Eitem ar yr agenda
CYFLEUSTERAU ARFORDIROL Y RHYL
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac
Aelod Arweiniol Datblygiad Economaidd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo cynigion ar gyfer Cyfleusterau Arfordirol y Rhyl a gwaith brys i’r
Tŵr Awyr.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet -
(a) yn
cymeradwyo’r prosiectau arfaethedig mewn egwyddor a datblygiad Cam 2 achos
busnes / cyfiawnhad a ffïoedd Cam 2 hyd at £30,000 i:
·
Symud ymlaen gyda datblygu’r dyluniad ac
astudiaeth ddichonolrwydd ar gyfer y ganolfan ddŵr newydd yn y lleoliad
arfaethedig ger y pwll padlo presennol;
·
Cynnwys ystyriaeth benodol i bwll nofio 50 medr
o fewn yr astudiaeth ddichonolrwydd;
·
Ymgorffori cynaliadwyedd strwythur y Tŵr
Awyr yn y cynlluniau hyn a datblygu cynigion ar gyfer ei ddefnyddio / ei wella
yn y dyfodol;
·
Cydnabod egwyddor dymchwel strwythur presennol
yr Heulfan gan arwain at ddatblygu dyluniadau ac astudiaeth ddichonolrwydd ar
gyfer gwelliannau i Theatr y Pafiliwn;
·
Cytuno datblygu’r pecyn cyfan (fel un prosiect)
i lunio achos busnes manwl;
·
penodi Alliance Leisure Ltd dan delerau’r
cytundeb fframwaith presennol i gynorthwyo gyda datblygu’r prosiect;
·
sicrhau bod yr agwedd yn cael ei datblygu ar y
cyd â chynlluniau ehangach y Rhyl yn Symud Ymlaen a sicrhau effaith y prosiect
ar y cynlluniau hynny;
·
sefydlu Bwrdd Prosiect i fonitro a chyfeirio
cynnydd, a
(b) cymeradwyo
gwaith brys i’r Tŵr Awyr i leihau peryglon iechyd a diogelwch presennol a
gwneud y strwythur yn ddiogel – hyd at derfyn uchaf o £35,000.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd
ac Aelod Arwain dros Ddatblygu Economaidd, yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo cynigion ar gyfer Cyfleusterau Arfordirol y Rhyl a gwaith brys i’r
Tŵr Awyr. Roedd yr adroddiad yn cynnwys cynlluniau i gyfleusterau
arfordirol y dref, gan edrych ar y cynnig dyfrol yn y dyfodol, yr Heulfan,
Theatr y Pafiliwn a Phentref y Plant. Gwnaethpwyd argymhellion cychwynnol hefyd
ar gyfer dyfodol Canolfan Nova, Prestatyn.
Dymunai’r Cynghorydd Evans egluro’r cyfeiriadau
at Clwyd Leisure yn yr adroddiad, gan gynghori bod y Cyngor hefyd yn gyfrifol
am y cynnig hamdden, a soniodd am yr anawsterau o ran cynnal yr Heulfan a
buddsoddi ynddo, am resymau amrywiol. Roedd y cynigion yn arwydd o ddechrau oes
newydd i’r Rhyl gan arwain at gynnig hamdden newydd, creu swyddi newydd ac
ysgogi buddsoddiad preifat pellach yn y dref.
Byddai datblygiad y prosiect yn mynd rhagddo gyda phartner datblygu’r
Cyngor, Alliance Leisure, gyda phecyn cyflawn o brosiectau i ategu ei gilydd ac
a fyddai o fudd i breswylwyr a thwristiaid.
Bu Rheolwr y Rhyl yn Symud Ymlaen yn rhoi
cyflwyniad PowerPoint am y cynigion i’w hystyried yn codi o astudiaeth
ddichonolrwydd gychwynnol o’r prosiectau. Ymhelaethodd ar -
·
y cefndir
yn arwain at yr adroddiad cyfredol gan gynnwys cyfeiriad at astudiaethau
blaenorol a newidiadau allweddol ers hynny
·
creu cynnig hamdden ddyfrol blaenllaw newydd
gan gyfeirio at leoliad, dyluniad y cyfleuster, hamdden wlyb (cymysgedd o nofio
ffurfiol a hamdden), ffitrwydd, caffi, dringo ac efallai chwaraeon traeth
ynghyd â darluniadau o’r math o gyfleusterau ac adeiladau a fyddai’n cael eu cynhyrchu
gan y prosiectau
·
gwaith
brys a oedd yn ofynnol i’r Tŵr Awyr ynghyd â dewisiadau’r dyfodol
·
argymhelliad
i ddymchwel yr Heulfan a naill ai tirlunio’r safle, ceisio denu datblygiad
gwesty, neu ddatblygu maes parcio newydd
·
argymhellion
i wella Theatr y Pafiliwn ac ystyried y potensial am dwf busnes gwledda a
chynadledda
·
cau Pwll presennol Canolfan Hamdden y Rhyl
wedyn gyda’r Ganolfan yn gwasanaethu ysgolion/colegau ac anghenion chwaraeon
lleol yn y dyfodol
·
ystyriaethau
ehangach Cynllun y Rhyl yn Symud Ymlaen gan gynnwys: adleoli’r parc sglefrio;
datblygu gwesty newydd; gwella’r maes parcio tanddaearol a buddsoddi ym maes
parcio Crescent Road ynghyd â dull rheoli gweithredol cyffredinol i gydlynu
hamdden ac adfywio, a
·
chynigion
am adolygiad penodol i ystyried dewisiadau’r dyfodol ar gyfer Canolfan Nova na
fyddent yn tanseilio llwyddiant cynnig dyfrol a glan môr newydd y Rhyl.
Wrth ddod i ben, dywedodd Rheolwr y Rhyl yn
Symud Ymlaen y gallai cynnig hamdden a dyfrol newydd chwarae rhan hanfodol yn y
gwaith cyffredinol i adfywio’r llain arfordirol a’r Rhyl yn gyrchfan i
ymwelwyr. Yn olaf, soniodd am y camau nesaf pe byddai’r Cabinet yn cymeradwyo’r
argymhellion yn yr adroddiad.
Roedd y Cabinet yn croesawu’r adroddiad yn fodd
o drawsnewid y Rhyl drwy becyn cydlynol o brosiectau a fyddai o fudd i
breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Cydnabuwyd y byddai’r cynigion yn hybu
hyder a buddsoddiad y sector preifat, gan greu cyfleoedd busnes a swyddi newydd. Amlygwyd hefyd y posibilrwydd i’r buddsoddiad
hwnnw effeithio’n gadarnhaol ar Ganol Tref y Rhyl. Cyfeiriodd yr Aelodau at eu
hatgofion a’u profiadau eu hunain o’r Rhyl yn gyrchfan glan môr prysur gan
gydnabod bod yr Heulfan a arferai fod yn eiconig wedi gweld dyddiau gwell a bod
angen atyniad newydd sy’n addas i’r 21ain ganrif. Wrth ystyried natur
uchelgeisiol y cynigion, mynegodd yr aelodau eu barn am agweddau amrywiol ar yr
adroddiad a manteisiwyd ar y cyfle i ofyn cwestiynau. Gofynnwyd am sicrhad am
nifer o bethau hefyd fel a ganlyn –
-
bod yr
Heulfan yn dal i weithredu nes bod cyfleuster wedi’i agor yn ei lle
-
na fyddai
Canolfan Nova dan anfantais o ganlyniad i’r cynigion
-
bod
ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i gynnwys pwll 50 metr yn y manylebau er
mwyn denu cystadlaethau
-
na ddylid
colli’r parc sglefrio fel cyfleuster ac y dylid ystyried ei adleoli yn ofalus o
ystyried ei boblogrwydd
-
bod angen
i’r adeilad a’r cyfleusterau newydd fod yn ymarferol ac yn addas at ddiben,
gyda chostau gweithredu a chynnal a chadw rhesymol
-
sicrhau
bod cynnig newydd y Rhyl yn cyfrannu at adfywio ehangach yn yr ardal, a Chanol
y Dref yn benodol, a
-
chywirdeb
costau a ddarperir i’r prosiect a modelau cyllid.
Wrth ateb yr aelodau, dywedodd y swyddogion –
-
fod y
Cyngor wedi egluro ei fod yn dymuno i’r Heulfan ddal i weithredu cyhyd â
phosibl nes bod unrhyw gynigion newydd yn cael eu datblygu
-
bod gan
Clwyd Leisure weledigaethau ar gyfer Canolfan Nova a bod cynlluniau clir i fynd
ymlaen â’r rheini gydag aelodau Prestatyn
-
darparwyd
darluniad o’r modd y gellid gosod pyllau allan; roedd Alliance Leisure wedi
nodi y byddai’n barod i’w hariannu a’i bod yn bwysig darparu digon o le pwll i
fodloni’r galw. Gellid ystyried ymhellach cynnwys pwll 50 metr yn y cyfleuster
pe dymunai’r aelodau
-
cydnabuwyd
bod y parc sglefrio’n gyfleuster pwysig a byddai safleoedd amgen priodol yn
cael eu hystyried
-
ei bod yn
bwysig darparu strwythur eiconig a fyddai’n cael ei gydnabod ac a fyddai’n
ysgogi adfywio ond bod yr angen am fforddiadwyedd yn ystyriaeth allweddol yn ei
ddyluniad i sicrhau cyfleuster cynaliadwy i’r dyfodol
-
bod y
Cyngor wedi buddsoddi’n synhwyrol yn ei stoc hamdden ei hun a oedd wedi’i
chynnal i safon dda, a fyddai’n cael ei chynnwys mewn unrhyw brosiectau yn y
dyfodol
-
dim ond
costau dangosol a oedd wedi’u darparu ar hyn o bryd a byddai cam nesaf y broses
yn darparu gwir gostau’r prosiectau
-
am fod Theatr Fach y Rhyl yn gyfleuster
cymunedol, nid oedd wedi’i hystyried yn rhan o’r cynnig theatr a oedd yn
canolbwyntio ar ddichonolrwydd masnachol
-
roedd
gwaith wedi’i wneud gyda Grŵp Busnes y Rhyl a Chyngor y Dref i gyfarwyddo
dyfodol Canol y Dref a oedd yn amgylchedd heriol iawn
-
roedd
gofynion parcio ceir yn cael eu hystyried a byddai’r achos busnes yn ystyried y
ffordd orau o ddarparu lleoedd parcio ac yn ystyried a fyddai’n gonsesiynol
-
cadarnhawyd
bod y partner datblygu, Alliance Leisure, yn adolygu cyfleusterau hynny’r
Cyngor nad oeddent yn cael eu defnyddio’n ddigonol neu a allai gynhyrchu mwy o
incwm.
Pwysleisiodd y
Cabinet hefyd fod angen sicrhau dichonolrwydd economaidd y prosiect i’r dyfodol
a thrafodwyd gyda’r swyddogion y ffrydiau ariannu posibl a fyddai’n cael eu
cynnwys yn yr achos busnes. Bu’r Pennaeth Cyllid ac Asedau’n atgoffa’r aelodau
nad oedd yn cytuno i’r prosiect heddiw ac y byddai’n rhaid i achos busnes manwl
gael ei gyflwyno a’i adolygu’n ofalus cyn y gellid gwneud unrhyw benderfyniad
am y prosiect. Amlygwyd hefyd fod angen cadw cyflogaeth yn lleol. Rhybuddiodd y
Cynghorydd Hugh Irving y gellid gosod amodau ynghlwm wrth gyllid grant, a bod
angen ei ystyried yn ofalus. Roedd cyllid ychwanegol eisoes wedi’i sicrhau gan
Lywodraeth Cymru er mwyn archwilio dichonolrwydd materion parcio ceir a thir y
cyhoedd a oedd yn gysylltiedig â’r prosiect.
Yn y man hwn, gwahoddodd yr Arweinydd y rheini
nad ydynt yn aelodau Cabinet i siarad ac roedd yn benodol o awyddus i glywed
barn Aelodau’r Rhyl. Dywedodd y Cynghorwyr Joan Butterfield a David Simmons eu
bod yn llwyr gefnogi’r cynigion yn gam cadarnhaol ymlaen ar gyfer dyfodol y
Rhyl, gan ddisgrifio buddion y cynigion i breswylwyr a thwristiaid ac o ran
adfywio ehangach y Rhyl. Roedd Aelodau’r Rhyl wedi cael gwybod yn llawn am y
cynigion ac roeddent yn awyddus i’r cynlluniau cyffrous fynd ymlaen i’r cam
nesaf. Roedd aelodau eraill yn falch o nodi y byddai costau refeniw a chynnal a
chadw parhaus yn ystyriaeth fawr yn natblygiad y cyfleusterau newydd. Cafodd y
traeth ei gymeradwyo hefyd yn fantais enfawr ac amlygwyd bod angen sicrhau ei
welededd a’i bod yn hawdd cael ato, ynghyd â dull mwy cyfannol er mwyn
integreiddio cynnig newydd y Rhyl gyda phrosiectau eraill yno er mwyn cynnig
pecyn cyfan. Mewn ymateb i’r sylwadau hynny a chwestiynau pellach, bu i’r Aelod
Arwain a’r Swyddogion –
-
gytuno bod
dull cydgysylltiedig ar goll yn y gorffennol ond bod llawer o waith wedi’i
wneud yn ddiweddar i ddarparu dull mwy integredig
-
ymhelaethu
ar ddewisiadau posibl i gynnwys gwesty yn rhan o’r cynigion ynghyd â dewisiadau
parcio ceir a fyddai’n cael eu harchwilio’n llawn yng ngham 2
-
cydnabod y
cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth ddatblygu cyfleusterau felly gan gynghori bod
arolygon strwythurol wedi’u cynnal yn ystod yr astudiaeth ddichonolrwydd gydag
ymchwiliadau pellach i’w cynnal yng ngham 2
-
cynghori y
byddai’r broses gyllido’n cael ei hystyried ar ôl costio’r prosiect yn llawn,
ac y byddai’r cyllid yn debygol o ddod o amrywiaeth o ffynonellau
-
cadarnhau
bod y prosiect yn fenter enfawr y byddai angen ei chwblhau cyn y byddai mentrau
mawr eraill yn cael eu hystyried, fel yr awgrym am drên stêm o Ganolfan Nova
i’r Rhyl
-
gellid
rhoi gwybod i’r aelodau am y cynigion yn Sesiwn Wybodaeth y Cyngor pe dymunid a
gellid gwneud y prosiect yn destun craffu i’w ystyried ymhellach; disgrifiwyd y
broses a’r amserlenni i weithredu’r cynigion yn yr adroddiad.
Soniodd y swyddogion am benodi’r partner
datblygu, Alliance Leisure, yn ddull arloesol o reoli stoc hamdden ac am y
gwelliannau a’r buddion sylweddol a gyflawnwyd o ganlyniad a ddylai rhoi hyder
i’r aelodau yn y cynigion. Ychwanegodd y Cynghorydd Huw Jones fod awdurdodau
lleol eraill yn ystyried cau neu drosglwyddo cyfleusterau hamdden ac amlygodd y
ffordd yr oedd Sir Ddinbych wedi elwa ar y dull arloesol hwn a oedd bellach yn
cael ei ystyried gan eraill gan ddisgwyl dirprwyaeth o Gyngor Dinas Caerdydd.
Manteisiodd y Cynghorydd Jones hefyd ar y cyfle i ddiolch i’r tîm Hamdden a
thîm y Rhyl yn Symud Ymlaen am eu gwaith caled i ddatblygu’r cynigion.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr argymhellion ac,
yng ngoleuni’r gefnogaeth i ystyried pwll nofio 50 metr yn yr astudiaeth
ddichonolrwydd, cynigiwyd hyn fel gwelliant gan y Cynghorydd Julian Thompson
Hill ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Huw Jones. Ar fwrw’r bleidlais –
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet –
(a) yn
cymeradwyo’r prosiectau arfaethedig mewn egwyddor a datblygiad Cam 2 achos
busnes/cyfiawnhad a ffioedd Cam 2 hyd at £30,000 er mwyn:
·
symud ymlaen â datblygiad y dyluniad a’r
astudiaeth ddichonolrwydd i’r ganolfan ddyfrol newydd yn y lleoliad arfaethedig
wrth ymyl y pwll padlo presennol;
·
cynnwys ystyriaeth benodol i bwll nofio 50 metr
yn yr astudiaeth ddichonolrwydd;
·
ymgorffori cynaliadwyedd strwythur y Tŵr
Awyr yn y cynlluniau hyn a datblygu cynigion am ei ddefnyddio/ei wella yn y
dyfodol
·
cydnabod egwyddor dymchwel strwythur presennol
yr Heulfan gan arwain at ddatblygu dyluniadau a dichonolrwydd ar gyfer
gwelliannau i Theatr y Pafiliwn;
·
cytuno i ddatblygu’r pecyn cyfan (fel un
prosiect) i achos busnes manwl;
·
penodi Alliance Leisure Ltd dan delerau’r
cytundeb fframwaith presennol i gynorthwyo i ddatblygu’r prosiect
·
sicrhau bod y dull yn cael ei ddatblygu ar y
cyd â chynlluniau ehangach y Rhyl yn Symud Ymlaen a sicrhau effaith y prosiect
ar y cynlluniau hynny;
·
sefydlu Bwrdd Prosiect i fonitro a chyfarwyddo
cynnydd, a
(b) cymeradwyo
gwaith brys i’r Tŵr Awyr i leihau’r risgiau iechyd a diogelwch presennol
ac i ddiogelu’r strwythur – hyd at £35,000 o gyllideb uchaf.
Dogfennau ategol: