Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYFLAWNI CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL SIR DDINBYCH

Ystyried cyd-adroddiad gan y Cynghorwyr Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Datblygiad Economaidd a Huw Jones, Aelod Arweiniol Twristiaeth, Hamdden ac Ieuenctid (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet gadarnhau’r broses ar gyfer atgyfnerthu ac ehangu’r Cynlluniau Tref a chymeradwyo dyraniad rhagarweiniol cyllid ar gyfer blaenoriaethau a adnabuwyd yn 2012/13 a 2013/14.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)       datblygu’r trefniadau a sefydlwyd i gyfnerthu’r Cynlluniau Trefol i’w ehangu yn Gynlluniau Ardal ehangach yn ymgorffori Hyrwyddwyr Cynlluniau Tref, Grŵp Cydgysylltu Cynlluniau Tref a chefnogaeth swyddogion cysylltiedig;

 

(b)       cadarnhau’r cyllid sydd ar gael i weithredu’r blaenoriaethau yn y Cynlluniau Tref a Chynlluniau Ardal ehangach sy’n dod o’r ffynonellau canlynol:

 

·         cyllid blaenoriaeth gorfforaethol ar gyfer ‘gwella’r economi lleol’

·         cyllideb refeniw cyllid cymunedol

·         dyraniad cyfalaf cymunedol a chyfalaf cyfatebol

 

 (c)       cymeradwyo’r argymhellion gan y Tîm Cydgysylltu Cynlluniau Tref ar ddyraniad rhagarweiniol yn 2012/13 a 2013/14.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd a’r Aelod Arwain dros Ddatblygu Economaidd, a’r Cynghorydd Huw Jones, yr Aelod Arwain dros Dwristiaeth, Hamdden ac Ieuenctid, yr adroddiad ar y cyd yn gofyn i’r Cabinet gadarnhau’r broses ar gyfer cyfuno ac ehangu’r Cynlluniau Tref a chymeradwyo dyraniad cychwynnol cyllid i flaenoriaethau a nodwyd yn 2012/13 a 2013/14.

 

Roedd yr adroddiad  yn nodi mesurau a gyflwynwyd i fynd i’r afael ag anghenion a blaenoriaethau cymunedau llai o faint a mwy gwledig, gan gynnwys ehangu’r Cynlluniau Tref yn Gynlluniau Ardal ehangach (gan gynnwys penodi Hyrwyddwyr Tref a chymorth swyddog a sefydlu Grŵp Cydlynu Tref). Bu’r Cynghorydd Huw Jones hefyd yn ymhelaethu ar ei rôl yn gofalu am yr agwedd datblygu gwledig i sicrhau bod yr anghenion yn yr ardaloedd gwledig hefyd yn cael sylw, ac ar y gwaith a wnaethpwyd hyd yma er mwyn nodi ardaloedd â blaenoriaeth yn y cymunedau hynny.  Tynnwyd sylw’r Aelodau i’r cynigion cyllid i weithredu blaenoriaethau a nodwyd, ynghyd ag argymhellion y Grŵp Cydlynu Cynllun Tref ar ddyraniad cychwynnol y cyllid fel y’i disgrifir yn yr adroddiad.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, pwysleisiodd y Cabinet mor bwysig oedd cyflwyno dull effeithiol o fynd i’r afael ag anghenion y cymunedau gwledig a thrafododd y trefniadau llywodraethu wrth ddatblygu’r cynlluniau tref yn gynlluniau ardal ehangach, gan amlygu buddion y trefniadau hynny i drefi a chymunedau fel ei gilydd. Soniodd yr Aelodau hefyd am y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran cyflenwi’r cynlluniau tref i’w hardaloedd unigol drwy’r Grwpiau Ardal Aelod a’u perthynas â’r cymunedau o’u cwmpas. Trafodwyd y materion canlynol yn fanylach –

 

-       bu’r aelodau’n ystyried a ddylid categoreiddio Bodelwyddan fel tref yng ngoleuni’r cynigion a nodwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’r niferoedd mawr a gyflogir yno. Cydsyniwyd y dylid ystyried y peth ymhellach ar ôl gwneud penderfyniad terfynol ar fabwysiadu’r CDLl

-       cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol i gylchredeg rhestr o gymunedau a’r trefi y byddent yn gysylltiedig â hwy

-       i roi sicrhad ynglŷn â chynnydd, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol y byddai adroddiadau cynnydd am bob tref yn cael eu llunio

-       byddai’r Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol yn mynd i bob Grŵp Aelod Ardal i drafod cyflenwi’r cynlluniau

-       roedd y Prif Weithredwr yn teimlo bod angen i’r strwythur cynllun tref cyfredol esblygu’n ardaloedd mwy rhesymegol i ymdrin â’r sir gyfan ac awgrymodd y dylid amlygu’r rhain yn y penderfyniad

-       roedd y Cynghorydd Eryl Williams yn teimlo y byddai’n fuddiol sefydlu Grŵp Ardal Wledig, yn ogystal â chynnwys cymunedau gwledig mewn Cynlluniau Ardal ehangach, er mwyn cynhyrchu syniadau, arfer da a dysgu am yr hyn sy’n digwydd mewn ardaloedd eraill. Awgrymodd yr Arweinydd ailsefydlu’r Grŵp Gwledig blaenorol a gofynnodd i’r Cynghorydd Huw Jones fynd â’r mater yn ei flaen

-       nodwyd y byddai ardaloedd ward penodol sy’n cynnwys cymunedau gwledig yn debygol o gael eu cysylltu â gwahanol drefi, a allai achosi anhawster ac a amlygwyd yn faes pryder. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol fod angen ystyried ffiniau sefydliadol y Cyngor a’r rheini a wneir gan y cymunedau i sicrhau’r pontio mwyaf priodol o Gynlluniau Tref i Gynlluniau Ardal

-       cytunodd y Cabinet y bydd adroddiad cynnydd am weithredu’r trefniadau a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’w gyfarfod ym mis Mai

 

Cymeradwyodd y Cabinet y cynigion cyllid i weithredu blaenoriaethau ac roedd yn falch o nodi bod cyllid wedi’i atal i fynd i’r afael â blaenoriaethau a nodwyd wedyn yn y cymunedau gwledig. Ychwanegodd y Cynghorydd Joan Butterfield y byddai cyllid yn cael ei geisio hefyd am brosiectau a nodir yng Nghynllun Cyflenwi’r Rhyl yn Symud Ymlaen pan fydd wedi’i gwblhau. Ar y cyfan, sicrhawyd y Cabinet fod y trefniadau i ehangu’r Cynlluniau Tref yn Gynlluniau Ardal fel y disgrifiwyd yn yr adroddiad yn darparu dull priodol o integreiddio anghenion y cymunedau llai o faint a gwnaethpwyd gwelliant i’r argymhelliad i egluro’r trefniadau hynny. Ar fwrw pleidlais - 

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       datblygu’r trefniadau a sefydlwyd i gyfuno Cynlluniau Tref i’w hehangu’n Gynlluniau Ardal ehangach sy’n ymgorffori Hyrwyddwyr Cynllun Tref, y Grŵp Cydlynu Cynllun Tref a’r cymorth swyddog cysylltiedig

 

(b)       cadarnhau’r cyllid sydd ar gael i weithredu’r blaenoriaethau yn y Cynlluniau Tref a’r Cynlluniau Ardal ehangach yn dod o’r ffynonellau canlynol:

 

·         Cyllid blaenoriaeth gorfforaethol ar gyfer ‘Gwella’r economi leol’

·         Cyllideb refeniw cyllid cymunedol

·         Dyraniad cyfalaf arian cyfatebol a chyfalaf cymunedol

 

 (c)       cymeradwyo’r argymhellion gan Grŵp Cydlynu Cynllun Tref ar ddyraniad cychwynnol o gyllid yn 2012/13 a 2013/14.

Dogfennau ategol: