Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU ATAL TRWYDDED – GYRRWR RHIF 043844

I ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn ceisio adolygiad aelodau o’r cyfnod atal a orfodwyd yn flaenorol ar Yrrwr Trwyddedig Rhif 043844.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod yr ataliad a orfodwyd ar Yrrwr Rhif 043844 i’w godi a rhybudd i’w roi ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu cyfnod atal y drwydded a bennwyd gan y pwyllgor ar Yrrwr Trwyddedig rhif 043844.  Cyflwynwyd ffeithiau’r achos fel a ganlyn –

 

(i)            Roedd y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2012 wedi ystyried addasrwydd Gyrrwr Rhif 043844 i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat ar ôl cronni 12 pwynt cosb ar ei drwydded DVLA mewn cyfnod o dair blynedd [roedd y Gyrrwr wedi cael cadw ei drwydded DVLA gan Ynadon Prestatyn a oedd wedi derbyn y byddai anghymhwysiad yn achosi caledi eithriadol yn ei achos ef];

 

(ii)          Ystyriwyd manylion yr ardystiad ar drwydded DVLA y Gyrrwr, gyda thri o’r achosion yn ymwneud â defnyddio ffôn symudol wrth yrru cerbyd, gyda’r aelodau yn mynegi pryderon dybryd ynglŷn â goblygiadau difrifol gweithredoedd y Gyrrwr, gyda chanlyniadau marwol posibl a’r drosedd a ailadroddwyd o ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru, ac roeddynt yn ystyried bod hynny yn dangos difaterwch y Gyrrwr tuag at y gyfraith a diogelwch y cyhoedd;

 

(iii)         Yn ystod y trafodaethau, ystyriodd y Pwyllgor Trwyddedu y byddai’r Gyrrwr yn elwa o fynychu Cwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr er mwyn newid ei ymddygiad a bod ei addasrwydd fel gyrrwr trwyddedig yn cael ei asesu ymhellach yn eu cyfarfod nesaf ar ôl iddo gwblhau’r Cwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr; o ganlyniad fe –

 

BENDERFYNWYD  atal Gyrrwr Rhif 043844 rhag gyrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat am resymau diogelwch y cyhoedd a’i gwneud yn ofynnol ei fod yn mynd ar Gwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr cyn dwyn y mater yn ôl gerbron cyfarfod nesaf y pwyllgor (ar 5 Mawrth 2013) er mwyn asesu ymhellach ei addasrwydd i barhau fel gyrrwr trwyddedig ac ailystyried y cyfnod atal a bennwyd.”;

 

(iv)         Bod y Gyrrwr wedyn wedi apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu i Lys yr Ynadon ac ar 19 Rhagfyr 2012 gwrthododd yr Ynadon yr Apêl ond mynegwyd pryderon ynglŷn â hyd y cyfnod atal a bennwyd a phenderfynu bod y mater yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu cyn gynted ag y bo modd i ganiatáu adolygu’r cyfnod atal;

 

(v)          Bod y Gyrrwr wedi mynychu Cwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr ar 19 Ionawr 2013 yn unol â chyfarwyddyd y Pwyllgor Trwyddedu (dosbarthwyd copi o Adroddiad Asesu’r Gyrrwr cyn y cyfarfod), a

 

(vi)         Bod Gyrrwr Rhif 043844 wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi adolygiad ei drwydded ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar y mater.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) grynodeb o’r adroddiad a dywedodd bod y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Anerchodd Gyrrwr Rhif 043844 y pwyllgor i gefnogi ei achos, gan ddweud ei fod yn yrrwr profiadol am 25 o flynyddoedd ac nad oedd erioed wedi bod mewn damwain yn ystod y cyfnod hwnnw. Ymhelaethodd ar ei brofiad gyrru yn y DU ac mewn gwledydd eraill a’i brofiad o yrru amrywiaeth eang o gerbydau gwahanol. Sicrhaodd y Gyrrwr y pwyllgor iddo ymddwyn yn ffôl trwy ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru, ac nad oedd yn gwneud hynny yn rheolaidd ac esboniodd yr amgylchiadau pan ddigwyddodd pob un o’r troseddau. Hysbyswyd yr Aelodau hefyd bod y Gyrrwr wedi dioddef caledi eithriadol o ganlyniad i atal ei drwydded, gyda’r golled mewn enillion yn ei adael gydag anawsterau ariannol. Datgelwyd manylion ei amgylchiadau personol o ran ei gyfrifoldebau a’i ymrwymiadau teuluol. Yna adroddodd y Gyrrwr ar ei bresenoldeb ar y Cwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr, fel y’i cyfarwyddwyd gan y pwyllgor, gan nodi’r gwelliannau i’w yrru o ganlyniad. Wrth gloi, roedd y Gyrrwr yn cydnabod iddo gamymddwyn; ailadroddodd y caledi roedd wedi ei ddioddef o ganlyniad i atal ei drwydded, a gofynnodd i’r aelodau edrych yn ffafriol ar yr adolygiad o’i drwydded.

 

Cymerodd yr aelodau’r cyfle i holi’r Gyrrwr ynglŷn â’i ymddygiad yn y gorffennol a gofyn am sicrhad ynglŷn â’i ymddygiad i’r dyfodol. Dywedodd y Gyrrwr ei fod wedi bod yn defnyddio teclyn ffôn symudol yn y glust, a oedd wedi ei ddwyn o’r car, a bod dyfais sefydlog nawr wedi ei gosod yn y car. Ychwanegodd nad oedd yn defnyddio ffôn symudol yn y car yn rheolaidd beth bynnag gan ei fod yn defnyddio dyfais PDA ar gyfer gwaith. Mewn ymateb i gwestiwn ar y defnydd priodol o gyflymder a grybwyllwyd yn yr adroddiad Asesu Gyrrwr, sicrhaodd y Gyrrwr nad oedd yn gor-yrru ond yn gyrru ryw 25 mya fel rheol. Ei unig gollfarn am or-yrru oedd am yrru 33 mya mewn ardal 30 mya.

 

Gwrthododd y Gyrrwr y cyfle i holi’r aelodau neu’r swyddogion a dywedodd nad oedd eisiau ychwanegu at ei gyflwyniad na gwneud datganiad terfynol.

 

Ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried y cais ac ar ôl trafodaeth, fe –

 

BENDERFYNWYD codi’r cyfnod atal a bennwyd ar Yrrwr Rhif 043844 a rhoi rhybudd mewn perthynas â’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd –

 

Wrth ddod i benderfyniad roedd yr aelodau wedi cymryd i ystyriaeth bryderon yr Ynadon ynglŷn â hyd y cyfnod atal a bennwyd yn wreiddiol; yr amgylchiadau lliniaru mewn perthynas â phob un o’r tair trosedd a esboniwyd gan y Gyrrwr; iddo fynd ar Gwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr, a’r adroddiad asesu gyrrwr a gynhyrchwyd ynghyd â’i sicrhad mewn perthynas â’i ymddygiad yn y dyfodol. Roedd y pwyllgor wedi ei sicrhau gan bresenoldeb y Gyrrwr ar y Cwrs Ymwybyddiaeth i Yrwyr; y ffaith iddo gydnabod iddo gamymddwyn a’i edifeiriwch ynglŷn â’r troseddau a’i ymgymeriad i newid ei ymddygiad  yn y dyfodol i sicrhau na fyddai’r drosedd yn cael ei hailadrodd. Er gwaethaf hynny, ailadroddodd yr aelodau natur ddifrifol y troseddau a’r canlyniadau marwol posibl yn deillio o weithredoedd y Gyrrwr yn defnyddio ei ffôn symudol wrth yrru ac felly rhoddwyd rhybudd llym mewn perthynas â’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Bu i'r Cadeirydd gyfleu penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu a’r rhesymau am y penderfyniad i Yrrwr Rhif 043844 a phwysleisio difrifoldeb y troseddau, nad oedd y pwyllgor yn eu disystyru a’i rybuddio ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol. Fe’i gwnaed yn glir pe byddai’r Gyrrwr yn dod gerbron y Pwyllgor eto ynglŷn â’r mater hwn, y byddai ei drwydded mwy na thebyg yn cael ei dirymu.

 

 

Dogfennau ategol: