Eitem ar yr agenda
MAE GOFAL IECHYD YNG NGOGLEDD CYMRU YN NEWID” - PENDERFYNIADAU
- Meeting of Cyngor Sir, Dydd Mawrth, 5 Chwefror 2013 10.00 am (Item 6.)
- View the declarations of interest for item 6.
Ystyried cyd-adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles, yn crynhoi’r penderfyniadau a gymerwyd gan Fwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 18 Ionawr 2013 a’r goblygiadau i’r Cyngor, a derbyn diweddariad llafar yn y cyfarfod
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
dros Foderneiddio a Lles (CD:MW) yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) yn
crynhoi’r penderfyniadau a wnaethpwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr (BIPBC) ar 18 Ionawr 2013 yn dilyn ymgynghoriad ar adolygiadau’r
gwasanaeth iechyd. Roedd yr adroddiad yn
canolbwyntio ar y penderfyniadau a oedd yn ymwneud â chyfleusterau a gwasanaethau yn Sir Ddinbych
ynghyd ag amserlenni ar gyfer gweithredu a materion a phryderon oedd yn parhau
i’r Cyngor. Yn nhermau gwneud penderfyniadau, atgoffwyd aelodau mai’r Cyngor
Iechyd Cymuned (CIC) oedd yr unig gorff a allai atgyfeirio penderfyniad y Bwrdd
yn ffurfiol i’r Gweinidog, a bod angen ymateb y Cyngor hwnnw erbyn 3 Mawrth
2013. Gofynnwyd am safbwyntiau’r Aelodau
ynghylch y datblygiadau diweddaraf a’r camau nesaf gan ystyried argymhellion yr
adroddiad a diweddariad llafar gan y Prif Weithredwr.
Rhoddodd y Prif Weithredwr adroddiad
llafar o’r cyfarfod rhwng Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a
BIPBC a gynhaliwyd ar 1 Chwefror. Yn y cyfarfod hwnnw, trafodwyd pedwar maes
eang a oedd yn achosi pryder –
Costau ychwanegol yn gysylltiedig â
chynnydd mewn gofal yn y gymuned - gallai datblygiad ardaloedd lleol a
gwasanaeth gofal gwell arwain at gynnydd yn y galw ar wasanaethau cymdeithasol
a chostau. Ystyriwyd bod gofal yn y
cartref yn gam positif ond nid oedd digon o fanylion ar y cynigion a’r materion
yn ymwneud â fforddiadwyedd, gweithrediad ac adnoddau. Roedd BIPBC wedi rhoi
sicrwydd llafar na fyddai costau yn cael eu trosglwyddo i awdurdodau lleol ac
roedd cynghorau wedi gofyn am weld model ariannol yn cael ei ddatblygu a
fyddai’n rhoi manylion ar gostau ariannol a phroses eglur ar gyfer gweithredu’r
newidiadau.
Buddsoddi Cyfalaf -
roedd y cynlluniau yn cynnwys oddeutu £40m o fuddsoddi cyfalaf yn y
ddarpariaeth newydd, ac roedd oddeutu £27m o’r swm o fewn Sir Ddinbych. Nid
oedd yr arian angenrheidiol wedi’i sicrhau hyd yma ac roedd cynlluniau yn
ddibynnol ar ansawdd yr achos busnes a Llywodraeth Cymru yn darparu’r
arian. Gan fod hwn yn faes risg
sylweddol, roedd cais wedi’i wneud am gael sicrwydd bod arian ar gael ar gyfer
cyfleusterau newydd cyn i unrhyw gyfleusterau sy’n bodoli eisoes gael eu cau
fel y cynlluniwyd.
Trefniadau Cludiant -
roedd hi’n amlwg y byddai’n rhaid i fwy o bobl, gan gynnwys pobl fregus,
deithio ar gyfer darpariaeth gofal iechyd. Roedd teimlad bod cyfrifoldeb ar y
sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol i ddatblygu cynllun cludiant ac roedd
BIPBC wedi ymrwymo i wario £80k ar ymateb i anghenion teithio. Er mwyn symud
ymlaen, byddai’n rhaid i bartneriaid perthnasol ddatblygu cynllun cludiant i’r
bobl hynny sydd wedi’u heffeithio.
Rheoli Trefniadau Trosglwyddo – roedd cynlluniau i gau gwasanaethau
a chyfleusterau cyn i’r cyfleusterau newydd gael eu sefydlu hefyd yn achosi
cryn bryder. Roedd BIPCB wedi egluro na fyddai’r un claf heb wasanaethau pan
fyddai angen y rheiny ac y byddai’r bobl a oedd yn cael eu heffeithio yn cael
cefnogaeth hyd nes byddai’r trefniadau newydd yn eu lle. Roedd angen sicrwydd
bod cynlluniau trosglwyddo effeithiol wedi cael eu datblygu.
Talodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod
Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant deyrnged i staff sy’n
gweithio yn y gwasanaeth iechyd mewn amgylchiadau ansicr ac anodd. Tra’n cytuno bod yr adolygiad wedi bod yn
angenrheidiol, roedd yn teimlo y gellid fod wedi rheoli’r broses yn fwy
effeithiol. Roedd y Cyngor wedi
craffu’n ofalus ar y cynlluniau a byddai sefydlu Fforwm Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Strategol yn sicrhau bod trafodaethau yn parhau. Wrth roi sylwadau
ar y cynlluniau, mynegodd ei siom gyda’r ffaith y bydd Ysbyty Rhuthun yn colli
ei uned mân anafiadau a gwasanaethau pelydr-x a hefyd gyda’r cynlluniau i gau
gwelyau cleifion mewnol yn Ysbytai Prestatyn a Llangollen Hospitals cyn i’r
gwasanaethau newydd gael eu sefydlu. Tynnodd sylw hefyd at yr angen i
ail-ymweld â threfniadau cludiant a gwasanaethau newydd-anedig. Yng ngoleuni
adroddiad llafar y Prif Weithredwr, cynigiodd y Cynghorydd Feeley y dylid
cynnal cyfarfod brys gyda BIPBC i bwyso am addewid na fyddai cyfleusterau yn
cau hyd nes bod buddsoddiad cyfalaf newydd wedi’i sicrhau. Cynigiodd hefyd y dylid cynnal cyfarfod gydag
asiantaethau eraill i ymdrin â’r trefniadau cludiant.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Ray Bartley,
aelod o’r CIC, ei fod wedi bod yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar
hynt CIC ac y byddai’n parhau i wneud hynny. Byddai’n mynychu’r cyfarfod nesaf
o’r Bwrdd Gweinyddol ar 20 Chwefror er nad fe aelodau.
Agorodd y Cadeirydd y drafodaeth gan
ofyn am safbwyntiau aelodau ar ddatblygiadau diweddar a’r ffordd ymlaen. Tra’n
gwerthfawrogi’r angen am ad-drefnu gwasanaethau iechyd, mynegodd y Cyngor eu
rhwystredigaeth a’u siom gyda phenderfyniadau a wnaethpwyd gan BIPBC er
gwaethaf protestiadau lleol a gwrthwynebiad chwyrn i gynigion penodol a oedd
wedi’u nodi’n glir yn yr ymateb cynhwysfawr i’r ymgynghoriad. Codwyd pryderon
bod safbwyntiau cyhoeddus wedi’u diystyru yn ystod y broses gwneud
penderfyniadau ac nad oedd sylw dyledus wedi’i roi i sylwadau’r Cyngor nag
ymateb digonol wedi’i roi i ddarparu sicrwydd ynghylch rhai materion
penodol. Roedd aelodau’n ystyried bod
BIPBC wedi bod yn gamarweiniol ac yn llai nag onest yn eu gweithrediadau a bod
hynny wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth a hyder yn y Bwrdd Iechyd. Roedd
cyflymder y broses cau ysbytai a gwasanaethau penodol yn bryder mawr, yn
enwedig yng ngoleuni’r cyhoeddiad diweddaraf y byddai rhai unedau mân anafiadau
yn cau o fewn pythefnos hyd yn oed cyn bod ymateb i’r penderfyniadau wedi cael
eu derbyn oddi wrth y CIC. Roedd teimlad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu
fawr ddim sicrwydd mewn ymateb i faterion o bwys a bod hynny’n anfon neges o
ddifaterwch ar eu rhan ac agwedd ddi-hid at safbwyntiau lleol. Cyfeiriodd
Aelodau at eu dyletswydd i gynrychioli buddiannau eu cymunedau gan nodi eu bod
yn teimlo’n gryf bod angen ymateb yn bendant a gweithredu i gyfathrebu nerth eu
teimladau i BIPBC.
Nid oedd y Cynghorydd Stuart Davies am
fynd mor bell â chynnig pleidlais o ddiffyg hyder yn
y Bwrdd Iechyd, gan gynnig yn hytrach bod y Cyngor yn mynnu cyfarfod brys gyda
BIPBC i drafod y posibiliad o gadw cyfleusterau presennol ar agor hyd nes bod
ymrwymiad pendant wedi dod o Lywodraeth Cymru ynghylch ariannu’r cyfleusterau
newydd a bod cyfleusterau dros dro wedi’u sefydlu. Ychwanegodd os nad oedd
BIPBC yn fodlon trafod, y byddai’n cynnig pleidlais o ddiffyg hyder yng
nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn. Eiliodd y Cynghorydd Peter Evans y cynnig.
Adroddodd y Cynghorydd Alice Jones ar
ymchwil yr oedd wedi’i wneud yng ngoleuni’r cynigion gofal iechyd a’r effaith
ar Ysbyty Glan Clwyd (YGC) a chododd bryderon ynghylch y canlynol –
·
israddio YGC i hwb
ysbyty a cholli statws
·
effaith y cynlluniau ar gyfer gwasanaethau
fasgwlar, yn enwedig gan fod llawdriniaeth fasgwlar ar y safle yn hanfodol os
oedd YCG am ddod yn Ganolfan Ymyriad Coronaidd
·
yr effaith ar Ddamweiniau ac Achosion Brys na
fyddai bellach yn derbyn ystod lawn o gyflyrau ond a fyddai’n fwy dewisol;
byddai hynny’n effeithio ar iechyd cleifion ac yn arwain at anawsterau o ran
recriwtio meddygon dan hyfforddiant, a
·
dileu
llawdriniaeth brys yn yr ysbyty.
Gofynnodd y Cynghorydd Jones am
gefnogaeth y Cyngor i amddiffyn statws a gwasanaeth YGC fel Ysbyty Cyffredinol
Dosbarth a chynigiodd welliant i ymateb y Cyngor i gynnwys cyfeiriad at eu
gwrthwynebiad i israddio YGC i fod yn hwb ysbyty a’u dymuniad iddo barhau fel
Ysbyty Cyffredinol Dosbarth gydag uned llawdriniaeth lawn, ragorol i gynnwys
gwasanaeth fasgwlar brys. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Hugh Irving. Tra’n derbyn y pryderon a godwyd, nid oedd y
CD:MW yn ystyried bod dynodi YGC fel hwb yn golygu bod yr ysbyty wedi’i
israddio ond yn hytrach bod y
gwasanaethau a ddarparwyd gan hybiau ysbyty hefyd ar gael yno. Cyfeiriodd at y
buddsoddiad sylweddol yn yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys a’r theatrau yn
YGC a nododd ei bod yn teimlo y dylid gofyn am sicrwydd gan BIPBC ynghylch
gwasanaethau ar y safle yn hytrach na thybio bod yr ysbyty yn mynd i gael ei
israddio.
Mynegodd y Cynghorydd Arwel Roberts ei
bryderon ynghylch gwasanaethau newydd-anedig yn cael eu symud i Ysbyty Arrowe Park
Hospital ar y Wirral a chyfeiriodd at grŵp trawsbleidiol o Aelodau
Cynulliad a oedd wedi uno gyda golwg ar rwystro’r cynlluniau. Cynigiodd y
Cynghorydd Roberts, ac eiliodd y Cynghorydd Rhys Hughes, y dylid galw ar holl
Brif Weithredwyr Gogledd Cymru i wrthwynebu’r cynllun i symud gwasanaethau
newydd-anedig allan o Gymru. Nododd y Cynghorydd Cefyn Williams bod y Bwrdd
wedi cadarnhau symud gwasanaethau newydd-anedig o fewn 6 - 12 mis ar ôl derbyn
sicrwydd bod Arrowe Park wedi cydymffurfio gyda’r safonau gofynnol. O ganlyniad, roedd y Cynghorydd Williams yn
cwestiynu safon y gofal yn Arrowe Park gan deimlo y byddai’n well gwario’r
arian a glustnodwyd ar gyfer gofal newydd-anedig yng Ngogledd Cymru.
Yn ystod y drafodaeth, cytunodd
aelodau mai’r meysydd canlynol oedd yn achosi’r pryder mwyaf iddynt -
·
trefniadau trosglwyddo wrth i BIPBC baratoi i
gau rhai gwasanaethau a chyfleusterau cyn bod addewid o fuddsoddiad cyfalaf
newydd wedi’i roi neu cyn i wasanaethau dros-dro gael eu sefydlu
·
lefel y gefnogaeth
i ofalwyr a diffyg cynigion i ariannu gwasanaethau gwell yn y cartref
·
cludiant a
threfniadau teithio
·
y gost botensial i’r Cyngor wrth i fwy o
wasanaethau symud allan o ysbytai ac i gartrefi bobl
·
dyfodol Ysbyty
Glan Clwyd fel Ysbyty Cyffredinol Dosbarth
·
trosglwyddo gofal
newydd-anedig i Ysbyty Arrowe Park
Tynnodd Aelodau sylw hefyd at effaith
penderfyniadau’r Bwrdd Iechyd ar eu trefi a’u cymunedau penodol a chodwyd
pryderon ynghylch –
·
cau Ysbyty
Cymunedol Prestatyn gyda gwelyau i gleifion yn cael eu darparu mewn ysbytai
cyfagos (a oedd eisoes gyda’u dalgylchoedd eu hunain – hynny’n achosi pryderon
ynghylch lle) a diffyg unrhyw sicrwydd i ddangos bod materion yn ymwneud â chludiant wedi cael sylw
·
roedd y Cynghorydd
Peter Evans yn dymuno cofnodi ei fod yn gwrthwynebu cau Ysbyty Cymunedol
Prestatyn hyd nes bod y cyfleusterau newydd wedi’u sefydlu yn Y Rhyl
·
gwasanaethau yn
cael eu trosglwyddo i Feddygon Teulu (sydd eisoes dan bwysau) heb unrhyw
ddarpariaeth i gynyddu adnoddau i gyd-fynd â hynny
·
adnoddau a gallu i
wasanaethau penodol yn cael eu cynnal rhywle arall gan achosi mwy o bwysau ar
wasanaethau eraill
·
y brys ynghylch
cau unedau mân anafiadau yn Rhuthun a Llangollen a chau
cyfleusterau pelydr-x yn Rhuthun
·
cau Ysbyty
Llangollen a’r effaith niweidiol ar y gymuned leol a’u lles, a’r angen i
fuddsoddi yn yr ysbyty yn lle ei gau.
Wrth wrthwynebu cau Ysbyty Llangollen,
cynigiodd y Cynghorydd Rhys Hughes gynnig o ddiffyg hyder yn y broses
ymgynghori a chynigion BIPBC ar gyfer y dyfodol yn Sir Ddinbych. Eiliwyd y
cynnig gan y Cynghorydd Huw Williams.
Yng ngoleuni’r drafodaeth fanwl a
nifer y cynigion, bu’r Cyngor yn ystyried sut orau i ymdrin â’u pryderon a chynrychioli buddiannau’r
gymuned. Ystyriwyd a ddylid cymryd pleidlais o ddiffyg hyder yn y Bwrdd Iechyd
neu fwrw ati i gynnal trafodaethau pellach gyda golwg ar ddod i gytundeb.
Cynigiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylid galw cyfarfod brys gyda
BIPBC ac i ystyried pleidlais o ddiffyg hyder yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn
os na chafwyd ymateb boddhaol. Ar ôl pwyso a mesur, ystyriwyd y dylid gwneud
ymgais bellach i gyfarfod gyda swyddogion BIPBC i drafod y ffordd ymlaen a
gohirio’r galw am bleidlais o ddiffyg hyder yn y Bwrdd Iechyd hyd nes bod
canlyniad y cyfarfod hwnnw yn wybyddus. Cytunwyd y dylai’r uwch gyfarfod
gynnwys yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Bobby Feeley ynghyd â chynghorwyr i gynrychioli ardaloedd lleol
gwahanol fel a ganlyn – y Cynghorwyr Stuart Davies, Peter Evans, Alice Jones,
Pat Jones, Gwyneth Kensler, Jason McLellan, Arwel Roberts, Julian Thompson-Hill
and Huw Williams.
PENDERFYNWYD –
(a) y
dylid trefnu cyfarfod brys rhwng Prif Weithredwr BIPBC a Phrif Weithredwr y Cyngor a’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Foderneiddio a Lles ynghyd â’r cynghorwyr enwebedig (a enwyd
uchod) i drafod pryderon y Cyngor ynghylch y newidiadau gwasanaeth a gynigiwyd
i ddarpariaeth gofal iechyd ar draws y rhanbarth ac i drafod ffordd ymlaen, ac
(b)
y
dylid ystyried adroddiad ar y trafodaethau hyn yng nghyfarfod nesaf y Cyngor
Llawn ar 26 Chwefror er mwyn galluogi aelodau i roi ystyriaeth bellach i
safle’r Cyngor yng ngoleuni’r adborth a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: