Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYFRIF REFENIW TAI / CYLLIDEBAU REFENIW A CHYLLIDEBAU CYFALAF 2013/14

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Chymunedau (copi’n amgaeedig) ar y Cyfrif Refeniw Tai Blynyddol a’r Cynnydd yn Rhenti Tai.

 

 

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cynghorydd H.C. Irving yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i’r Cyllidebau Cyfrif Refeniw Tai a Chyfalaf ar gyfer 2013/14.

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)   Mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2013/14, Atodiad 1, a Chynllun Busnes y Stoc Tai, Atodiad 2.

(b)   Cynyddu rhenti aneddiadau’r Cyngor yn unol â’r canllaw Polisi Gosod Rhent gan Lywodraeth Cymru a hynny’n weithredol o ddydd Llun, Ebrill 1af 2013

(c)    Cynyddu rhenti garejis y Cyngor a Thaliadau Gwresogi’n unol â Rhenti Canllaw a hynny’n weithredol o ddydd Llun Ebrill 1af 2013.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd H.C. Irving yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Cyllidebau Cyfalaf ar gyfer 2013/14.

 

Mynegodd y Cynghorydd M.Ll. Davies fudd personol gan ei fod yn rhentu garej gan y Cyngor.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Irving yr adroddiad ac esboniodd y byddai angen sefydlu’r gyllideb ar gyfer 2013/14 i gydymffurfio â’r Cynllun Busnes Stoc Tai a sefydlwyd pan benderfynodd y Cyngor i gadw ei stoc tai ac ariannu gwelliannau i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd 2013 a’i gynnal tan 2014.  Roedd y rhagolygon alldro diweddaraf  wedi eu nodi yn Atodiad 1 ac roedd gweddillion ar ddiwedd blwyddyn wedi eu darogan i fod yn £857,000, gwelliant o £17k o’i gymharu  â rhagolygon yr alldro ar gyfer Rhagfyr 2012.  Roedd y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2013/14 wedi ei nodi yn Atodiad 1.

 

Fe grynhodd y Prif Gyfrifydd y broses o gyfrifo’r gyllideb, a amlinellwyd yn yr adroddiad, ac roedd Penderfyniadau Cymhorthdal Terfynol y Cyfrif Refeniw Tai ar ddigwydd.  Roedd y Penderfyniad yn rheoli’r cymhorthdal negyddol a delid i Lywodraeth Cymru’n flynyddol ac fe dybiwyd fod yna godi “Rhenti Awgrymedig”, bod costau “Rheoli a Chynnal” yn benodedig a bod yna ad-dalu cyfalaf â chymorth hŷn.  Roedd cyfrif “tybiannol” y Cyfrif Refeniw Tai a gynhyrchwyd o’r cyfrifiad â gwarged ac yn cael ei dalu i Lywodraeth Cymru ac yna i’r Trysorlys fel cymhorthdal negyddol.  Roedd yn annhebygol y byddai yna unrhyw newid arwyddocaol i System Gymorthdaliadau’r Cyfrif Refeniw Tai tan 2014.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi dynodi y byddai’n gohirio’r polisi cydgyfeirio rhenti am flwyddyn arall ac yn lleihau’r Rhent Awgrymedig i 1% yn uwch na ffigwr chwyddiant Medi 2012 a chanlyniad hyn oedd yr argymhellion canlynol gan Lywodraeth Cymru:-

 

·         Lwfansau Rheoli a Chynnal i’w codi o 6.6% i £2,610 o’i gymharu â £2,267 yr annedd yn 2012/13.

·         Cynnydd yn y Rhent Awgrymedig i £69.45 yr annedd yr wythnos sy’n cyfartalu i gynnydd wythnosol o £3.37 neu 5.18%.

·         Byddai Rhenti Meincnod (RSL) yn codi i £75.21 o £72.95, cynnydd o £2.26 sy’n cyfartalu i godiad o 3.10%.

 

Byddai taliad Cymhorthdal amcangyfrifiedig y Cyfrif Refeniw Tai i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2013/14 yn gyfanswm o £3,243,000, cynnydd o 5.3% o’i gymharu â 2012/13.  Roedd manylion y gwaith a wnaethpwyd gan y Gwasanaethau Tai ar rychwantu effaith y diwygio lles a datblygu strategaethau i reoli a lliniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig ag o, wedi eu crynhoi yn yr adroddiad.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles y byddai pob tenant a oedd wedi ei effeithio’n cael eu cynorthwyo â chyngor ar opsiynau tai ac roedd y gwasanaeth wedi ei ailstrwythuro i greu swyddogaeth reoli incwm bwrpasol i ddatblygu dull mwy rhagweithiol ac ymyraethol o reoli a lliniaru risgiau o ôl-ddyledion cynyddol o ganlyniad i ddiwygiadau lles ehangach.  Fe gymeradwywyd fod pob tenant yn talu’r Rhent Awgrymedig uwch ar gyfer 2013/14 ac roedd crynodeb o’r taliadau sy’n cael eu cymhwyso i’r stoc wedi ei roi yn yr adroddiad.

 

Esboniodd y Rheolwr Tai Cymunedol y byddai Cynllun Busnes y Stoc Tai’n cael ei fonitro ac y byddid yn cynnal ymarferiad Diwydrwydd Dyladwy yn flynyddol.  Roedd yr adolygiad diweddaraf yn cadarnhau fod llawer o’r rhagdybiaethau gwreiddiol yn dal heb eu haltro a’r casgliad oedd bod y Cynllun Busnes yn hyfyw ac yn gadarn ac y byddai’r cynllun yn hyfyw am y 30 mlynedd nesaf.

 

Esboniodd y Rheolwr Tai Cymunedol bod arolwg cyflwr stoc 2012 wedi nodi angen am wariant ychwanegol sylweddol yn y 30 mlynedd nesaf a hynny’n amrywio o £50miliwn i £33 miliwn.  Byddai’r cynllun yn hyfyw dros y cyfnod o 30 mlynedd gyda gweddillion yn codi o £43 miliwn o arolwg gwreiddiol Savill i £52 miliwn wrth ystyried y gofynion buddsoddi stoc drwy Arolwg Rands.  Byddai Rhaglen Cyfalaf 2013/14 yn cynnwys cwblhau’r contractau fframwaith fel y byddai pob eiddo’n cyfarfod â Safon Ansawdd Tai Cymru a byddai cyfanswm cost y gwaith cyfalaf ar gyfer 2013/14 yn unol â Chynllun Busnes y Stoc Tai.  Roedd manylion taliadau gwresogi, rhenti garejis a phenodiadau contractwr y cytundeb fframwaith wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

           

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd R.L. Feeley, rhoddodd y Rheolwr Tai Cymunedol fanylion yr oblygiadau sy’n ymwneud â chyflwyniad diwygio lles.  Cyfeiriodd at y broses o ailstrwythuro sy’n corffori prosiectau sy’n cael eu gweithredu o ran garejis a systemau gwresogi tai.  Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd dull gweithredu cyson gan yr Awdurdod a’r Sector Wirfoddol o ran gwybodaeth a ddarperir i’r cyhoedd ynglŷn â’r diwygio lles.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cytunodd y Rheolwr Tai Cymunedol i ddarparu ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd J. Butterfield ynglŷn â chydraddoldeb rhent rhwng Gogledd a De’r Sir.

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)   Mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2013/14, Atodiad 1, a Chynllun Busnes y Stoc Tai, Atodiad 2.

(b)   Cynyddu rhenti aneddiadau’r Cyngor yn unol â chanllawiau’r Polisi Gosod Rhenti gan Lywodraeth Cymru a hynny’n weithredol o ddydd Llun, Ebrill 1af, 2013

(c)    Cynyddu rhenti ar gyfer garejis y Cyngor a Thaliadau Gwresogi yn unol â Rhenti Canllaw a hynny’n weithredol o ddydd Llun, Ebrill 1af, 2013.

 

 

Dogfennau ategol: