Eitem ar yr agenda
CYLLIDEB 2013/14
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn manylu’r cynigion
cyllidebol ar gyfer 2013/14 a’r cynnydd
sy’n deillio yn lefel y Dreth Gyngor.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet -
(a) yn
cefnogi’r cynigion cyllidebol ar gyfer 2013/14 yn yr atodiadau ac yn argymell
hynny i’r Cyngor llawn, a
(b) yn
argymell y cynnydd 2.0% sy’n deillio yn lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2013/14
i’r Cyngor llawn.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn disgrifio’r cynigion cyllideb
ar gyfer 2013/14 ac yn arwain at 2% o gynnydd yn lefel y Dreth Gyngor. Roedd
Cynigion Arbed Cyllideb ar gyfer 2013/14 (Atodiad 1); Grantiau a drosglwyddwyd
i’r Setliad Cyffredinol 2013/14 (Atodiad 2), a Chyllideb Sir Ddinbych 2013/14
(Atodiad 3) wedi’u gosod ynghlwm wrth yr adroddiad.
Soniwyd wrth yr Aelodau am setliad terfynol is
na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys toriad mewn cyllid cyfalaf
a oedd yn golled sylweddol. Amlygwyd y goblygiadau ar y Cynllun Ariannol Tymor
Canolig ynghyd â’r arbedion a oedd yn ofynnol dros y tair blynedd nesaf a’r
rhagolygon diweddaraf o ran pwysau a nodwyd yn flaenorol. Cyfeiriwyd hefyd at -
·
ddisgwyliad
Llywodraeth Cymru y byddai Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol yn cael eu
gwarchod rhag arbedion a fyddai’n rhoi straen ychwanegol ar wasanaethau eraill
a oedd yn gorfod dod o hyd i arbedion ychwanegol i wneud iawn [ar gyfer 2013/14
roedd tua 56% o’r gyllideb wedi’i neilltuo a’i gwarchod]
·
goblygiadau
ariannol sy’n codi o’r Cynllun Cymorth Treth Gyngor
·
y
diweddaraf am ganlyniadau’r gweithdai cyllideb a gynhaliwyd i aelodau ym mis
Tachwedd a mis Rhagfyr 2012 (ynglŷn ag arbedion, blaenoriaethau a’r dreth
gyngor)
·
yn seiliedig
ar y cynigion cyfredol, roedd y cynnydd canlyniadol yn y Dreth Gyngor yn 2% a’r
dybiaeth sylfaenol ar gyfer blynyddoedd y dyfodol oedd y byddai’r Dreth Gyngor
yn dal i godi tua 2%
Wrth ystyried yr adroddiad, roedd yr aelodau’n
falch o nodi’r tryloywder yn y broses gosod cyllideb gyda digonedd o gyfle i’r
aelodau gyfrannu. Canmolwyd hefyd y dull dychmygus o reoli cyllid mewn adegau
ariannol mor heriol. Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd y Cynghorydd
Thompson-Hill a’r Pennaeth Cyllid ac Asedau -
-
er gwaethaf gwarchod cyllidebau ysgolion a
gofal cymdeithasol, roedd disgwyl o hyd i’r gwasanaethau hynny wneud arbedion
effeithlonrwydd ond byddent yn cael eu hail-fuddsoddi yn y gwasanaeth hwnnw
-
roedd y
rhan fwyaf o arbedion cydweithio wedi’u tynnu allan o’r Cynllun Ariannol Tymor
Canolig am na ellid eu cyflenwi, a oedd yn rhoi pwysau ar arbedion i’w gwneud
yn fewnol
-
roedd
goblygiadau enfawr posibl yn codi o’r Bwrdd Iechyd yn ad-drefnu gwasanaethau
iechyd ond nid oedd llawer yn hysbys ar hyn o bryd
-
roedd y
cynigion cyllideb cyfredol yn dangos bod yr awdurdod yn buddsoddi yn ei
flaenoriaethau ac yn gwarchod gwasanaethau rheng flaen wrth gadw’r Dreth Gyngor
mor isel â phosibl
-
cadarnhawyd bod ardoll y Gwasanaeth Tân yn
£70k islaw’r lefel a gynlluniwyd ond nad oedd praesept yr Heddlu wedi’i osod
eto (dywedodd y Cynghorydd Cowie y byddai Comisiynydd yr Heddlu’n cyflwyno
cynigion cyllideb i’r Panel Trosedd yr wythnos ganlynol)
-
byddai
cyfeiriad at yr Eisteddfod Genedlaethol yn y cynigion arbedion yn cael ei ddileu
gan fod y cyllid sylfaenol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.
Cyfeiriodd y
Cynghorydd Eryl Williams at heriau ariannol mwy i’w hwynebu gan awdurdodau
lleol yn y dyfodol ac at ansicrwydd ynglŷn â chyllid y dyfodol. Cynigiodd
gynyddu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2013/14 i 2.5% gyda’r refeniw ychwanegol
yn cael ei neilltuo mewn Cronfa Gymorth Refeniw a fyddai’n cael ei defnyddio i
wneud iawn am anawsterau ariannol a fyddai’n wynebu’r awdurdod yn y dyfodol.
Roedd yn teimlo y byddai dull felly’n ddoeth yn yr hinsawdd economaidd gyfredol
ac y byddai’n helpu i ddiogelu rhag cynyddu’r Dreth Gyngor yn ddramatig eto yn
y dyfodol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Huw Jones. Wrth ystyried y cynnig,
cytunodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau y byddai’r Cyngor yn dal i wynebu heriau
ariannol am gryn dipyn eto ond dywedodd fod tybiaethau rhesymol wedi’u cynnwys
gyda’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig i fynd i’r afael â phwysau wrth iddynt
ymddangos i’r awdurdod. Siaradodd y Prif Weithredwr yn erbyn y cynnig a
theimlai ei fod yn anfon y neges anghywir pe byddai’r Dreth Gyngor yn cael ei
gosod ar lefel uwch nag yr oedd ei hangen, gan ychwanegu bod arian wedi’i
neilltuo mewn cronfeydd a balansau i ymdrin ag argyfyngau posibl yn y dyfodol.
Dywedodd fod 2% yn lefel gyraeddadwy a chyfrifol. Amlygodd y Cynghorydd Barbara
Smith fod gan Sir Ddinbych un o’r cyfraddau uchaf o’r Dreth Gyngor a theimlai y
dylid mynd i’r afael â’r lefel gyda’r bwriad o gydraddoldeb ag awdurdodau
eraill. Er ei fod yn cydnabod mai’r dybiaeth wreiddiol at ddibenion cynllunio
ariannol oedd 2.75% o gynnydd, roedd yr Arweinydd yn teimlo y dylid fod wedi
dadlau am y cynnig i gynnwys dull diogelu ariannol i’r dyfodol yn gynharach yn
y broses cynllunio cyllideb. Roedd yn hyderus fod y broses gosod cyllideb yn gadarn
ac yn gyraeddadwy. Amlygodd y Cynghorydd Hugh Irving fod llawer o breswylwyr yn
cael trafferthion ariannol yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni a chytunodd fod
lefel o 2% yn rhesymol. Roedd yn credu y byddai’r Cyngor yn cael ei feirniadu
pe byddai’n gosod lefel uwch o’r Dreth Gyngor nag yr oedd ei hangen.
Ar fwrw pleidlais, COLLWYD y gwelliant i
gynyddu lefel y Dreth Gyngor 2.5% a DERBYNIWYD y cynnig gwreiddiol i gynyddu’r
lefel 2%.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet –
(a) yn
cefnogi’r cynigion cyllideb ar gyfer 2013/14 fel y’u dangosir yn yr atodiadau
ac yn argymell yn unol â hynny i’r Cyngor llawn, a
(b) yn
argymell y 2.0% canlyniadol o gynnydd yn lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2013/14
i’r Cyngor llawn.
[Ymatalodd y
Cynghorwyr Huw Jones ac Eryl Williams rhag pleidleisio ar benderfyniad (b)
uchod.]
Dogfennau ategol:
- BUDGET REPORT W, Eitem 8. PDF 106 KB
- BUDGET REPORT APP 1, Eitem 8. PDF 32 KB
- BUDGET REPORT APP 2, Eitem 8. PDF 22 KB
- BUDGET REPORT APP 3, Eitem 8. PDF 33 KB