Eitem ar yr agenda
DIGWYDDIAD SEICLO ETAPE CYMRU 2013
I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod
Arweiniol dros Dwristiaeth, Marchnata a Hamdden (copi’n amgaeedig) yn nodi
digwyddiad seiclo ffyrdd caeedig Etape
Cymru sydd i ddigwydd yn y Sir ym Medi, 2013.
Penderfyniad:
Cyflwynodd y Cynghorydd H.Ll. Jones yr adroddiad a
oedd yn rhoi manylion ar ddigwyddiad seiclo ffyrdd caeedig Etape Cymru a oedd i
ddigwydd yn y Sir ym Medi, 2013.
PENDERFYNWYD – bod y Cabinet
(a)
yn
nodi’r trefniadau i ddelio â’r pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Craffu
Cymunedau, fel y’u hamlinellir yn 9.1 i 9.9 yn yr adroddiad.
(b)
yn
cadarnhau’r cau ffyrdd ac yn cefnogi cynnal y digwyddiad
(c)
yn gofyn i’r trefnwyr ddiweddaru Aelodau Lleol ar y cynnydd o ran
y pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r Grŵp Ymgynghorol
Diogelwch bob tri mis.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd H.Ll. Jones yr adroddiad a
oedd yn darparu manylion digwyddiad seiclo ffyrdd caeedig Etape Cymru sydd i’w gynnal yn y Sir ym Medi, 2013.
Roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi rhoi cefnogaeth
ddiamod i’r digwyddiad yn amodol ar ddelio â rhai pryderon a phenderfyniad gan
y Cabinet ar Orchmynion Cau Ffyrdd arfaethedig.
Roedd manylion digwyddiad Etape Cymru, ei
lwyddiant blaenorol a’r manteision i’r ardal, wedi eu crynhoi yn yr adroddiad.
Esboniodd
y Cynghorydd Jones, er nad oedd Sir Ddinbych yn uniongyrchol gysylltiedig â
chynllunio’r digwyddiad, roedd y trefnwyr wedi pwysleisio y byddai’n annhebygol
o fynd yn ei flaen heb gefnogaeth Cynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam. Prif swyddogaeth Sir Ddinbych fyddai hwyluso
trafodaethau ynghylch materion priffyrdd a diogelwch. Roedd crynodeb o’r pryderon sy’n ymwneud ag
agweddau arbennig ar y ras wedi eu cynnwys yn adran 9 yr adroddiad, ac roedd y
trefnwyr yn delio â’r rhain. Roedd Sir Ddinbych wedi parhau â’i
chysylltiad rheolaidd â ‘Human Race’, trefnwyr Etape Cymru a Chyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynglŷn â digwyddiad 2012 ac roedd cynlluniau’n
awr ar y gweill ar gyfer digwyddiad 2013.
Roedd y trefnwyr wedi cyfarfod â’r Grŵp Ymgynghorol Diogelwch ac
Aelodau Lleol i adolygu digwyddiad 2012 ac roedden nhw wedi derbyn argymhellion
y Grŵp i osgoi unrhyw broblemau yn 2013.
Roedd nifer o’r risgiau a’r pryderon a nodwyd gan y Pwyllgor
Craffu Cymunedau wedi eu crynhoi yn yr adroddiad yn adrannau 9.1 i 9.9, ynghyd
â rhai cynlluniau adferol sydd i’w gweithredu i liniaru’r risgiau wrth symud
ymlaen. Roedd y rhain yn cynnwys:-
·
Cysylltiadau
â phreswylwyr a pherchnogion tir sy’n byw ar hyd lwybr y ras.
·
Atebolrwydd
cyhoeddus.
·
Canlyniadau
unrhyw asesiadau risg a wnaethpwyd o ran materion atebolrwydd cyhoeddus.
·
Stiwardio
annigonol.
·
Dilysrwydd
ffigurau ar fudd economaidd.
·
Dechrau’r
digwyddiad yn gynharach yn y dydd.
·
Ymglymiad
Aelodau yn y Grŵp Ymgynghorol Diogelwch.
·
Fforio
cyfleoedd i farchnata Sir Ddinbych fel cyrchfan.
Roedd Sir Ddinbych a threfnwyr y digwyddiad wedi trafod
trefniadau ar gyfer digwyddiad ychwanegol ym Mhafiliwn Llangollen i
gyd-ddigwydd â’r broses gofrestru. Y
Gwasanaethau Hamdden fyddai’n ei drefnu a’i arwain gyda chefnogaeth
cynrychiolwyr y gymuned leol, gyda’r nod o sicrhau cefnogaeth leol i’r ras ac
i’r potensial o fantais economaidd o’r digwyddiad.
Roedd y trefnwyr
wedi gweithio efo swyddogion Priffyrdd ac Adfywio i ddelio â phryderon a
fynegwyd gan fusnesau. Roedd deunydd i
hyrwyddo a marchnata Sir Ddinbych fel cyrchfan wedi ymddangos ar wefan Etape
Cymru’, ynghyd â gwybodaeth am westai, canolfannau croeso a thai bwyta
lleol. Byddid yn darparu pecynnau
gwybodaeth yn y pwynt cofrestru a byddai’r Cyngor yn defnyddio pob cyfle i
hyrwyddo’r digwyddiad. Dywedwyd wrth yr
Aelodau fod Sir Ddinbych yn hyderus bod y ffigurau a oedd yn ymwneud â mantais
economaidd digwyddiad 2012 yn ddilys.
Esboniodd y Cynghorydd D.I. Smith ei fod yn llwyr gefnogi’r digwyddiad
ond teimlai y dylai’r trefnwyr ddarparu sicrwydd y gellid cyflenwi’r digwyddiad
yn unol ag unrhyw gytundebau ac addewidion a ddarparwyd. Esboniodd yr Arweinydd y cafwyd problemau’n
flaenorol yn y maes yma ac fe gynhaliwyd cyfarfodydd efo’r trefnwyr i ddelio
â’r problemau hyn. Pwysleisiodd
bwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned leol a’r Aelodau Lleol priodol. Roedd y Cabinet yn cefnogi’r farn a fynegwyd
gan y Cynghorydd M.Ll. Davies bod y cytundeb gan y trefnwyr i ddelio â
phryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, fel y’u hamlinellwyd yn
9.1 i 9.9 yr adroddiad, i’w cynnwys yn y penderfyniad.
Dywedodd y Pennaeth Cymunedau, Marchnata a Hamdden wrth y Cabinet fod
calendr digwyddiadau wedi ei ddatblygu a byddai hwnnw’n darparu Sir Ddinbych â
phroses glir ar gyfer rheoli digwyddiadau a byddai’n atgyfnerthu agwedd
uchelgais economaidd y Cyngor. Yn ateb i
gwestiynau gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, cadarnhaodd mai trefnwyr y digwyddiad
fyddai’n talu cost unrhyw Orchmynion Cau Ffyrdd, ac esboniodd fod gan Grŵp
Ymgynghorol Diogelwch ar y Cyd rôl glir yn awr o ran materion diogelwch.
Cytunai Aelodau â’r farn a fynegwyd gan y Cynghorydd H.Ll. Jones bod
argymhelliad ychwanegol i’w gynnwys yn gofyn i’r trefnwyr ddiweddaru Aelodau
Lleol ar y cynnydd o ran y pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau
a’r Grwpiau Cynghorwyr Diogelwch bob tri mis.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD – bod y Cabinet:-
(a)
yn
nodi’r trefniant i ddelio â’r pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Craffu
Cymunedau, fel y’u hamlinellir yn 9.1 i 9.9 yr adroddiad.
(b)
yn cadarnhau’r cau ffyrdd ac yn cefnogi cynnal y digwyddiad;
(c)
yn
gofyn i’r trefnwyr ddiweddaru Aelodau Lleol ar gynnydd o ran y pryderon a
fynegwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r Grŵp Ymgynghorol Diogelwch
bob tri mis.
Dogfennau ategol: