Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL
Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio
Mewnol (copi’n amgaeëdig) yn diweddaru’r aelodau ar gynnydd diweddaraf y
Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran cyflwyno gwasanaeth, darparu sicrhad,
adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac effeithiolrwydd wrth yrru gwelliannau.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Pennaeth
Gwasanaethau Archwilio Mewnol adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn
diweddaru aelodau ar gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran
cyflenwi gwasanaeth, darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac
effeithiolrwydd o ran gyrru gwelliant.
Tynnwyd sylw Aelodau at yr adroddiadau archwilio mewnol diweddar a roddwyd
ar y canlynol –
Ysgol Uwchradd y Rhyl – Cyfeiriodd y
Pennaeth Gwasanaethau Archwilio Mewnol at ddyfarniad statws sicrwydd canolig a
oedd yn welliant arwyddocaol ar yr archwiliad blaenorol a oedd wedi golygu dwyn
cynrychiolwyr ysgol gerbron y pwyllgor yma.
Roedd adborth gan y Prifathro a’r Llywodraethwyr yn bositif ac roedd y
Pennaeth Gwasanaethau Archwilio Mewnol yn hyderus y byddai’r ysgol yn delio â’r
problemau a oedd wedi ei hatal rhag derbyn statws sicrwydd uchel. Roedd Aelodau’n falch o nodi’r adroddiad
archwilio positif ac, yn dilyn cynnig gan y Cynghorydd David Simmons, cytunwyd
bod llythyr gan y pwyllgor yma i’w anfon at Ysgol Uwchradd y Rhyl yn eu
llongyfarch ar eu cyflawniad.
Ystyriai Aelodau fod cyllid ysgolion yn gyffredinol yn
faes o risg arbennig y gellid ei ecsbloetio a gofynnwyd am y mecanwaith i
ddiogelu rhag y risg honno. Dywedodd y
Pennaeth Cyllid ac Asedau fod ysgolion â chyfrifoldeb i reoli’r cyllid hwnnw ac
fe allent ofyn am archwiliad gan y Cyngor a byddid yn codi tâl am hynny. Roedd elfennau penodedig fel cynnal cofnodion
yn ffurfio rhan o archwiliad cyffredinol ysgol.
Gofynnodd y Cynghorydd Martyn Holland a ellid sefydlu system ar gyfer
ysgolion er mwyn helpu i reoli cronfeydd a rhannu arferion gorau. Awgrymwyd y byddai Rheolwyr Cyllid Ysgolion â
swyddogaeth yn hynny. Cytunai’r pwyllgor
ag awgrym y Pennaeth Cyllid ac Asedau i roi eitem ar yr agenda i Rwydwaith
Rheolwyr Cyllid Ysgolion fel dull o symud ymlaen â’r mater hwnnw. Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Lleyg
Paul Whitham cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol fod
cyfarwyddyd ar gael i’r rheiny sy’n rheoli cyllid ysgolion ac roedd gwaith yn
cael ei wneud i gynhyrchu rhestr wirio syml.
Risg gynhenid uchel y Gofrestr Risg Gorfforaethol
(CSDd006) - Hysbyswyd Aelodau nad oedd yr archwiliad yma’n
gofyn am adroddiad archwilio llawn ond roedd wedi ei gynnal i sicrhau rheolaeth
effeithiol a rhoddwyd crynodeb byr.
Tir y Cyhoedd - Fe gynhaliwyd
archwiliad cyffredinol ac roedd gwaith yn gyfredol i ddelio â phroblemau
penodedig a nodwyd. Cyfeiriodd y
Cynghorydd Martyn Holland at y problemau ynglŷn â chyflwyno’r gwasanaeth
ailgylchu a chasglu sbwriel yn ne’r sir a holodd am gostau’r rhaglen ailgylchu
ac a ddysgwyd gwersi. Holodd hefyd a
gyflawnwyd gwerth am arian gyda’r rhaglen ailgylchu dros y sir gyfan a’r broses
bresennol o fonitro perfformiad.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod y Cyngor
Sir wedi trafod y mater yn eu cyfarfod ar Ragfyr 4 ac fe’i cyfeiriwyd at y Pwyllgor
Craffu Cymunedau i’w ystyried. Roedd y
Prif Weithredwr hefyd wedi dweud y byddid yn cynnal ymchwiliad a gellid
cyflwyno adroddiad pellach i’r Cyngor Sir i’w ystyried os byddai aelodau’n
gofyn am hynny. Ychwanegodd y Pennaeth
Gwasanaethau Archwilio Mewnol fod adolygiad o gasglu sbwriel wedi ei gynnwys yn
y cynllun archwilio ar gyfer 2013/14.
Cyfeiriodd Aelodau’n fyr hefyd at faterion ynglŷn â Gwastraff
Masnach a dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol y byddid yn
ystyried adroddiad archwilio ar Wastraff Masnach yng nghyfarfod nesaf y
pwyllgor.
Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth – Oherwydd y sgôr sicrwydd isel fe gynhaliwyd cyfarfod gwaethygiad
efo’r Prif Weithredwr a’r Aelod Arweiniol i drafod y cynllun gweithredu. Gan fod yr eitem yma’n fater corfforaethol
roedd camau’n rhychwantu nifer o adrannau a byddid yn delio â hyn yn y misoedd
i ddod. Roedd gwaith yn gyfredol ar hyn
o bryd i ddatblygu Polisi Diogelu Data newydd.
Yn ateb i gwestiynau dywedwyd wrth aelodau bod yr archwiliad yn cwmpasu
cofnodion electronig a phapur ac roedd ysgolion hefyd wedi eu cynnwys o fewn
cwmpas yr archwiliad.
Tynnwyd sylw aelodau hefyd gan y Pennaeth Gwasanaethau
Archwilio Mewnol at gamau dilynol i dri adroddiad Archwilio Mewnol lle nad oedd
camau wedi eu cwblhau o fewn y graddfeydd amser a gytunwyd a rhoddodd
ddiweddariad ar y safle presennol. Y tri
maes oedd (1) Adnoddau Dynol Strategol, (2) Cludiant Cartref i Ysgol, a (3)
Ysgol y Santes Ffraid. Byddid yn adrodd
yr archwiliadau i gyfarfod nesaf y pwyllgor a gofynnwyd i aelodau ystyried a
oedden nhw’n dymuno gwahodd cynrychiolwyr o’r adrannau hynny i fod yn
bresennol. Yn y cyfamser byddai
Archwilio Mewnol yn parhau i ddilyn ymlaen â’r camau sydd ar ôl i geisio
sicrhau eu bod yn cael eu bwrw ymlaen gyn gynted ag sydd bosib. Cytunodd aelodau i ystyried canfyddiadau’r
adroddiadau yn gyntaf cyn penderfynu gwahodd unrhyw gynrychiolwyr i fod yn
bresennol.
I gloi fe ystyriodd aelodau
gynnydd yn erbyn cyflenwad Cynllun Gweithredol Archwilio Mewnol 2012/13
(Atodiad 1 i’r adroddiad) ac fe godwyd y materion canlynol –
·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Martyn Holland at archwiliad Rheolaeth Gweithrediadau Technoleg
Gwybodaeth a gofynnodd a oedd y broblem gyda storio tapiau wrth gefn wedi ei
datrys. Dywedodd swyddogion y byddid yn trafod
gofod mewn lleoliad swyddfa arall ar gyfer tapiau a byddid yn gwirio cynnydd
gyda gweithredu’r argymhelliad hwnnw yn ystod y camau’n dilyn yr adroddiad.
·
Mewn ateb i gwestiwn gan yr Aelod Lleyg Paul
Whitham, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol y byddai’r adroddiad
a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ym Medi 2012 ar Weddillion Ysgol
ar gael ar wefan y Cyngor.
·
Gofynnodd Mr Gwilym Bury, Cynrychiolydd Swyddfa
Archwilio Cymru a oedd y deg diwrnod a gynlluniwyd ar gyfer archwiliad Rheoli’r
Perygl o Lifogydd yn ddigonol o ystyried y digwyddiadau diweddar gyda’r
llifogydd. Esboniodd Pennaeth y
Gwasanaethau Archwilio Mewnol y bwriad o ganolbwyntio’r archwiliad ar reolaeth
risg ac y byddai deg diwrnod yn ddigonol ar gyfer hynny. O ystyried yr ymchwiliadau cyfredol eraill o
ran y llifogydd diweddar byddai angen pennu’r archwiliad i osgoi unrhyw
ddyblygu. Awgrymodd Mr. Bury y dylid
archwilio ansawdd y cynlluniau presennol.
PENDERFYNWYD –
(a) yn amodol ar sylwadau aelodau uchod,
derbyn yr adroddiad cynnydd ar y Gwasanaeth Archwilio Mewnol a’i nodi;
(b) bod llythyr i’w anfon ar ran y Pwyllgor at
Ysgol Uwchradd y Rhyl yn eu llongyfarch ar eu hadroddiad archwilio positif a’r
gwelliannau arwyddocaol a wnaethpwyd
(c) bod
eitem i’w rhoi ar yr agenda ar gyfer y Rhwydwaith Rheolwyr Cyllid Ysgolion i
ystyried a ellid sefydlu system i helpu ysgolion i reoli cronfeydd a rhannu
arferion gorau.
Dogfennau ategol: