Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI’R TRYSORLYS 2013/2014 A DANGOSYDDION DARBODUS 2013/14 I 2015/16

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau adolygu Datganiad Strategeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2013/14 a’r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2013/14, 2014/15 a 2015/16.

10.10 a.m. – 10.40 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn ceisio  adolygiad aelodau o Ddatganiad Strategaeth Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2013/14 a’r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2014/14, 2014/15 a 2015/16 cyn eu cymeradwyo gan y Cyngor.  Roedd Datganiad Strategaeth Reoli’r Trysorlys wedi ei atodi i’r adroddiad ynghyd â’r Dangosyddion Darbodus unigol a gymeradwywyd i’w cymeradwyo.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau ar elfennau allweddol Datganiad Strategaeth Reoli’r Trysorlys gan nodi sut y byddai’r Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a’i fenthyciadau ar gyfer y flwyddyn i ddod a pholisïau yr oedd swyddogaeth Rheolaeth y Trysorlys yn gweithredu o’u mewn.  Wrth arwain yr aelodau drwy’r adroddiad, esboniodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau bob un o’r materion yn fanwl i gynorthwyo dealltwriaeth y pwyllgor o’r cymhlethdodau sy’n ymglymedig o fewn gweithgareddau rheoli’r trysorlys ac i roi gwybodaeth weithio o’r swyddogaethau arbennig hynny.  Roedd Datganiad Strategaeth Reoli’r Trysorlys yn cynnwys yr adrannau canlynol -

 

·         Cefndir a Safle’r Trysorlys

·         Strategaeth Fuddsoddi

·         Strategaeth Fenthyca

·         Aildrefnu Dyled

·         Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw

·         Adrodd Gweithgaredd Rheoli’r Trysorlys

·         Ychwanegiad A - E: Dangosyddion Darbodus; Buddsoddiadau Penodol ac Amhenodol; Rhestr Sofran a Pharti i Gontract Cymeradwy; Rhagolwg o’r Gyfradd Llog ac Effaith y Cynllun Corfforaethol.

 

Yn ystod ei gyflwyniad o’r adroddiad, fe ddiweddarodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau’r aelodau ar ddatblygiadau diweddar ac eglurodd faterion mewn ymateb i gwestiynau aelodau arnyn nhw.  Roedd pwyntiau trafod allweddol yn cynnwys –

 

Cyfrif Refeniw Tai - Dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fod y Cyfrif Refeniw Tai â chymhorthdal negyddol yn talu oddeutu 25% o incwm i Lywodraeth Cymru am ddyled.  Esboniodd y newidiadau i ddod i’r system gyfredol, a gyflwynwyd eisoes yn Lloegr, a fyddai’n ailddosbarthu’r ddyled honno’n uniongyrchol i awdurdodau lleol.  Roedd y ddyled yn debygol o gael ei throsglwyddo yn 2014/15 ac yna byddai’n ymddangos yn Natganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a dangos cynnydd sylweddol yn ffigwr dyled y Cyngor.  Fodd bynnag byddai’r Cyngor yn ennill yn ariannol gan y byddai swm y ddyled a drosglwyddir yn cael ei leihau.  Roedd Aelodau’n siomedig o nodi bod Llywodraeth Cymru wedi eithrio Cynghorau rhag trafodaethau â’r Trysorlys ynglŷn â’r ddyled ac wedi gwrthod darparu unrhyw wybodaeth ynglŷn â hynny.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi amlygu’r pryderon hynny’n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.  Trafododd Aelodau ganlyniad tebygol y trafodaethau efo’r Pennaeth Cyllid ac Asedau ynghyd  â’r posibilrwydd y gallai’r awdurdodau lleol hynny sy’n ymdrechu i gyfarfod â Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu Stoc Tai Cyngor, elwa o’r broses ar draul y rheiny sy’n agos at gyfarfod â’r Safon.  Crybwyllwyd hefyd y posibilrwydd o argaeledd benthyca ychwanegol ar gyfer ailwampio tai ar yr un gyfradd llog ffafriol.  Er yr ansicrwydd ynglŷn â’r system newydd roedd aelodau’n falch o nodi y byddai’r Cyngor yn elwa’n ariannol o drosglwyddo dyled ond gobeithiai y byddai pob awdurdod lleol yn elwa cymaint o ganlyniad i’r newid.

 

Cymhareb Costau Ariannu i Ffrwd Refeniw Net - Roedd cymhareb y gyllideb refeniw a ddefnyddir i dalu dyled am y flwyddyn ariannol nesaf oddeutu 6.77%.  Dywedwyd wrth aelodau am fân symudiadau mewn cyllid ac am grantiau a drosglwyddwyd i’r setliad cyffredinol gyda’r canlyniad o ffigwr refeniw uwch.  Gan ymateb i gwestiynau, dywedodd  y Pennaeth Cyllid ac Asedau y byddai oddeutu 56% o gyllideb refeniw 2013/14 yn cael ei neilltuo a’i ddiogelu ar gyfer cyllidebau ysgolion a gofal cymdeithasol gyda mwy o gyfarwyddebau gan Lywodraeth Cymru ar sut i wario cyllid a hynny’n gadael y Cyngor ag ychydig iawn o reolaeth dros y prif elfennau.  Prin oedd y gefnogaeth a gafwyd gan awdurdodau lleol eraill i ddadlau yn erbyn cyfarwyddebau Llywodraeth Cymru.

 

Cronfeydd wrth Gefn – Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Stuart Davies, dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fod oddeutu £7m ar hyn o bryd yn cael ei ddal mewn daliannau cyffredinol a oedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.  Roedd cost ymateb i ddigwyddiad y llifogydd yn cael ei gyfrifo ar hyn o bryd a byddid yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru ynglŷn â hynny.  Roedd gweddillion yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â llifogydd ac ni fyddai gwasanaethau unigol yn goddef dim o’r gost.  Byddai’r swm mewn gweddillion a chronfeydd wrth gefn yn cael ei adolygu a’i ailgyflenwi, mae’n debyg, drwy danwariant adrannol os bydd angen. 

 

Effaith y Cynllun Corfforaethol - Dywedwyd wrth Aelodau fod yr effaith ar y Cynllun Corfforaethol wedi ei nodi yn Atodiad E i’r adroddiad.  Byddid yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol yn yr adran yma cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym mis Chwefror yn nodi’r effaith ar fenthyca ac ariannu’r Cynllun Corfforaethol.  Tynnwyd sylw Aelodau hefyd at newidiadau i Grant Ysgolion yr 21g a’r effaith ar gyflenwad y rhaglen gan y Cyngor.  Disgwylid yn awr i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth refeniw ar gyfer oddeutu £10m a hynny’n golygu codiad pellach yn ffigwr dyled y Cyngor a chanfyddiad fod dyled y Cyngor wedi cynyddu.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Martyn Holland bwysigrwydd egluro’r sefyllfa ariannol i’r cyhoedd er mwyn osgoi unrhyw gamsyniad o ganlyniad i’r trosglwyddo cyfrifoldeb.  Gofynnodd Aelodau a oedd darpariaeth refeniw gan Lywodraeth Cymru wedi ei warantu ac esboniodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fod gwarant tybiannol wedi ei roi ond bod yr ariannu’n fater cymhleth ac y byddai’r risg yn cael ei drosglwyddo i’r Cyngor.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Pennaeth Cyllid ac Asedau am ei gyflwyniad cynhwysfawr a oedd wedi rhoi mwy o fewnwelediad i weithgareddau rheolaeth y trysorlys ac fe’i croesawyd.  O ganlyniad –

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys gwybodaeth ychwanegol ynglŷn ag effaith benthyca ac ariannu’r Cynllun Corfforaethol, cymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2013/14 a’r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2013/14 to 2015/16 i’w cyflwyno i’r Cyngor Sir.

 

Yn y pwynt hwn (11.20 a.m.) fe ohiriwyd y pwyllgor er mwyn toriad am luniaeth ysgafn.

 

 

Dogfennau ategol: