Eitem ar yr agenda
Llythyr Gweinidogol ar y Fframwaith Moesegol
Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi’n amgaeëdig) yn
cyflwyno i’r Pwyllgor Lythyr Gweinidogol ar y Fframwaith Moesegol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad oedd yn cynnwys llythyr gan Weinidog Llywodraeth Leol
a Chymunedau am Fframwaith Foesegol Llywodraeth Leol, gan roi crynodeb o
gynnwys y llythyr a’i arwyddocâd i’r Cyngor.
Roedd y llythyr yn cyfeirio at nifer o faterion oedd yn cael eu cynnwys
yn y Papur Gwyn ‘Hyrwyddo Democratiaeth Leol’ ac yn cynnig diweddariad a
chanllawiau pellach am weithrediad darpariaeth y Papur Gwyn. Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion hyn a
chytunwyd ar ymateb i’w gyflwyno i’r Gweinidog.
Datrysiadau lleol ar gyfer cwynion lefel isel am
ymddygiad aelodau
Roedd y Gweinidog
yn arnodi argymhelliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bod awdurdodau
lleol yn defnyddio proses ddatrys ar gyfer cwynion lefel isel yn erbyn aelodau,
a gofynnwyd i’r awdurdodau wneud trefniadau i ddefnyddio protocol cyffredinol
yn wirfoddol. Cadarnhaodd y Swyddog
Monitro bod y Cyngor wedi dechrau defnyddio’r protocol a mynegodd ei gefnogaeth
tuag at y broses gyflymach, effeithlon newydd ar gyfer archwilio materion na
fyddai’n cael sylw’r Ombwdsmon fel arfer.
Roedd y Swyddog Monitro yn darlunio proses gymodi yn cynnwys arweinwyr
grwpiau gwleidyddol, gyda’r dewis o godi’r cwynion gyda’r Pwyllgor Safonau fel
bo’r angen. Bydd y Cyngor Sir yn profi
hyn cyn ei ddefnyddio mewn Cynghorau Tref a Chymuned. Derbyniodd y
Pwyllgor y cyngor bod yn rhaid i unrhyw gwynion gan y cyhoedd gael eu rhoi i’r
Ombwdsmon.
Roedd y Pwyllgor
yn cydnabod bod angen proses er mwyn datrys cwynion lefel isel, a phwysigrwydd
rôl y Pwyllgor yn y broses hon.
Gofynnodd y Cadeirydd sut y byddai pennu lefel y cwynion er mwyn
penderfynu bod angen eu hatgyfeirio, a chynigodd y Swyddog Monitro mai diben y
broses oedd delio â chwynion megis cyhuddiadau o amarch rhwng aelodau. Byddai’r Swyddog Monitro yn ymgynghori
gyda’r Ombwdsmon i sefydlu rhagesiampl sut yr oeddent wedi delio ag achosion
penodol yn y gorffennol, a byddai hyn yn darparu gwybodaeth ar gyfer y broses
atgyfeirio.
Cytunodd y
Pwyllgor i ymateb er mwyn cadarnhau eu bod yn cefnogi’r broses datrys yn lleol
ac i drefnu manylion y trefniadau.
Cap gwirfoddol ar indemniad
Roedd y Papur
Gwyn yn argymell cyflwyno cap gwirfoddol o £20,000 yn cael ei gynnig gan
awdurdodau lleol fel indemniad ar gyfer costau cyfreithiol a wnaed gan aelodau
oherwydd achosion o gamymddwyn. Eglurodd
y Swyddog Monitro bod y broses yn Sir Ddinbych yn nodi y dylid cyflwyno cais am
indemniad i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, ond nad oedd cyfyngiadau ar
y cyfansymiau y gellid eu talu. Pwysleisiodd y Swyddog Monitro y pwysigrwydd
bod aelodau yn gallu amddiffyn eu hunain yn erbyn cyhuddiadau Cod Ymddygiad, ond
nododd pryder Llywodraeth Cymru bod posibilrwydd y gall y costau cyfreithiol
gynyddu. Byddai’n rhaid i’r
Cyngor adennill unrhyw arian a dalwyd yn yr indemniad petai cerydd yn cael ei
chynnal, a ni fyddai gan y Cyngor unrhyw hyblygrwydd yn hyn o beth.
Roedd yr
Ombwdsmon wedi nodi y byddai’n barod i gytuno ar gap cilyddol ar gyfer costau
cyfreithiol, a chytunodd y Pwyllgor, gan y bydd y cap yn berthnasol i’r naill
a’r llall, y byddai hyn yn cael ei ystyried yn gyfatebol o dan Erthygl 6
Confensiwn Ewropeaidd Hawliau Dynol, oedd yn amddiffyn eu hawl i achos
teg. Ond, cytunwyd i ofyn am eglurhad
gan y Gweinidog.
Nododd y Pwyllgor
er bod cap ar yr indemniadau yn galluogi dyrannu cyfanswm hael iawn, ystyriwyd
ei bod yn bwysig bod aelodau yn cael cynnig cefnogaeth i gyflawni eu rôl, ac ar
adegau golyga hyn bod yn rhaid iddynt siarad am bynciau cynhennus gyda risg
cynhenid o gerydd.
Cytunodd y Pwyllgor i gefnogi cyflwyno cap indemniadau sy’n daladwy i
aelodau mewn perthynas â chostau cyfreithiol, a’r cap hwnnw yn £20,000.
Addasiadau i’r Cod Ymddygiad
Nododd y Gweinidog ei fwriad i addasu’r Cod Ymddygiad i dynnu paragraff
6(1)(c) – bod yn rhaid adrodd unrhyw weithred sy’n torri’r Cod Ymddygiad i’r
Ombwdsmon – er mwyn gallu cyflwyno proses datrys yn lleol ar gyfer cwynion
lefel isel gan aelodau. Gan hynny, petai
aelodau yn adrodd am weithred yn erbyn y Cod Ymddygiad drwy’r broses newydd, ni
fyddai’r Cod Ymddygiad ei hunan yn cael ei dorri mewn perthynas â diffyg adrodd
yn uniongyrchol i’r Ombwdsmon.
Paragraff 10 (2)(b) – bydd y gorchymyn bod yn rhaid i aelodau ddatgan
cysylltiad personol mewn penderfyniad all effeithio ar eu hetholaeth – yn cael
ei dynnu hefyd. Byddai dehongli’r
paragraff yn llythrennol yn rhwystro rôl gynrychiadol aelod etholedig, a nododd
y Gweinidog hyd yn oed heb y paragraff hwn, roedd y Cod Ymddygiad yn cynnwys
darpariaeth benodol er mwyn i aelodau wneud penderfyniadau’n wrthrychol.
Cytunodd y Pwyllgor i gefnogi’r addasiadau hyn i’r Cod Ymddygiad.
Dyfarniad Calver
Cynghorodd y Gweinidog bod yr Ombwdsmon wedi addasu ei ganllawiau i gynnwys
dyfarniad yn R (Calver) v Panel Dyfarnu
Cymru. Gwnaeth y Swyddog Monitro gyflwyniad ar effaith yr achos pan
gyfarfu’r Pwyllgor Safonau ym mis Rhagfyr.
Cwynion Blinderus
Gofynnodd y Gweinidog bod trefniadau yn cael eu gwneud i sicrhau bod
aelodau yn ymwybodol o broblem cwynion blinderus, maleisus a gwamal fel rhan
o’u hyfforddiant. Roedd yr hyfforddiant
oedd yn cael ei ddarparu i Gynghorau Sir, Tref a Chymuned yn cynnwys hyn.
Cyfryngau Cymdeithasol
Roedd y Gweinidog yn tynnu sylw at ganllawiau’r Ombwdsmon ar ddefnydd
cyfryngau cymdeithasol a’r problemau cysylltiol. Mynegodd y Swyddog Monitro bod disgwyl i’r aelodau ymddwyn fel pe baent
yn cyflawni eu dyletswyddau wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, a
chydnabyddo’r pwyllgor manteision ac anfanteision defnyddio cyfryngau
cymdeithasol.
Cofrestr Cysylltiadau
Eglurodd y Swyddog Monitro bod Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn gofyn am gadw
cofrestr o gysylltiadau’r aelodau (megis cyflogaeth, eiddo, aelodaeth,
cwmnïau). Nododd y Dirprwy Swyddog
Monitro bod cofrestr yn cael ei chadw ond bod yr adran TGCh yn archwilio modd o
gyhoeddi hyn drwy wefan y Cyngor. Mae’r
Cyngor yn derbyn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn achlysurol, felly byddai hyn
yn gwella mynediad y cyhoedd ac yn gwneud y broses yn fwy effeithlon. Nododd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai
aelodau yn cael gwybod am geisiadau a wnaed yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth
2000 petai’r wybodaeth yn ymwneud â hwy yn benodol, ond ni fyddant yn cael
gwybod petai’r wybodaeth eisoes yn gyhoeddus.
Ychwanegodd y Swyddog Monitro y bydd disgwyl i’r aelodau ddatgan unrhyw
gysylltiad fel bo’n addas yng nghyfarfodydd y Cyngor.
Cytunodd y Swyddog Monitro i grynhoi’r drafodaeth a gofyn am sylwadau gan y
Cadeirydd, cyn cyflwyno hyn fel ymateb ffurfiol i lythyr y Gweinidog.
PENDERFYNWYD –
bod y Pwyllgor yn:-
i.
Cefnogi
argymhellion y Gweinidog mewn perthynas â fframwaith datrys yn lleol, cap
gwirfoddol ar indemniadau a’r addasiadau i’r Cod Ymddygiad; a
ii.
Chytuno y bydd y Swyddog Monitro yn ymateb
i lythyr y Gweinidog er mwyn darparu gwybodaeth am gefnogaeth y Pwyllgor, a
rhoi diweddariad am gynnydd y Cyngor wrth weithredu darpariaethau’r Papur Gwyn.
Dogfennau ategol:
- Local Government Ethical Framework, Eitem 7. PDF 54 KB
- Local Government Ethical Framework App, Eitem 7. PDF 1 MB
- Local Government Ethical Framework App, Eitem 7. PDF 1 MB