Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD DIWEDDARU ARIANNOL
I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn nodi’r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd.
Penderfyniad:
Cyflwynodd y
Cynghorydd J. Thompson Hill yr adroddiad a oedd yn manylu ar gyllideb refeniw a
chynilion y Cyngor fel y’u cytunwyd ar gyfer 2012/13, fel ag ar ddiwedd Ionawr
2013. Roedd yn darparu diweddariad cryno
o’r Cynllun Cyfalaf, safle ariannol
cyfredol y Cyngor a cheisiai gymeradwyaeth i argymhellion a wnaethpwyd gan y Grŵp
Buddsoddi Strategol.
PENDERFYNWYD – bod y Cabinet:-
(a)
Yn
nodi’r cyllidebau a’r targedau arbedion am y flwyddyn, fel y’u nodir yn yr
adroddiad, a’r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd
(b)
Yn
cytuno i’r ariannu gwaith dichonolrwydd o ran Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol
Gymunedol Bodnant, Prestatyn hyd y swm o £1.8 miliwn
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd J. Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn manylu ar gyllideb refeniw a
chynilion y Cyngor fel y’u cytunwyd ar gyfer 2012/13, fel ag ar ddiwedd Ionawr
2013. Roedd yn darparu diweddariad cryno
o’r Cynllun Cyfalaf, safle ariannol presennol y Cyngor a cheisiai gymeradwyaeth
i argymhellion a wnaethpwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol.
Esboniodd bod rhagolygon diweddaraf y
gyllideb refeniw wedi eu cynnwys fel Atodiad 1 ac roedden nhw’n dynodi
tanwariant ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £631k (£435k y mis diwethaf), sy’n cynrychioli amrywiant o
0.55% ar draws cyfanswm y gyllideb net.
Ynglŷn â safle ysgolion, y rhagolygon ydi symudiad net positif ar
weddillion o £286k ar gyllidebau dirprwyedig a £161k ar gyllidebau ysgol
annirprwyedig. Roedd crynodeb o’r Cyfrif
Refeniw Tai wedi ei gynnwys yn Atodiad 1 er gwybodaeth ond roedd hon yn gronfa
ar wahân ac nid yn rhan o brif gyllideb refeniw’r Cyngor.
Roedd Atodiad 2 yn rhoi diweddariad
ar gynnydd yn erbyn yr arbedion a’r pwysau a gytunwyd yn rhan o broses gosod
cyllideb ar gyfer 2012/13. Efo’i gilydd, fe gytunwyd ar arbedion net o
£3.443m ac mae £3.102m (90%) wedi eu cyflawni gyda £316k (9%) wedi ei
ddosbarthu i fod ar y gweill ac roedd £25k (1%) wedi ei ohirio tan y flwyddyn
nesaf. Roedd y gohiriad yn ymwneud ag
arbedion oherwydd rhesymoliad printiwr.
Fe ystyrid fod pob un o’r eitemau
a oedd ar ôl ac a oedd wedi eu dosbarthu i fod ‘ar y gweill’ yn gyraeddadwy,
ond gyda’r rhan fwyaf roedd angen dadansoddiad o weithgaredd blwyddyn gyfan i
asesu’n briodol a oedd y mesur arbed a restrwyd wedi ei gyflawni mewn
gwirionedd.
Rhoddodd y Cynghorydd Thompson-Hill grynodeb o’r
Cyllidebau Gwasanaeth canlynol a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad:-
·
Cynllunio Busnes a Pherfformiad
·
Gwasanaethau Oedolion a Busnes
·
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylchedd
·
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
·
Cysylltiadau, Marchnata a Hamdden
·
Cymorth Cwsmeriaid ac Addysg
·
Gwella Ysgolion a Chynhwysiant
·
Ysgolion
·
Cyllidebau Corfforaethol
Esboniodd bod costau ychwanegol
yr ymateb ar unwaith i ddigwyddiadau’r llifogydd diweddar wedi dod dan
drothwy’r Cynllun Cymorth Ariannol Brys, ac roedd yna dybiaeth y byddai’r
Cyngor yn ariannu’r gost. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cyllid ac Asedau fod hawliad am bob costau cymwys wedi ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid disgresiynol.
Roedd yna gostau cyfredol yn ymwneud ag eithriadau rhag Treth Gyngor ac
roedd pwysau pellach a oedd yn ymddangos wedi codi o ddirwyn y ‘Mutual
Municipal Insurance Company’ i ben yn 1992, gan y byddai Aelodau’r Awdurdod
Lleol yn gyfrifol am atebolrwydd a oedd yn dal i godi o ran digwyddiadau cyn 1992.
Esboniodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau y byddai Sir Ddinbych yn talu
cyfran o’r hawliadau atebolrwydd, yn seiliedig ar ffigurau poblogaeth a
fyddai’n oddeutu 20% o’r costau. Dywedodd wrth Aelodau y byddai cronfa wrth
gefn yn cael ei hadeiladu i mewn i’r gyllideb a byddai manylion y costau’n cael
eu cynnwys yn yr adroddiad cyllid nesaf i’r Cabinet.
Roedd yna atebolrwydd potensial o ran cyn
Gyngor Bwrdeistref Rhuddlan, ac roedd atebolrwydd ychwanegol yn awr yn codi o
ran cyn Gyngor Sir Clwyd. Roedd swm
atebolrwydd potensial Clwyd yn ansicr ac roedd cyfanswm amlygiad y Cyngor i
hawliadau Clwyd oddeutu £2.5m, ond roedd yn annhebygol y byddai’r atebolrwydd
yn cael ei sbarduno ar y lefel yma.
Roedd cyfraddau casglu Treth Gyngor yn well
na’r rhagdybiaethau ac fe dybiwyd y byddai unrhyw fantais yn cael ei ddefnyddio
i gyfrannu tuag at ariannu blaenoriaethau buddsoddi strategol y Cyngor yn rhan
o’r Cynllun Corfforaethol. Cadarnhaodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill y byddai’r
manylion llawn yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad diwedd blwyddyn. Roedd gwariant hyd at ddiwedd Ionawr, 2013 yn
£19.4m yn erbyn Cynllun a gytunwyd o £31.4m.
Y llynedd roedd y chwarter olaf wedi cyfri am 43% o gyfanswm y gwariant
am y flwyddyn. Roedd Atodiad 3 yn rhoi
crynodeb o’r cynllun cyfredol a’r ffordd yr oedd wedi ei ariannu. Roedd Atodiad 4 yn rhoi trosolwg o’r
prosiectau cyfalaf mawr ac roedd manylion y ddau gynllun a gynigiwyd i’w
cymeradwyo gan y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi eu hamlinellu yn Atodiad
5. Roedd y Cyfrif Refeniw Tai diweddaraf
a gynigiwyd wedi ei gynnwys fel eitem ar wahân ar agenda’r Cabinet.
Rhoddodd y Prif Gyfrifydd gadarnhad bod y
marchnadoedd ariannol yn dal yn eithaf cyfnewidiol ac roedd hynny’n parhau i
gyfyngu ar gyfleoedd i fuddsoddi. Byddai
Datganiad Strategaeth Reoli’r Trysorlys a Strategaeth Fuddsoddi 2013/14-2015/16 yn cael eu cyflwyno i’r
Cyngor i’w cymeradwyo ar Chwefror 26ain 2013. Roedd cyfanswm y benthyca’n dal yn £134.08m
ac roedd cyfanswm y buddsoddiadau’n £19.2m, ac roedd manylion y risgiau a’r
mesurau i’w lleihau wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
Rhoddodd y Cynghorydd E.W. Williams grynodeb
o’r prif newidiadau i gyllid addysg gydag ysgolion yn cael eu hariannu’n
uniongyrchol drwy ariannu teg i ysgolion, yn seiliedig ar y gofynion i gyflenwi
addysg ac nid ar sail hanesyddol.
Teimlai y dylid ystyried trefnu digwyddiad cymdeithasol i drafod
oblygiadau’r system newydd ac i roi eglurhad.
Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Arweinydd
ynglŷn â’r ddarpariaeth ariannu ar gyfer cyfnodau dichonolrwydd
gwaith/dylunio manwl a chyn-adeiladu i alluogi cynnig cymeradwyaeth grant
ffurfiol gan Lywodraeth Cymru o ran Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Gymunedol
Bodnant, Prestatyn, esboniodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau y byddid yn ymgymryd
â’r gwaith dylunio dan risg ar y dybiaeth y byddid yn darparu cyllid. Amlygodd y Cynghorydd E.W. Williams
bwysigrwydd bod yn rhagweithiol a chael cynlluniau strategol wedi eu sefydlu i
fwrw ymlaen â phrosiectau a nodwyd.
Mynegodd y Prif Weithredwr y farn fod Sir Ddinbych wedi mabwysiadu’r
dull gweithredu priodol tuag at Raglen Ysgolion yr 21g. Ond, fe gadarnhaodd fod yna risgiau gyda bwrw
ymlaen â’r gwaith dylunio gan nad oedd yna unrhyw sicrwydd a dim ond sicrwydd
geiriol o ran darpariaeth cyllid.
Hysbyswyd Aelodau bod y dull gweithredu wedi ei adolygu gan y Grŵp
Buddsoddi Strategol yn Ionawr, 2013, pan gymeradwywyd dechrau ar y gwaith
dylunio ar gost a amcangyfrifwyd o £1.8m.
Yn ystod y drafodaeth ganlynol:-
PENDERFYNWYD – bod y Cabinet:-
(a)
yn nodi’r
cyllidebau a’r targedau arbedion am y flwyddyn, fel y’u nodir yn yr adroddiad,
ac yn bwrw ymlaen yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd
(b)
yn
cytuno i ariannu’r gwaith dichonolrwydd o ran Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol
Gymunedol Bodnant, Prestatyn gyda’r swm o £1.8 miliwn
Dogfennau ategol:
- Budget Mon Report, Eitem 5. PDF 116 KB
- Budget Mon App 1, Eitem 5. PDF 26 KB
- Budget Mon App 2, Eitem 5. PDF 26 KB
- Budget Mon App 3, Eitem 5. PDF 7 KB
- Budget Mon App 4, Eitem 5. PDF 265 KB
- Budget Mon App 5, Eitem 5. PDF 34 KB