Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TRAWSNEWID CLUDIANT – PROSIECT CYDWEITHREDOL RHANBARTHOL CLUDIANT TEITHWYR

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol (copi ynghlwm) i ystyried a chynnig sylwadau ar yr achos busnes amlinell ar gyfer creu tîm rhanbarthol trafnidiaeth teithwyr.

 

                                                                                                          11.55 a.m.

 

 

Cofnodion:

Roedd adroddiad cyfrinachol gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol (CC:UECh) a oedd yn rhoi crynodeb o’r gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma mewn perthynas â chreu uned integredig sengl ar gyfer darparu gwasanaethau cludiant teithwyr yng Ngogledd Cymru ac yn cyflwyno’r achos busnes amlinellol dros ei chreu, wedi cael ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Croesawyd Mr Iwan Prys Jones, Cynrychiolydd y Grŵp Cludiant Rhanbarthol (TAITH) i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

Eglurodd y CC:UECh fod y Prosiect Cludiant Teithwyr Rhanbarthol bellach wedi cyrraedd y cam o gyflwyno Achos Busnes Amlinellol ac y byddai’r Cabinet yn ystyried p’un ai i gymeradwyo symud ymlaen i ddatblygu Achos Busnes Llawn dros y Dewis a Ffefrir neu beidio.  Roedd Gweithgor o reolwyr cludiant o bob un o Awdurdodau Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth TAITH, a gafodd ei hwyluso’n allanol, wedi datblygu Achos Busnes Amlinellol gan gynhyrchu Dewis a Ffefrir er mwyn rhoi ystyriaeth bellach iddo, a cheisid cymeradwyaeth i ddatblygu’r Dewis a Ffefrir yn Achos Busnes Llawn i’w roi ar waith pe profid yr achos a phe câi ei gymeradwyo gan yr Awdurdodau sy’n aelodau.  Roedd adolygiad gan Lywodraeth Cymru (LlC) ynglŷn â dyfarnu cymorthdaliadau bysiau ledled Cymru i’r dyfodol wedi cynhyrchu nifer o argymhellion, a'r prif un ohonynt oedd y byddai grant ariannu bysiau newydd "Grant Gwasanaethau Cludiant Rhanbarthol"  yn ei le o 1 Ebrill, 2013, a byddai hwnnw'n cael ei ddosbarthu trwy gyfrwng y Consortia Cludiant Rhanbarthol.

 

Sylweddolwyd beth oedd rhychwant y prosiect, a oedd i gynnwys cludiant cyhoeddus, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, yn gynnar iawn.  Roedd yr adroddiad yn manylu ar y meysydd nad oeddent wedi eu cynnwys o fewn cwmpas y prosiect, ar y prif ffeithiau sy’n berthnasol i ddarpariaeth gwasanaeth bresennol y chwe Awdurdod Lleol ac ar y sail y lluniwyd yr achos dros newid arno.  Roedd y pedwar prif Ddewis a ystyriwyd yn ystod datblygu’r Achos Busnes Amlinellol wedi cael eu crynhoi ac roedd copi o’r Achos Busnes Amlinellol wedi cael ei gynnwys yn Atodiad 1, ynghyd â manylion ynglŷn â’r meini prawf yr aseswyd y Dewisiadau yn eu herbyn.

 

Roedd asesiad yr Achos Busnes Amlinellol wedi adnabod dau ddewis gorau pan aseswyd yn erbyn y meini prawf a oedd wedi eu nodi, ond o ystyried y newidiadau bwriedig diweddar i’r system o ariannu bysiau, dim ond un o’r dewisiadau hyn oedd bellach yn teilyngu cael ei ddatblygu ymhellach yn Achos Busnes Llawn i roi ystyriaeth bellach iddo.  Roedd y dewis hwn wedi ei amlinellu yn yr adroddiad.  Roedd cydnabyddiaeth i’r ffaith mai’r dewis hwn fyddai’n un mwyaf radical a’r mwyaf cymhleth o’r rheiny oedd wedi cael eu hystyried, fodd bynnag, roedd hefyd yn cynnig y potensial mwyaf ar gyfer gweld gwell canlyniadau ac arbedion yn yr hir dymor.

Byddai’r potensial am arbedion ac effeithlonrwydd yn cael ei dafoli ochr yn ochr â’r cymhlethdod a’r costau cychwynnol posibl wrth i’r Achos Busnes Llawn gael ei ddatblygu.  Gellid datblygu ar y dewis yn gynyddrannol, gyda cham cyntaf yn rhoi ystyriaeth i integreiddio gwasanaethau cludiant teithwyr, a bod hynny i’w ddilyn yn hwyrach gan gludiant addysg a chludiant gwasanaethau cymdeithasol.  Byddai’r dull gweithio hwn yn cyfuno gyda’r newidiadau sy’n angenrheidiol i reoli rhoi’r dull gweithio newydd o ariannu bysiau ar waith, y tu hwnt i’r cyfnod trosiannol.

Roedd yr amserlen, a ystyrid yn gyraeddadwy ar gyfer y prosiect, yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth, wedi cael ei hamlinellu yn yr adroddiad.  Derbyniwyd cadarnhad y byddai’r goblygiadau ariannol llawn ar gyfer pob un o’r Cynghorau yn cael ei archwilio yng ngham nesaf y gwaith ac yn cael eu nodi er mwyn caniatáu i benderfyniadau ynglŷn â p’un ai i gyflwyno’r newidiadau neu beidio gael eu gwneud unwaith y bo’r Achos Busnes Llawn wedi cael ei gwblhau a'i ystyried.

Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Aelodau, eglurodd Prif Weithredwr TAITH y byddai model rhanbarthol integredig sengl yn sicrhau y byddai pob Awdurdod unigol yn cadw rhyw gymaint o atebolrwydd yn narpariaeth eu gwasanaethau penodol eu hunain, tra bônt yn gweithio o fewn fframwaith gyffredinol ledled Gogledd Cymru.  Eglurodd fod Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfle i bob rhanbarth gyflwyno’r trefniadau bwriedig ar gyfer eu hardaloedd.

Cyfeiriodd nifer o Aelodau bod safonau uchel wedi eu gosod a gwaith da wedi ei gyflawni gan y Rheolwr Adain:Cludiant Teithwyr a’i dîm gyda golwg ar ddarpariaeth a rheolaeth cludiant ysgolion o fewn Sir Ddinbych.  Cafwyd cadarnhad gan Brif Weithredwr TAITH y byddai rhai elfennau sy’n ymwneud ag ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fod o dan reolaeth yr awdurdod lleol.  Fodd bynnag, gellid cynnig a darparu cefnogaeth pe bai diffyg cynhwysedd neu arbenigedd o fewn unrhyw ardal benodol. 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd E.A. Jones, eglurodd y CC:UECh fod pwysigrwydd cyfarch materion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig wedi cael eu cynnwys yn rhan o’r Achos Busnes. Cafwyd ymateb gan Brif Weithredwr TAITH i bryderon a leisiwyd gan y Cynghorydd M. McCarroll yn cadarnhau fod lle ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd mewn perthynas â chludiant teithwyr ar draws ffiniau, gan gyfeirio’n benodol at gludiant ysgolion, a dywedodd y gellid edrych ar y mater hwn o fewn cylch gwaith y prosiect.  Fodd bynnag, byddai penderfyniadau’n ymwneud â’r meini prawf cymhwyso ar gyfer cludiant ysgolion yn aros o fewn rheolaeth yr awdurdod addysg lleol.

Cafwyd ymateb Prif Weithredwr TAITH i bryderon a leisiwyd gan y Cynghorydd J. Butterfield yn ymwneud ag anferthedd y prosiect.   Cafwyd cadarnhad ganddo y gellid cyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd ger bron y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ym mhob un o’r camau datblygu.  Cafwyd cadarnhad gan y CC:UECh y byddai hi’n cysylltu gyda’r Cydlynydd Archwilio pan fyddai manylion ynglŷn â’r amserlen ar gael. 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor:-

 

(a)yn amodol ar y sylwadau uchod, yn gwneud argymhelliad bod y Cabinet yn derbyn yr Achos Busnes Amlinellol a’r dewis a ffefrir a bod y prosiect nawr yn symud yn ei flaen i ddatblygu Achos Busnes Llawn dros sefydlu uned integredig sengl ar gyfer darparu gwasanaethau cludiant teithwyr yng Ngogledd Cymru.

(b)yn nodi na fyddai unrhyw benderfyniad i sefydlu uned integredig yn digwydd hyd nes bo’r Cynghorau wedi rhoi ystyriaeth i’r Achos Busnes Llawn a’i gymeradwyo, ac y byddai trefniadau llywodraethu at y dyfodol yn cael eu cyfarch yn ystod cyfnod datblygu’r Achos Busnes Llawn, a

(c)     bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau cynnydd rheolaidd i’w harchwilio yn ystod pob un o gamau datblygu’r prosiect.

 

RHAN I

 

 

Dogfennau ategol: