Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 2013/14

I ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i gyllideb 2013/14 a’r cynnydd canlyniadol yn lefel Treth Gyngor ar gyfer 2013/14.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn manylu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2013/14 a’r cynnydd dilynol yn lefel y Dreth Gyngor. Roedd y canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad: Cynigion Arbedion y Gyllideb ar gyfer 2013/14 (Atodiad 1); Grantiau a drosglwyddwyd i’r Setliad Cyffredinol 2013/14 (Atodiad 2); Cyllideb Sir Ddinbych 2013/14 (Atodiad 3) a’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb (Atodiad 4).

 

Hysbyswyd yr Aelodau o setliad terfynol is na’r disgwyl o Lywodraeth Cymru gan gynnwys toriad yn y cyllid cyfalaf a oedd yn golled arwyddocaol. Tynnwyd sylw at y goblygiadau i’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (MTFP) ynghyd â’r arbedion fyddai eu hangen dros y dair blynedd nesaf a’r rhagolygon diweddaraf yn nhermau’r pwysau oedd wedi’u hadnabod yn flaenorol. Cyfeiriwyd at - 

 

· disgwyliad Llywodraeth Cymru y byddai cyllidebau ysgolion a gofal cymdeithasol yn cael eu hamddiffyn rhag arbedion a fyddai’n rhoi straen pellach ar wasanaethau eraill wrth iddynt orfod chwilio am arbedion pellach i wneud iawn [ar gyfer 2013/14 roedd oddeutu 56% o’r gyllideb wedi’i gylch ffensio a’i amddiffyn]

· goblygiadau ariannol yn codi o Gynllun Cymorth y Dreth Gyngor, yn enwedig yng ngoleuni newidiadau diweddar i’r rheoliadau sy’n arwain at dderbyniadau annisgwyl sydd o leiaf werth £300k i’r flwyddyn ynghyd ag opsiynau posibl ar gyfer dyrannu’r swm yma 

· diweddariad ar ganlyniadau gweithdai’r gyllideb a gynhaliwyd i aelodau yn Nhachwedd a Rhagfyr   2012 (ynghylch arbedion, blaenoriaethau a’r dreth gyngor) ynghyd â’r sesiwn ar ariannu’r Cynllun Corfforaethol

· yn seiliedig ar gynigion cyfredol, 2% o gynnydd ar y mwyaf fyddai yn y Dreth Gyngor a’r dybiaeth sylfaenol ar gyfer y dyfodol oedd y byddai’r Dreth Gyngor yn parhau i godi oddeutu 2%.  Byddai gofyn i’r Cyngor gymeradwyo lefel y Dreth Gyngor yn ffurfiol yn y cyfarfod nesaf. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill ei bod yn flwyddyn ariannol heriol arall ond bod y gyllideb arfaethedig yn realistig ac yn un y gellid ei gwireddu o ran buddsoddi mewn blaenoriaethau ac amddiffyn gwasanaethau rheng flaen rhag gostyngiadau sylweddol. Cymerodd y cyfle i ddiolch i’r Pennaeth Cyllid ac Asedau (H:FA) a’i dîm am eu holl waith caled. Roedd aelodau hefyd wedi chwarae rhan bwysig ym mhroses gosod y gyllideb a diolchodd y H:FA iddynt am eu cyfraniad a’u llywio gwleidyddol. 

 

Wrth ystyried y cynigion ar gyfer arbed, cododd yr aelodau gwestiynau ynghylch y targedau arbed yn gysylltiedig â gwasanaethau unigol. Roeddynt eisiau sicrwydd ynghylch diddymu lwfans defnyddiwr car hanfodol a chanlyniad pleidlais y staff, ac na fyddai gwasanaethau gofal dydd yn cael eu heffeithio o ganlyniad i’r arbedion yn y gwasanaethau gofal. Wrth ymateb, fe wnaeth y Cynghorydd Thompson-Hill a’r Pennaeth Cyllid ac Asedau –

 

-       nodi bod y cynigion gwreiddiol ar gyfer arbedion wedi cynnwys darpariaeth gofal dydd ond bod yr elfen hon wedi’i diddymu yn ddiweddarach yng ngoleuni pryderon aelodau 

-       rhoi gwybodaeth i’r aelodau ar y trafodaethau gydag Undebau Llafur i ddiddymu’r lwfans defnyddiwr car hanfodol a oedd i fod i’w gyflwyno dros y flwyddyn 

-       rhoi gwybodaeth ar y cynllun lleihau carbon gan nodi y byddai’r Cyngor yn cael ei asesu yn 2014/15 a bod disgwyl canlyniad ffafriol

-       manylion am brosiectau sy’n cyfrannu at foderneiddio’r Cyngor gan gynnwys rhesymoli argraffyddion, gwell defnydd o ofod, lleihau’r milltiroedd a deithir a’r defnydd o offer swyddfa, caffael, absenoldeb salwch gan gadarnhau y byddai’r agenda moderneiddio yn nodwedd gref dros yr ychydig flynyddoedd nesaf

-       rhoi gwybodaeth am feddwl systemau yn cael ei ddefnyddio i wella prosesau a symud o systemau llaw i rai electronig 

-       nodi bod arbediad o £100k wedi bod yn bosibl ar gyfer parciau ailgylchu yn dilyn ail-drafod y cytundeb rheoli gyda chontractwr preifat

-       manylu ar ad-drefniant Cynllunio a Diogelwch Cyhoeddus yn dilyn y penderfyniad i beidio bwrw ymlaen gyda chydweithio llawn gyda Chyngor Sir Bwrdeistref Conwy a fyddai wedi arwain at ddiddymu swyddi oedd wedi bod yn wag am gyfnod hir 

-       nodi y byddai gallu i faethu’n fewnol yn cael ei ddatblygu i sicrhau mwy o hyblygrwydd a llai o ddibyniaeth ar faethu allanol

-       esbonio bod y Cyngor wedi gweithio’n agos gyda holl gwmnïau hyd braich i benderfynu ar sail unigol a fyddai modd ymdopi gyda llai o gymhorthdal. O ganlyniad, roedd arbedion i’r Scala a Theatr y Pafiliwn wedi’u gohirio

-       hysbysu bod cytundeb wedi’i wneud yn ystod sesiwn yr aelodau ar ariannu’r Cynllun Corfforaethol, y byddai unrhyw dderbyniadau annisgwyl yn ystod y flwyddyn yn cael eu defnyddio ar fuddsoddi strategol 

-       esbonio’r goblygiadau sy’n codi o ail-lunio’r gwasanaeth glanhau strydoedd ac uniad timoedd mewn Gwasanaethau Amgylcheddol 

-       adrodd ar lefel y Dreth Gyngor mewn cymhariaeth ag awdurdodau lleol eraill. 

 

Yn ystod y drafodaeth, mynegodd y Cynghorydd Joan Butterfield bryderon ynghylch dau gynnig ar gyfer arbedion o fewn Gwasanaethau Amgylcheddol, sef (1) DB1 – Cynnydd yn y taliadau ar gyfer rhai gwasanaethau fel casglu gwastraff swmpus, y credai y byddai’n effeithio fwyaf ar aelodau tlotaf cymdeithas gan arwain at fwy o dipio anghyfreithlon, a (2) DB13 – Taliadau Mynwentydd, y credai oedd yn gwahaniaethu ac a fyddai eto yn effeithio ar y sawl sy’n byw mewn tlodi. O ganlyniad, cynigiodd welliant, a eiliwyd gan y Cynghorydd Cefyn Williams, y dylid tynnu’r arbedion hynny o’r gyllideb. Esboniodd y Cynghorydd Thompson Hill na fyddai’r cynnydd mewn taliadau yn arwain at dorri gwasanaethau ond yn hytrach y byddai’n sicrhau bod taliadau yn cyd-fynd ag awdurdodau cyfagos. Ychwanegodd y Cynghorydd David Smith bod yr arbedion i gyllidebau unigol wedi cael eu hystyried yn fanwl yn ystod y broses herio gwasanaeth. Trafododd yr Aelodau y gwelliant ac fe’u hysbyswyd y byddai dileu’r arbedion hyn yn debygol o arwain at ofyn i Wasanaethau Amgylcheddol  ganfod arbedion o fannau eraill o fewn y gwasanaeth. Cynhaliwyd pleidlais a LLWYDDODD y gwelliant. 

 

Ystyriodd Aelodau rinweddau’r gwahanol opsiynau a oedd o fewn yr adroddiad ar gyfer dyrannu’r swm annisgwyl o £300k a gododd o newidiadau i reoliadau’r Dreth Gyngor.  Cynigiodd y Cynghorydd David Simmons, a eiliwyd gan y Cynghorydd Joan Butterfield, y dylid trosglwyddo £200k i gyfrifon cyffredinol i’w ddefnyddio i liniaru pwysau ar wasanaethau sy’n codi yn ystod y flwyddyn, ac y dylid dyrannu £100k ar gyfer cefnogi Diwygio Lles. Atgoffodd y Cynghorydd Barbara Smith yr aelodau y byddai arian ar gael o Lywodraeth Cymru i gefnogi elfen dai y cynlluniau diwygio lles ac y byddai elfennau eraill o ddiwygio lles naill ai’n cael eu cyflwyno dros amser neu’n cael eu rhoi ar waith yn y dyfodol.   O ganlyniad, roedd hi’n cwestiynu a oedd angen arian ychwanegol ar gefnogi diwygio lles ar hyn o bryd; awgrymodd y dylid dyrannu swm ar gyfer buddsoddi strategol.   Roedd y Cynghorydd Hugh Evans yn cytuno nad oedd gwerth dyrannu arian i gefnogi diwygio lles ar hyn o bryd,  a chynigiodd welliant, a eiliwyd gan y Cynghorydd David Smith, y dylid dyrannu £300k i fuddsoddi strategol er mwyn hyrwyddo’r Cynllun Corfforaethol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Colin Hughes at bartneriaid lles y Cyngor, fel y Rhwydwaith Gwrthdlodi a oedd hefyd yn wynebu anawsterau ariannol yn sgil colli cyllid craidd, ac awgrymodd  y gellid ystyried cynyddu eu cyllid o gofio bod cynnydd hefyd yn nifer y bobl oedd angen cyngor ar faterion lles.   Roedd y Cynghorydd Thompson-Hill yn croesawu’r cynnig i ddyrannu £300k i fuddsoddi strategol gan gredu y byddai hynny’n sicrhau’r datblygiad tymor hir gorau o’r arian, ac atgoffodd yr aelodau o’r cytundeb blaenorol i ddyrannu derbyniadau annisgwyl i fuddsoddi strategol. Nid oedd yn ystyried bod angen rhoi arian pellach mewn cyfrifon cyffredinol.

 

Wrth ymateb i’r drafodaeth, dywedodd y H:FA bod arian i ymdrin â phwysau yn ystod y flwyddyn eisoes wedi’i gynnwys o fewn cyfrifon cyffredinol a’i fod yn credu bod lefel hynny yn rhesymol.  Ychwanegodd, pe byddai arian yn cael ei ddyrannu i fuddsoddi strategol yn y lle cyntaf, y byddai modd i aelodau ei ail-ddyrannu yn y dyfodol cyn belled â bod angen gwirioneddol dros wneud hynny.    Cadarnhaodd y H:FA y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu oddeutu £2m yn genedlaethol i gefnogi costau trosglwyddo diwygio lles a tra byddai angen £1m i dalu costau TG, byddai arian yn weddill a phosibiliad o’i rannu gyda phartneriaid fel y Ganolfan Gynghori a Siop Cyngor Budd-daliadau. Yng ngoleuni’r cyngor a ddarparwyd gan y H:FA, dileodd y Cynghorydd David Simmons ei gynnig ar gyfer dyrannu’r derbyniadau annisgwyl. Ychwanegodd y H:FA ei fod yn cadeirio’r Grŵp Diwygio Lles a bod croeso i aelodau arsylwi yn y cyfarfodydd hynny pe byddai ganddynt bryderon pellach yn y maes hwnnw. Ar ôl trafodaeth bellach 

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo 

 

(a)       cynigion y gyllideb ar gyfer 2013/14 fel y’u dangosir yn yr atodiadau yn amodol ar ddileu –

·         DB1 Cynnydd yn y Taliadau am Rai Gwasanaethau (e.e. gwastraff swmpus) - £5k

·         DB13 Taliadau Mynwentydd - £10k, a Gwasanaethau Amgylcheddol i wneud arbedion eraill o £15k yn lle’r rhain;

 

(b)       dyrannu’r derbyniadau annisgwyl o £300k a oedd yn codi o newidiadau i reoliadau’r dreth gyngor i Fuddsoddi Strategol (Opsiwn A o fewn yr adroddiad) gydag aelodau yn cytuno ar wariant, a

 

(c)        y cynnydd dilynol o 2% yn lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2013/14.

 

Ar y pwynt hwn (11.40 a.m.), cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: