Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH GWYBODAETH AC YMGYNGHORI GOFALWYR GOGLEDD CYMRU

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi’n amgaeedig) ar weithrediad y Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010 newydd fel y’i mynegir yn Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori Gofalwyr 2012 – 2015.

 

 

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cynghorydd R.L. Feeley yr adroddiad a oedd yn manylu ar weithrediad Mesur newydd y Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010 (y Mesur Gofalwyr) fel y’i mynegir yn y Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori ar gyfer Gofalwyr Gogledd Cymru 2012 – 2015.

 

PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori ar gyfer Gofalwyr, 2012-2015, a’r dull partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r trydydd sector o ran ei gweithrediad. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd R.L. Feeley yr adroddiad a oedd yn nodi gweithrediad Mesur newydd Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010 (y Mesur Gofalwyr) fel y’i mynegir yn Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori Gofalwyr Gogledd Cymru 2012 - 2015.  Mae copi o’r Strategaeth Ranbarthol wedi ei gynnwys fel Atodiad 1 i’r adroddiad. 

 

Roedd y Strategaeth Ranbarthol wedi ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac roedd angen i bob un o’r chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru graffu a chymeradwyo’r Strategaeth Ranbarthol.  Fe amlinellodd yr adroddiad y ffordd y byddai’r Strategaeth Ranbarthol yn delio â gofynion y Mesur Gofalwyr ac roedd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau wedi mynegi eu cefnogaeth i weithrediad y Strategaeth. 

 

Roedd y Mesur, y Rheoliadau a’r Cyfarwyddyd ar weithredu’r Mesur wedi eu rhoi i bob Bwrdd Iechyd Lleol a phob Ymddiriedolaeth, ac i’r Gwasanaethau Cymdeithasol (yr ‘awdurdodau dynodedig’) yn Ionawr 2012, a dyma’r tro cyntaf i ddyletswyddau statudol gael eu rhoi ar Awdurdodau Iechyd yng Nghymru.

 

Roedd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau wedi ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu gofynion Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010, a’r gofyniad yn arbennig i gyhoeddi a gweithredu Strategaeth Wybodaeth ac Ymgynghori ranbarthol i Ofalwyr. 

 

Fe esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes bod y Byrddau Iechyd Lleol wedi eu dynodi’n ‘awdurdod arweiniol’ yng ngweithrediad Rheoliadau’r Mesur Gofalwyr a bod Grŵp Strategol Arweinwyr Gofalwyr Gogledd Cymru wedi ei sefydlu yn 2011 i ddatblygu’r Strategaeth Ranbarthol.  Yn ogystal, roedd BIPBC wedi sefydlu Bwrdd Prosiect Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) i graffu gwaith Grŵp Strategol Arweinwyr Gofalwyr Gogledd Cymru a darparu cyngor a sicrwydd i’r Bwrdd Iechyd ei fod yn cyfarfod â’i gyfrifoldebau o ran y Mesur Gofalwyr.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi casglu bod y Strategaeth yn rhagweithiol ac yn arddangos gweithio cryf mewn partneriaeth rhwng y Bwrdd Iechyd, y chwe Awdurdod Lleol a sefydliadau’r Trydydd Sector.  Roedd rhai meysydd i’w gwella wedi eu nodi ac roedd y rhain yn cynnwys yr angen am bennod ar wahân ar ofalwyr ifanc, cryfhau rhai o’r Camau Allweddol ar gyfer Blwyddyn 3, yn enwedig y rheiny ar hyfforddiant staff a gofalwyr, a mynegi sut y byddai’r Strategaeth yn berthnasol i gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a grwpiau eraill sydd â nodweddion a ddiogelir.  Roedd angen cryfhau elfen iechyd meddwl y Strategaeth hefyd ac roedd Llywodraeth Cymru’n edrych ar ffyrdd o ddarparu cymorth i’r Byrddau Iechyd. 

 

Roedd amcanion allweddol y Strategaeth Ranbarthol yn cynnwys:-

 

o        Bydd holl weithwyr proffesiynol y GIG a’r awdurdod lleol yn cael eu hysbysu o’u cyfrifoldebau o ran y Mesur Gofalwyr drwy godi ymwybyddiaeth oportiwnistig a hyfforddiant staff.

o        Fe gaiff gofalwyr eu nodi gyn gynted ag sydd bosib.

o        Fe roddir gwybodaeth amserol ddigonol i ofalwyr yn ôl eu hanghenion.

o        Pan fydd cydsyniad claf yn cael ei atal, fe ddarperir gofalwyr â chymaint o wybodaeth ag sy’n bosib ei rhannu heb dorri cyfrinachedd y claf, i’w galluogi i ymgymryd â’u rôl o ofalu’n ddiogel.

o        Fe hysbysir pob gofalwr o’u hawl i asesiad annibynnol o’u hanghenion cymorth fel gofalwr

o        Bydd gofalwyr yn cael eu cynnwys yn naturiol yn yr holl brosesau penderfynu ynghylch rheolaeth gofal.

o        Mae staff y GIG yn gallu cyfeirio gofalwyr a fydd wedi eu nodi at sefydliadau cymorth i ofalwyr.

 

Er mwyn bodloni’r amcanion hyn, mae’r Strategaeth Ranbarthol yn mynegi’r camau allweddol o ran:

o        Nodi a Chyfeirio Gofalwyr

o        Asesiadau o Anghenion Gofalwyr

o        Darpariaeth gwybodaeth

o        Cyfathrebu ac ymgynghori â Gofalwyr

o        Hyfforddiant Staff a Hyfforddiant Gofalwyr

o        Monitro effaith y Mesur Gofalwyr

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y ffordd yr oedd y penderfyniad yn cyfrannu tuag at y Blaenoriaethau Corfforaethol, effaith y costau ar wasanaethau eraill, y costau sy’n codi o weithgareddau cyfathrebu, ymgynghoriadau a gafwyd a risgiau posib a’r ffordd i’w lleihau.

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes bod y dyletswyddau statudol yr oedd y Mesur Gofalwyr yn eu rhoi ar y Bwrdd Iechyd yn delio â materion demograffig o ran niferoedd cynyddol yr unigolion a oedd yn ymgymryd â swyddogaeth o ofalu, a byddai mwy o gymorth i Ofalwyr Ifanc yn helpu i ddelio ag anghenion a fynegwyd yn Strategaeth Gofalwyr Ifanc Sir Ddinbych, gydag ymglymiad Addysg yn bartner allweddol.  Roedd Cynllun Mawr Sir Ddinbych yn cefnogi datblygiad y Strategaeth Ranbarthol, a gweithrediad camau’r Strategaeth.  Byddai datblygiad y Strategaeth Ranbarthol hefyd yn cefnogi’r mesurau perfformiad sydd wedi eu cynnwys yn y Cynllun Mawr o ran nifer y Gofalwyr a nodwyd ac a aseswyd.

 

Roedd manylion y dyraniadau i’w rhoi ar gael i BIPBC i gynorthwyo gweithrediad y strategaeth ranbarthol ledled Gogledd Cymru wedi eu nodi yn yr adroddiad.  Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes y byddai’r cyfrifoldeb am asesu’n aros â’r Awdurdod Lleol ac y byddai’r potensial ar gyfer cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau’n cael ei fonitro i ystyried problemau capasiti ac oblygiadau i wasanaethau yn y dyfodol.  Fe amlinellodd y prosesau a fabwysiadwyd ar gyfer nodi gofalwyr, yn enwedig yn y cyfnod cynnar, ac ar gyfer cydnabod lefel a pha fath o gymorth yr oedd ei angen.    

 

Yn ateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J. Thompson-Hill rhoddodd y Cydlynydd Gofalwyr fanylion yr ystod o wasanaethau a gomisiynwyd i roi cymorth i ofalwyr, a oedd yn cynnwys darpariaeth gofal seibiant.  Ar gais yr Arweinydd cytunodd y Swyddog Comisiynu y gellid cylchredeg gwybodaeth ar y gwasanaethau cymorth a oedd ar gael i ofalwyr yn y Sir i Aelodau Gweithredol.

 

Cafwyd yr ymateb canlynol gan y swyddogion i faterion a godwyd gan Aelodau:-

 

-               Darparwyd manylion y broses ariannu a thaliadau ar gyfer darpariaeth gwasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaeth.

-               Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes y byddai materion ariannu a godwyd o ran darpariaeth gwasanaethau gofalwyr yn cael eu cynnwys yn y broses o gynllunio cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.  Esboniodd y Cynghorydd R.L. Feeley fod yr oblygiadau cost yn aneglur a byddid yn eu monitro’n agos.  Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles at oblygiadau darparu cyllid ac adnoddau a allai effeithio ar lefel ac ystod darpariaeth gwasanaeth a dylanwadu ar hynny.

-               Crynhowyd swyddogaeth a chylch gwaith Pencampwr Gofalwyr Sir Ddinbych, y Cynghorydd J.A. Davies.  Esboniwyd ei bod yn aelod sefydlog o Grŵp Strategaeth Gofalwyr Sir Ddinbych ac felly’n derbyn diweddariadau rheolaidd ar gynnydd a gwybodaeth.

-               Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd B.A. Smith, esboniodd y Cydlynydd Gofalwyr y byddai cynllunio rhyddhau’n elfen bwysig o sefydliad a datblygiad llwybr cyfeirio ffurfiol drwy’r siwrnai iechyd.  Roedd y strategaeth a oedd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd i wella’r broses yn cwmpasu cynllun gofal a byddai gwelliant arfaethedig y strategaeth yn sicrhau y byddai’r broses yn gadarnach.  Cadarnhaodd bwysigrwydd swyddogaeth Meddygon Teulu yn y broses o gyfeirio a chadarnhaodd eu cynhwysiad yn y broses hyfforddi.  Cytunai’r Cydlynydd Gofalwyr y gellid cylchredeg taflen wybodaeth i ofalwyr a ddyluniwyd gan Grŵp Gogledd Cymru i’w dosbarthu mewn sesiynau hyfforddi staff, i Aelodau pan fyddai wedi ei chwblhau.

-               Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:Moderneiddio a Lles wrth Aelodau bod y strategaeth hefyd yn cwmpasu gofalwyr ifanc ac esboniodd bod y pwynt mynediad i wasanaethau i ofalwyr ifanc yn wahanol i’r rheiny ar gyfer oedolion.  Amlinellodd y gwaith sy’n cael ei wneud yn Ysgolion Sir Ddinbych a Gwasanaethau Plant i nodi gofalwyr ifanc a sicrhau ymwybyddiaeth o lefel uwch a chadarnhaodd y byddid yn ymgymryd â gwaith pellach drwy gomisiynu gwasanaethau’n rhanbarthol.

 

Mynegodd y Prif Weithredwr ei gefnogaeth i’r Strategaeth ac amlygodd y gydberthynas weithio mewn partneriaeth dda sy’n bod rhwng BIPBC a Sir Ddinbych.  Amlinellodd y gofynion cyfreithiol ac fe amlygodd bwysigrwydd gwneud penderfyniadau a fyddai’n cynyddu ac yn cryfhau lefel y gweithio mewn partneriaeth a oedd eisoes wedi ei sefydlu.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori Gofalwyr Gogledd Cymru, 2012-2015, a’r dull partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r trydydd sector o ran ei gweithrediad.

 

 

Dogfennau ategol: