCHU X2

Derbyn adroddiad (copi’n amgaeëdig) gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau’r Amgylchedd sy’n manylu’r problemau a gafwyd wrth gyflwyno’r trefniadau ailgylchu newydd yn ne’r sir a’r mesurau a gymerwyd i ddelio â’r problemau hyn.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol adroddiad (a gafodd ei anfon at yr Aelodau ymlaen llaw) ar y problemau a welwyd yn ne’r Sir ym mis Tachwedd 2012 wrth roi’r cynllun ailgylchu newydd (X2) ar waith. Roedd ei adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y camau gweithredu i fynd i’r afael â’r problemau. Cydnabuwyd bod rhai penderfyniadau allweddol a wnaethpwyd cyn rhoi’r cynllun ar waith wedi cyfrannu tuag at y problemau – fel y penderfyniad i roi’r system newydd ar waith ym mis Tachwedd yn hytrach nag aros tan y gwanwyn. 

 

Ni ragwelwyd yr oedi gyda darparu offer hanfodol na’r problemau yn sgil gweithio mewn ardaloedd gwledig a defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i bennu llwybr y casgliadau. Bu i hyn oll arwain at ddryswch ac oedi gyda darparu’r gwasanaeth newydd a bu i nifer o drigolion anfon cwynion trwy’r system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid. O ganlyniad i hyn oll rhoddwyd cynllun ar waith i fynd i’r afael â’r problemau a dosbarthwyd adnoddau ychwanegol i adfer y sefyllfa. Er gwaethaf y problemau hyn, ystyriwyd bod y penderfyniadau i weithredu’r cynllun ailgylchu mewn un sesiwn ac i ddefnyddio meddalwedd gyfrifiadurol er mwyn pennu’r llwybrau gorau ar gyfer y casgliadau yn benderfyniadau cywir.

 

Cafwyd trafodaeth faith ar ba mor ddigonol oedd y trefniadau i weithredu’r cynllun ailgylchu newydd. Canmolodd y Pwyllgor ymateb y Cyngor i’r problemau, yn arbennig ymateb y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmer. Serch hynny, penderfynwyd bod y canlynol yn dal yn destun pryder:

 

·                     Cyfathrebu gwael gyda thrigolion

·                     Dosbarthu calendrau casglu anghywir i drigolion rhai ardaloedd 

·                     Colli enw da’r Cyngor

·                     Staff y gwasanaeth a’r staff casglu yn anghyfarwydd â’r ardal

 

Bu i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Ailgylchu a’r Rheolwr Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu ymateb i nifer o gwestiynau gan gadarnhau’r canlynol:

 

·                     Bydd cost y camgymeriadau, lle bo’n briodol, yn cael eu codi ar y contractwyr.

·                     Mae colli enw da yn destun pryder ond, er bod y gwasanaeth ailgylchu yn wasanaeth pwysig a gweladwy, nid oedd cost ei roi ar waith ond canran bychan o gyllideb y gwasanaeth cyfan. 

·                     Roedd y farchnad ar gyfer technoleg mapio gyfrifiadurol yn gystadleuol dros ben. Er bod dewisiadau eraill ar gael, roedd y problemau yn deillio o ddewis y llwybr casglu yn agos at ddyddiad gweithredu’r cynllun ac felly nid oedd hynny’n gadael digon o amser i weld y problemau.

·                     Roedd y problemau gyda’r calendrau yn deillio o gamgymeriadau a wnaethpwyd wrth i’r staff dosbarthu ddehongli’r system codau yn anghywir. Roedd modd ail-greu’r calendrau ond byddai cost ynghlwm â hynny ac ystyriwyd bod y mater dan reolaeth gan fod y Cyngor yn cysylltu â chynghorwyr i weld a oedd mater yn ymwneud â chasgliadau hwyr angen eu datrys yn eu hardaloedd. Roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud i sicrhau bod y trefniadau casglu ar gael i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ddinbych. 

·                     Y gobaith oedd gweithredu gwasanaeth ailgylchu llawn ledled y Sir ond, oherwydd yr anawsterau wrth yrru cerbydau casglu mawr yn yr ardaloedd gwledig, mae angen amrywio lefel y gwasanaeth yn y Sir.

·                     Cafwyd yr offer/deunyddiau gan gyflenwyr o dramor yn dilyn proses dendro a oedd yn ystyried ansawdd a phrisiau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cwsmeriaid ei fod yn disgwyl i rai problemau godi wrth weithredu prosiect mawr ond ychwanegodd ei fod yn siomedig gyda nifer y problemau sydd wedi codi gyda’r cynllun hwn. Canmolwyd ymateb swyddogion i’r sefyllfa. Mae’r swyddogion wedi cydnabod y camgymeriadau ac yn gweithio’n galed iawn i adfer y sefyllfa. Dywedodd hefyd y gallai’r problemau hyn fod yn wers bwysig i holl adrannau’r Cyngor o ran darparu gwasanaethau.

 

Dywedodd y Cyng. David Smith, Aelod Arweiniol Tir y Cyhoedd, ei fod wedi ymddiheuro am y problemau gyda’r wasg leol a phwysleisiodd ei bod hi, ar y pryd, yn bwysicach adfer y sefyllfa yn hytrach na beio rhywun. Yn sgil cynllun X2, mae’r canran ailgylchu gwastraff bwyd wedi cynyddu 34% a bellach mae Sir Ddinbych â’r canran ailgylchu uchaf yng Nghymru.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod angen cydnabod y broblem gyda gweithredu trefniadau cynllun X2 a chanmolodd y swyddogion a’r Aelod Arweiniol am eu gwaith o gydnabod a mynd i’r afael â’r sefyllfa. Dywedwyd pa mor bwysig yw cyfathrebu da rhwng trigolion a phartneriaid gwasanaeth a pha mor allweddol yw swyddogaeth arweinwyr gwasanaeth wrth sicrhau bod y gwelliannau’n cael eu gwneud. Er bod rhai yn anfodlon gyda’r dull o weithredu’r cynllun nid yw’r mwyafrif wedi profi unrhyw broblem. Ychwanegodd y Cadeirydd bod y cynnydd mewn ailgylchu yn galonogol iawn. Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am fynychu’r cyfarfod a gwerthfawrogodd eu gonestrwydd wrth drafod y problemau.

 

PENDERFYNIAD:

 

i)             Cytuno i ddefnyddio’r gwersi sydd wedi eu dysgu fel sylfaen i unrhyw newid arfaethedig arall yn y Cyngor. 

ii)            Unwaith mae’r ffigyrau terfynol ar y cynnydd yn y cyfraddau ailgylchu ar gael, cyhoeddi canlyniad rhoi’r cynllun ar waith yn Llais y Sir ac mewn datganiad i’r wasg

iii)           Cefnogi’r cynnig i gynnwys ymddiheuriad ac eglurhad o’r problemau, yn ogystal â’r ffigyrau ailgylchu, yn rhifyn nesaf Llais y Sir;

iv)           Argymell y dylid cysylltu â chynghorwyr, unwaith mae ymarfer prisio wedi ei wneud, i weld a oes angen dosbarthu calendrau casglu newydd yn eu wardiau;

v)            Gofyn beth yw cost cyffredinol y gwasanaeth ailgylchu newydd o gymharu â’r hen drefn o waredu gwastraff a gofyn beth yw’r manteision i’r Cyngor. Gofyn hefyd am y materion ariannol sydd wedi eu celu rhag contractwyr y cynllun newydd;

vi)           Gofyn i’r Gwasanaeth, fel rhan o’r Broses Her Gwasanaethau, edrych ar ddichonolrwydd gweithredu casgliad bwyd bob yn ail wythnos er mwyn cael y canlyniadau ailgylchu gorau posib. Gofyn hefyd am fanteision a chostau darparu’r gwasanaeth yma ac am adroddiad cryno i Gadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio eu hystyried.

 

Dogfennau ategol: