Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

NEWIDIADAU I DREFNIADAU ARIANNU BYSIAU

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, yr Aelod Arweiniol dros Dir y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) sy’n ceisio cymeradwyaeth i’r trefniadau rheolaeth diwygiedig sy’n angenrheidiol i gyflenwi’r cynllun ariannu bysiau newydd drwy TAITH, ac i newid i Gyfansoddiad Taith i ganiatáu cyflenwi’r cynllun newydd.

 

 

 

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i’r trefniadau rheoli diwygiedig sy’n ofynnol i gyflenwi’r cynllun newydd i ariannu bysiau drwy TAITH, y Consortiwm Cludiant Rhanbarthol, ac i newid i Gyfansoddiad TAITH i ganiatáu cyflenwi’r cynllun newydd.

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet:-

 

(a)   yn nodi’r trefniadau newydd ar gyfer ariannu bysiau i’w gweithredu o Ebrill 1af  2013 yn dilyn cymeradwyaeth i’r adroddiad ar ariannu bysiau gan y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau.

(b)   yn cymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig i Gyfansoddiad TAITH a fynegir yn Atodiad 1 i’r adroddiad

(c)    yn nodi y byddai gwaith pellach yn cael ei fwrw ymlaen i nodi’r trefniadau rheoli newydd ar gyfer cyflenwi’r cynllun newydd yn ystod y cyfnod gweithredu cychwynnol a’r cyfnod trosiannol ar gyfer Grant Gwasanaethau Cludiant Rhanbarthol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y trefniadau rheoli diwygiedig a oedd yn ofynnol i gyflenwi’r cynllun ariannu bysiau newydd drwy TAITH, y Consortiwm Cludiant Rhanbarthol, ac ar gyfer newid i Gyfansoddiad TAITH i ganiatáu cyflenwad y cynllun newydd.

 

Cyhoeddodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau ei fwriad i newid y system grantiau a ddefnyddir i gynorthwyo teithio ar fysiau yng Nghymru.  Roedd yr amrywiadau’n awr wedi eu terfynu ac roedd yr adroddiad yn nodi’r newidiadau ac yn amlygu eu hoblygiadau.

 

Roedd Grant y Gweithredwyr Gwasanaethau Bws a ddarperir yn uniongyrchol i weithredwyr bws gan Lywodraeth Cymru, a Grant Gwasanaethau Cludiant Lleol, a ddarperir i gynorthwyo rhwydweithiau bysiau lleol, yn darparu cymorth ar hyn o bryd i wasanaethau bysiau gan Lywodraeth Cymru.  Cyfanswm gwerth cyfunol y grantiau yn 2011/12 oedd £33 miliwn.  Yn Ionawr 2012 cyhoeddodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau ostyngiad arfaethedig o 25 i 27% yn y ddau gynllun.  Fe fyddai yna gyfnod ariannu trosiannol tra byddai’r grant yn cael ei gynnal, yn amodol ar adolygiad o ariannu gwasanaethau bws yn y dyfodol ledled Cymru.  Fe weithredwyd cyfnod cyntaf y gostyngiad o oddeutu 9.5% o Hydref 1af 2012 gyda gostyngiadau lleol yn y llwybrau bws a gynhelir wedi eu cytuno gan y Cabinet ym Medi 2012.

Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r trefniadau ariannu bysiau diwygiedig ac yn cadarnhau bod yr adroddiad gan y Grŵp Llywio, a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, yn awr wedi ei gymeradwyo gan y Gweinidog.  Roedd egwyddorion allweddol y trefniadau newydd a oeddid i’w sefydlu o Ebrill 1af 2013 wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd ag amlinelliad o’r gwaith a oedd yn ofynnol i sicrhau bod y consortia, yr awdurdodau lleol a’r gweithredwyr yn barod i weithredu’r system newydd erbyn Ebrill 1af.  Roedd cynlluniau ar gyfer rheoli a darparu adnoddau ar gyfer y cyfrifoldebau newydd yn cael eu datblygu’n lleol gan Grŵp Tasg a Gorffen o Reolwyr Cludiant Gogledd Cymru.

Esboniwyd y byddid yn gweithio i ddeall lefelau presennol y cymorth Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bws ar gyfer gwasanaethau masnachol a gwasanaethau a gynorthwyir, i bennu gwir lefelau’r ariannu ar gyfer elfen milltiredd masnachol y grant newydd a lefelau ariannu sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau a gynhelir.  Roedd y Gweinidog wedi cytuno i gyflwyniad y system newydd ddigwydd yn gyfnodol.  Byddai rhanbartholiad y Grantiau Gwasanaethau Cludiant Lleol yn mynd yn eu blaen fel a gynlluniwyd ar Ebrill 1af 2013 gyda newidiadau i Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bws i’w cyflwyno dros gyfnod o 12 mis.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Smith fod yna berygl y gallai’r cynigion newydd effeithio ar rwydweithiau bws presennol yn ystod cyfnod y trawsnewid ac fe fyddai yna leihad anochel yn nifer y gwasanaethau masnachol a fyddai’n gweithredu yng Ngogledd Cymru a hynny’n rhoi pwysau ar y rhwydwaith a gynorthwyir.  Byddai lefel yr ariannu heb ei neilltuo a ddyrennir gan Awdurdodau Lleol yn dod dan bwysau wrth i’r newidiadau a’r gostyngiad yn y gyllideb effeithio ar rwydweithiau.  Esboniwyd y byddai perthynas weithio glos rhwng TAITH a’r Awdurdodau Lleol yn hanfodol i reoli’r newidiadau potensial.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol wrth Aelodau fod Cyfansoddiad presennol TAITH yn cyfyngu ei swyddogaeth i’r nodau a’r amcanion a fynegir ym mharagraffau 3.1 a 3.2 ei Gyfansoddiad.  Cynigiwyd diwygio’r Cyfansoddiad drwy ychwanegu'r amcan ychwanegol isod at baragraff 3.2 y ddogfen.  Roedd manylion y diwygiadau arfaethedig wedi eu mynegi’n llawn yn Atodiad 1.  Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau pellach a byddai unrhyw newidiadau pellach i swyddogaeth TAITH angen cymeradwyaeth bellach yr Awdurdodau partner.  Yn ateb i gwestiwn gan y Cynghorydd H.C. Irving, cadarnhawyd nad oedd unrhyw staff Sir Ddinbych wedi eu secondio i TAITH i ddatblygu’r broses weithredu.

 

Fe amlygodd nifer o Aelodau’r cyfraniad a wnaethpwyd gan wasanaethau bws lleol i gynnal cymunedau gwledig a datblygu’r economi leol.  Cyfeiriwyd at effaith negyddol posib o ganlyniad i dynnu gwasanaethau’n ôl a phwysigrwydd ymgynghori â’r gymuned wrth ystyried darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol.

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r ffordd y byddai’r penderfyniadau’n cyfrannu tuag at y Blaenoriaethau Corfforaethol, costau a’u heffaith ar wasanaethau eraill, y broses ymgynghori, Datganiad y Prif Swyddog Cyllid a’r risgiau a’r camau i’w lleihau.

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet:-

 

(a)   yn nodi’r trefniadau newydd ar gyfer ariannu bysiau i’w gweithredu o Ebrill 1af 2013 yn dilyn cymeradwyaeth i’r adroddiad ar ariannu bysiau gan y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau.

(b)   yn cymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig i Gyfansoddiad TAITH sydd wedi eu mynegi yn Atodiad 1 i’r adroddiad

(c)    yn nodi y byddid yn bwrw ymlaen â gwaith pellach i nodi trefniadau rheoli newydd ar gyfer cyflenwi’r cynllun newydd yn ystod gweithrediad cychwynnol a chyfnod trosiannol y Grant Gwasanaethau Cludiant rhanbarthol.

 

 

Dogfennau ategol: