Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

AROLWG COFRESTR RISG GORFFORAETHOL, CHWEFROR 2013

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Gwella Corfforaethol (copi’n amgaeëdig) yn cyflwyno fersiwn diweddaraf y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

10.35 a.m.

 

Cofnodion:

[Cynhaliwyd sesiwn briffio cyn y cyfarfod ar gyfer aelodau’r pwyllgor ar Reoli Risg er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith craffu ar yr eitem hon]

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno fersiwn diweddaraf y Gofrestr Risg Gorfforaethol, a oedd yn manylu’r risgiau mawr sy’n wynebu’r Cyngor ar hyn  bryd, ynghyd â chamau i ddelio â’r risgiau hynny. Fel cefndir, roedd yr adroddiad yn manylu’r broses ar gyfer adlygu’r Gofrestr a rôl y Pwyllgor Craffu Perfformiad yn monitro cynnydd. Cyfeiriwyd hefyd at rôl Archwilio Mewnol yn rhoi sicrhad annibynnol ar fesurau lliniaru a rheoli risg.

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol a’r Swyddog Gwelliannau Corfforaethol ar y prif newidiadau i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol a grybwyllwyd yn yr adroddiad, gan esbonio materion ac ymateb i gwestiynau’r aelodau ar risgiau penodol, fel a ganlyn –

 

·         DCC005Y risg bod yr amser a’r ymdrech a fuddsoddir mewn prosiectau cydweithredu mawrion yn anghymesur â’r manteision a wireddir’– esboniwyd bod y risg wedi ei dileu oherwydd roedd y prosiectau bron wedi eu cwblhau ac roedd gwaith rheoli prosiect wedi ei gryfhau. Y ddau brif brosiect cydweithredu dan sylw oedd y Prosiect Gwastraff Rhanbarthol a’r Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwelliannau Ysgolion Rhanbarthol. Byddai’r ddau brosiect yn cael eu cynnwys ar eu Cofrestri Risg Gwasanaeth perthnasol

·         DCC006 Y risg bod yr amgylchedd economaidd yn gwaethygu y tu hwnt i ddisgwyliadau presennol, gan arwain at alw pellach ar wasanaethau a llai o incwm’ – mynegodd y Cynghorydd Colin Hughes beth pryder ynglŷn ag israddio’r risg hwn oherwydd bod y cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Budd-dal y Dreth Gyngor ond wedi ei warantu am flwyddyn gyda’r tebygolrwydd y byddai'r risg yn cynyddu. Cadarnhaodd swyddogion bod yr hinsawdd ariannol yn newid trwy’r amser a’i bod yn aros yn risg bwysig a fyddai’n cael ei hadolygu’n barhaus

·         DCC007 ‘Y risg bod gwybodaeth hollbwysig neu gyfrinachol yn cael ei cholli neu ei datgelu’ – holodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler a oedd aelodau etholedig â’r rhagofalon priodol i ddibenion prosesu gwybodaeth bersonol dan y Ddeddf Diogelu Data. Cytunwyd bod y Cydgysylltydd Craffu yn holi ynglŷn â hyn ac adrodd yn ôl

·         DCC013Risg atebolrwydd ariannol arwyddocaol a risg i enw da yn deillio o reoli cyfundrefn Hyd Braich’ – nodwyd absenoldeb Aelod Arweiniol a ddyrannwyd ar gyfer y risg hon a chadarnhaodd y swyddogion mai amryfusedd oedd hyn, gan ddweud y byddai’r Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Twristiaeth, Hamdden ac Ieuenctid mwy na thebyg yn cael ei ddyrannu i’r risg honno.

·         DCC017Risg bod effaith diwygiadau lles yn fwy arwyddocaol na’r hyn a ragwelir’ – Holodd y Cynghorydd Meirick Davies os oedd DCC017 yn bodloni diffiniad risg o fewn meini prawf y Cyngor. Cytunodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol nad oedd y risg hon yn syrthio’n llwyr o fewn y diffiniad ond ei fod yn fater o bwysigrwydd arwyddocaol ac roedd y Tîm Gweithredol Corfforaethol wedi gofyn am ei chynnwys ynghyd â DCC018 ‘Y risg nad yw prosiectau newid / moderneiddio yn cael eu gweithredu fel y bwriadwyd, gan lesteirio sylweddoli manteision.’

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei gyfarfod yn ddiweddar gyda Mr Gwilym Bury o Swyddfa Archwilio Cymru a chyfeiriodd at y Llythyr Asesu Gwelliannau cadarnhaol a gyflwynwyd. Roedd un o’r ddau gynnig ar gyfer gwelliannau yn amlygu’r angen i gynnwys mwy o wybodaeth ar statws a chanlyniadau prosiectau cydweithredu’r Cyngor a mynegwyd pryder ynglŷn â diffyg methodoleg ar gyfer llywodraethu corfforaethol prosiectau o’r fath. O ganlyniad, holodd y Cadeirydd a ddylid ystyried yr agwedd hon yn risg, yn gysylltiedig â DCC015Y risg na fedr y cyngor ddylanwadu ar yr agenda gydweithredu, a bod cydweithredu pellach yn cael ei orfodi arnom yn hytrach na’n cael ei wneud yn wirfoddol’. Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol ar y fframwaith a’r prosesau i’w mabwysiadu cyn cydweithredu er mwyn lliniaru materion llywodraethu, a ellir hefyd eu cynnwys mewn cynlluniau gwasanaeth ar sail unigol. Cytunodd godi’r mater gyda’r Tîm Gweithredol Corfforaethol, i drafod a ddylid ei adlewyrchu fel risg gorfforaethol. Cyfeiriwyd hefyd at adolygiad o’r cynnydd gyda’r Cytundeb ac annog cydweithredu, a fyddai’n cael ei adrodd yn ôl i’r aelodau. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Archwilio Mewnol bod y fframwaith wedi ei gyflwyno ar ôl y prosiectau cydweithredu cynharach ac y byddai Archwilio Mewnol yn adolygu prosiectau diweddarach i weld os oeddynt yn glynu at y canllawiau. Ychwanegodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol, os ystyrid bod llywodraethu mewn cysylltiad â chydweithredu yn wan, y byddai felly’n fater i’w drin yn hytrach na chael cyfeiriad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD bod y pwyllgor

 

(a)       yn cydnabod dileu ac ychwanegu eitemau a newidiadau i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, a

 

(b)       yn amodol ar esboniad ar y mater llywodraethu a godwyd ynglŷn â chydweithredu, yn cadarnhau bod y Gofrestr Risg Gorfforaethol yn cynnwys yr holl risgiau mawrion sy’n wynebu’r Cyngor ar hyn o bryd a bod y camau a nodwyd yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol yn briodol i ddelio â’r risgiau a adnabuwyd.

 

Ar y pwynt hwn (11.10 a.m.) torrodd y cyfarfod er mwyn cael egwyl luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: