Eitem ar yr agenda
CYNLLUN CORFFORAETHOL 2012 – 17 – ADRODDIAD GWAELODLIN
Ystyried adroddiad gan y Swyddog Gwella Corfforaethol (copi’n amgaeëdig) yn cyflwyno adroddiad gwaelodlin ar gyfer y Cynllun Corfforaethol 2012-17.
11.15 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau ystyried adroddiad
gwaelodlin drafft ar gyfer y Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 gan gynnwys
mesurau i’w defnyddio i fonitro cyflwyniad y Cynllun a’r sefyllfa waelodlin ar
1 Ebrill 2012.
Wrth arwain yr aelodau trwy’r adroddiad,
rhoddodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol wybodaeth gefndir ar y broses o
reoli perfformiad ac adrodd ar y gwaith a wnaed hyd yma yn diffinio
blaenoriaethau corfforaethol a phenderfynu pa ddangosyddion a mesurau
perfformiad i’w defnyddio. [Roedd y blaenoriaethau yn ymwneud â ‘Datblygu’r
Economi Lleol’ a ‘Moderneiddio’r Cyngor’ yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a
byddant yn ymddangos yn yr adroddiad perfformiad nesaf.] Ymgymerid â chymhariaeth o’r adroddiadau
perfformiad o gymharu â’r waelodlin er mwyn gwerthuso cynnydd o ran cyflawni
canlyniadau yn y Cynllun Corfforaethol. Roedd esboniad o strategaeth y Cyngor i
bennu “trothwy rhagoriaeth” ac “ymyraethau” ar gyfer pob dangosydd a mesur
perfformiad er mwyn rhoi perfformiad yn ei gyd-destun.
Cydnabu’r Aelodau yr anawsterau o ran
penderfynu pa ddangosyddion a mesurau perfformiad y dylid eu defnyddio, yn
enwedig lle na ellid meincnodi mesurau perfformiad yn erbyn cynghorau eraill
yng Nghymru. Roeddynt hefyd yn derbyn y rhesymeg i ddefnyddio dangosyddion
perthnasol yn unig ac i ddefnyddio gwahanol grwpiau meincnodi pe tybid nad
Cymru oedd y cymharydd mwyaf priodol ar gyfer dangosydd neu fesur perfformiad
penodol er mwyn darparu data ystyrlon. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd
Gwyneth Kensler, cadarnhaodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol bod y Cyngor
wedi ymateb i’r ymgynghoriad blynyddol ar y setiau dangosyddion cenedlaethol o ran
perthnasedd a defnyddioldeb ond dim ond mân newidiadau a wnaed i’r dangosyddion
o ganlyniad.
Mewn ymateb i gwestiynau, ymhelaethodd y
Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol a’r Swyddog Gwelliannau Corfforaethol ar rai
o’r enghreifftiau a feincnodwyd a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad, gan nodi bod yr
amrywiadau yn adlewyrchu’r newidiadau yn sefyllfa’r Cyngor o gymharu ag
awdurdodau eraill Cymru dros flynyddoedd blaenorol. Sefyllfa ddiofyn y Cyngor
oedd bod dod yn y chwarter uchaf o gynghorau yng Nghymru yn “rhagorol” a bod
dod yn yr hanner gwaelod yn mynd yn “flaenoriaeth i wella” a bod statws wedi
cael cod lliw yn unol â hynny yn yr adroddiad er hwylustod cyfeirio. Ychwangodd
y Swyddog Gwelliannau Corfforaethol y byddai trefn newydd awdurdodau Cymru ar
gael ym mis Awst a fyddai’n galluogi i’r Cyngor ailasesu ei sefyllfa bryd
hynny.
Holodd y Cynghorydd Arwel Roberts ynglŷn
â’r ymchwil a oedd yn cael ei wneud gan Brifysgol Glyndŵr ar y dangosyddion i’w defnyddio ar gyfer y
flaenoriaeth i sicrhau bod tai o ansawdd da ar gael. Dywedodd y Rheolwr
Gwelliannau Corfforaethol bod y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda’r Brifysgol i
ddatblygu setiau data er mwyn darparu’r dangosddion angenrheidiol. Y bwriad
oedd darparu mesur o’r cyflenwad presennol o dai cymdeithasol, tai fforddiadwy
a thai ar y farchnad ynghyd â mesur o’r angen am dai a galw cronedig.
Crybwyllodd y Cadeirydd y gwaith yr oedd y brifysgol yn ei wneud yn ei ward ef
lle’r oedd crynodiad uchel o dai cymdeithasol, yn ystyried cyfleusterau
cymunedol, mannau agored, maint gerddi, ac adroddodd ar gyfarfodydd y byddai’n
ei fynychu ar 4 Mawrth.
Ystyriodd y pwyllgor drefniadau adrodd at y
dyfodol a chytuno sefydlu Is-grŵp Rheoli Perfformiad y Cynllun
Corfforaethol i ystyried adroddiadau perfformiad yn fanwl cyn y prif gyfarfod
pwyllgor. Cytunodd yr aelodau hefyd y dylid trefnu sesiwn briffio cyn y
cyfarfod, cyn eu cyfarfod nesaf ar 11 Ebrill ar y fframwaith rheoli perfformiad
a throthwyon dangosyddion.
PENDERFYNWYD –
(a) derbyn a chydnabod yr adroddiad gwaelodlin
drafft ar gyfer y Cynllun Corfforaethol 2012-17;
(b) sefydlu Is-grŵp Rheoli Perfformiad y
Cynllun Corfforaethol yn cynnwys y Cynghorwyr Colin Hughes, Arwel Roberts a
Gareth Sandilands i ystyried adroddiadau perfformiad chwarterol yn fanwl cyn
prif gyfarfod y pwyllgor, a
(c) threfnu sesiwn briffio cyn y cyfarfod,
cyn cyfarfod nesaf y pwyllgor ar 11 Ebrill ar y fframwaith rheoli perfformiad
a’r trothwyon dangosyddion.
Dogfennau ategol: